Swyddi Cymraeg — Gwynedd
175 swydd yn cyfateb
Mae Agri Advisor yn edrych am Gynorthwyydd Gweinyddol neu Ysgrifennydd Cyfreithiol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Wyt ti eisiau gweithio i gwmni cyfreithiol deinamig, sydd wedi’i chydnabod am ymagwedd sy’n torri tir newydd? Mae Agri Advisor yn gwmni cyfreithiol arbenigol sy’n cynghori ffermwyr, tir berchnogion a phobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig. Rydym yn ehangu i Ogledd Cymru ac yn edrych i recriwtio yn ein swyddfa newydd yn y Bala.
Cynorthwyydd Gweinyddol neu Ysgrifennydd Cyfreithiol
Bydd dyletswyddau yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i:
Croesawu pob ymwelydd i’r swyddfa, Cynhyrchu llythyron a dogfennau cyfreithiol, Delio gydag ymholiadau cleientiaid drwy e-bost, ffacs a llythyr, Ateb galwadau ffôn, Rheoli dyddiaduron ac apwyntiadau, Copïo, sganio a ffacsio, Paratoi ffeiliau llys, Ffeilio a gwaith gweinyddol cyffredinol gan gynnwys post mewn ac allan o’r swyddfa, agor, rheoli a chau ffeiliau cleientiaid, Delio gyda thaliadau wrth gleientiaid, a Theipio nodiadau ac arddywediadau digidol. Nodweddion allweddol:
Chwaraewr Tîm, Sgiliau cyfathrebu gwych, Profiadol yn defnyddio Microsoft Office, Sgiliau allweddell hyfedr, Y gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith ac amldasgio, Cyfrinachgar, Proffesiynol, Huawdl gyda sillafu a gramadeg da, Buasai medru siarad Cymraeg yn fanteisiol. Bydd y swydd hon wedi’i leoli yn ein swyddfa yn y Bala (LL23 7AD) ac yn 37.5 awr yr wythnos.
Am sgwrs anffurfiol, cysylltwch ag Awel Mai Hughes ar 01938 536409.
Cyflog NMW gydag ystyriaeth yn cael ei roi i brofiad.
Ymgeisiwch os gwelwch yn dda mewn ysgrifen drwy ddarparu CV a llythyr eglurhaol i [email protected].
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener 13eg o Fai 2022
Lleoliad
📍 Y Bala
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Bioamrywiaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Swyddog Bioamrywiaeth
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person. Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Pwrpas y Swydd • Cynorthwyo’r Gwasanaeth i ddarparu cyngor arbenigol ar faterion sy’n ymwneud a bioamrywiaeth ac ecoleg. • Cyfrannu at ddatblygu a gweithredu cynlluniau sy’n gwarchod a hyrwyddo bywyd gwyllt a’r amgylchedd naturiol • Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Lea Connelly ar [email protected] neu Wyn Williams ar [email protected]
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 E-Bost: [email protected]
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU 05/05/2022
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd. Gwybodaeth Ychwanegol: Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
Cyflog
💰 £25,419 - £27,514
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Datblygu
Mae Ymddiriedolaeth Ynys Enlli yn edrych am Reolwr Datblygu
Ar gau. Mae’r swydd hon ar gau. Nid oes dyddiad cau wedi ei gofnodi.
Mae Ymddiriedolaeth Ynys Enlli (YYE) yn mynd trwy newidiadau mawr ar hyn o bryd wrth iddi geisio sicrhau dyfodol cadarnhaol a disglair i’r ynys a’i chymuned. O ganlyniad i waith estynedig gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr, gyda chefnogaeth ychwanegol wedi’i ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, y Gronfa Adferiad Gwyrdd a CGGC, mae YYE bellach yn gobeithio penodi Rheolwr Datblygu i gefnogi datblygiad y mudiad trwy gamau nesaf y newidiadau hyn, ac i arwain ar fidiau am arian a buddsoddiad sylweddol. Darperir crynodeb byr o’r gwaith datblygu cychwynnol a wnaed hyd yma fel atodiad i’r ddogfen hon, ac mae gwybodaeth bellach ar gael ar gais.
