Swyddi Cymraeg
2 swydd yn cyfateb
Rheolwr Cynllun Hafod y Gest
Mae Grŵp Cynefin yn edrych am Reolwr Cynllun Hafod y Gest
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Hoffech chi wneud gwahaniaeth i fywydau pobl yn ein Cynllun Tai Gofal Ychwanegol yn Hafod y Gest, Porthmadog?
Disgrifiad:
- Darparu cefnogaeth briodol i drigolion i’w galluogi i gynnal eu tenantiaeth yn llwyddiannus ac i fyw mor annibynnol â phosib. Llunio a diweddaru asesiad o anghenion yr unigolyn, datblygu Cynllun Cefnogaeth Unigol ac asesiadau risg. Bydd y gefnogaeth yn cyd-fynd â deilliannau rhaglen Cefnogi Pobl, sef cefnogi unigolion i:-
- Deimlo’n ddiogel
- Cyfrannu at ddiogelwch a lles eu hunain ac eraill
- Rheoli llety
- Ysgogi perthynas iach
- Teimlo’n rhan o’r gymuned
- Rheoli arian a chyllideb
- Cymryd rhan mewn addysg a dysgu
- Ymchwilio i gyfleon gwaith a gwirfoddoli
- Hybu iechyd a lles
- Iechyd meddwl
- Ysgogi ffordd o fyw iach
- Mynychu cyfarfodydd achos fel fo’n briodol. Cyfeirio ymlaen/arwyddbostio at asiantaethau neu wasanaethau proffesiynol neu arbenigol fel fo’n briodol ac adrodd ar ddeilliannau i gomisiynwyr Cefnogi Pobl fel bo angen.
- Cysylltu’n rheolaidd gyda’r tenantiaid gan sicrhau cyswllt dyddiol gyda rhai unigolion yn unol â’u asesiad anghenion. Delio gydag unrhyw ymholiad yn brydlon ac effeithiol.
- Datblygu perthynas waith effeithiol gyda’r tîm gofal ar safle a hefyd gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau eraill er mwyn hyrwyddo lles a chwrdd ag anghenion cymorth y tenantiaid e. gweithwyr cymdeithasol, darparwyr gofal/cefnogaeth, gweithwyr maes iechyd, asiantaethau gwirfoddol a chydweithwyr o fewn Grŵp Cynefin.
- Gweithredu trefniadau dyrannu a gosod y cynllun yn unol â gweithdrefnau’r Gymdeithas. Delio ag ymholiadau am lety ac ymweld â darpar denantiaid yn eu cartref gan ddilyn polisïau perthnasol e.e. iechyd a diogelwch. Sicrhau bod trosiant eiddo gwag yn cyrraedd targed gweithredu’r Gymdeithas.
- Hyrwyddo cynhwysedd ariannol a chefnogi’r tenantiaid i gael gwybodaeth briodol am eu hawliau, budd-daliadau lles, cyllido ayb i leihau’r risg iddynt fynd i ddyled rhent. Cyfeirio at wasanaethau arbenigol fel fo angen.
- Gweinyddu prosesau cyfrifon rhent a gwasanaethau (utilities) yn gywir a chadw gwybodaeth yn gyfredol, gan gynnwys agor tenantiaethau newydd, cau cyfrifon yn amserol ac uchafu incwm rhent y Gymdeithas trwy reoli ôl-ddyledion rhent yn effeithiol.
- Cysylltu’n rheolaidd gyda’r Adran Budd-daliadau Tai i sicrhau bod rhenti’n cael eu talu’n brydlon, i reoli achosion o ordalu ac i drafod apeliadau. Cysylltu gyda’r Adran Cefnogi Pobl ynglŷn â thaliadau Grant Rhaglen Cefnogi Pobl.
- Ymateb yn brydlon ac effeithiol i achosion o anghydfod cymdogion neu ymddygiad gwrthgymdeithasol. Trafod achosion difrifol gyda’r Arweinydd Tim.
- Sicrhau fod systemau gwybodaeth y cynllun yn gywir a chyfredol, gan sicrhau cydymffurfiad â gofynion Diogelu Data.
- Cydweithio gyda darparwyr arlwyo a glanhau er mwyn sicrhau gwasanaeth safonol.
