Swyddi Cymraeg
8 swydd yn cyfateb
Rheolwr Gweinyddol
Mae Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn edrych am Reolwr Gweinyddol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig a dawnus i’r swydd hon.
Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yw’r corff cenedlaethol sy’n arwain, datblygu a hyrwyddo cyfieithu proffesiynol ar gyfer cyfieithwyr Cymraeg i/o’r Saesneg. Mae rôl y Gymdeithas yn ganolog i gyrraedd 1,000,000 o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Prif bwrpas y swydd hon yw:
- Gweinyddu’r broses ymaelodi.
- Gweinyddu’r drefn arholi.
- Cydweithio i drefnu rhaglen o gyrsiau a gweithdai hyfforddi.
- Cydweithio i drefnu rhaglen o ddigwyddiadau cymdeithasol.
- Sicrhau cyswllt cyson gyda’r aelodau.
- Yn gyffredinol sicrhau gweinyddiaeth esmwyth ac effeithiol y Gymdeithas.
Does dim rhaid ichi fod yn gyfieithydd i lwyddo yn y swydd yma.
Lleoliad: Bangor/Hybrid
Oriau: Llawn amser, ond mae modd cynnig trefniadau gweithio hyblyg ac rydyn ni’n croesawu ceisiadau sy'n gofyn am weithio rhan amser, neu gytundeb sy'n amrywio yn ol tymhorau ysgol.
Cyflog: hyd at £30,000 + 6% cyfraniad pensiwn
Rhagor o wybodaeth Os hoffech sgwrs anffurfiol am y swydd, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â Gwyn Williams, y Prif Swyddog, naill ai trwy ffonio 07831 092524 neu trwy e-bost [email protected]
I dderbyn pecyn ymgeisydd e-bostiwch [email protected]
I gael gwybod mwy am y Gymdeithas, ewch i’n gwefan www.cyfieithwyr.cymru
Cyflog
💰 hyd at £30,000 + 6% pensiwn
Lleoliad
📍 Bangor, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Gweinyddu Cyrsiau a Chefnogi Dysgwyr
Mae Nant Gwrtheyrn yn edrych am Swyddog Gweinyddu Cyrsiau a Chefnogi Dysgwyr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Adran Addysg a Threftadaeth Nant Gwrtheyrn yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a threfnus i ymuno gyda'r criw.
Bydd yr unigolyn yn gyfrifol am elfennau gweinyddol y rhaglen addysgu ac yn ganolbwynt cadarn i weithdrefnau adran brysur, uchelgeisiol ac arloesol.
Bydd yn cyfrannu at weithrediad llwyddiannus holl gyrsiau Dysgu Cymraeg Nant Gwrtheyrn drwy’r tasgau gweinyddol canlynol:
- Bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer dysgwyr sy’n ffonio neu’n e-bostio’r adran;
- Cydlynu cofrestriadau drwy ddefnyddio systemau sydd wedi ei sefydlu gan Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a’r Adran Addysg yn y Nant;
- Cyfathrebu gyda dysgwyr cyn cyrsiau gan ddefnyddio ystod o dempledi e-bost e.e.cadarnhau cofrestru, cadarnhau gosod ar restr aros, e-bost 12 wythnos cyn cwrs ac ati;
- Argraffu ffeiliau ac adnoddau gan gefnogi tiwtoriaid cyn ac yn ystod cyrsiau;
- Cydlynu’r rhaglenni ymweliadau ac adloniant (archebu bysiau a chadarnhau argaeledd lleoliadau ayyb);
- Darparu cyngor effeithiol i ddarpar ddysgwyr (dros y ffôn / e-bost / wyneb yn wyneb);
- Paratoi a gyrru Pecyn Llongyfarch at bob dysgwr sy’n cwblhau eu cwrs yn llwyddiannus;
- Cyfeirio dysgwyr at diwtoriaid yn ôl y galw gan baratoi amserlenni;
- Paratoi anfonebau a derbynebau yn ôl y galw (darperir hyfforddiant);
- Mynychu cyfarfodydd tîm a chofnodi yn ôl y galw;
- Cefnogi tasgau a digwyddiadau cyffredinol yr adran a’r ganolfan yn ehangach yn ôl y galw.
- Cyfathrebu a chefnogi dysgwyr yn ystod cyrsiau preswyl.
Ymgeisiwch drwy anfon blaenlythyr a CV at [email protected] erbyn 9fed o Chwefror, 2024.
