Swyddi Cymraeg
2 swydd yn cyfateb
Swyddog Natur - Ynys-hir
Mae RSPB Cymru yn edrych am Swyddog Natur - Ynys-hir
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae hon yn swydd 12 mis, ac mae'n bosib y caiff y cyfnod hwn ei ymestyn os bydd cyllid ar gael. Mae'r swydd yn canolbwyntio ar yr adnoddau coed o gwmpas Bro Ddyfi a'r ardal ehangach, lle ceir rhai o olygfeydd mwyaf godidog Cymru a rhywogaethau sydd lawn mor odidog. Bydd deiliad y swydd hon yn dechrau cyflwyno Glasbrint Tir Canol, a gynlluniwyd ar y cyd, gan ganolbwyntio ar goetiroedd Derw Gorllewin yr Iwerydd:
• Dadansoddi beth mae pobl eisoes yn ei wybod am yr adnoddau coed yn yr ardal (ymchwil pen bwrdd).
• Llunio arolygon cynefinoedd ar y cyd â thirfeddianwyr ac ar eu cyfer. Bydd yr arolygon hyn yn ymwneud â'u hadnoddau a'u rhywogaethau coed, a byddant yn rhoi sylw i'w gwybodaeth a'u huchelgeisiau.
• Ymwneud â'r gweithgarwch coedwigaeth yn yr ardal i gefnogi rheoli coedwigaeth gynaliadwy.
Byddwch yn aelod o dîm Tir Canol. Byddwch yn cwrdd yn rheolaidd â'ch gilydd, ac yn cydweithio'n rheolaidd mewn lleoliad sydd eto i'w gadarnhau. Byddwch hefyd yn cydweithio'n agos â phartneriaid Tir Canol, yn enwedig staff RSPB Cymru gan gynnwys staff cadwraeth, gwarchodfeydd a staff rhaglen Celtic Rainforests LIFE; ynghyd â staff Coed Cadw i lunio asesiad o'r adnoddau coed a rhywogaethau cysylltiedig allweddol yn ardal afon Dyfi.
Gweithgareddau allweddol:
• Cynnal arolygon, gan gynnwys defnyddio Pecyn Cymorth Bywyd Gwyllt Coetiroedd ac arolygon rhywogaethau dethol.
• Cynnal asesiadau o gynefinoedd (hyd at Gam 1) a chreu cynllun gweithredu ar y cyd â thirfeddianwyr i nodi cyfleoedd posibl.
• Cysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid allanol ar draws Bro Ddyfi a'r ardal ehangach gan ddatblygu cysylltiadau yn lleol o fewn sefydliadau a chymunedau.
• Nodi cyfleoedd i greu ac i adfer coetiroedd.
Byddwch yn cydweithio ag amrywiaeth o arbenigwyr o fewn partneriaeth Tir Canol a'r tu allan iddi, a byddwch yn rhan o'r tîm sy'n gwireddu gweledigaeth Tir Canol, gweledigaeth a gynlluniwyd ar y cyd â phobl ar draws yr ardal. Byddwch yn gweithio gartref mewn man addas yn ardal ddaearyddol y prosiect. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus deithio o fewn i'r ardal hon.
Amdanoch chi
Bydd angen ichi fod yn barod i weithio gydag eraill, gan ganolbwyntio ar gyflawni pethau i'r safon uchaf ac ymrwymo i ddiogelu ac adfer byd natur yng Nghymru.
Bydd angen ichi fod yn barod i weithio gydag eraill, gan ganolbwyntio ar gyflawni pethau i'r safon uchaf ac ymrwymo i ddiogelu ac adfer byd natur yng Nghymru.
Mae angen i chi allu creu gweledigaeth a sicrhau cyfeiriad, egni a gallu. Rhaid ichi hefyd allu gweld y darlun ehangach. Mae'n rhaid i chi allu cynghori a chefnogi gwaith ar draws tirwedd eang. Mae eich sgiliau a'ch rhinweddau yn bwysicach i ni na'r rhestr o bwy rydych chi wedi gweithio iddyn nhw. Ond dyw hynny ddim yn golygu y gall unrhyw un gamu i’r swydd hon. Dim o gwbl. Mae'r gwaith hwn yn mynd i fod yn dipyn o her ac fe gewch eich gwthio!
