Swyddi Cymraeg — Pen-y-bont ar Ogwr
6 swydd yn cyfateb
Swyddog Gwaith Achos
Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn edrych am Swyddog Gwaith Achos
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
A ydych chi’n unigolyn gyda sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid neu ymdrin â chwynion rhagorol?
Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus am recriwtio Swyddog Gwaith Achos i ddarparu gwasanaeth i aelodau’r cyhoedd ac eraill a allai gysylltu â swyddfa’r Ombwdsmon gyda chwynion neu ymholiadau.
Yn y rôl hon, byddwch yn rheoli llwyth achosion, yn cynnal asesiad cychwynnol i gwynion ac yn arfer awdurdod dirprwyedig yr Ombwdsmon. Byddwch yn defnyddio'r system fewnol ar gyfer rheoli achosion, yn prosesu cwynion a gohebiaeth gan gynnwys gwrthodiadau uniongyrchol, megis cwynion sy’n amlwg y tu hwnt i’n hawdurdodaeth.
I fod yn llwyddiannus yn y rôl hon, bydd angen i chi ddangos sgiliau ffôn a gwasanaeth cwsmeriaid gwych, gallu i ymdrin â chwynion, yn ogystal â bod yn llythrennog ym maes TG ac yn ddelfrydol, gallu cyfathrebu yn y Gymraeg (ar lafar ac yn ysgrifenedig).
Mae hon yn rôl hybrid, lle mae angen bod yn bresennol yn wythnosol yn ein swyddfa ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Sut i ymgeisio
Ewch i’n gwefan (www.ombwdsmon.cymru) i gyrchu’r pecyn recriwtio a’r Ffurflen Ymgeisio.
Cyflwynwch eich Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cyfleoedd Cyfartal drwy e-bost at: [email protected] Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 12 canol dydd, 5 Chwefror 2024 Rydym yn cadw'r hawl i gau'r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.
Mae'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal.
Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn ganolog i bopeth a wnawn. Rydym wedi ymrwymo yn ddiwyd i hyrwyddo a chymryd rhan mewn arfer da yn y ffordd yr ydym yn denu, recriwtio a chadw staff.
Caiff pawb eu hannog i ddod â’u hunan yn gyfan i’r gwaith oherwydd rydym yn gwerthfawrogi’r gwerth y mae gweithlu sy’n wirioneddol amrywiol yn ei roi i sefydliad. Rydym yn dathlu gwahaniaeth, gan gydnabod y buddion a ddaw yn sgil hyn i’n diwylliant cynhwysol, gan gynnwys oedran, anabledd, hunaniaeth rhywedd, crefydd, hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol a chefndir economaidd-gymdeithasol.
Cyflog
💰 £27,804 - £30,297
Lleoliad
📍 Hybrid, Pen-y-bont ar Ogwr
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Anogwr Gwaith Dwyieithog (Cymraeg/Saesneg)
Mae Adran Gwaith a Phensiynau yn edrych am Anogwr Gwaith Dwyieithog (Cymraeg/Saesneg)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
A ydych yn siaradwr Cymraeg?
A fyddech yn mwynhau’r cyfle i siarad Cymraeg yn eich gwaith bob dydd, i ddarparu gwasanaeth i’n cwsmeriaid Cymraeg eu hiaith?
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn gyfrifol am bolisi lles, pensiynau a chynhaliaeth plant ac mae’n gyfrifol am helpu pobl i symud i gyflogaeth, cefnogi pensiynwyr a diogelu’r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.
Yn DWP rydym wedi ymrwymo i wneud i’n gweithlu adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac felly rydym am ychwanegu at ein rhwydwaith presennol o gydweithwyr sy’n siarad Cymraeg, drwy recriwtio sawl Anogwr Gwaith Dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) ledled Cymru.
Fel Anogwr Gwaith dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) byddwch yn chwarae rhan allweddol o ran gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, yn enwedig ein cwsmeriaid Cymraeg eu hiaith drwy eu cefnogi i gael mynediad at wasanaethau DWP.
Swydd ddisgrifiad
Bydd eich rôl yn cynnwys
- Cael llwyth achosion o gwsmeriaid y byddwch yn gyfrifol amdanynt.
- Meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda'ch cwsmeriaid sy'n eu hannog a'u hysgogi i wneud y gorau o'u potensial gwaith ac enillion a dod yn annibynnol yn ariannol.
