Swyddi Cymraeg
2 swydd yn cyfateb
Swyddog Gweinyddol (20 awr yr wythnos)
Mae Menter Iaith Rhondda Cynon Taf yn edrych am Swyddog Gweinyddol (20 awr yr wythnos)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Amcan y swydd:
Cynnal gweithredoedd gweinyddol i gefnogi gwaith y Fenter - gwasanaethau plant, cynlluniau chwarae, ieuenctid, addysg oedolion a digwyddiadau.
Disgrifiad:
Prif Ddyletswyddau
Sicrhau bod systemau gweinyddol yn gywir a wedi ei ddiweddaru yn ddyddiol
Sicrhau bod manylion talu, cofrestr wythnosol a dyddiol a manylion cyswllt gofal plant yn gywir ac yn cael eu cadw’n ddiogel yn ddigidol
Gweinyddu a monitro trefniadau a thaliadau dros ffôn ac e-bost
Cyfathrebu yn glir ac yn safonol ar lafar ac yn ysgrifenedig yn Gymraeg a Saesneg
Diweddaru taenlen cofrestrau plant a’u danfon yn ddyddiol at yr Arweinwyr y Clybiau Carco a’r ysgolion
Paratoi dosraniadau unigol a dosbarthu biliau i rieni fel rhan o’r tîm
Chwilio am a chynorthwyo gyda ceisiadau grant
Sicrhau bod rhediad arferol y swyddfa yn llyfn a bod amserlen waith pawb wedi ei arddangos yn glir
Rheoli gweithredoedd y swyddfa gan gynnwys iechyd a diogelwch a sicrhau bod adnoddau a deunyddiau angenrheidiol ar gael
Mynychu hyfforddiant datblygiad personol
Ymateb i anghenion a gweithredu yn ôl y galw
Unrhyw ddyletswyddau rhesymol arall yn ôl y galw
Dyletswyddau eraill:
Cyfeirio cysylltiadau i’r personau cywir
Cynorthwyo i ddosbarthu taflenni, adnoddau a gwaith papur i’r darpariaethau angenrheidiol
Cynorthwyo i farchnata’r darpariaethau ar y cyfryngau cymdeithasol
Ymweld a darpariaethau pan fo’r angen
Gofynion angenrheidiol
1. Y gallu i gyfathrebu i safon uchel yn Gymraeg a Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig
2. Y gallu i drefnu amserlenni a gwaith papur yn effeithiol a chywir
3. Y gallu i ymateb i ofynion amrywiol y gwasanaethau gan ddilyn gweithdrefnau cadarn
4. Parodrwydd i fynychu hyfforddiant datblygiad personol
5. Y gallu i weithio’n annibynnol a gweithio fel rhan o dîm y Fenter 6. Bod yn weinyddol effeithiol, yn drefnus a chydwybodol
7. Meddu ar drwydded yrru lawn
8. Sgiliau cyfrifiadurol da iawn gan gynnwys Microsoft Office/Microsoft Office 365 yn enwedig Excel
Cyflog
💰 £23,620 pro rata
Lleoliad
📍 Rhondda Cynon Taf
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Gweinyddol
Mae Dysgu Cymraeg Morgannwg (Prifysgol De Cymru) yn edrych am Swyddog Gweinyddol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Dysgu Cymraeg Morgannwg (Prifysgol De Cymru) yn gyfrifol am ddarparu rhaglen o ddosbarthiadau a gwasanaethau Cymraeg i Oedolion yn Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr. Cynhelir y dosbarthiadau mewn lleoliadau amrywiol ar draws rhanbarth Penybont, RhCT a Merthyr a darperir gwersi ar lein. Mae Dysgu Cymraeg Morgannwg yn chwilio am Swyddog Gweinyddol sy’n siarad Cymraeg.
Bydd y gweinyddwr yn rhan o dîm bach sy'n gofalu am yr holl waith gweinyddol. Mae’r prif ddyletswyddau’n cynnwys darparu cymorth gweinyddol i’r Uned yn ei gyfanrwydd, cymorth i’r dysgwyr ym mhob elfen o’r broses ymrestru, casglu ffioedd, mewnbynnu data - monitro a’i dacluso, tasgau gweinyddol ariannol megis prynu, anfonebu a chreu derbynebau, ac ymdrin ag ymholiadau cyffredinol am gyrsiau.
Disgwylir i ymgeisydd y swydd weithio’n drefnus, meddu ar sgiliau rhyngbersonol a sgiliau technoleg gwybodaeth effeithiol.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â [email protected]
Os ydych yn ymgeisydd llwyddiannus a’r swydd hon fydd eich rôl gwasanaethau proffesiynol gyntaf yn y Brifysgol / CBCDC (neu os ydych yn cael eich cyflogi gan PSS Ltd ar hyn o bryd), byddwch yn cael eich cyflogi gan Professional and Support Services Limited, is-gwmni sy’n eiddo’n gyfan gwbl i’r Brifysgol. De Cymru, sy'n darparu gwasanaethau i'r Prifysgolion a'r Colegau. Os ydych yn ymgeisydd gwasanaethau proffesiynol mewnol, byddwch yn parhau i gael eich cyflogi gan Brifysgol De Cymru/CBCDC.
Cyflog
💰 £21,686
Lleoliad
📍 Pontypridd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.