- Bod yn gyfrifol am hyrwyddo cyfranogiad tenantiaid ym mhob agwedd o weithgareddau’r cynllun. Cydweithio gyda’r Arweinydd Tîm i ymgynghori a mesur bodlonrwydd tenantiaid ac ymateb i adborth am wasanaethau er mwyn hybu gwelliant parhaus.
- Sicrhau rhaglen amrywiol o weithgareddau cymdeithasol a hwyluso defnydd o’r cyfleusterau cymunedol. Annog a chefnogi trigolion i gymryd rhan ac i drefnu a chynnal gweithgareddau eu hunain. Cynnal asesiadau risg fel bo’n berthnasol.
- Cyd-weithio’n agos gyda’r Tîm Cynnal a Chadw i gynnal safonau a chyflwr eiddo’r Gymdeithas; adrodd am waith trwsio yn amserol a sicrhau mynediad i weithwyr gyflawni’r gwaith angenrheidiol. Monitro safon gwaith contractwyr ar safle e.e. glanhau neu arddio.
- Mewn cydweithrediad â’r Rheolwr Iechyd a Diogelwch, gwirio materion iechyd a diogelwch y cynllun yn unol â gweithdrefnau’r Gymdeithas, gan gynnwys asesiadau risg, profi system tân, CCTV a theleofal. Sicrhau bod y trigolion yn ymwybodol o’r trefniadau argyfwng a sicrhau bod proses PEEPS y Gymdeithas (Personal Emergency Evacuation Plans) yn cael ei gweithredu. Cadw cofrestr o ddodrefn ac offer cymunedol a sicrhau eu bod mewn cyflwr safonol a diogel. Cydweithio i sicrhau bod y tîm gofal ar-safle, ymgymerwyr allanol ayb yn ymwybodol o drefniadau argyfwng y cynllun. Cadw cofrestr o ddodrefn ac offer cymunedol a sicrhau eu bod mewn cyflwr safonol a diogel.
- Sicrhau bod y ddarpariaeth llinell gofal yn cael ei drosglwyddo yn ystod cyfnodau pan nad oes staff ar safle. Bod yn gyfrifol am wirio bod y ddarpariaeth llinell gofal yn gweithio. Sicrhau fod y darparwr llinell gofal yn derbyn gwybodaeth gywir a chyfredol am y tenantiaid.
- Rheoli defnydd yr ystafell ymwelwyr.
- Rheoli a monitro unrhyw fân incwm a gwariant yn unol â gweithdrefnau’r Gymdeithas.
- Creu cysylltiadau cadarnhaol gyda’r gymuned ehangach er budd y tenantiaid a sicrhau fod y cynllun yn adnodd defnyddiol i’r gymuned leol. Cydweithio gyda’r Uwch Swyddog i farchnata’r cynllun yn effeithiol.
- Cynorthwyo’r Arweinydd Tîm i adrodd am ddeilliannau neu ddangosyddion perfformiad fel bo angen.
- Cyd-weithio’n agos gyda chynllun tai gwarchod Maes y Mor (a bod ar gael i gynorthwyo yno ar adegau o wyliau a salwch y staff).
Cyflog
💰 £25,667 pro rata
Lleoliad
📍 Porthmadog
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Tai Cymunedol (Gogledd Cymru)
Mae Adra yn edrych am Gydlynydd Tai Cymunedol (Gogledd Cymru)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Byddwch yn cydlynu gwasanaethau Gwasanaeth Bro yn darparu gwasanaethau stadau a thenantiaeth yn effeithiol sy’n cefnogi ac anodd cymunedau a chreu cymdogaethau lle mae pobl eisiau byw ynddynt.
Ni yw Adra. Darparwr cartrefi o safon yng ngogledd Cymru. Nid ydym yn sefydliad sy'n aros yn ei unfan. Dros y blynyddoedd i ddod byddwn wedi adeiladu nifer sylweddol o gartrefi y tu allan i'r sir, gyda'r uchelgais i fod yn darparu cannoedd fwy o gartrefi o ansawdd uchel ledled gogledd Cymru. Er ein bod yn uchelgeisiol iawn, rydym yr un mor benderfynol o amddiffyn a datblygu diwylliant a threftadaeth gyfoethog y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
Byddwch yn cydlynu adnoddau cysylltiol yn effeithiol gan sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn llwyddiannus i gwsmeriaid mewnol ac allanol, partneriaid a rhanddeiliaid.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan, www.adra.co.uk
Dyddiad Cau: 12pm 16/06/22
Cyflog
💰 adrataicyf
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.