Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Arweinydd Strategaeth Cymraeg
Mae S4C yn edrych am Arweinydd Strategaeth Cymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Byddwch yn cyflwyno a gweithredu strategaeth uchelgeisiol i ddiffinio rôl S4C yn y nod o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Yn cynghori ac yn cydweithio gyda'r adran Gynnwys a Chyhoeddi byddwch yn sicrhau bod S4C yn darparu cynnwys deniadol a phwrpasol i siaradwyr Cymraeg newydd ar amrywiol lwyfannau.
Mewn cydweithrediad gyda'r Cydlynydd Gwasanaethau Mynediad, byddwch yn sicrhau darpariaeth is-deitlau eang a phwrpasol ac unrhyw ddatblygiadau eraill addas i hwyluso'r ymwneud â'r cynnwys.
Byddwch yn gyswllt gweithgar gyda chymunedau sy'n dysgu Cymraeg ar draws Cymru er mwyn cyflwyno S4C fel adnodd a chartref i'r rhai sydd am ddysgu neu ddatblygu eu defnydd o'r iaith ac yn gweithio yn agos gyda'r adrannau cynnwys, cyhoeddi, cyfathrebu a phartneriaethau.
Manylion Eraill
Lleoliad: Canolfan Yr Egin, Caerfyrddin. Mae S4C yn gweithredu polisi Hybrid
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Cytundeb: Parhaol
Cyfnod Prawf: 6 mis
Oriau Gwaith: 35 ¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Iau 1 Medi 2022 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Cyflog
💰 Yn unol â phrofiad
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.