Swyddi Cymraeg
3 swydd yn cyfateb
Prentis Cefnogi Busnes Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Brentis Cefnogi Busnes Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gwnewch y dewis doeth, dewiswch brentisiaeth yng Nghyngor Gwynedd!
Wyt ti wedi ystyried gyrfa yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol?
Er mwyn bod yn llwyddiannus yn y brentisiaeth hon, rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sy’n barod i ddysgu. Rydym hefyd yn chwilio am unigolyn sy’n gallu cyfathrebu gyda hyder, gweithio’n rhan o dîm, a dangos eu potensial i lwyddo fel prentis.
Dim ond dechrau'r daith yw dilyn prentisiaeth, achos fe all arwain at nifer o lwybrau gyrfa cyffrous. Felly peidiwch â cholli’r cyfle - ymgeisiwch heddiw!
DYDDIAD CAU: 10.00a.m, DYDD IAU 13eg o Ebrill 2023
Cofiwch ddilyn y canllawiau yn y PECYN GWYBODAETH wrth gwblhau’r ffurflen gais.
Os byddwch yn cael eich dewis i fod ar y rhestr fer, byddwn yn eich ffonio.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau e-bostiwch [email protected]
• Cyflog yn gyfwerth i isafswm cyflog cenedlaethol
• 26.5 diwrnod o wyliau blynyddol + 8 diwrnod gwyl y banc blynyddol
• Gweithio yn hyblyg - Gweithio o adref, yn y swyddfa neu cymysgedd o'r ddau
• Amodau a thelerau gwaith gorau yn yr ardal
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau e-bostiwch [email protected]
Cyflog
💰 Cyflog yn gyfwerth i isafswm cyflog cenedlaethol
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arweinydd Tîm Cefnogaeth Symudol Cam-drin Domestig
Mae Grŵp Cynefin yn edrych am Arweinydd Tîm Cefnogaeth Symudol Cam-drin Domestig
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am unigolion arbennig iawn i arwain a datblygu y timoedd darpariaeth trais yn y cartref ac atal digartrefedd ac i dywys Gorwel a'i staff i ddyfodol cyffrous drwy ddarparu gwasanaeth o'r safon uchaf i'n cwsmeriaid.
Disgrifiad:
Cyfrifoldebau Allweddol
1. Meddu ar ddealltwriaeth ragorol o gam-drin domestig, gan gynnwys yr effaith ar ddioddefwyr a'u plant, a'r datrysiadau cyfreithiol ac ymarferol sydd ar gael i'r defnyddwyr gwasanaeth hyn.
2. Gweithredu i sicrhau bod anghenion defnyddwyr gwasanaeth yn y gymuned yn cael eu diwallu'n effeithiol, gan arwain y tîm i sicrhau darpariaeth gyfannol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn sy'n arwain at annibyniaeth a bywyd di-drais.
3. Goruchwylio'n annibynnol, gan gymryd cyfrifoldeb am drefnu cyfarfodydd tîm ac adolygiadau blynyddol ar gyfer gweithwyr cymorth y gwasanaeth.
4. Cyflwyno a darparu cefnogaeth a goruchwyliaeth effeithiol i bob aelod o staff, gan gynnwys cyflwyno a gweithredu adolygiadau achos a llwyth gwaith arferol yn seiliedig ar adolygu risgiau, anghenion a cham-drin.
5. Nodi a chynllunio rhaglen hyfforddi ar gyfer gweithwyr cymorth, yn ogystal â bod yn rhan o'r prosesau recriwtio, rheoli perfformiad a disgyblu.
6. Gweithredu'n annibynnol o fewn ffiniau'r rôl, gan benderfynu pryd y mae'n briodol cyfeirio materion at y Rheolwr Gwasanaeth i gael arweiniad.
7. Cyfrifoldeb am sicrhau bod trefniadau priodol ar waith i reoli a monitro risgiau, gan wneud penderfyniadau er mwyn ymateb i risgiau yn hyderus ac yn effeithiol.
8. Cyfrifoldeb am ymateb yn gadarn a gweithredu ar unrhyw bryderon sy'n ymwneud ag Amddiffyn Plant ac Amddiffyn Oedolion sy'n Agored i Niwed, gan gyflwyno adroddiadau a thystiolaeth gywir a ffeithiol ar gyfer cynadleddau achos.
