Swyddi Cymraeg
2 swydd yn cyfateb
Swyddog Addysg Gychwynnol Athrawon
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Swyddog Addysg Gychwynnol Athrawon
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydyn ni’n chwilio am unigolyn i ymgymryd â rôl newydd, gyffrous sy’n cynnwys –
cydlynu a chefnogi prosiectau a gweithgareddau ym maes Addysg Gychwynnol Athrawon
hyrwyddo a marchnata cyfleoedd i hyfforddi fel athrawon
cydlynu trefniadau cymedroli ar gyfer y Fframwaith Cymwyseddau Iaith i Ymarferwyr Addysg cenedlaethol
Mae sicrhau gweithlu addysg gyda sgiliau Cymraeg a dwyieithog yn allweddol i lwyddiant strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg. Drwy gydweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys y Coleg, darparwyr Addysg Gychwynnol Athrawon a Chyngor y Gweithlu Addysg nod y Llywodraeth ydy annog mwy o ddarpar athrawon i hyfforddi, ac i gefnogi ymdrechion i sicrhau eu bod yn derbyn hyfforddiant o’r radd flaenaf sy’n eu galluogi i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, dysgu’r Gymraeg fel pwnc, neu gyflwyno’r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.
Bydd y rôl hon yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gefnogi elfennau o ‘Gynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg’ Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda darparwyr Addysg Gychwynnol Athrawon i sicrhau fod pawb sydd yn hyfforddi ac yn cymhwyso yng Nghymru yn cael cyfle i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg fel rhan o’u hyfforddiant, yn ogystal â denu mwy o bobl i ddilyn gyrfa ym myd addysg yng Nghymru.
Cyflog
💰 £27,116 – £33,309
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Caerdydd, Aberystwyth, Bangor, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Pynciol
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Swyddog Pynciol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Wyt ti’n unigolyn trefnus, brwdfrydig a chreadigol sydd eisiau datblygu prosiectau sy’n cefnogi myfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn y sector addysg ôl-16?
Mae’r Coleg yn chwilio am unigolyn i gyfrannu at brosiectau sy’n cyflawni nod Cynllun Academaidd Addysg Uwch newydd y Coleg o roi mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg i bob myfyriwr addysg uwch.
Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn cydlynu, cefnogi a hyrwyddo prosiectau a gweithgareddau boed y rheiny’n fodiwlau neu ddigwyddiadau, sy’n anelu at roi ystod o gyfleoedd i fyfyrwyr yn ein prifysgolion.
Os wyt ti’n unigolyn trefnus sy’n gallu cydlynu prosiectau a chydweithio’n effeithiol ag eraill – ymgeisia am y swydd hon!
Cyflog
💰 £27,116 – £33,309
Lleoliad
📍 Hyblyg, Caerfyrddin, Caerdydd, Aberystwyth, Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.