Swyddi Cymraeg
2 swydd yn cyfateb
Hwylusydd y Gymraeg - Addysg Bellach a Phrentisiaethau
Mae Grŵp Llandrillo Menai yn edrych am Hwylusydd y Gymraeg - Addysg Bellach a Phrentisiaethau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae'r Grŵp yn awyddus i benodi Hwylusydd Cymraeg - Addysg Bellach a Phrentisiaethau dros dro hyd at Gorffennaf 2023 yn y lle cyntaf (gyda phosibilrwydd am estyniad).
Disgrifiad:
Fel aelod o dîm dwyieithrwydd Grŵp Llandrillo Menai, bydd deiliad y swydd yn ymrwymo i genhadaeth y Grŵp sef ysbrydoli llwyddiant drwy gynnig addysg a hyfforddiant rhagorol ac i werthoedd y Grŵp sef:
- Tegwch
- Ansawdd
- Arloesedd
- Proffesiynoldeb
Pwrpas y Swydd:
Bydd deilydd y swydd yn chwarae rhan allweddol mewn cynyddu’r nifer o ddysgwyr sy’n astudio iechyd a gofal a/neu gofal plant trwy gyfrwng y Gymraeg. Fel Hwylusydd y Gymraeg - Addysg Bellach a Phrentisiaethau, byddwch yn gweithio gyda staff y colegau a’r tîm dysgu yn y gweithle wrth ddarparu cymorth i diwtoriaid a chefnogi dysgwyr unigol i'w galluogi i gwblhau rhywfaint o'u hastudiaethau yn Gymraeg.
Cyfrifoldebau Cyffredinol yn y Grŵp
- Cyfrannu'n effeithiol at y gwaith o gynnig profiadau dysgu a hyfforddi o ansawdd uchel i bob dysgwr, gan ddarparu gwasanaethau mewn modd priodol ac ymatebol sy'n cyrraedd y safon uchaf bosibl o ran gofalu am gwsmeriaid.
- Bod yn ymwybodol o holl bolisïau, gweithdrefnau, arferion gwaith a rheoliadau'r coleg, a gweithio'n unol â hwy fel y bo'n berthnasol. Yn benodol, cydymffurfio â Chynllun Cydraddoldeb, Polisi Diogelu, Rheoliadau Ariannol, Polisi Iechyd a Diogelwch a Chod Ymddygiad Grŵp Llandrillo Menai.
- Ymgymryd â dyletswyddau rhesymol eraill ar adegau prysur yn ystod y broses dderbyn.
- Ymgymryd â hyfforddiant a datblygiad staff priodol i'ch cynorthwyo i gyflawni'ch dyletswyddau a darparu gwasanaethau'n effeithiol. Dyletswyddau Penodol:
- Cynorthwyo Grŵp Llandrillo Menai i sicrhau ansawdd uchel mewn darpariaeth dwyieithog ar draws y cwricwlwm.
- Cydweithio â’r tîm Datblygu Dwyieithrwydd, Rheolwyr Maes Rhaglen a thiwtoriaid i adnabod dysgwyr Cymraeg eu hiaith a fyddai'n elwa o hyfforddiant/cymorth ychwanegol i gwblhau elfennau o'u hastudiaethau yn Gymraeg.
- Gweithio gyda’r tîm Datblygu Dwyieithrwydd, Rheolwyr Maes Rhaglen a thiwtoriaid a i gynllunio cymorth un i un a sesiynau grwpiau bach a fydd yn helpu dysgwyr i gwblhau elfennau o’u cyrsiau yn Gymraeg.
- Cynllunio a chyflwyno sesiynau adolygu ar gyfer grwpiau bach o ddysgwyr i'w helpu i baratoi ar gyfer asesiadau cyfrwng Cymraeg a sefyll arholiadau yn hyderus.
- Cydgysylltu â dysgwyr sy’n siarad Cymraeg a darparu sesiynau mentora / cymorth i’w helpu i ailgysylltu a deall pam mae’r Gymraeg yn bwysig ar gyfer dilyniant, addysg uwch a chyflogaeth.
- Cadw cofnodion cywir o bresenoldeb mewn sesiynau mentora / cymorth.
- Monitro a gwerthuso cynnydd dysgwyr drwy gofnodi cyflawniadau yn erbyn amcanion dysgu a bennwyd ymlaen llaw.
- Cefnogi dysgwyr i weithio’n annibynnol trwy gyfrwng y Gymraeg.
- Cyfeirio dysgwyr at, ac annog nhw i ddefnyddio, adnoddau sy’n eu galluogi i wella neu datblygu eu sgiliau Cymraeg, a’u helpu i gyflawni gwaith yn y Gymraeg.
- Cefnogi tiwtoriaid i ymgorffori'r Gymraeg yn eu harfer.
- Mynychu cyfarfodydd cyson gyda phartneriaid a chyfarfodydd tîm.
- Hyrwyddo gwaith Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a chydweithio â’r swyddogion cangen a llysgenhadon.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill sy’n gydnaws â’r swydd ar gais Pennaeth Sgiliaith.
Cyflog
💰 £ 25,569 - £27,747
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Aseswyr Anghenion Astudio (x 2 swydd)
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Aseswyr Anghenion Astudio (x 2 swydd)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gwahoddir ceisiadau am y swydd lawn-amser uchod am gyfnod penodol yn gweithio i Ganolfan Asesu Prifysgol Bangor. Mae un swydd ar gael ym Mangor, a swydd arall ar gyfer Aberystwyth. Mae angen i ymgeiswyr sicrhau eu bod yn glir o ran eu lleoliad arfaethedig wrth wneud cais.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar radd neu gymhwyster cyfwerth a chyda phrofiad o weithio â myfyrwyr anabl mewn addysg ôl-16, a’i brif swyddogaeth fydd darparu asesiadau anghenion astudio ar gyfer Lwfansau Myfyrwyr Anabl ar ffurf trafodaeth â’r myfyrwyr ynglŷn ag effeithiau eu hamhariad, gofynion eu cwrs, a’u ffordd o weithio.
Mae’r swyddi hyn yn amodol ar gliriad uwch boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd ym Mangor ac yn ddymunol ar gyfer y swydd yn Aberystwyth.
Disgwylir i’r ymgeiswyr llwyddiannus ddechrau gynted ag sy’n bosib, ac mae’r swyddi ar gael ar hyn o bryd tan 31 Gorffennaf 2023. Bydd ceisiadau hefyd yn cael eu hystyried i wneud y swyddi hyn ar sail rhan-amser neu rannu swydd hyd at yr oriau a hysbysebir.
Lleolir y swyddi hyn ar y campws ym Mangor ac Aberystwyth. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (ond rhaid aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hyn ymhellach gydag ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 9 Medi, 2022.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £35,333 - £42,155
Lleoliad
📍 Aberystwyth, Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.