Swyddi Cymraeg
2 swydd yn cyfateb
Is-ddatblygwr Meddalwedd / Is-ddatblygwr y We
Mae Delwedd Ltd yn edrych am Is-ddatblygwr Meddalwedd / Is-ddatblygwr y We
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Delwedd yn Gwmni Dylunio Gwefannau o Gaernarfon. Sefydlwyd y Cwmni yn 1998, ac mae gennym ni bellach bortffolio o dros 400 o wefannau byw ar draws amrywiaeth o sectorau.
Rydym ni’n dîm bach, ac yn chwilio am rywun i ymuno â ni i helpu gydag agweddau mwy technegol ar ein gwaith.
Bydd eich tasgau yn cynnwys / gallant gynnwys:
• Gosod a Diweddaru System Rheoli Cynnwys (CMS)
• Profi Meddalwedd
• Cymorth Technegol
• Ysgrifennu Dogfennau Technegol
Byddwn ni’n darparu hyfforddiant, ond byddai gwybodaeth am y canlynol yn ddefnyddiol:
• PHP
• MySQL
• Gosod a Rheoli E-Bost
Gofynnol:
• Rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg
• Cyfforddus yn gweithio i derfynau amser
• Gallu i weithio’n dda mewn tîm yn ogystal ag yn annibynnol
Oriau: Llawn Amser / Rhan Amser (gellir negodi’r oriau)
Cyflog: £20,000 - £24,000. Gan ddibynnu ar Sgiliau a Phrofiad.
Contract: 1 blwyddyn (cyfnod mamolaeth)
Lleoliad: Mae ein swyddfa yn y Galeri yng Nghaernarfon, Gogledd Cymru.
**Dyddiad Cau: **31/03/23
Cyflog
💰 £20,000 - £24,000
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Prentis Gradd Peirianneg Meddalwedd x 2
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Brentis Gradd Peirianneg Meddalwedd x 2
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gwnewch y dewis doeth, dewiswch brentisiaeth yng Nghyngor Gwynedd!
Mewn maes sydd yn datblygu'n gyflym, mae’r angen i ddatblygu arbenigwyr maes TG yn hanfodol i sicrhau ein bod ni yn ymateb i anghenion pobl Gwynedd mewn dulliau arloesol.
Mae’r brentisiaeth Gradd Digidol (Peirianneg Meddalwedd) yn rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r gallu sydd eu hangen ar brentisiaid i fod yn weithwyr peirianneg meddalwedd proffesiynol cymwys.
Mae’r brentisiaeth yn rhoi sylfaen dda i unigolyn ddysgu am y maes. Yn ogystal â hyn, mae’r rhaglen yn darparu’r arfau sy’n galluogi i'n prentisiaid fod ar y blaen mewn maes sydd yn newid yn gyflym iawn.
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â diddordeb yn y maes Peirianneg Meddalwedd (Technoleg Gwybodaeth) sy’n barod i ddysgu a datblygu eu sgiliau wrth weithio. Rydym hefyd yn chwilio am unigolyn sy’n gallu cyfathrebu gyda hyder, gweithio’n rhan o dîm, a dangos eu potensial i lwyddo fel prentis.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno a’r tîm datblygu ac yn gweithio ochr yn ochr a’r datblygwyr eraill 4 diwrnod yr wythnos, tra’n gweithio tuag at ennill gradd BSc mewn Peirianneg Meddalwedd.
Cyflwynir y Brentisiaeth Gradd Peirianneg Meddalwedd Cymhwysol gan Brifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai. Bydd myfyrwyr fel arfer yn ymgymryd ag astudiaeth academaidd am un diwrnod ac un noson yr wythnos am dair blynedd. Am y ddwy flynedd gyntaf, mae ein rhaglenni prentisiaeth gradd ddigidol yn cael eu cynnal gyda cholegau Grŵp Llandrillo. Bydd blwyddyn olaf y brentisiaeth addysgu ym Mhrifysgol Bangor. Mae’r brentisiaeth yma yn integreiddio dysgu academaidd a chael profiadau gwerthfawr wrth weithio yn y maes. O ganlyniad, mi fydd prentisiaid yn ennill profiadau ymarferol a datblygu dealltwriaeth uwch am ddylunio, adeiladu a gwerthuso meddalwedd.
Dim ond dechrau'r daith yw dilyn prentisiaeth – gall arwain at nifer o lwybrau cyffrous. Felly peidiwch â cholli’r cyfle - ymgeisiwch heddiw!
NODER - Mae graddfa cyflog Cyngor Gwynedd yn seiliedig ar y cyfraddau’r cyflog Byw Cenedlaethol a’r isafswm cyflog cenedlaethol. Golygai hyn bod y cyflog yn ddibynnol ar oed.
Cyflog
💰 £9,279 - £18,328
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.