Swyddi Cymraeg
2 swydd yn cyfateb
Swyddog Cyllid
Mae Esgobaeth Tyddewi yn edrych am Swyddog Cyllid
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae angen unigolyn arnom, un â chymwysterau addas, i ymuno â’n Tîm Cyllid bychan. Byddwch yn cyfrannu at weinyddiaeth ariannol effeithiol a chymwys Bwrdd Cyllid Esgobaeth Tyddewi a’r Esgobaeth ehangach, gan gefnogi, yn ogystal, waith y Rheolwr Cyllid.
Mae Prif Gyfrifoldebau’r swydd hon fel a ganlyn:
1. Cefnogi gwaith y Rheolwr Cyllid, o ran trin a thrafod y cyllid Esgobaethol o ddydd i ddydd.
2. Defnyddio Meddalwedd Cyfrifyddu Sage, i sicrhau data cywir, cynnal trafodion busnes, cysoni ariannol, hefyd llunio adroddiadau, yn ôl y galw.
3. Cyfrannu at weinyddiaeth ariannol yr Esgobaeth.
4. Darparu cefnogaeth ariannol angenrheidiol, yn ôl y galw (gan gynnwys y Bwrdd Persondai a’i Arolygwr, y Gymdeithas Dai a Bwrdd Cyllid Esgobaeth Tyddewi [Eiddo] Cyf.)
5. Bod yn aelod amlwg a gweithgar o Dîm Cyllid yr Esgobaeth.
Mae angen rhywun sy’n medru gweithio fel aelod o dîm, sydd â phrofiad o gadw cyfrifon a sy’n gyfarwydd â defnyddio Microsoft Excel. Manteisiol hefyd fyddai gwybod am drefn Cyfrifyddu SAGE.
Bydd angen sgiliau rhyng-bersonol ardderchog arnoch, ynghyd â’r gallu i gyflawni gwaith yn brydlon. Bydd talu sylw i fanylion yn hollbwysig yn y swydd hon, ac yn ogystal, dylech fod yn berson a all drefnu’n drwyadl, ond gan ddangos hyblygrwydd, o ran gweithio, ar yr un pryd.
Byddai medru’r iaith Gymraeg yn fanteisiol.
Dylai ymgeiswyr ofyn am ffurflen gais a gwybodaeth bellach oddiwrth Mrs Nia Evans, Swyddfa Esgobaeth Tyddewi, Abergwili, Caerfyrddin SA31 2JG neu drwy ebost: [email protected]
Ni roddir ystyriaeth i geisiadau drwy CV. Dyddiad cau 11 Tachwedd 2022
Dyddiad Cyfweliad wythnos yn dechrau 21 Tachwedd 2022
Cyflog
💰 £27,126 - £29,942
Lleoliad
📍 Abergwili
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfrifydd Cymwysedig neu Rannol-Gymwysedig & Cyfrifydd Dan Hyfforddiant
Mae Llŷr James Cyf yn edrych am Gyfrifydd Cymwysedig neu Rannol-Gymwysedig & Chyfrifydd Dan Hyfforddiant
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am bobol i ymuno gyda’n tîm brwdfrydig yng Nghaerfyrddin. Mae gennym amryw o gleientiaid dros Gymru gyfan ac ym mhellach ac rydym yn cynnig gwasanaeth llawn trwy gyfrwng y Gymraeg.
Rydym yn cynnig hyfforddiant llawn ar bob agwedd o gyfrifeg yn arwain at gymwysterau proffesiynol. Telir holl gostau’r hyfforddiant a ffioedd arholiadau.
Dyletswyddau:
Cyfrifydd Cymwysedig neu Rannol- Gymwysedig
· Paratoi cyfrifon ar gyfer amryw o fusnesau
· Cwrdd gyda’n cleientiaid i drafod y cyfrifon a’u cynlluniau
· Paratoi ffurflenni treth i unigolion, partneriaethau a chwmnïau
· Bod yn rhan o dîm archwilio
· Gweithio gyda’n cleientiaid i’w paratoi nhw ar gyfer Troi Treth Yn Ddigidol Cyfrifydd Dan Hyfforddiant
· Helpu i baratoi cyfrifon ar gyfer amryw o fusnesau
· Delio gydag ymholiadau oddi wrth ein cleientiaid
· Helpu paratoi ffurflenni treth i unigolion, partneriaethau a chwmnïau
· Bod yn rhan o dîm archwilio
· Paratoi Ffurflenni TAW
· Gweithio gyda’n cleientiaid i’w paratoi nhw ar gyfer Troi Treth Yn Ddigidol Gofynion
· Yn hapus i siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg a Saesneg
· Profiad o ddefnyddio Word ac Excel
· Profiad gyda QuickBooks, Xero neu Sage yn fantais ond ddim yn ofynnol
· Yn hapus yn gweithio mewn tîm ac ar ben eich hunan
· Sgiliau cyfathrebu da
· Prydlondeb
· Oriau’r swyddfa yw 9-5 o Ddydd Llun i dydd Gwener. Mae’r cyflog yn ddibynnol ar brofiad a sgiliau.
Cyflog
💰 Yn dibynnu ar profiad
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.