Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Tiwtor / Asesydd Ôl 16 Ysgol Gwynllyw, Pontypwl
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Diwtor / Asesydd Ôl 16 Ysgol Gwynllyw, Pontypwl
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am berson sydd wedi cymhwyso fel asesydd ac yn unol â gofynion CBAC / City and Guilds i ddysgu’r cwrs Diploma Lefel 3 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (GChDDP): Ymarfer a Theori. Os na fydd cymhwyster asesu gan yr unigolyn, byddwn yn ystyried rhoi’r unigolyn ar gwrs asesu. Rydym yn chwilio am berson sy’n gallu cyfathrebu yn effeithiol yn y Gymraeg ac sy’n frwdfrydig ac â sgiliau rhyngbersonol o’r radd uchaf.
Disgrifiad:
Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy'r Rheolwr Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol a Chynllun Ysgolion Cam Wrth Gam i gyflawni’r dyletswyddau canlynol: · Cyflwyno’r cymhwyster Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 2/3 Ymarfer a Theori o fewn amser penodedig i ddisgyblion mewn ysgol/ion uwchradd
· Cynhyrchu adnoddau dysgu ar gyfer unedau’r cwrs Lefel 2 craidd a Lefel 2/3 Ymarfer a Theori GChDDP, gan ystyried elfennau ychwanegol fel integreiddio’r sgiliau allweddol i’r gwaith galwedigaethol
· Asesu gwaith y dysgwyr yn ôl gofynion y bwrdd dyfarnu a threfnu achrediad portffolios
· Dylid bod yn brydlon, yn gyfrifol ac yn medru darparu ar gyfer holl anghenion y dysgwyr o fewn eu gofal
· Cynnal sesiwn anwytho gyda’r dysgwr ar ddechrau’r cwrs
· Datblygu a chytuno ar gynlluniau realistig ar gyfer dysgu ac asesu gyda’r dysgwyr, gan ystyried anghenion yr unigolyn, ac anghenion darparwr y lleoliad gwaith
· Sicrhau bod dysgwyr yn deall diben, gofynion a phrosesau asesiad
· Defnyddio dull asesu dilys, teg, dibynadwy a diogel
· Nodi a chasglu tystiolaeth sy’n ddilys, cywir a digonol
· Gwneud penderfyniadau asesu yn erbyn meini prawf penodol
· Cefnogi, tiwtora a mentora dysgwyr i gwblhau’r gwaith wrth ymweld, ac o bell
· Sicrhau bod gwaith portffolio pob dysgwr yn cael ei gwblhau yn brydlon
· Gosod gwaith y dysgwyr ar y system electroneg Valid-8
· Sicrhau fod y dysgwr yn derbyn adborth teg ac adeiladol sy’n cadarnhau cyflawniad ac yn nodi unrhyw ofynion ychwanegol
· Sicrhau fod pob gwaith wedi’i gwblhau o fewn amser
· Cyrraedd targedau fel y nodir gan y cwmni
· Hyrwyddo perthynas bositif gyda phob lleoliad gwaith
· Mynychu cyfarfodydd safoni
· Gwirio dogfennaeth Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd y dysgwyr (GDG)
· Mynychu sesiynau hyfforddiant mewn swydd yn ôl y galw
· Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr
· Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyflog
💰 £22,234 pro rata
Lleoliad
📍 Pont-y-pŵl
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.