Swyddi Cymraeg
3 swydd yn cyfateb
Swyddog Digwyddiadau
Mae Amgueddfa Cymru yn edrych am Swyddog Digwyddiadau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Eich gwaith…
Gan weithio yn Amgueddfa Lechi Cymru ac o adref, byddwch yn gweithio gyda’r Tîm Digwyddiadau a phartneriaid cymunedol i ddatblygu a chynnal rhaglen weladwy, berthnasol ac arloesol o ddigwyddiadau cyhoeddus, yn fyw ac ar-lein. Eich rheolwr llinell fydd y Rheolwr Digwyddiadau a byddwch yn gweithio ar draws Amgueddfa Cymru.
Swyddog Digwyddiadau
Amgueddfa Lechi Cymru a gweithio o adref
17.5 awr yr wythnos
Contract 12 mis.
Gradd D £12,185.67 – £15,289.72 y flwyddyn
Bydd yr ymgeisydd yn cael ei benodi ar isafswm y raddfa gyflog hon fel arfer.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 17 Gorffennaf 2022 5:00pm
Mae Amgueddfa Cymru yn gyflogwyr cyfle cyfartal. Croesewir ceisiadau o bob rhan o'r gymuned.
Cyflog
💰 £12,185.67 - £15,289.72
Lleoliad
📍 O gartref, Llanberis
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Profiad Ymwelwyr
Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn edrych am Swyddog Profiad Ymwelwyr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn creadigol a brwdfrydig, sydd wrth ei fodd yn rhyngweithio ag eraill, ymuno â'n tîm cyfeillgar yng Nghastell a Gardd Penrhyn. Os ydych ch'n frwd dros natur a chyflwyno profiadau cofiadwy a rhagorol i'n hymwelwyr, dyma'r swydd i chi.
Rydym yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig a threfnus i reoli rhaglen o ddigwyddiadau tymhorol i ymwelwyr, o'r dechrau i'r diwedd. Mae'r rôl hon yn gofyn am gysylltiadau gwaith da o fewn tîm a dyhead, arloesedd a'r gallu i gynllunio gwaith a goruchwylio staff a gwirfoddolwyr.
Mae patrymau shifftiau’n cynnwys gwaith ar benwythnosau/gwyliau banc o bryd i'w gilydd, ac yn gofyn ichi ymgymryd ag ychydig o ddyletswyddau rheoli. Mae'r cyfle hwn dros 12 mis yn berffaith ar gyfer unrhyw un sydd eisiau datblygu ei brofiad o fewn y byd Treftadaeth a Thwristiaeth.
Mae gweithio'n ddwyieithog yn bwysig i ni. Rhowch wybod i ni eich gallu o ran eich gallu gyda’r iaith Gymraeg drwy gwblhau'r matrics fel rhan o'ch cais. Mae hyn er mwyn nodi unrhyw anghenion hyfforddi a bydd yn cael ei ystyried fel sgil ychwanegol.
Caiff cyfweliadau eu cynnal ar 14 Gorffennaf, neu'n gynharach, ac rydym yn eich annog i wneud cais cyn gynted â phosibl, oherwydd efallai y byddwn yn cau'r hysbysiad swydd wag yn gynnar. Dyddiad dechrau posibl 27 Gorffennaf.
Sut beth yw gweithio yma?
Fel aelod o dîm darpariaeth gwych Penrhyn, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â'r Rheolwr Profiad a Gweithrediadau Ymwelwyr a'r Swyddog Marchnata a Chyfathrebu. Byddwch hefyd yn gweithio â staff a gwirfoddolwyr ein tîm croesawu, yn rhannu straeon, gan ymgysylltu ymwelwyr â'n gwaith cymunedol a chynaliadwyedd.
Mae Castell Penrhyn yn dŷ Fictoraidd wedi'i guddio fel castell neo-Sioraidd anferth, gyda rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau sy'n dod â'r eiddo unigryw hwn yn fyw o fewn waliau'r castell, ac yn yr awyr agored ar ein tir 60 erw hyfryd. Mae ei hanes wedi'i seilio ar gaethwasiaeth, llechi, ysblander a streiciau, ac rydym yn falch o barhau i rannu'r straeon hyn gyda'n cymunedau lleol.
Eich Gwaith
Fel Swyddog Profiad Ymwelwyr, byddwch yn gyfrifol am reoli ein rhaglen o ddigwyddiadau, fel y gwanwyn, Pasg, yr haf, yr hydref, a gaeaf, o'r dechrau i'r diwedd. Bydd cynllunio, cyflwyno dehongliad effeithiol, creu rhaglenni ymgysylltiol a'u gwerthuso, yn hanfodol. Wrth weithio ochr yn ochr â'r tîm, byddwch yn rheoli staff a gwirfoddolwyr i ddatblygu dehongliad ymgysylltiol ac ystyrlon, a all ein helpu i feithrin cefnogaeth am ein gwaith. Bydd deall sut a pham rydym yn ymgysylltu â’n cefnogwyr hefyd yn allweddol i'r rôl hon.
