Swyddi Cymraeg
4 swydd yn cyfateb
Swyddog Clercyddol
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Swyddog Clercyddol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Gwasanaeth Cyllid yn gwahodd ymgeiswyr am swydd Swyddog Clercyddol parhaol i ymuno â thîm prysur sy’n cefnogi gweithrediadau’r Gwasanaeth Ystadau a Champws. Byddwch yn gweithio'n agos â rheolwyr y tîm ac aelodau eraill y tîm i wneud amrywiaeth o dasgau prosesu, monitro ac adrodd cyllidol, gan rannu cyfrifoldeb dros ddarparu gwasanaeth hyblyg ac ymatebol ar draws amrywiaeth o leoliadau yn ôl gofynion gweithredol.
Byddwch wedi cael addysg hyd lefel TGAU (lleiafswm o 5 gyda graddau A* - C, yn cynnwys Saesneg a Mathemateg) neu NVQ lefel 2 (neu gymhwyster cyfwerth) mewn maes pwnc perthnasol. Bydd gennych hefyd sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol.
Byddwch yn gallu gweithio ar eich menter eich hun ac fel rhan o dîm mawr prysur. Mae sgiliau TG da a gwybodaeth o Excel a Word yn hanfodol. Byddwch yn aelod tîm blaengar, ymroddedig, effeithiol a chefnogol sy'n gallu gweithio'n hyblyg, yn gyflym ac yn gywir i derfynau amser tynn.
Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hyn ymhellach gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd hon ar sail ran amser neu rannu swydd.
Mae gallu cyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg yn un o ofynion dymunol y swydd hon. Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr llwyddiannus ddechrau cyn gynted â phosib.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 27 Tachwedd, 2022.
Cewch wneud ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu ag: Alison Armstrong, Uwch Gyfrifydd, e-bost; [email protected], ffôn: (01248) 38382169
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £21,630 - £22,662
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwydd Cyfrifon
Mae Dunn & Ellis Cyf yn edrych am Gynorthwydd Cyfrifon
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyfle cyffrous i ymuno â thîm brwdfrydig ac egnïol yn Dunn & Ellis Cyf. Rydym yn chwilio am unigolyn gweithgar, trefnus a dibynadwy sy'n gallu gweithio'n dda mewn amgylchedd swyddfa brysur.
Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau:
• Mewnbynnu gwybodaeth ariannol cleientiaid ar feddalwedd cyfrifo e.e. QuickBooks, Sage, Xero
• Cysoni cyfrifon banc misol
• Paratoi'r ffurflen TAW chwarterol o feddalwedd cyfrifo a'i chyflwyno i CThEM
• Cyfathrebu'n effeithiol gyda gweithwyr yr adran gyfrifon, i sicrhau bod unrhyw faterion sy'n codi yn cael eu datrys yn effeithiol
• Tasgau cyffredinol a dyletswyddau eraill yn ôl yr angen Sgiliau hanfodol:
• Hyderus wrth ddefnyddio MS Office ac Excel
• Profiad yn naill ai Quickbooks, Sage, Xero - yn ddymunol ond nid yn hanfodol, bydd hyfforddiant llawn ar gael
• Y gallu i weithio'n dda ar eich pen eich hun ac fel rhan o dîm
• Sgiliau rhifiadol da a sylw i fanylion
• Y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddelfrydol ond dim yn hanfodol Swydd llawn amser (36 ¼ awr) neu ran amser ar gael:
• Cyflog rhwng £18,000 - £25,000 (yn dibynnu ar brofiad)
• Hyfforddiant mewn amryw o feddalweddau cyfrifo e.e. QuickBooks, Sage, Xero.
• Oriau hyblyg – dydd Llun i ddydd Gwener (36 ¼ awr)
• Gwyliau – 25 diwrnod a gwyliau banc
• Pensiwn gweithle
• Cynllun iechyd Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Nia Fon Lane ar (01766) 512 361.