Mae angen ichi fod yn dda iawn am drin pobl, a phrosiectau. Bydd angen gwybodaeth dda arnoch am fywyd gwyllt ac am reoli cynefinoedd yng Nghymru. Bydd angen ichi allu trin pobl yn ddeheuig a bydd angen ichi allu gweithio’n dda â phobl eraill. Bydd hefyd angen sgiliau dadansoddi cryf arnoch i brosesu gwybodaeth a dewis a dethol pethau pwysig er mwyn cyflawni Glasbrint Tir Canol. Mae bod yn angerddol am gysylltu pobl â bywyd gwyllt, a'u galluogi i weithredu er mwyn diogelu'r byd naturiol, yn bwysig ar gyfer y swydd hon.
Byddai'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol. Serch hynny, os nad ydych yn siaradwr Cymraeg rhugl, byddai deall enwau Cymraeg a gallu ynganu geiriau ac enwau'n gywir yn fantais benodol ichi, gan y byddwch yn gweithio â siaradwyr Cymraeg yn rheolaidd.
Byddwch yn aelod o dîm cyfeillgar, brwdfrydig, sy'n rhoi pwyslais cryf ar gydweithio a chyd-gynhaliaeth. Bydd llawer o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau newydd ac i adeiladu ar feysydd presennol.
Y camau nesaf
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Tachwedd 29ain am hanner dydd 2022.
Rydym yn disgwyl llawer o ddiddordeb yn y rôl hon.
Byddwn yn adolygu ceisiadau ddiwedd mis Tachwedd ac os byddwch ar y rhestr fer, byddwn yn eich gwahodd i gyfweliad ym mis Rhagfyr.
Coed Cadw sy'n cyllido'r swydd hon, a chaiff ei chynnal gan RSPB Cymru yn rhan o bartneriaeth Tir Canol.
Cyflog
💰 £28,420 - £31,529
Lleoliad
📍 Machynlleth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Uwch Swyddog Cynllunio
Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn edrych am Uwch Swyddog Cynllunio
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gwarchod harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog Cynllunio i ymuno â ni yn barhaol gan weithio 37 awr yr wythnos.
Y Manteision
- Cyflog o £27,801-£33,727 y flwyddyn, yn dibynnu ar brofiad
- 22 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau cyhoeddus a dau ddiwrnod statudol ychwanegol
- Cynllun pensiwn
Y Rôl
Fel Uwch Swyddog Cynllunio, byddwch yn goruchwylio ceisiadau cynllunio ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Byddwch yn cynnal archwiliadau safle ac yn cyflwyno adroddiadau i'r Pwyllgor Cynllunio, yn monitro perfformiad sefydliadol, yn mynychu cyfarfodydd cyhoeddus ac yn negodi gydag ymgeiswyr.
Yn ogystal ag ymchwilio i achosion o dorri rheolau cynllunio, byddwch yn paratoi ar gyfer apeliadau ac ymchwiliadau cyhoeddus ar ein rhan ac yn eu mynychu.
Yn ogystal, byddwch yn
- Cydgysylltu ag awdurdodau priodol ynghylch ceisiadau “ymylol” a chynlluniau priffyrdd
- Mynychu cyfarfodydd Cyngor Cymuned a grwpiau sefydliadol/addysgol eraill
- Prosesu hysbysiadau ar gyfer adeiladau fferm a choedwigaeth, ffyrdd ac ardaloedd cadwraeth
Amdanoch Chi
I gael eich ystyried yn Uwch Swyddog Cynllunio, bydd angen y canlynol arnoch:
- Cymhwyster mewn Cynllunio Gwlad a Thref neu ddisgyblaeth gysylltiedig
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth polisi cynllunio
- Y gallu i drefnu cyfarfodydd gyda gwaith dilynol priodol
- Profiad teipio a chronfa ddata cyflym, hyfedr a chywir
Byddai aelodaeth o'r RTPI o fudd i'ch cais, yn ogystal â bod yn gyfarwydd ag Arfarniadau Cynaliadwyedd.
Byddai trwydded yrru lawn, ddilys yn fanteisiol, yn ogystal â pheth gwybodaeth o’r Gymraeg.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 19 Medi 2022.
Gall sefydliadau eraill alw’r rôl hon yn Swyddog Cynllunio Gwlad a Thref, Cynlluniwr, Swyddog Cynllunio, Cydymaith Cynllunio, Uwch Gynlluniwr, Swyddog Polisi Cynllunio, Swyddog Cynllunio’r Parc Cenedlaethol, neu Swyddog Cynllunio Gwledig.
Felly, os ydych chi’n barod i gamu i rôl newydd fel Uwch Swyddog Cynllunio, gwnewch gais drwy’r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.
Cyflog
💰 £27,801 - £33,727
Lleoliad
📍 Aberhonddu
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.