Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Swyddog Natur - Ynys-hir
Mae RSPB Cymru yn edrych am Swyddog Natur - Ynys-hir
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae hon yn swydd 12 mis, ac mae'n bosib y caiff y cyfnod hwn ei ymestyn os bydd cyllid ar gael. Mae'r swydd yn canolbwyntio ar yr adnoddau coed o gwmpas Bro Ddyfi a'r ardal ehangach, lle ceir rhai o olygfeydd mwyaf godidog Cymru a rhywogaethau sydd lawn mor odidog. Bydd deiliad y swydd hon yn dechrau cyflwyno Glasbrint Tir Canol, a gynlluniwyd ar y cyd, gan ganolbwyntio ar goetiroedd Derw Gorllewin yr Iwerydd:
• Dadansoddi beth mae pobl eisoes yn ei wybod am yr adnoddau coed yn yr ardal (ymchwil pen bwrdd).
• Llunio arolygon cynefinoedd ar y cyd â thirfeddianwyr ac ar eu cyfer. Bydd yr arolygon hyn yn ymwneud â'u hadnoddau a'u rhywogaethau coed, a byddant yn rhoi sylw i'w gwybodaeth a'u huchelgeisiau.
• Ymwneud â'r gweithgarwch coedwigaeth yn yr ardal i gefnogi rheoli coedwigaeth gynaliadwy.
Byddwch yn aelod o dîm Tir Canol. Byddwch yn cwrdd yn rheolaidd â'ch gilydd, ac yn cydweithio'n rheolaidd mewn lleoliad sydd eto i'w gadarnhau. Byddwch hefyd yn cydweithio'n agos â phartneriaid Tir Canol, yn enwedig staff RSPB Cymru gan gynnwys staff cadwraeth, gwarchodfeydd a staff rhaglen Celtic Rainforests LIFE; ynghyd â staff Coed Cadw i lunio asesiad o'r adnoddau coed a rhywogaethau cysylltiedig allweddol yn ardal afon Dyfi.
Gweithgareddau allweddol:
• Cynnal arolygon, gan gynnwys defnyddio Pecyn Cymorth Bywyd Gwyllt Coetiroedd ac arolygon rhywogaethau dethol.
• Cynnal asesiadau o gynefinoedd (hyd at Gam 1) a chreu cynllun gweithredu ar y cyd â thirfeddianwyr i nodi cyfleoedd posibl.
• Cysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid allanol ar draws Bro Ddyfi a'r ardal ehangach gan ddatblygu cysylltiadau yn lleol o fewn sefydliadau a chymunedau.
• Nodi cyfleoedd i greu ac i adfer coetiroedd.
Byddwch yn cydweithio ag amrywiaeth o arbenigwyr o fewn partneriaeth Tir Canol a'r tu allan iddi, a byddwch yn rhan o'r tîm sy'n gwireddu gweledigaeth Tir Canol, gweledigaeth a gynlluniwyd ar y cyd â phobl ar draws yr ardal. Byddwch yn gweithio gartref mewn man addas yn ardal ddaearyddol y prosiect. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus deithio o fewn i'r ardal hon.
Amdanoch chi
Bydd angen ichi fod yn barod i weithio gydag eraill, gan ganolbwyntio ar gyflawni pethau i'r safon uchaf ac ymrwymo i ddiogelu ac adfer byd natur yng Nghymru.
Bydd angen ichi fod yn barod i weithio gydag eraill, gan ganolbwyntio ar gyflawni pethau i'r safon uchaf ac ymrwymo i ddiogelu ac adfer byd natur yng Nghymru.
Mae angen i chi allu creu gweledigaeth a sicrhau cyfeiriad, egni a gallu. Rhaid ichi hefyd allu gweld y darlun ehangach. Mae'n rhaid i chi allu cynghori a chefnogi gwaith ar draws tirwedd eang. Mae eich sgiliau a'ch rhinweddau yn bwysicach i ni na'r rhestr o bwy rydych chi wedi gweithio iddyn nhw. Ond dyw hynny ddim yn golygu y gall unrhyw un gamu i’r swydd hon. Dim o gwbl. Mae'r gwaith hwn yn mynd i fod yn dipyn o her ac fe gewch eich gwthio!
Mae angen ichi fod yn dda iawn am drin pobl, a phrosiectau. Bydd angen gwybodaeth dda arnoch am fywyd gwyllt ac am reoli cynefinoedd yng Nghymru. Bydd angen ichi allu trin pobl yn ddeheuig a bydd angen ichi allu gweithio’n dda â phobl eraill. Bydd hefyd angen sgiliau dadansoddi cryf arnoch i brosesu gwybodaeth a dewis a dethol pethau pwysig er mwyn cyflawni Glasbrint Tir Canol. Mae bod yn angerddol am gysylltu pobl â bywyd gwyllt, a'u galluogi i weithredu er mwyn diogelu'r byd naturiol, yn bwysig ar gyfer y swydd hon.
Byddai'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol. Serch hynny, os nad ydych yn siaradwr Cymraeg rhugl, byddai deall enwau Cymraeg a gallu ynganu geiriau ac enwau'n gywir yn fantais benodol ichi, gan y byddwch yn gweithio â siaradwyr Cymraeg yn rheolaidd.
Byddwch yn aelod o dîm cyfeillgar, brwdfrydig, sy'n rhoi pwyslais cryf ar gydweithio a chyd-gynhaliaeth. Bydd llawer o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau newydd ac i adeiladu ar feysydd presennol.
Y camau nesaf
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Tachwedd 29ain am hanner dydd 2022.
Rydym yn disgwyl llawer o ddiddordeb yn y rôl hon.
Byddwn yn adolygu ceisiadau ddiwedd mis Tachwedd ac os byddwch ar y rhestr fer, byddwn yn eich gwahodd i gyfweliad ym mis Rhagfyr.
Coed Cadw sy'n cyllido'r swydd hon, a chaiff ei chynnal gan RSPB Cymru yn rhan o bartneriaeth Tir Canol.
Cyflog
💰 £28,420 - £31,529
Lleoliad
📍 Machynlleth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.