Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn edrych am Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Swydd: Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Contract: Tymor penodol neu secondiad am 2 flynedd
Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos
Cyflog: £31,210 - £38,160 y flwyddyn
Lleoliad: Hyblyg - gweithredir trefniant gweithio hybrid. Lleolir swyddfeydd y Comisiynydd yng Nghaerdydd, Caernarfon, Caerfyrddin, a Rhuthun
Dyddiad cau: 12.00 canol dydd, 13 Mai 2022 Cyfweliadau: 23 Mai 2022 (cynhelir dros Teams)
Pwrpas
Fel aelod o’r tîm cyfathrebu byddwch yn gyfrifol am rannu gwybodaeth a hyrwyddo pob elfen o waith Comisiynydd y Gymraeg. Byddwch yn defnyddio eich sgiliau a thechnegau i gyfleu negeseuon a denu sylw yn y wasg ac ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn sicrhau bod cynulleidfaoedd ym mhobman yn ymwybodol o waith y Comisiynydd.
Dyletswyddau craidd
- Darparu gwasanaeth cyfathrebu cyflym, arbenigol a dibynadwy, gan ymdrin ag ymholiadau a cheisiadau gan y wasg a’r cyfryngau.
- Rhoi cyngor i aelodau staff y Comisiynydd ynghylch rhannu gwaith y sefydliad a darparu sesiynau briffio cyn cyfweliadau ar y cyfryngau.
- Llunio safbwyntiau ac ymatebion y Comisiynydd mewn modd rhagweithiol ac adweithiol.
- Ysgrifennu datganiadau i’r wasg, a pharatoi a chomisiynu deunydd gweledol addas i gyd-fynd â’r straeon hynny gan sicrhau eu dosbarthu’n eang.
- Cyfathrebu gyda rhan-ddeiliaid y Comisiynydd, drwy gyfarfodydd, cyflwyniadau a thrwy ysgrifennu a chylchredeg cylchlythyr i ran-ddeiliaid.
- Datblygu perthnasoedd gwaith cryf, rhagweithiol gyda newyddiadurwyr ar draws Cymru a’r Deyrnas Unedig.
- Ysgrifennu, golygu a phrawf ddarllen copi ar gyfer yr adroddiad blynyddol ac adroddiadau eraill, cyhoeddiadau, y wefan, datganiadau ac erthyglau, a deunydd ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol gan gynnig syniadau o ran deunydd addas i gynulleidfaoedd amrywiol.
- Gweithredu Strategaeth Gyfathrebu’r Comisiynydd drwy weithio gyda thimoedd ar gynlluniau cyfathrebu penodol, hyrwyddo prif negeseuon ac ymgyrchoedd yn y wasg a llunio datganiadau i ddwyn perswâd ar olygyddion a newyddiadurwyr i gynnwys y straeon.
- Datblygu sgiliau digidol e.e ffilmio a golygu fideo er mwyn cynhyrchu cynnwys ar gyfer y cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol sy’n ddeniadol, i gefnogi a hyrwyddo gwaith y Comisiynydd.
- Cynorthwyo gyda chynnal a chreu cynnwys ar gyfer cyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Comisiynydd, gan ateb yn ôl yr angen.
- Diweddaru gwefan y Comisiynydd a’r adran newyddion yn rheolaidd gan sicrhau bod y cynnwys yn cael ei hyrwyddo a’i rannu yn eang.
- Cadw golwg ar ddatblygiadau o bwys a newyddion y dydd a’u rhannu yn ôl yr angen.
- Creu a chylchredeg negeseuon wythnosol a chylchlythyron mewnol yn crynhoi pynciau pwysig a gwybodaeth berthnasol i staff y Comisiynydd.
- Monitro ein sylw yn y cyfryngau a helpu i werthuso ein hymdrechion cyfathrebu er mwyn gwella perfformiad.
Cyflog
💰 £31,210 - £38,160
Lleoliad
📍 Caerdydd, Caernarfon, Caerfyrddin, Rhuthun
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.