Bydd y swydd hon yn golygu gweithio’n agos â Bwrdd yr Ymddiriedolwyr a staff a chontractwyr eraill YYE, cymuned yr ynys a rhanddeiliaid allweddol eraill, er mwyn cyflawni’r gwaith hwn mewn modd cydweithredol.
Cyflog
💰 £30,000 - £35,000
Lleoliad
📍 Gwynedd
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Gyrrwr Bws Mini Gwennol (x 2 swydd)
Mae Partneriaeth Ogwen yn edrych am Yrrwr Bws Mini Gwennol (x 2 swydd)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn awr yn arwain prosiect Bws Mini Gwennol trydan fydd yn gwasanaethu trigolion lleol ac ymwelwyr i’r ardal. Y bwriad yw lleihau’r problemau parcio i fyny wrth Lyn Ogwen a chynyddu’r budd economaidd a chymunedol i bentref Bethesda. Bydd y bws mini gwennol yn rhedeg yn rheolaidd rhwng Bethesda a Llyn Ogwen yn ystod cyfnodau brig (gwyliau Pasg a’r Haf). Tu hwnt i’r gwasanaeth i ymwelwyr, bydd y bws ar gael i fudiadau cymunedol yr ardal i’w llogi a bydd hefyd yn cael ei ddefnyddio i helpu’n cymuned i gyrraedd safleoedd gwaith a chymdeithasol tu hwnt i ddalgylch Dyffryn Ogwen. Mae’r prosiect yn cyd-fynd a gweledigaeth Partneriaeth Ogwen o ddod a budd amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd i’n hardal. Rydym yn awr yn chwilio am ddau yrrwr i’r bws mini yma.
Cyflog
💰 £20,280
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn edrych am Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Swydd: Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Contract: Tymor penodol neu secondiad am 2 flynedd
Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos
Cyflog: £31,210 - £38,160 y flwyddyn
Lleoliad: Hyblyg - gweithredir trefniant gweithio hybrid. Lleolir swyddfeydd y Comisiynydd yng Nghaerdydd, Caernarfon, Caerfyrddin, a Rhuthun
Dyddiad cau: 12.00 canol dydd, 13 Mai 2022 Cyfweliadau: 23 Mai 2022 (cynhelir dros Teams)
Pwrpas
Fel aelod o’r tîm cyfathrebu byddwch yn gyfrifol am rannu gwybodaeth a hyrwyddo pob elfen o waith Comisiynydd y Gymraeg. Byddwch yn defnyddio eich sgiliau a thechnegau i gyfleu negeseuon a denu sylw yn y wasg ac ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn sicrhau bod cynulleidfaoedd ym mhobman yn ymwybodol o waith y Comisiynydd.
Dyletswyddau craidd
- Darparu gwasanaeth cyfathrebu cyflym, arbenigol a dibynadwy, gan ymdrin ag ymholiadau a cheisiadau gan y wasg a’r cyfryngau.
- Rhoi cyngor i aelodau staff y Comisiynydd ynghylch rhannu gwaith y sefydliad a darparu sesiynau briffio cyn cyfweliadau ar y cyfryngau.
- Llunio safbwyntiau ac ymatebion y Comisiynydd mewn modd rhagweithiol ac adweithiol.
- Ysgrifennu datganiadau i’r wasg, a pharatoi a chomisiynu deunydd gweledol addas i gyd-fynd â’r straeon hynny gan sicrhau eu dosbarthu’n eang.
- Cyfathrebu gyda rhan-ddeiliaid y Comisiynydd, drwy gyfarfodydd, cyflwyniadau a thrwy ysgrifennu a chylchredeg cylchlythyr i ran-ddeiliaid.
