Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Darlithydd yn y Gymraeg a Bagloriaeth Cymru
Mae Coleg y Cymoedd yn edrych am Ddarlithydd yn y Gymraeg a Bagloriaeth Cymru
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Fel darlithydd chi dysgu'n effeithiol ar ystod o gyrsiau ac ar ystod o lefelau fel y cytunwyd gyda'ch rheolwr llinell, cefnogi dysgwyr i gyflawni canlyniadau llwyddiannus a cymryd rhan mewn gweithgareddau cadw a recriwtio fel sy'n briodol. Gosod disgwyliadau uchel ar gyfer dysgwyr a chyfrannu at amgylchedd sy'n annog pob dysgwr i fod yn uchelgeisiol.
**Dyletswyddau a Chyfrifoldebau Allweddol: **
• Paratoi deunyddiau addysgu, dysgu ac asesu priodol
• Cynllunio'n effeithiol i ddiwallu anghenion pob dysgwr
• Cyfeirio dysgwyr at gymorth arbenigol lle bo hynny'n briodol • Sicrhau bod cynllunio, cyflwyno a rheoli addysgu a dysgu yn cydymffurfio â'r System Sicrhau Ansawdd (gan y caiff ei amrywio o dro i dro)
• Sefydlu a gweithredu rheolaeth effeithiol yn yr ystafell ddosbarth
• Cymryd rhan weithgar mewn gweithgareddau gwella ansawdd • Gweithredu fel tiwtor cwrs os oes angen, gyda chyfrifoldeb dros fonitro a rheoli ansawdd cwrs neu grŵp o gyrsiau
Cyfrannu at goleg sy'n perfformio'n dda:
• Monitro presenoldeb, prydlondeb ac ymddygiad a chynnig her i ddysgwyr os yw dysgwyr yn methu a chyrraedd disgwyliadau
• Gosod a monitro targedau gyda dysgwyr unigol trwy'r broses diwtorial a defnyddio system dracio’r coleg i gofnodi cynnydd dysgwyr
• Annog ac ysgogi arferion astudio cadarn a sicrhau fod dysgwyr yn ymwybodol o'r pwrpas a'r broses asesu
• Rhoi adborth strwythuredig, manwl ac adeiladol i ddysgwyr (ar lafar ac yn ysgrifenedig) o fewn amserlenni y cytunir arnynt
• Cofnodi canlyniadau asesiadau dysgwyr yn gywir fel sy'n briodol i'ch rôl
• Defnyddio amgylcheddau dysgu digidol i gefnogi darpariaeth fel y bo'n briodol • Ymgymryd â dyletswyddau dilysu mewnol fel sy'n briodol i'ch rôl
Cyflog
💰 £22,050 – £42,345
Lleoliad
📍 Nantgarw
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.