Cyflog
💰 £23,453
Lleoliad
📍 Llithfaen
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Gweinyddwr Swyddfa
Mae Ynni Llŷn yn edrych am Weinyddwr Swyddfa
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Amdanom ni
Cwmni buddiannau cymunedol yw Ynni Llŷn sydd wedi’i leoli ym Motwnnog, Pen Llŷn. Dysgwch fwy amdanom yma
Ynglŷn â’r prosiect
Rydym yn lansio prosiect, Ôl-osod i Bawb, yn ystod Haf 2023. Nod Ôl-osod i Bawb yw gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi ym Mhen Llŷn drwy insiwleiddio a gosod pympiau gwres a phaneli ffotofoltäig gan ddefnyddio grantiau’r llywodraeth. Byddwn yn cyflogi tîm o weithwyr proffesiynol ôl-osod i ddarparu fframwaith ansawdd lle gall contractwyr lleol ymgymryd â’r darn yma o waith. Dysgwch fwy am ein prosiect Ôl-osod i Bawb yma
Ynglŷn â’r rôl
Bydd y Gweinyddwr Swyddfa yn cefnogi tîm bychan o Aseswyr Ôl-osod, gan ymdrin ag ymholiadau ffôn, cofnodi manylion cwsmeriaid, gwneud apwyntiadau a gwneud hawliadau am arian grant. Bydd y swydd hon yn addas ar gyfer rhywun sy’n angerddol am frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd, sy’n gallu ymgysylltu â thrigolion gydag empathi, ac sy’n gallu gweithio ar eu menter eu hunain yn ogystal â rhan o dîm. Mae bod yn gyfarwydd â systemau TG sylfaenol a chymwysiadau swyddfa (fel Microsoft Office – Word, Excel ac ati) yn ddymunol. Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn rhugl yn hanfodol.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Cynorthwyo gyda systemau swyddfa adeiladu a chasglu data.
- Sicrhau gweithrediad llyfn gweithdrefnau gwaith.
- Cynnal system CRM (Rheoli Perthynas Cwsmer) gynhwysfawr a’r cadw cofnodion cysylltiedig (copïau digidol a ffisegol).
- Perfformio rai gweithgareddau desg dderbynfa fel:
- Ateb galwadau ffôn yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg)
- Sefydlu gwasanaethau peiriant ateb y tu allan i oriau swyddfa
- Ateb llythyrau ayyb.
- Gwneud a chofnodi apwyntiadau a rhwymedigaethau eraill ar gyfer ymweliadau Aseswyr Ôl-osod a chontractwyr lleol.
- Gwneud ceisiadau am grantiau’r llywodraeth a chynorthwyo gyda cheisiadau am ffynonellau cyllid eraill.
- Cyfeirio cwsmeriaid at asiantaethau arbenigol eraill yn ôl yr angen a/neu’n briodol.
- Perfformio rhai gweithgareddau cymorth cwsmeriaid.
Dyddiad cau ceisiadau
- Dyddiad cau: Anfonwch eich ceisiadau erbyn 17:00 BST, Tachwedd 30ain 2023, dydd Iau
- Ar ôl y dyddiad cau, ni fydd unrhyw geisiadau pellach yn cael eu derbyn!
- Rydym wrthi'n cyflogi ar gyfer y swydd hon ac rydym yn prosesu ymgeiswyr mewn ciw cronolegol
- Argymhellir yn gryf eich bod yn gwneud cais cyn gynted ag y gallwch!
Proses Ymgeisio
- Cam 1: Asesu ceisiadau
- Cam 2: Cyfweliad ymgeiswyr ar y rhestr fer
- Cam 3: Cynnig swydd a chytundeb tâl a thelerau cyflogaeth
- Cam 4: Apwyntiad
Yr hyn y gallwn ei gynnig i chi
- Bydd cyflog terfynol yn cael ei benderfynu yn ôl lefel eich profiad a’r cymwysterau.
- Cynllun pensiwn.
- Oriau gwaith hyblyg (yn dibynnu ar ofynion a chyfyngiadau’r tîm).
- Cyfleoedd noddedig i gofrestru ar gyrsiau hyfforddi a chael cymwysterau sy’n berthnasol i’ch dyletswyddau.
- Gwyliau blynyddol o 28 diwrnod (gan gynnwys Gwyliau Banc/Gwladol/Cyhoeddus).
- Tâl salwch statudol.
