Swyddi Cymraeg
2 swydd yn cyfateb
Swyddog Cefnogi'r Gymraeg
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn edrych am Swyddog Cefnogi'r Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i chwarae rhan allweddol wrth gefnogi’r sefydliad i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a bydd yn cefnogi Uned yr Iaith Gymraeg i gryfhau’r ddarpariaeth o wasanaethau dwyieithog i gleifion, defnyddwyr gwasanaeth a’r cyhoedd.
Disgrifiad:
Bydd Swyddog Cefnogi’r Gymraeg yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi’r sefydliad i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a bydd yn cefnogi Uned yr Iaith Gymraeg i gryfhau’r ddarpariaeth o wasanaethau dwyieithog i gleifion, defnyddwyr gwasanaeth a’r cyhoedd.
Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo Uned y Gymraeg i sicrhau tegwch o ran y defnydd o’r Gymraeg a’r Saesneg led led y Bwrdd Iechyd, gan hyrwyddo gofal iechyd dwyieithog, cefnogi’r tîm Cyfathrebu gyda gwefan y Bwrdd Iechyd a’r Fewnrwyd Staff.
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd weithio ar eu liwt eu hunain o fewn y swydd, a chymryd cyfrifoldeb dros ddelio ac ymateb i gwynion a dderbynnir gan y tîm, cydlynu a gweinyddu ceisiadau am gyfieithiadau ac uwchgyfeirio unrhyw broblemau i Pennaeth Uned y Gymraeg yn ôl y gofyn.
Bydd deiliad y swydd yn aelod allweddol o Uned y Gymraeg a bydd disgwyl iddynt weithio’n hyblyg, gan gyflenwi a chefnogi, yn ôl y galw, yn y meysydd gwaith y byddai Swyddog y Gymraeg fel arfer yn gyfrifol amdanynt.
Cyflog
💰 £23949 - £26282
Lleoliad
📍 Cwmbrân
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog y Gymraeg
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn edrych am Swyddog y Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydyn ni'n chwilio am unigolyn egnïol a brwdfrydig i ymuno gydag Uned y Gymraeg o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Bydd Swyddog y Gymraeg yn rhan o'r tîm sydd yn sicrhau ein bod ni fel Bwrdd Iechyd yn darparu'r gofal gorau i'r boblogaeth i ni'n gwasanaethu.
Bydd Swyddog y Gymraeg yn gyfrifol, ffel rhan o dîm ehangach Uned y Gymraeg i sicrhau bod polisïau, gweithdrefnau, a chymorth i alluogi ein staff i gydymffurfio gyda safonau'r Gymraeg a thargedau gan Lywodraeth Cymru.
Disgrifiad:
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn sefydliad GIG sydd wedi ennill sawl gwobr ac sy'n angerddol am ofalu. Mae'r Bwrdd Iechyd yn darparu gweithle eithriadol lle gallwch deimlo yn ymddiriedol a gwerthfawr. Beth bynnag fo'ch arbenigedd neu'ch cam yn eich gyrfa, mae gennym gyfleoedd i bawb ddechrau, tyfu ac adeiladu eich gyrfa. Mae'r Bwrdd Iechyd yn darparu gofal acíwt, sylfaenol a chymunedol integredig sy'n gwasanaethu poblogaeth o 650,000 ac yn cyflogi dros 16,000 o staff.
Rydym yn cynnig pecyn manteision gwych a chyfleoedd hyfforddi a datblygu helaeth gyda hyfforddiant gorfodol â thâl, rhaglenni mewnol rhagorol, cyfleoedd i gwblhau cymwysterau cydnabyddedig a llwybrau gyrfa broffesiynol gan gynnwys ystod o raglenni datblygu rheolwyr. Rydym yn cynnig gweithio hyblyg ac yn hyrwyddo cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith, yn darparu cymorth iechyd galwedigaethol a chynllun uchelgeisiol ar gyfer Canolfan Ragoriaeth Lles i'ch cefnogi yn y gwaith.
Mae ein strategaeth Dyfodol Clinigol yn parhau i wella a hyrwyddo gofal yn nes at adref yn ogystal â gofal ysbyty o ansawdd uchel pan fo angen. Mae hyn yn cynnwys Ysbyty Athrofaol y Faenor, datblygiad mwyaf newydd i'r strategaeth Dyfodol Clinigol, sy'n darparu gofal arbenigol a critigol a agorwyd ym mis Tachwedd 2020. Ymunwch â ni ar ein taith i arloesi ffyrdd newydd o weithio a darparu gwasanaeth gofal iechyd o'r radd flaenaf sy'n addas ar gyfer y dyfodol.
Cyflog
💰 £27,055 - £32,934
Lleoliad
📍 Cwmbrân
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.