- Cynnig cyngor a chymorth i helpu eich cwsmeriaid i chwilio am waith a, lle bo angen, eu cefnogi i ddatblygu sgiliau i fod yn llwyddiannus yn eu chwiliad gwaith mewn amgylchedd digidol. h.y. gwefannau chwiliad gwaith, e-byst, uwchlwytho dogfennau ac ati.
- Cynnal trafodaethau wyneb yn wyneb, digidol a thros y ffôn gyda chwsmeriaid yn ddyddiol, yn Gymraeg neu Saesneg.
- Datblygu gwybodaeth fanwl am y farchnad lafur leol yn rhagweithiol, gan gydnabod y rolau sydd gan ein Partneriaid a Chyflogwyr wrth helpu ein cwsmeriaid i sicrhau cyflogaeth.
- Gwneud penderfyniadau amserol, yn seiliedig ar anghenion y cwsmer, i'w cyfeirio at gymorth priodol.
Manyleb bersonol
Meini Prawf Allweddol
I fod yn llwyddiannus bydd angen i chi
- Gallu siarad a deall Cymraeg ar lafar (Meini Prawf Hanfodol). Cyfyngir Cymraeg ysgrifenedig i ysgrifennu nodiadau byr neu negeseuon. (gweler yr Adran Ieithoedd)
- Cyfathrebu'n dda gyda grŵp amrywiol o gwsmeriaid, partneriaid a chyflogwyr gyda'r nod yn y pen draw o gefnogi pobl i mewn i waith. (Meini Prawf Arweiniol);
Ieithoedd
Safon y Gymraeg ar lafar – Dylai ymgeiswyr allu sgwrsio’n glir a deall Cymraeg llafar i:
- Trafod amgylchiadau personol cwsmeriaid, hanes gwaith ac archwilio nodau swydd
- Egluro rheolau, gofynion a phenderfyniadau budd-daliadau
- Deall cwestiynau cwsmeriaid a gallu ymateb.
Safon y Gymraeg Ysgrifenedig –
- Bydd Cymraeg ysgrifenedig yn gyfyngedig i ysgrifennu nodiadau byr neu negeseuon i'ch cwsmeriaid trwy e-byst, negeseuon testun, ac ati.
Sylwer: Lle nad yw ymgeiswyr yn cyrraedd safon y Swyddog Gweithredol o bell ffordd, efallai y cynigir swydd arall iddynt ar raddfa Swyddog Gweinyddol (AO) fel ymgeisydd a fu bron â chyrraedd y safon. Gall y rolau hyn fod yn benodiadau parhaol neu Gyfnod Penodol yn dibynnu ar ofynion busnes.
Ieithoedd Bod â’r gallu i siarad a deall Cymraeg ar lafar
Ymddygiadau Byddwn yn eich asesu yn erbyn yr ymddygiadau hyn yn ystod y broses ddethol:
- Cyfathrebu a Dylanwadu
- Gwneud Penderfyniadau Effeithiol
- Rheoli Gwasanaeth o Ansawdd
Buddion
- Gwyliau blynyddol hael 23 diwrnod ar gyfer staff newydd Llawn Amser (yn codi i 25 ar ôl blwyddyn)
- Holl wyliau’r banc
- Patrymau gweithio hyblyg ar gael
- Absenoldeb mamolaeth, tadolaeth a rhiant cystadleuol
- Pensiwn y Gwasanaeth Sifil gyda chyfraniad cyflogwr cyfartalog o 27%
- Rhaglen Cymorth i Weithwyr gyda phwyslais ar les
- Datblygiad Gyrfa a Phersonol trwy Broffesiwn Cyflawni Gweithredol - ee: cyfle i ymgymryd â Phrentisiaeth Lefel 2 neu 3 mewn Gwasanaeth Cwsmer neu Weinyddu Busnes
- Cynlluniau disgownt i weithwyr
Cyflog
💰 £29,500
Lleoliad
📍 Y Fenni, Abertyleri, Y Barri, Coed Duon, Cil-y-coed, Cas-gwent, Cwmbrân, Glyn Ebwy, Penarth, Pont-y-pŵl, Aberdâr, Pen-y-bont ar Ogwr, Llantrisant, Aberdaugleddau, Treforys, Doc Penfro, Pontypridd, Port Talbot, Porth, Tonypandy, Treorci, Llandrindod, Machynlleth, Pwllheli, Y Trallwng
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwyydd Adnoddau Dynol
Mae Coleg Penybont yn edrych am Gynorthwyydd Adnoddau Dynol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Cynorthwyydd AD yn chwarae rhan hanfodol wrth gynorthwyo a galluogi staff i fod yn "Bopeth y Gallant Fod". Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, phrofiad gweinyddol sylweddol gyda’r gallu i gynnal systemau AD a chynorthwyo’r tîm gyda phob gweithred AD. Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol.