- Absenoldeb mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu/rhannu rhiant/profedigaeth rhiant â thâl yn seiliedig ar ofynion cymhwysedd.
- Mathau eraill o absenoldeb â thâl fel gofalwyr/trugarog/argyfwng yn seiliedig ar ofynion cymhwysedd.
Rydym yn cynnig cyfleoedd cyfartal
Mae Ynni Llŷn yn falch o fod yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal. Rydym yn gwybod bod amrywiaeth yn tanio cyfnewid gwybodaeth, yn meithrin arloesedd, ac yn ein grymuso i dyfu a bod yn well fel sefydliad, cymuned ac fel unigolion. Rydym yn ceisio recriwtio, datblygu a chadw’r bobl fwyaf talentog o gronfa ymgeiswyr amrywiol. Rydym wedi ymrwymo i arferion cyflogaeth teg a hygyrch. Os cysylltir â chi am swydd, rhowch wybod i ni sut y gallwn ddiwallu eich anghenion orau a rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion i sicrhau mynediad teg. Os nad ydych yn bodloni pob gofyniad, rydym yn eich annog i wneud cais beth bynnag. Ein prif flaenoriaeth yw dod o hyd i’r ymgeisydd gorau ac efallai mai chi yw’r ymgeisydd cywir ar gyfer y rolau hyn neu rolau eraill. Mae gan bob un ohonom botensial mawr. Yn Ynni Llŷn, byddwch yn darganfod beth allwch chi ei wneud ag ef!
Ein datganiad ar ein harferion cyflogaeth
Darllenwch fwy am ein harferion cyflogaeth yma
Cyflog
💰 21,000
Lleoliad
📍 Botwnnog
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Uwch Swyddog Clercyddol
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Uwch Swyddog Clercyddol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Coleg Gwyddorau Dynol yn awyddus i benodi Uwch Swyddog Clercyddol parhaol, llawn amser i ymuno â Thîm Gweinyddol y Coleg. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol yn benodol am yr Ysgol Gwyddorau Addysgol.
Bydd y dyletswyddau'n cynnwys darparu cefnogaeth weinyddol effeithlon i Bennaeth yr Ysgol a'r Uwch Dîm Gweithredol a threfnu a rhoi prosesau a gweithdrefnau gweinyddol ar waith o fewn yr Ysgol o ddydd i ddydd.
Dylai ymgeiswyr fod wedi cael addysg i safon Lefel A neu NVQ Lefel 3 (neu gymhwyster cyfwerth) mewn maes pwnc perthnasol, neu feddu ar brofiad gweinyddol perthnasol. Dylai fod gan yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd brofiad o weithio mewn swyddfa / swydd weinyddol a gallu defnyddio rhaglenni Microsoft Office. Dylai ymgeiswyr fedru dangos sgiliau trefnu ardderchog a’r gallu i drin baich gwaith amrywiol a thrwm.
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd hon.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd cyn gynted â phosib.
Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hyn ymhellach gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 27 Chwefror, 2023.
Cewch wneud ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu â: Gwawr Griffiths, Gweinyddwr y Coleg, e-bost: [email protected].
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £24,285 - £27,131
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Data a Chlercyddol
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Swyddog Data a Chlercyddol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gwahoddir ceisiadau am y swydd ran-amser (16 awr yr wythnos) uchod yn gweithio i Ymestyn yn Ehangach: Partneriaeth Gogledd a Chanolbarth Cymru ar gontract cyfnod penodol.
Diben y swydd yw rhoi cefnogaeth glercyddol effeithiol i waith gweinyddol amrywiol Ymestyn yn Ehangach Partneriaeth Gogledd a Chanolbarth Cymru.
Dylai ymgeiswyr feddu ar o leiaf 5 TGAU gyda graddau A * - C (yn cynnwys Saesneg a Mathemateg) neu NVQ lefel 2 mewn maes pwnc perthnasol neu brofiad cyfatebol o waith gweinyddol neu glercyddol.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd cyn gynted â phosib. Mae’r swydd ar gael tan 29 Awst 2025.
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd hon. Mae’r swydd yn amodol ar archwiliad uwch boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hyn ymhellach gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: 23 Ionawr 2023.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £21,630 pro rata
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Clerc / Swyddog Gweinyddol
Mae Cyngor Cymuned Llandwrog yn edrych am Glerc / Swyddog Gweinyddol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gwahoddir ceisiadau gan unigolion sydd â’r cymwysterau neu’r profiad perthnasol a’r ymrwymiad i gyflawni cyfrifoldebau amrywiol y swydd uchod. Mae’r gallu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd.