Byddwch yn cyflwyno'r eiddo at safonau uchel, er mwyn sicrhau bod ein cyfathrebu’n glir ac yn gyson ar gyfer ein hymwelwyr. Fel hyrwyddwr cyfathrebiadau da, gwasanaeth a phrofiad ymwelwyr rhagorol, byddwch yn ymuno â thîm brwdfrydig ac yn ymgymryd â’r ddyletswydd o reoli’r rota, yn helpu i gynnal y gweithrediad ymwelwyr.
Am bwy ydym ni’n chwilio?
Mae hon yn rôl sylweddol mewn eiddo prysur, ac rydym yn awyddus i benodi unigolyn sy’n medru ymgymryd â her. Er mwyn cyflawni'r swydd hon yn llwyddiannus, byddwch angen:
- Agwedd hyblyg sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, gyda safonau gwasanaeth cwsmer uchel
- Sgiliau pobl rhagorol a’r gallu i weithio’n dda mewn tîm
- Sgiliau iaith Gymraeg lefel un, Sylfaenol, gyda pharodrwydd i ddatblygu (gweler matrics)
- Profiad o weithio i sawl terfyn amser a rheoli eich llwyth gwaith eich hun
- Sgiliau trefnu a chynllunio rhagorol
- Llygad craff am fanylder a dawn greadigol
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol
- Sgiliau TG cryf
Y Peyn
Mae’r arwyddair ‘I bawb, am byth’ yn ganolbwynt yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rydym yn gweithio’n galed i greu diwylliant cynhwysol, ble mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn. Mae’n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu a chynrychioli amrywiaeth y cymunedau a’r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ni ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb dderbyn croeso yn ein timau hefyd.
Mae’r buddion o weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnwys:
- Gweithio hyblyg pryd bynnag y bo modd
- Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau
- Mynediad am ddim i’n heiddo i chi, i’ch gwestai a’ch plant (dan 18)
- Cylin pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol
Cyflog
💰 £21,684
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynllun Yfory – Hyfforddai Proffesiynol Rheoli Digwyddiadau
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Gynllun Yfory – Hyfforddai Proffesiynol Rheoli Digwyddiadau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cynllun Yfory yn gyfle unigryw i unrhyw un sydd gyda gradd neu gymhwyster cyfwerth i ddatblygu gyrfa yng Nghyngor Gwynedd.
Mae'r cynllun yn rhoi cyfle unigryw i hyfforddeion proffesiynol i ddeall mwy am weithio i lywodraeth leol drwy gael amryw o brofiadau ymarferol o bob lefel o'r sefydliad, i ddatblygu sgiliau hanfodol yn y maes Rheoli Digwyddiadau, i ddatblygu rhwydweithiau ar draws y Cyngor a thu hwnt ac ar yr un pryd ennill cymhwyster Gradd Meistr mewn Rheolaeth Digwyddiadau.
Rydym yn chwilio am ymgeisydd brwdfrydig sydd â’r ymroddiad i ddatblygu sgiliau rhyngbersonol a thechnegol cryf yn y maes Rheoli Digwyddiadau. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael profiad mewn nifer o feysydd arbenigol Rheoli Digwyddiadau, gyda golwg ar ddatblygu i fod yn arweinydd ac arbenigwr y dyfodol yn y disgyblaeth pwysig hwn.
Os ydych chi erioed wedi meddwl y byddech chi’n hoffi gweithio i lywodraeth leol a bod yn rhan o weithlu arbennig, mae Cynllun Yfory yn berffaith i chi.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’r wefan: www.gwynedd.llyw.cymru/cynllunyfory
Mae cyswllt ar y wefan i’r pecyn gwybodaeth sydd yn cynnwys gwybodaeth fanwl o’r cynllun a chanllawiau i chi ar gyfer cwblhau eich cais yn llwyddiannus. Mae cyfle cyffrous wedi codi i arbenigwr yn y maes rheolaeth digwyddiadau i ymuno â'r gwasanaeth Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau.
Fel rhan o'r swydd byddwch -
Yn ennill profiad o weithio’n draws-adrannol a thraws-asiantaeth fel prif bwynt cyswllt digwyddiadau Gwynedd gan lywio trefnwyr digwyddiadau trwy brosesau swyddogol y Cyngor, ein cymunedau a’n partneriaid.
Yn datblygu cysylltiadau agos a chydweithio gyda busnesau, cymunedau, trefnwyr digwyddiadau a mudiadau o'r sector wirfoddol a chyhoeddus er datblygu'r cyfleoedd adfywio a datblygu economi'r sir yn deillio o gynnal digwyddiadau.
Marchnata hyrwyddo a gwerthu Gwynedd trwy'r digwyddiadau creadigol gan sicrhau delwedd ifanc, egnïol a chyffrous i'r ardal fyddai'n cydweddu ag amcanion y Cyngor.
Yn cael y cyfle i gwblhau cymhwyster MA Gradd Meistr mewn Rheolaeth Digwyddiadau.
Mae datblygu a chefnogi Digwyddiadau yn flaenoriaeth strategol gan y Cyngor. Mae’n faes sydd gyda proffil uchel ac sydd yn dod a buddion economaidd sylweddol i Wynedd.
Cyflog
💰 £25,419 - £27,514
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.