Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Cyfieithydd Iaith Gymraeg
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn edrych am Gyfieithydd Iaith Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i weithio o fewn ein Tîm Iaith Gymraeg ac i’n cynorthwyo i ddarparu gwasanaeth cyfieithu o safon uchel o’r Saesneg i’r Gymraeg ac o’r Gymraeg i’r Saesneg yn ogystal â gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar draws Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Disgrifiad:
Mae deiliaid y swydd yn gyfrifol am gyfrannu at wasanaethau cyfieithu ysgrifenedig a chyfieithu ar y pryd ar draws Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. Mae’n ofynnol i ddeiliaid y swydd:
1. Ddarparu gwasanaethau cyfieithu ar gyfer dogfennau sydd yn cael eu llunio gan Feysydd Gwasanaeth y Cyngor, a hynny ar gais y Cydlynydd Cyfieithu, gyda ffocws penodol i gefnogi prosesau democrataidd y Cyngor.
2. Darparu gwasanaethau cyfieithu ar y pryd i gyfarwyddiaethau.
3. Meithrn cysylltiadau da a sicrhau dulliau cyfathrebu da gyda chleientiaid.
4. Blaenoriaethu a rheoli beichiau gwaith mewn ffordd effeithiol er mwyn diwallu terfynau amser y cytunwyd arnynt.
5. Lle bo angen, cynnig arweiniad i Swyddogion ynghylch defnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg yn effeithiol wrth lunio dogfennau, a hynny‘n unol â canllawiau Comisiynydd Iaith Gymraeg.
6. Gweithio gyda Swyddogion perthnasol i gynnal Gwefan Iaith Gymraeg y Cyngor er mwyn darparu gwybodaeth ddwyieithog yn unol â Safonau Iaith Gymraeg y Cyngor.
7. Cynorthwyo’r Cydlynydd Cyfieithu gyda’r trefniadau gweinyddol sydd yn gysylltiedig â dogfennau pan fydd angen eu hanfon at gyfieithwyr allanol, pan fo hynny’n briodol.
8. Mynychu cyfarfodydd rheolaidd i drafod beichiau gwaith, blaenoriaethau ac unrhyw faterion gweithredol eraill.
9. Darparu gwasanaethau prawf ddarllen ar gyfer cydweithwyr pan fydd angen.
10. Cynorthwyo’r Swyddog Iaith Gymraeg a’r Cydlynydd Cyfieithu i ddarparu gwasanaethau cyfieithu ar y pryd yn ystod cyfarfodydd y Cyngor, fel y bo angen
Cyflog
💰 £27,344 - £30,151
Lleoliad
📍 Hybrid, O gartref, Pont-y-pŵl
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.