I wneud cais am y swydd, anfonwch CV a llythyr eglurhaol i [email protected]
Cyflog
💰 £18,000 - £25,000
Lleoliad
📍 Porthmadog
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Derbynnydd
Mae Canolfan Gerdd William Mathias (CGWM) yn edrych am Dderbynnydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Canolfan Gerdd William Mathias yn awyddus i benodi un neu ddau unigolyn brwdfrydig a dibynadwy sy’n meddu ar sgiliau rhyngbersonol cryf i weithio fel derbynnydd ym mhrif swyddfa’r Ganolfan yn Galeri, Caernarfon yn ystod gyda’r nosau a boreau Sadwrn (tymor ysgol yn unig).
Croesawir ceisiadau gan unigolion sydd a diddordeb mewn gweithio 1, 2 neu 3 shift Cais trwy lythyr a CV gan enwi dau ganolwr. Cyfeiriwch eich cais at Gwydion Davies ([email protected]) CGWM, Galeri Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SQ.
Dyddiad Cau: 5pm dydd Llun y 10fed o Hydref
Disgrifiad:
Swydd ddisgrifiad Derbynnydd CGWM
Swydd ran amser, yn gweithio yn ystod y tymor ysgol,tua 39 wythnos y flwyddyn, yn atebol i’r Cyfarwyddwr.
Oriau arferol (gall amrywio): shifftiau 4.5 - 5 awr fydd yn cychwyn a gorffen rhwng 3.30 a 9.30pm ar nosweithiau’r wythnos a 9am – 2pm ar ddyddiau Sadwrn.
Cyflog: £9.50 yr awr
Lleoliad: CGWM, Galeri Caernarfon.
I gychwyn cyn gynted a phosibl.
Dyletswyddau
Croesawu’r tiwtoriaid / myfyrwyr / rhieni i’r gangen a delio efo ymholiadau.
Paratoi’r ystafelloedd ymarfer ar gyfer y gwersi a sicrhau eu bod yn cael eu gadael yn daclus a threfnus wrth adael y lleoliad. Gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf i ddisgyblion, rhieni a thiwtoriaid tra ar shifft gan weithio yn annibynnol yn swyddfa’r Ganolfan.
Delio gydag ymholiadau / negeseuon sy’n codi.
Trosglwyddo negeseuon yn effeithiol i Weinyddydd a Chyfarwyddwr y Ganolfan.
Trefnu amserlenni tiwtoriaid a gweithgareddau grwp CGWM. Cydweithio gyda derbynwyr eraill i sicrhau rhediad esmwyth gweithgareddau.
Delio gyda thaliadau a pharatoi biliau am wersi gan ddefnyddio systemau gweinyddol y Ganolfan.
Goruchwylio gweithdai a dosbarthiadau fel bo’r angen
Paratoi ffurflenni cofrestru a phosteri ar gyfer gweithgareddau. Cadw cofrestrau gwersi.
Gweithredu o fewn gofynion holl bolisiau a Chôd Ymddygiad CGWM.
· Bydd disgwyl i’r unigolyn llwyddiannus gyflawni cyrsiau hyfforddiant perthnasol ar-lein (yn ystod oriau gwaith) - Diogelu plant ac oedolion, Diogelwch Tân, ‘manual handling’, GDPR a mynychu cwrs undydd Cymorth Cyntaf brys a bod yn barod i ddarparu Cymorth Cyntaf petai angen.
Parodrwydd i gynorthwyo’r gydag unrhyw ddyletswyddau gweinyddol eraill yn ộl y galw mewn trafodaeth gyda’r Gweinyddydd a’r Cyfarwyddwr. Manyldeb personol
Hanfodol
· Sgiliau rhyngbersonol ardderchog.
· Y gallu i gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig yn effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg.
· Sgiliau llythrenedd, rhifyddeg a Thechnoleg Gwybodaeth cryf (yn cynnwys defnydd o Excel, Word a’r cyfryngau cymdeithasol).
· Y gallu i weithio’n hyblyg, annibynnol ac fel rhan o dim.
Dymunol
profiad blaenorol o weithio gyda’r cyhoedd yn ddymunol. Gan fod y swydd yn ymwneud â gweithio gyda phlant ac oedolion sy’n agored i niwed gwneir cais am ddatgeliad manwl gan y DBS (Disclosure and Barring Service) ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus ac mae’r cynnig swydd yn ddibynnol ar wiriad boddhaol. Rydym yn gweithredu polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth ac mae copi ar gael ar ein gwefan sy’n amlinellu ein hymrwymiad i brosesau recriwtio teg :
Polisïau | Canolfan Gerdd William Mathias (cgwm.org.uk)
Mae ceisiadau gan unigolion diwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a'u croesawu'n gynnes.
