Swyddi Cymraeg
2 swydd yn cyfateb
Cydlynydd Corfforaethol
Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn edrych am Gydlynydd Corfforaethol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydyn ni'n chwilio am Gydlynydd Corfforaethol i ymuno â'r tîm.
Cyfle i gynorthwyo timoedd y Prif Weithredwr, Cyllid a Strategol, ynghyd â gweinyddu trefniadau cyfarfodydd y Bwrdd Rheoli a’r Cyngor, a rheoli swyddfa’r Eisteddfod yng Nghaerdydd, gan ateb y ffôn, ymateb i ymholiadau a chroesawu ymwelwyr i’r swyddfa, a llawer mwy.
DISGRIFIAD SWYDD
Prif Ddyletswyddau
- Cynnig gwasanaeth cefnogol effeithiol i dimoedd y Prif Weithredwr, Cyllid a Strategol.
- Gweinyddu trefniadau ar gyfer cyfarfodydd y Cyngor a’r Bwrdd gan gynnwys anghenion teithio a llety fel bo angen.
- Ymateb fel bo’n briodol i e-byst cyffredinol [email protected], i ymwelwyr i’r swyddfa, a galwadau ffôn allanol.
- Rheoli’r swyddfa o ddydd i ddydd gan gynnwys ateb y ffôn, ymdrin â’r post ac e-byst, croesawu ymwelwyr a dyletswyddau clerigol eraill gan gynnwys goruchwylio’r cyflenwad offer swyddfa, llungopïo a sganio.
- Cyfrifoldeb dros restr llety staff a gwirfoddolwyr blynyddol.
- Cyd-lynu’r trefniadau ar gyfer byrbryd noddwyr blynyddol yr Eisteddfod yn ystod yr ŵyl.
- Sicrhau bod cyfleusterau/lluniaeth yn eu lle, boed hynny yn y swyddfa neu mewn canolfannau eraill.
- Trefnu a chynnal ffeiliau electroneg ar gyfer prosiectau penodol.
- Cadw cofnodion mewn cyfarfodydd amrywiol.
Math o gytundeb: Parhaol
Cyflog: £23,000 - £24,411. Penodir ar waelod y raddfa.
Dyddiad cau: 3 Chwefror 2023
Sut i ymgeisio: Cwblhewch y ffurflen gais a’i dychwelyd at [email protected]. Mae croeso i chi gysylltu â [email protected] i drefnu sgwrs anffurfiol cyn y dyddiad cau.
Cyflog
💰 £23,000 - £24,411
Lleoliad
📍 Caerdydd, Llanybydder, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Gweinyddol (Ansawdd a Gwelliant)
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Swyddog Gweinyddol (Ansawdd a Gwelliant)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn brifysgol sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth ac sy'n ymrwymedig i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn meithrin gwybodaeth academaidd a sgiliau ymarferol i ffynnu.
Rydym yn cynnig dulliau addysgu arloesol, y cyfarpar diweddaraf, a chymorth rhagorol ar draws ystod eang o leoliadau dysgu a chyrsiau.
At hynny, rydym yn y 13eg safle ar gyfer ansawdd yr addysgu yng Nghanllaw Prifysgolion Da 2022 The Times a'r Sunday Times, ac yn wythfed yn y DU ar gyfer ‘Cynhwysiant Cymdeithasol’ yn nhabl y gynghrair hon eleni.
Rydym 'nawr yn chwilio am Swyddog Gweinyddol i ymuno â'n campws yng Nghaerfyrddin ar sail lawn-amser, barhaol.
- Y RÔL -
Byddwch yn ymgymryd ag ystod eang o ddyletswyddau gweinyddol sy'n berthnasol i weithgarwch Ansawdd a Gwelliant yr Athrofa. Mae'r swydd yn gofyn am unigolyn sy'n fedrus o ran gwaith gweinyddol.
Byddwch yn gweithio gyda Swyddog Gweinyddol Gweithredol (Ansawdd) yr Athrofa, a bydd disgwyl i chi gyfrannu at sicrhau a monitro prosesau ansawdd a gwelliant yr Athrofa, yn unol â gofynion statudol a rheoleiddiol y Brifysgol.
Darllenwch y Swydd-ddisgrifiad i gael rhagor o wybodaeth, lle cewch hefyd restr o feini prawf hanfodol a dymunol 'Manyleb y Person'
- AMDANOCH CHI -
Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer rôl y Swyddog Gweinyddol, bydd angen i chi feddu ar y canlynol:
- Lefel dda o addysg gyffredinol
- Addysg hyd at lefel HND neu radd
- Profiad blaenorol o ddarparu cymorth gweinyddol o ansawdd uchel
- Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da, a'r gallu i gyfathrebu mewn modd effeithiol ar bob lefel a thrwy bob cyfrwng
- Y gallu i amlygu sgiliau trefnu effeithiol, gan gynnwys y gallu i fodloni terfynau amser tyn
- Y gallu i roi sylw i fanylion
- Profiad o weithio gyda phwyllgorau
- Hyfedredd yn y defnydd o becynnau Microsoft
- Yn amlygu hunangymhelliant a'r gallu i weithio heb oruchwyliaeth
- Y gallu i weithio'n rhan o dîm ac mewn partneriaeth ag eraill
- Y gallu i weithio'n hyblyg ac yn barod i wneud hynny, gan gynnwys teithio rhwng campysau neu o'ch cartref, yn ôl y gofyn
- Y gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg – ar lafar ac yn ysgrifenedig
Byddai hefyd o fantais i'ch cais os ydych yn meddu ar y canlynol:
- Profiad blaenorol o weithio ym maes Addysg Uwch
**- BUDDIANNAU - **
- Bydd gennych hawl i 28 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, yn ogystal ag wyth gŵyl banc a phedwar diwrnod pan fydd y Brifysgol ynghau.
Mae ein cyflogeion yn cael mynediad at becyn cyflog a buddiannau gwych yn gydnabyddiaeth am eu cyfraniad gwerthfawr, sy'n cynnwys:
- Cyflog ac amodau da; rydym yn gyflogwr cyflog byw achrededig ac yn cynnig cyflog cystadleuol
- Aelodaeth o gynllun pensiwn gan yr USS i ddarparu buddiannau i chi a'ch teulu
- Polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd ac sy'n darparu ar gyfer gweithio'n hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth ychwanegol â thâl
- Cyfleoedd o ran gyrfa a datblygiad, gan gynnwys cymorth i ennill rhagor o gymwysterau
- Cymorth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys gwasanaethau iechyd galwedigaethol a chymorth cwnsela
- Gostyngiadau i staff ar ystod o gynhyrchion a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun beicio i'r gwaith
Nodwch nad yw'r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, asesir eich cais ar sail eich atebion i gwestiynau'r cais.
Cyflog
💰 £23,715 - £27,131
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.