Am wybodaeth bellach, edrychwch ar y pecyn gwybodaeth swydd.
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses lem i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n gallu dangos sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a yw’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Anabledd Hyderus ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un ag anabledd os yw eu cais yn cwrdd â'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Noder gall fod gofyniad am gyfweliad neu asesiad ail gam.
Cyflog
💰 £19,117 - £20,050
Lleoliad
📍 Pen-y-bont ar Ogwr
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Llywodraethu
Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn edrych am Swyddog Llywodraethu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Os ydych chi’n ystyried eich hun yn gyfathrebwr ardderchog, yn gweithio’n awyddus mewn tîm, a bod gennych sgiliau trefnu gwych, efallai mai chi yw’r person y mae arnom ei eisiau.
Mae hon yn rôl brysur ond diddorol o fewnein helusen, felly bydd yn rhaid i chi flaenoriaethu eich baich gwaith, a gweithredu yn gall ac yn synhwyrol yn ôl ein polisïau a threfniadaeth. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol.
Fe gewch chi gyflog cystadleuol, y cyfle i weithio o leoliadau hyfryd yn Ne Cymru, yn ogystal â buddion sydd yn ymwneud ag Awen yn arbennig.
Cyflog
💰 £19,235
Lleoliad
📍 Brynmenyn
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Hwylusydd y Gymraeg (x 3 Swydd)
Mae Coleg Gwent yn edrych am Hwylusydd y Gymraeg (x 3 Swydd)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am aelodau brwdfrydig i ymuno â'r tîm Dwyieithrwydd sy'n teimlo’n angerddol dros yr iaith Gymraeg.
Byddwch yn darparu cefnogaeth unigol a grŵp bach i ddysgwyr sy'n siarad Cymraeg er mwyn eu galluogi i gwblhau rhai o'u hastudiaethau yn Gymraeg, ar gyrsiau iechyd a gofal a gwasanaethau cyhoeddus.
Bydd disgwyl i chi fynychu diwrnodau agored y Coleg, cyfarfodydd allanol a chynadleddau.
Byddwch hefyd yn datblygu adnoddau dwyieithog; gan gynnwys termau technegol dwyieithog ar gyfer ein dysgwyr astudiaethau galwedigaethol.
Gwahoddir ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg rhugl.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r Coleg wedi ymrwymo i ddiogelu, gan sicrhau diogelwch a lles plant a phobl ifanc. Mae cyflogaeth yn amodol ar Ddatgeliad Manwl boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Noder y bydd disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus dalu am y Datgeliad Manylach a chofrestriad gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (EWC).
Rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys ethnigrwydd, rhyw, trawsryweddol, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd, yn unol â'n polisi Cyfleoedd Cydraddoldeb. Mae pob campws yn hygyrch ac mae cyfleusterau megis ystafelloedd gweddi ar gael.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.
Dyddiad Cau: 07/08/22
Dyddiad Cyfweliadau: I gael ei gadarnhau
Cyflog
💰 £23,337 - £25,311
Lleoliad
📍 Pont-y-cymer
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynghorwyr Busnes
Mae Business in Focus yn edrych am Gynghorwyr Busnes
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae gan Business in Focus Ltd sawl contract busnes gyda phortffolio o gleientiaid gwahanol e.e. Cwmni Benthyciadau Dechrau Busnes a Llywodraeth Cymru. Mae'r contractau hyn yn cynnig gwasanaethau sy'n ymwneud â chymorth busnes yng Nghymru a ledled y DU. Rheolir y contractau hyn gan y Rheolwr Contractau Busnes. Mae tîm o gynghorwyr busnes sy'n darparu'r gwasanaethau hyn gyda phortffolio o ddefnyddwyr terfynol.