Mae pecyn gwybodaeth a manylion ychwanegol ar gael gan David Roberts, 01286 881920 neu [email protected]
Dylid dychwelyd y ceisiadau erbyn Tachwedd 14eg, 2022.
Mae’r Cyngor yn gyflogwr cyfle cyfartal ac yn croesawu ceisiadau o bob adran o’r gymuned.
Cyflog
💰 £27,514 pro rata
Lleoliad
📍 Llandwrog
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Gweinyddwr Datblygu Aelodaeth
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Weinyddwr Datblygu Aelodaeth
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gwahoddir ceisiadau am y swydd lawn-amser barhaol uchod yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor).
Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor) eisiau penodi unigolyn sydd â phrofiad o weithio mewn amgylchedd prysur i ymuno â'n Tîm Datblygu Aelodaeth fel Gweinyddwr Datblygu Aelodaeth. Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo ac yn darparu cefnogaeth weithredol a gweinyddol o ddydd i ddydd i'r Tîm Datblygu Aelodaeth gyda’u gwaith o ddatblygu gweithgarwch dan arweiniad myfyrwyr a gweithgarwch democrataidd a chynrychioliadol.
Byddwch yn meddu ar addysg i safon TGAU (graddau A i D), NVQ Lefel II (neu gyfwerth) mewn pwnc priodol, neu brofiad perthnasol cyfatebol sy'n briodol i'r swydd. Byddwch yn unigolyn trefnus, rhagweithiol a dymunol a fydd yn ymrwymedig i gyfrannu at ddiwylliant o welliant parhaus. Mae hon yn swydd mewn adran brysur a deinamig ac felly mae'n rhaid i ymgeiswyr feddu ar sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol ynghyd â'r gallu i fod yn hyblyg ac addasu.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd cyn gynted â phosib.
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol i'r swydd hon.
Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (ond rhaid aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hyn ymhellach gydag ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £21,630 - £23,715 pro rata
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Agri Advisor yn edrych am Gynorthwyydd Gweinyddol neu Ysgrifennydd Cyfreithiol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Wyt ti eisiau gweithio i gwmni cyfreithiol deinamig, sydd wedi’i chydnabod am ymagwedd sy’n torri tir newydd? Mae Agri Advisor yn gwmni cyfreithiol arbenigol sy’n cynghori ffermwyr, tir berchnogion a phobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig. Rydym yn ehangu i Ogledd Cymru ac yn edrych i recriwtio yn ein swyddfa newydd yn y Bala.
Cynorthwyydd Gweinyddol neu Ysgrifennydd Cyfreithiol
Bydd dyletswyddau yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i:
Croesawu pob ymwelydd i’r swyddfa, Cynhyrchu llythyron a dogfennau cyfreithiol, Delio gydag ymholiadau cleientiaid drwy e-bost, ffacs a llythyr, Ateb galwadau ffôn, Rheoli dyddiaduron ac apwyntiadau, Copïo, sganio a ffacsio, Paratoi ffeiliau llys, Ffeilio a gwaith gweinyddol cyffredinol gan gynnwys post mewn ac allan o’r swyddfa, agor, rheoli a chau ffeiliau cleientiaid, Delio gyda thaliadau wrth gleientiaid, a Theipio nodiadau ac arddywediadau digidol. Nodweddion allweddol:
Chwaraewr Tîm, Sgiliau cyfathrebu gwych, Profiadol yn defnyddio Microsoft Office, Sgiliau allweddell hyfedr, Y gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith ac amldasgio, Cyfrinachgar, Proffesiynol, Huawdl gyda sillafu a gramadeg da, Buasai medru siarad Cymraeg yn fanteisiol. Bydd y swydd hon wedi’i leoli yn ein swyddfa yn y Bala (LL23 7AD) ac yn 37.5 awr yr wythnos.
Am sgwrs anffurfiol, cysylltwch ag Awel Mai Hughes ar 01938 536409.
Cyflog NMW gydag ystyriaeth yn cael ei roi i brofiad.
Ymgeisiwch os gwelwch yn dda mewn ysgrifen drwy ddarparu CV a llythyr eglurhaol i [email protected].
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener 13eg o Fai 2022
Lleoliad
📍 Y Bala
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.