- Datblygu perthnasoedd gwaith cryf, rhagweithiol gyda newyddiadurwyr ar draws Cymru a’r Deyrnas Unedig.
- Ysgrifennu, golygu a phrawf ddarllen copi ar gyfer yr adroddiad blynyddol ac adroddiadau eraill, cyhoeddiadau, y wefan, datganiadau ac erthyglau, a deunydd ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol gan gynnig syniadau o ran deunydd addas i gynulleidfaoedd amrywiol.
- Gweithredu Strategaeth Gyfathrebu’r Comisiynydd drwy weithio gyda thimoedd ar gynlluniau cyfathrebu penodol, hyrwyddo prif negeseuon ac ymgyrchoedd yn y wasg a llunio datganiadau i ddwyn perswâd ar olygyddion a newyddiadurwyr i gynnwys y straeon.
- Datblygu sgiliau digidol e.e ffilmio a golygu fideo er mwyn cynhyrchu cynnwys ar gyfer y cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol sy’n ddeniadol, i gefnogi a hyrwyddo gwaith y Comisiynydd.
- Cynorthwyo gyda chynnal a chreu cynnwys ar gyfer cyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Comisiynydd, gan ateb yn ôl yr angen.
- Diweddaru gwefan y Comisiynydd a’r adran newyddion yn rheolaidd gan sicrhau bod y cynnwys yn cael ei hyrwyddo a’i rannu yn eang.
- Cadw golwg ar ddatblygiadau o bwys a newyddion y dydd a’u rhannu yn ôl yr angen.
- Creu a chylchredeg negeseuon wythnosol a chylchlythyron mewnol yn crynhoi pynciau pwysig a gwybodaeth berthnasol i staff y Comisiynydd.
- Monitro ein sylw yn y cyfryngau a helpu i werthuso ein hymdrechion cyfathrebu er mwyn gwella perfformiad.
Cyflog
💰 £31,210 - £38,160
Lleoliad
📍 Caerdydd, Caernarfon, Caerfyrddin, Rhuthun
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Darlithydd mewn Cynhyrchu yn y Cyfryngau a Ffilmiau
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Ddarlithydd mewn Cynhyrchu yn y Cyfryngau a Ffilmiau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau Darlithydd mewn Cynhyrchu yn y Cyfryngau a Ffilmiau
Cyflog: £34,304 - £40,927 y flwyddyn PRO RATA ar Raddfa 7
Gwahoddir ceisiadau am y swydd dros dro ran amser (0.50% Cyfwerth Amser Llawn) uchod yn yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau. Bydd y swydd yn darparu gwasanaeth addysgu yn ystod blwyddyn academaidd 2022/23. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi'i addysgu i lefel gradd a bydd yn gallu cyflwyno modiwlau sydd eisoes wedi'u dilysu a'u paratoi ym maes cynhyrchu yn y cyfryngau a ffilmiau. Bydd y dyletswyddau'n cynnwys addysgu o leiaf dau fodiwl israddedig ac un modiwl ôl-radd, yn ogystal â goruchwylio traethodau hir israddedig. Rhaid i ymgeiswyr feddu ar brofiad ymarferol ym maes cynhyrchu yn y cyfryngau a/neu ffilmiau, yn ogystal â chefndir mewn addysg cyfryngau.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau ar 1 Medi, 2022.
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol i'r swydd hon. Bydd ceisiadau hefyd yn cael eu hystyried i wneud y swydd hon ar sail rhan-amser neu rannu swydd hyd at yr oriau cyfwerth amser llawn a hysbysebir.
Derbyniwn geisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio'r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 27 Mai 2022.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £34,304 - £40,927
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Marchnata a Chefnogi
Mae Menter a Busnes yn edrych am Swyddog Marchnata a Chefnogi
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyflog
💰 £21,979 - £23,749
Lleoliad
📍 Aberystwyth, Bangor, Caerfyrddin, Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.