Swyddi Cymraeg
3 swydd yn cyfateb
Gweinyddwr Gwefannau
Mae Delwedd Ltd yn edrych am Weinyddwr Gwefannau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Delwedd yn gwmni dylunio gwefannau wedi ei leoli yng Nghaernarfon. Sefydlwyd y cwmni yn 1998 ac erbyn hyn mae gennym bortffolio o dros 400 gwefan byw ar draws sawl sector.
Rydym yn chwilio am Weinyddwr Gwefannau i ymuno a’n tîm.
Prif bwrpas y rôl yma fydd / Tasgau allweddol:
• Diweddariad dyddiol i wefannau cwsmeriaid – e.e. diweddaru cynnwys gwefan
• Gwasanaeth cwsmer – Ffôn ac e-bost
• Dyletswyddau Gweinyddol Cyffredinol
Gall y rôl yma hefyd gynnwys:
• Ffotograffiaeth ar gyfer gwefannau - gan gynnwys ymweld â chwsmeriaid
Yn ofynnol:
• Profiad & Sgiliau TG
• Yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg
• Yn gyfforddus yn gweithio i gyfyngiadau amser
Yn ddymunol:
• Profiad Gwasanaeth Cwsmer
• Profiad o weithio mewn swyddfa brysur
• Profiad / Diddordeb mewn Ffotograffiaeth
• Trwydded yrru llawn
Nodwch os gwelwch yn dda: Darperir hyfforddiant
Oriau: Llawn Amser / Rhan Amser (oriau yn drafodadwy)
Cyflog: £20,000 - £22,000. Yn ddibynnol ar Sgiliau a Phrofiad.
Contract: 1 blwyddyn (cyfnod mamolaeth)
**Lleoliad: **Mae ein swyddfa yn y Galeri, Caernarfon, Gwynedd.
Dyddiad Cau: 31/03/23
Cyflog
💰 £20,000 - £22,000
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cynnwys y We
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Swyddog Cynnwys y We
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gwahoddir ceisiadau am y swydd lawn-amser, barhaol uchod. Caiff deiliad y swydd ddewis gweithio ar gampws Bangor neu Wrecsam, neu weithio o bell gan weithio ar y campws yn achlysurol.
Rydym yn chwilio am rywun brwdfrydig a llawn cymhelliant i ymuno â'r Tîm y We a Digidol fel Swyddog Cynnwys y We.
Byddwch yn gyfrifol am olygu, ysgrifennu a chyhoeddi cynnwys mewn modd clir, perthnasol a hygyrch tra'n datblygu profiad defnyddiwr deniadol i gynulleidfaoedd targed y brifysgol.
Byddwch yn rhan annatod o’r gwaith o gyflwyno cynnwys deniadol, cynyddu dealltwriaeth am ein gweledigaeth strategol a gwella profiad y defnyddiwr ar ein gwefan allanol a'n mewnrwyd.
Byddwch yn cefnogi projectau cynnwys amrywiol i wella sut mae cynnwys ar gael i’n staff ym maes ymchwil, addysg a’r gwasanaethau proffesiynol, yn ogystal â’n myfyrwyr, rhanddeiliaid allweddol a chymunedau allanol ehangach.
Byddwch yn gweithio'n agos gyda pherchnogion cynnwys i greu a chynnal a chadw tudalennau gwe ac adrannau ar y wefan yn unol ag amcanion brand a chyfathrebu'r brifysgol.
Fel rhan o Dîm y We a Digidol, byddwch yn helpu i sicrhau safonau’r we a safonau digidol wrth weithredu fframwaith llywodraethu’r brifysgol.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar brofiad mewn swydd debyg a hanes cadarn o greu cynnwys i wefannau. Bydd y swydd yn allweddol o ran cynorthwyo'r brifysgol i fod yn fwy gweladwy ar beiriannau chwilio yng Nghymru a thu hwnt, gan wneud y wefan yn berthnasol i gynulleidfaoedd yng Nghymru, Lloegr, y Deyrnas Unedig yn ehangach yn ogystal â chynulleidfaoedd rhyngwladol.
Dylai’r ymgeiswyr feddu ar addysg hyd at safon gradd (neu gymhwyster cyfwerth) neu brofiad tebyg helaeth a pherthnasol gan gynnwys profiad o weithio mewn swydd yn datblygu cynnwys lle cawsant effaith gadarnhaol a sylweddol ar ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r brand.
Rhaid bod yn gyfathrebwr hyderus ac yn ysgrifennwr medrus, gyda sgiliau iaith, gramadeg a sgiliau golygu da. Bydd disgwyl i chi ysgrifennu copi clir, cywir a gafaelgar a gallu creu cynnwys amlgyfrwng. Bydd gennych hefyd ddealltwriaeth o brif gynulleidfaoedd targed y wefan.
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd hon. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hyn ymhellach gydag ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Derbyniwn geisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 26 Awst 2022.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £34,304 - £40,927
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Gwefan a Chynnwys Digidol
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Gydlynydd Gwefan a Chynnwys Digidol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am unigolyn deinamig, creadigol a brwdfrydig i weithio fel Cydlynydd y Wefan a Chynnwys Digidol yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor).
Bydd deiliad y swydd yn ymuno â'r sefydliad ar adeg gyffrous iawn o ymgysylltu digidol ac ar-lein a byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod gwefan Undeb y Myfyrwyr a’i llwyfannau ar y cyfryngau digidol a chymdeithasol yn berthnasol, yn ymatebol ac yn afaelgar. Byddant yn arwain ar ddatblygu gwefan Undeb Bangor a chysylltiadau a chynnwys digidol. Bydd deiliad y swydd wedi cael addysg i safon Lefel A (neu gymhwyster cyfwerth) a bydd yn gyfrifol am gynghori ynglŷn â datblygu cyfathrebiadau digidol Undeb y Myfyrwyr i sicrhau bod pob aelod yn ymwybodol o'r gwasanaethau a'r cyfleoedd a gynigir gan yr Undeb a bydd yn arwain ar y gwaith o ddatblygu gwefan a system aelodaeth ar-lein yr Undeb ynghyd â phob llwyfan digidol.
Bydd gan ymgeiswyr delfrydol brofiad blaenorol o gydlynu ymgyrchoedd digidol effeithiol a sicrhau cymaint o amlygiad â phosibl ar draws ystod o lwyfannau digidol, a phrofiad o reoli cynnwys gwefan. Mae hon yn rôl mewn adran brysur a deinamig ac felly mae'n rhaid i ymgeiswyr feddu ar sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol ynghyd â'r gallu i fod yn hyblyg a medru addasu.
Bydd gan ymgeiswyr delfrydol brofiad o weithio mewn sefydliad amrywiol a bydd yn gallu ffynnu mewn amgylchedd prysur.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau mor fuan ag sydd yn rhesymol bosib.
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd hon.
Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y DU) i gefnogi cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hyn ymhellach gydag ymgeiswyr mewn cyfweliad.
Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd hon ar sail ran amser neu rannu swydd.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Fodd bynnag, os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12 Mehefin 2022.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £23,487 - £26,341
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.