Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Ymgynghorydd Busnes (Canolbarth & Gorllewin Cymru)
Mae Antur Cymru yn edrych am Ymgynghorydd Busnes (Canolbarth & Gorllewin Cymru)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Felly, beth fydd rôl yn cynnwys?
Y mae Antur Cymru yn darparu rhaglen Syniadau Mawr Cymru yng Ngogledd, Canolbarth & Gorllewin Cymru. Yr ydym yn edrych i benodi Ymgynghorydd Busnes ar gyfer rhanbarth y Canolbarth a’r Gorllewin a fydd yn darparu cyngor busnes i unigolion sydd am sefydlu busnes, gyda cleientiaid yn amrywio o 16-24 oed.
Yn ychwanegol i ddarparu cyngor busnes, fe fydd y rôl yn cynnwys elfen o weithio mewn partneriaeth i gefnogi’r Pencampwyr Menter sydd wedi eu lleoli ar draws sefydliadau addysg uwch, ynghyd a darparu gweithdai ar syniadau busnes.
Beth fyddaf i'n ei dderbyn yn gyfnewid?
Cyflog: £28,000 yn ddibynnol ar sgiliau a phrofiad.
Manteision ychwanegol: Y mae Antur Cymru yn darparu pecyn deniadol o fuddion gan gynnwys cynllun gweithio hyblyg, 23 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau cyhoeddus, pensiwn, rhaglen cefnogi gweithwyr, gwobr am wasanaeth hir, cynllun prynu gwyliau ychwanegol, cynllun beicio i gwaith ac yn y blaen.
Oriau: Llawn amser, 37.5 awr yr wythnos
Math o gontract: Tan Mawrth 2023
Lleoliad: Gweithio o Adref
Cysylltwch a Marion Morris am swydd ddisgrifiad llawn - [email protected] neu ffoniwch 01239 710238
Cyflog
💰 £28,000
Lleoliad
📍 Castellnewydd Emlyn
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.