Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Tiwtor Dysgu Cymraeg (Iechyd)
Mae Nant Gwrtheyrn yn edrych am Tiwtor Dysgu Cymraeg (Iechyd)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Pwrpas y swydd hon yw darparu cyfleoedd i ddysgwyr sy’n gweithio yn y sector iechyd ddod i Nant Gwrtheyrn i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg. Bydd y cyfleoedd yn digwydd yn bennaf o fewn ffrwd ddysgu Cymraeg Gwaith y Nant ac yn gyfle i’r tiwtor ddatblygu arbenigedd gyda dysgwyr o fewn y sector iechyd yn benodol. Mae datblygu sgiliau iaith yn y sector yma yn holl bwysig o safbwynt cefnogi’r byrddau iechyd i fedru darparu’r Cynnig Rhagweithiol yn effeithiol.
Bydd y prif gyfrifoldebau yn cynnwys:
- Magu perthynas agos gyda’r byrddau iechyd er mwyn hwyluso mynediad eu dysgwyr at wasanaethau Nant Gwrtheyrn
- Tiwtora ar gyrsiau preswyl a rhithiol Cymraeg Gwaith Nant Gwrtheyrn – o lefel Sylfaen hyd at lefel Gloywi gyda chefnogaeth uwch diwtoriaid
- Darparu cyngor ac arweiniad wrth ddelio gydag ymholiadau gan ddarpar ddysgwyr o’r sector iechyd
- Cynnig gwasanaeth ôl ofal i ddysgwyr o’r sector iechyd
- Cefnogi dysgwyr (sector iechyd) ar lefel 1:1 yn achlysurol ac yn ôl y galw
- Cyfrannu at y broses gynllunio rhaglen mewn modd rhagweithiol
- Paratoi deunydd ategol / ychwanegol i helpu i gyflwyno gwersi bywiog, dyfeisgar a chynhwysol
- Bugeilio’r dosbarthiadau cyn, yn ystod ac ar ôl cwrs, gan ddarparu anogaeth, cefnogaeth a chyngor ymarferol sy’n cyfrannu at ddarparu profiad effeithiol, gwerthfawr a chynhwysol i’n dysgwyr
- Mynychu cyfarfodydd rheolaidd yr Adran Addysg ac unrhyw gyfarfodydd eraill perthnasol i’r swydd yn ôl y galw
- Mynychu cyfarfodydd perthnasol gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar faterion perthnasol
- Cynorthwyo gyda thasgau gweinyddol cysylltiedig
- Darparu cyngor arbenigol i ddysgwyr sy’n ansicr ynghylch eu lefel bresennol gan ddarparu cyngor doeth ac adeiladol.
- Ymgymryd â hyfforddiant yn ôl y galw
- Gweithio mewn modd cyfrinachol ar bob adeg ac o fewn rheolau’r Ddeddf Gwarchod Data
- Unrhyw waith rhesymol arall
Am fwy o wybodaeth a manyleb person, cysylltwch gyda Siwan Tomos ar [email protected] neu ar 01758 719573.
Cyflog
💰 £28,459
Lleoliad
📍 Llithfaen
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.