Os oes gennych anabledd, nodwch yn eich llythyr os oes angen unrhyw gymorth neu addasiadau penodol arnoch ar gyfer cyfweliad.
Gofynnir i ymgeiswyr gwblhau ffurflen cydraddoldeb, trwy ddilyn y linc isod. I bwrpas monitro cydraddoldeb yn unig y defnyddir y wybodaeth ar y ffurflen.
Gwarchod Data
· Byddwn yn trin y data personol a rennir gyda ni gan ymgeiswyr am swydd gyda pharch. Bydd yn ofynnol i ni brosesu data personol ymgeiswyr am swyddi er mwyn ein galluogi i ddilyn y broses recriwtio. Byddwn yn storio’r data personol a ddarperir gan ymgeiswyr am gyfnod o o leiaf 6 mis, neu, os ydy’r gyfraith yn mynnu, am gyn hired ag sydd angen. Ceir rhagor o fanylion am ein ymdriniaeth o ddata personol yn ein polisi preifatrwydd ar ein gwefan. www.cgwm.org.uk/polisiau
· Nid yw’r rhybudd preifatrwydd hwn yn ffurfio unrhyw gynnig cyflogaeth na chytundeb rhyngom. Os byddwn yn cynnig swydd i chi, byddwn yn rhoi gwybodaeth bellach am ymodd yr ydym yn ymdrin â data personol cyflogai.
Cyflog
💰 £9.50 yr awr
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Comisiynydd Traffig (Cymru)
Mae Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau yn edrych am Gomisiynydd Traffig (Cymru)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi'n rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg ysgrifenedig a llafar?
A oes gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol â'r gallu i greu perthnasoedd effeithiol ag uwch ddeiliaid swyddi a rhanddeiliaid?
Rydym yn chwilio am rywun i ymuno ag a helpu i adeiladu tîm bach yn Swyddfa'r Comisiynydd Traffig. Byddwch yn darparu cymorth gweinyddol i'r Comisiynydd Traffig i'w alluogi i ymgymryd â’u dyletswyddau statudol ar gyfer gofynion trwyddedu cerbydau yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys prosesu gwaith achos a gwneud trefniadau ar gyfer ymchwiliadau cyhoeddus.
Cyfrifoldebau
Fel aelod o'r tîm bydd rhai o gyfrifoldebau allweddol eich rôl yn cynnwys:
• llunio a drafftio cyflwyniadau cywir a llawn i'r Comisiynydd Traffig yn argymell camau gweithredu a phrosesu'r achos yn ôl yr angen
• darparu gwasanaeth ymchwiliad cyhoeddus, gwrandawiad ymddygiad gyrwyr a gwrandawiad powndio o ansawdd uchel i’r Comisiynydd Traffig
• cydgysylltu pan fo angen gyda DVSA, yr heddlu ac Asiantaethau ac Adrannau eraill y Llywodraeth a mynychu cyfarfodydd ar ran y Comisiynydd Traffig
• drafftio ymatebion i ohebiaeth gan ASau, cymdeithasau masnach ac awdurdodau lleol ar ran y Comisiynydd Traffig
• monitro perfformiad y swyddfa a gweithredu yn ôl yr angen
• delio ag ymholiadau dros y ffôn a’r rhai ysgrifenedig
Amdanat ti
Rydych chi'n rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg ysgrifenedig a llafar.
Gallwch weithio'n effeithiol o fewn tîm neu’n annibynnol ar eich menter eich hun. Mae gennych y gallu i ddeall a dehongli deddfwriaeth gymhleth â sgiliau rhagorol ym meysydd dadansoddi a datrys problemau.
Mae gennych wybodaeth ymarferol dda o becynnau Microsoft gan gynnwys Excel a Word.
Wrth symud ymlaen, rydym wedi’n hymrwymo i annog a galluogi ein staff i ddatblygu yn uwch na'u rôl a byddant yn eich cefnogi i ymgymryd â chyfleoedd/cymwysterau datblygu pellach.
Cyflog
💰 £26,126
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.