Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Rheolwr Datblygu Prawf Fasnachu
Mae Menter a Busnes yn edrych am Reolwr Datblygu Prawf Fasnachu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dyma gyfle gwych i weithio ar brosiect o fewn y diwydiant bwyd a diod ffyniannus yng Nghymru sy’n hanfodol i dwf yr economi yng Nghymru. O ganlyniad i gynnydd mewn galw am gefnogaeth y prosiect, mae Cywain yn chwilio am unigolyn i weithio ar draws Cymru a’r Deyrnas Unedig i gynnig cyfleoedd prawf fasnachu amrywiol a chyffrous i fusnesau.
Cefndir Prosiect Cywain Mae Cywain, a ddarperir gan Menter a Busnes, yn fodel sy’n rhoi cymorth wedi’i dargedu i fusnesau bach a chanolig a micro yn y sector bwyd a diod yng Nghymru. Rydym wedi derbyn arian drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020. Mae cyllid wedi’i sicrhau ar gyfer y prosiect tan fis Mehefin 2023 Mae cefnogaeth yn cael ei ddarparu i ddatblygu capasiti a gallu busnesau, hwyluso trosglwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o’r diwydiant, yn ogystal â chryfhau eu hintegreiddiad yn y gadwyn gyflenwi. Darperir gwasanaethau ledled Cymru gyda phwyslais ar gydweithio gyda busnesau sy’n ychwanegu gwerth a datblygu’r farchnad er mwyn tyfu a chreu swyddi. Mae Cywain wedi datblygu rhwydwaith eang o randdeiliaid ac, yn ganolog i ddatblygiad y cleient, mae gennym agwedd gydlynol tuag at weithio gyda phartneriaid darparu eraill. Mae tri prif ffrwd i’r prosiect:
- Cefnogaeth i fusnesau newydd a micro
- Cefnogaeth Diagnostig
- Clystyru a Chydweithio rhwng busnesau i hybu twf busnes ac effeithlonrwydd **Prif Gyfrifoldebau ** Darpariaeth Gwasanaethau
· Arwain ar elfen prawf fasnachu Cywain ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig sy’n cynnwys sioeau masnach a phrynu o wahanol faint
· Adnabod a chydlynu presenoldeb mewn amrediad eang o ddigwyddiadau addas a fydd yn cynorthwyo busnesau i gael mynediad at farchnadoedd newydd
· Rhoi llwyfan i fusnesau i brawf fasnachu mewn digwyddiadau masnach a chyhoeddus fel ffordd o dderbyn adborth ar gynnyrch/ brand a meithrin hyder wrth werthu cynnyrch
· Cynllunio a gweithredu pob digwyddiad fel prif drefnydd, gan gynnwys anghenion rheoleiddio a threfniant i sicrhau diogelwch bwyd, ac arwain ar gyfathrebu cydlynol gydag aelodau perthnasol o’r tîm
· Gweithio gyda’r tîm i ddarparu cyfres o ddigwyddiadau Cwrdd â’r Prynwr (Rhithiol, hybrid a go iawn)
· Trefnu a chynnal storfeydd digwyddiadau Menter a Busnes · Cydweithio’n rhagweithiol gyda’r Rheolwyr Datblygu a Rheolwyr Clwstwr perthnasol i sicrhau bod digwyddiadau’n cael eu hyrwyddo a’u hanelu at y gynulleidfa darged mewn modd effeithiol ac amserol
· Rheoli cyllideb benodol ar gyfer trefnu a mynychu digwyddiadau prawf fasnachu a darparu adborth ar ôl y digwyddiadau i’r Rheolwr Prosiect a’r tîm ehangach
· Adolygu a datblygu y meini prawf a’r canllawiau i fusnesau sydd am brawf fasnachu, gan sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion cytundebol y prosiect ac yn bodloni gofynion archwilio perthnasol
· Adnabod, ymchwilio a chael mynediad at ddata deallusrwydd y farchnad benodol sy'n berthnasol ac yn addas ar gyfer anghenion y buddiolwyr targed mewn modd rhagweithiol
· Creu cysylltiadau da gydag unigolion, busnesau a chyrff eraill sy’n ymwneud ag arloesedd, datblygu cynnyrch newydd, datblygu marchnadoedd newydd a dosbarthu er mwyn hwyluso twf busnesau
· Darparu gwasanaeth integredig trwy weithio’n agos gyda Rheolwyr Datblygu Rhanbarthol a’r Rheolwr Prosiect yn ogystal â phartneriaid prosiect, gan gydweithio a mynychu digwyddiadau ar y cyd lle’n bosib
· Trefnu a darparu gweithdai pwrpasol ar themâu penodol i feithrin hyder a sgiliau busnesau sydd am fanteisio ar gyfleoedd prawf fasnachu **Monitro a Gwerthuso **