**Crynodeb o'r Swydd: **
Bydd Cynghorwyr Busnes yn rheoli portffolio o hyd at 40 o unigolion sy'n dechrau busnesau, busnesau newydd cyfnod cynnar a busnesau sy'n bodoli eisoes ar ôl Covid. Ar gyfer busnesau newydd sydd heb eu sefydlu eto ac sydd ar ddechrau cyfnod cynnar, bydd y Cynghorydd Busnes yn darparu dull diduedd sy'n canolbwyntio ar fusnes, gan gynnig cymorth penodol drwy gyfuniad o sesiynau un i un rhithiol a gweminarau, neu alwadau ffôn. Bydd y ddarpariaeth yn rhithwir/digidol yn bennaf, ond ceir darpariaeth gorfforol sylweddol i feithrin cysylltiadau, sicrhau bod atgyfeiriadau'n cael eu gwneud a chynwysoldeb. Ar gyfer busnesau sefydledig, bydd y Cynghorydd Busnes yn trefnu cyfarfodydd rhithiol un i un er mwyn gwneud diagnosis o anghenion y busnes ac yn cynnig cymorth addas penodol, gan hwyluso mynediad i gynghorwyr arbenigol a chymorth gan Busnes Cymru, fel y bo'n briodol.
DYMUNOL:
Cymhwyster sy'n gysylltiedig â chynghori, e.e. Cymhwyster Cymorth Busnes y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth Lefel 5, SFEDI Lefel 5, neu gyfwerth, NEU Cymhwyster sy'n gysylltiedig â rheoli, e.e. Cymhwyster Rheoli y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth Lefel 5, neu gyfwerth, NEU Gymhwyster busnes lefel gradd
**Prif Gyfrifoldebau: **
- Sefydlu cysylltiadau â chleientiaid er mwyn cael trafodaethau cychwynnol i gael dealltwriaeth o'r cleient a'u syniad busnes drwy sesiynau un i un a grŵp. Canfod pa heriau personol sydd ganddynt ac y mae angen iddynt eu goresgyn a chytuno ar gynllun gweithredu ynghylch sut i'w cefnogi i oresgyn y materion/rhwystrau hyn.
- Deall prif elfennau a gofynion syniadau busnes er mwyn nodi materion a/neu gyfleoedd i ddatblygu'r syniad busnes.
- Cynnig gwybodaeth a chymorth i gleientiaid ynghylch materion busnes i'w helpu nhw ddechrau busnes. Gwneud atgyfeiriadau at arbenigwyr priodol / rhaglenni Llywodraeth Cymru/ Gwasanaeth Busnes Cymru ar gyfer BBaCh.
- Cofnodi a chwblhau cynlluniau gweithredu'n gywir, gweithgarwch â chleientiaid, canlyniadau a'r holl waith papur cysylltiedig yn unol â gofynion cytundebol Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person a gweithdrefnau gweithredol. Sicrhau bod oriau cymorth yn cael eu cynnig, eu cofnodi a'u cymeradwyo.
- Datblygu a darparu cymorth wedi'i deilwra sy'n cyfuno gweminarau a fideogynadledda un i un i fusnesau newydd cyn dechrau, cyfnod cynnar a busnesau sy'n bodoli eisoes mewn modd proffesiynol a gwybodus.
- Cynnal cyfarfodydd un i un gyda busnesau presennol i wneud diagnosis o'r anghenion busnes a'r cymorth sydd ei angen, gan arwain at gefnogi'r perchennog i ddatblygu Cynllun Gweithredu. Ar ôl ei ddatblygu, cefnogi'r perchennog i esblygu'r cynllun a'u cyflwyno i rwydweithiau cymorth a chyngor perthnasol er mwyn rhoi hwb i'w gwybodaeth a'u hyder.
- Sefydlu a datblygu rhwydwaith effeithiol o gysylltiadau, e.e. Canolfannau Gwaith, Cymunedau am Waith, Cymdeithasau Tai, CGS, i hyrwyddo'r prosiect a denu ac ymgysylltu â phobl leol i ystyried hunangyflogaeth.
- Cefnogi Hwylusydd CRF i nodi a datblygu digwyddiadau i hyrwyddo'r gwasanaeth. Ymgymryd â'r gweithgareddau hyn mewn ffordd broffesiynol a gwybodus.
- Meithrin cysylltiadau effeithiol â chleientiaid, cydweithwyr a chyflenwyr; yn y sector cyhoeddus a'r gwasanaethau sydd ar gael o'r sector preifat.
- Bod ar flaen y datblygiadau diweddaraf mewn busnes ac arferion, cymryd rhan mewn sesiynau uwchsgilio, bod yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael gan wasanaethau cymorth busnes lleol a ledled Cymru.
- Rhannu gwybodaeth gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid a gweithio gyda nhw i roi gwelliannau parhaus ar with.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy'n rhesymol ofynnol gan yr Uwch Dîm Rheoli.
Cyflog
💰 £30,000
Lleoliad
📍 Pen-y-bont ar Ogwr
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.