9. Arwain mewn sefyllfaoedd o argyfwng a darparu arweiniad clir i'r tîm a chynnig cyngor a chefnogaeth ymarferol.
10. Arwain ar ddeddfwriaeth budd-daliadau lles / materion diwygio lles er mwyn cynghori'r tîm yn hyderus.
11. Bod yn gyfrifol am weinyddu gweithdrefnau priodol er mwyn monitro’r broses gymorth yn unol â gofynion statudol, deddfwriaeth amddiffyn a chytundebau lefel gwasanaeth cyllidwyr.
12. Cynorthwyo’r Rheolwr Gwasanaeth er mwyn llunio a gweithredu cynllun gweithredol blynyddol ar gyfer y cynlluniau, gan ymateb i ganlyniadau, ystadegau a gofynion cyllidwyr.
13. Paratoi adroddiadau o ansawdd uchel bob chwarter ar gyfer adolygiadau monitro cyllidwyr (e.e. Grant Cymorth Tai, Cymorth i Ferched Cymru), gan gynnwys mynychu cyfarfodydd monitro chwarterol.
14. Cynorthwyo’r Rheolwr Gwasanaeth gyda datblygu gwasanaeth ac unrhyw gynlluniau newydd.
15. Bod yn rhan o baratoi a darparu adolygiadau gwasanaeth Grant Cymorth Tai a gweithredu'r argymhellion.
16. Cynorthwyo'r Rheolwr Gwasanaeth i baratoi hunanasesiad blynyddol y gwasanaethau.
17. Gweithredu fel y prif bwynt cyswllt, gan gynnal perthynas â landlordiaid preifat a chymdeithasol i sicrhau eiddo ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth.
Cyflog
💰 £28,235 - £30,854
Lleoliad
📍 Blaenau Ffestiniog, Llangefni, Caernarfon, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cefnogi Gofalwyr Ysbyty Gwynedd
Mae Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr yn edrych am Swyddog Cefnogi Gofalwyr Ysbyty Gwynedd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Wedi'i leoli yn Ysbyty Gwynedd a swyddfa Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr yn Intec, Parc Menai, Bangor. Bydd angen rhywfaint o deithio i ysbytai cymunedol lleol.
Rhaid bod â mynediad at gludiant i deithio rhwng lleoliadau.
Diben y swydd:
I ddarparu gwasanaeth gwybodaeth a chefnogaeth hygyrch i ofalwyr di-dâl cleifion a gofalwyr di-dâl sydd yn gleifion yn Ysbyty Gwynedd, gyda’r nod o wella profiad gofalwyr a galluogi gofalwyr i ymdopi’n well gyda’r rôl gofalu.
Dyletswyddau Penodol:
- Hyrwyddo’r gwasanaeth ac adnabod “gofalwyr cudd” sydd angen cymorth.
- Derbyn a rheoli ymholiadau a chyfeiriadau, gan weithio’n agos gyda’r tîm aml-ddisgyblaethol i drafod, blaenoriaethu a delio gydag achosion.
- Asesu anghenion gofalwyr a phenderfynu ar y ddarpariaeth gwybodaeth a chefnogaeth fwyaf addas ac ar y weithred a chamau fwyaf addas er mwyn ateb yr anghenion a nodwyd.
- Hwyluso ymgynghoriad llawn gyda’r gofalydd o ran cynllunio ar gyfer gadael yr ysbyty a sicrhau fod anghenion y gofalydd yn cael eu hystyried a’i diwallu mewn cynlluniau gadael yr ysbyty ac mewn trefniadau iechyd a gofal cymdeithasol cymunedol lle bo’n briodol.
- Gweithredu a chynnal sustem monitro a gwerthuso effeithiol er mwyn cofnodi’r gwaith a wnaed a’r deilliannau.
- Darparu gwybodaeth ac arweiniad i’r tîm aml-ddisgyblaethol ac i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol eraill o ran hawliau a materion gofalwyr.
- Bod yn gyfrifol am dasgau gweinyddol sy’n ymwneud â’r dyletswyddau uchod.
- Paratoi a chyflwyno adroddiadau chwarterol i’r Prif Swyddog.
- Mynychu cyfarfodydd a chyrsiau hyfforddi fel y bo angen, gan gynnwys cyfarfodydd staff a sesiynau goruchwylio gyda’r Prif Swyddog.
Cyflog
💰 £21,074 - £23,866 pro rata
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.