· Cadw cofnodion manwl o bob gweithgaredd a gwaith papur er mwyn sicrhau monitro a chyflawni targedau prosiect i gydymffurfio gyda systemau adrodd a monitro'r prosiect a Llywodraeth Cymru
· Cynhyrchu adroddiad terfynol ar ddiwedd pecynnau gwaith, a fydd yn adrodd ar gryfderau a gwendidau’r gweithgaredd/cymorth a ddarparwyd
· Monitro, adolygu a chynhyrchu adroddiadau ar dargedau, deilliannau, gwariant a pherfformiad pob digwyddiad prawf fasnachu i’r Rheolwr Prosiect yn unol â gofynion cytundeb Llywodraeth Cymru, gan gynnwys creu, cynnal a chadw systemau rheolaeth effeithiol er mwyn bodloni gofynion archwilio perthnasol
· Cydymffurfio gyda gofynion ariannol a gwariant y prosiect gan lynu at ganllawiau pwrcasu’r rhaglen **Arall **
· Cyrraedd safonau ansawdd, gwasanaeth cwsmer, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch
· Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau eraill, a chynnig mewnbwn i aseiniadau bwyd cysylltiedig a gwblheir gan Menter a Busnes yn ôl y galw
· Cynrychioli Menter a Busnes yn ôl y galw Sgiliau a Phrofiad Hanfodol
● Addysg hyd lefel gradd, neu gymwysterau cyfwerth, neu brofiad perthnasol ym maes datblygiad bwyd, marchnata, trefnu digwyddiadau neu bwnc perthnasol
● Dealltwriaeth drylwyr o’r sector bwyd-amaeth yng Nghymru, gyda’r gallu i adnabod cyfleoedd i ddatblygu marchnadoedd newydd
● Dealltwriaeth dda a/neu brofiad dangosadwy o weithio gyda chynhyrchwyr bwyd cynradd a’r sector preifat
● Sgiliau trefnu, rheoli a chydlynu rhagorol, gyda phrofiad dangosadwy o drefnu arddangosfeydd a digwyddiadau
● Profiad dangosadwy o reoli cleientiaid ac ymgysylltu gyda chleientiaid / busnesau naill ai wyneb i wyneb, dros e-bost neu dros y ffôn
● Sgiliau rhyngbersonol o safon uchel a phrofiad o ddatblygu rhwydweithiau gwych ar wahanol lefelau (e.e. cysylltiadau ffurfiol ac anffurfiol) o fuddiolwyr posibl i bobl broffesiynol mewn sefydliadau partneriaeth
● Gallu cymell ei hun, a derbyn cyfrifoldeb dros osod ac adolygu blaenoriaethau ar gyfer cyflawni targedau, gyda ffocws clir ar ansawdd gan roi ystyriaeth i anghenion y cwsmer
● Gallu bod yn rhagweithiol a gyda'r brwdfrydedd i yrru pethau ymlaen yn effeithiol, boed hynny’n annibynnol neu fel rhan o dîm ● Ymwybyddiaeth o safonau diogelwch bwyd a gofynion rheoleiddio’r diwydiant
● Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) rhagorol
● Sgiliau technoleg gwybodaeth o safon uchel gan gynnwys pecynnau Microsoft, cronfeydd data a’r we
● Trwydded yrru lawn a defnydd o gar (bydd teithio ledled Cymru a thu hwnt yn rhan annatod o’r swydd)
● Ar gael i weithio gyda’r nos a thros y penwythnos yn achlysurol Dymunol
● Ymwybyddiaeth eang o ddatblygiad polisi bwyd-amaeth, yn ogystal â strategaethau a pholisïau Llywodraeth Cymru
● Gallu gwneud penderfyniadau anodd ac amserol er budd y busnes a/neu’r gwasanaeth, gan gynnwys codi pryderon addas yn ymwneud â darpariaeth y gwasanaeth, cyllidebau ac isgontractwyr mewn modd proffesiynol a gwrthrychol Gwneud Cais
Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy lenwi ffurflen gais a’i dychwelyd at [email protected]. Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ag Rolant Tomos ar 07964 354 660 Cyfweliadau
Cynhelir cyfweliadau ar gyfer y swydd yma ar ddydd Mercher, 27 Gorffennaf 2022. Os nad yw'r dyddiad yma yn gyfleus, plis nodwch ar y ffurflen gais. Dyddiad Cau
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 10 yb, dydd Iau 21ain o Orffennaf 2022 **Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth **
Gwelwch ein gwefan i gael copi o’n Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Cyflog
💰 £34,198 - £36,335
Lleoliad
📍 Meifod, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.