Swyddi Cymraeg
2 swydd yn cyfateb
Rheolwr Talaith Gogledd Ddwyrain (Rhannu Swydd)
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Reolwr Talaith Gogledd Ddwyrain (Rhannu Swydd)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig ac ysbrydoledig i arwain gwaith tîm o Swyddogion Cefnogi. Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg, gyda phersonoliaeth sy’n caniatáu iddi/iddo gyfathrebu yn effeithiol ar sawl lefel. Byddai profiad blaenorol o reoli ac arwain tîm o staff a dealltwriaeth eang o waith Mudiad Meithrin yn fanteisiol.
Disgrifiad:
Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Pennaeth Datblygu Gwasanaethau am gyflawni’r dyletswyddau canlynol: · Ysgwyddo cyfrifoldeb am holl agweddau rheolaeth gwaith Mudiad Meithrin o fewn y dalaith
· Rheoli gwaith, a chynnig arweiniad a chefnogaeth i holl staff y dalaith
· Cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda phob aelod o staff perthnasol i gynllunio gwaith, gosod targedau a chyfeiriad i’r gwaith
· Sicrhau bod cyfarfodydd tîm tymhorol i holl staff y dalaith er mwyn darparu hyfforddiant, trafod cynlluniau gwaith a derbyn adroddiadau
· Sicrhau bod gwaith y dalaith yn cyd-fynd â nod ac amcanion Mudiad Meithrin
· Adnabod ac arwain cynlluniau gweithredu er mwyn cynyddu ac ymestyn gwaith y Mudiad yn y dalaith
· Gweithio i hybu enw da’r Mudiad drwy farchnata, cyfathrebu a delio a chwynion yn effeithiol
· Sicrhau bod strwythurau a gwaith darpariaethau Mudiad Meithrin yn gynaliadwy
· Sicrhau bod cyfleoedd i staff a phwyllgorau cylchoedd fynychu digwyddiadau hyfforddiant a rhannu arfer dda
· Arwain ar gynllunio strategol lleol gan reoli cynlluniau sirol penodol yn ôl yr angen
· Mynychu ac eirioli dros aelodau’r Mudiad a’r Mudiad ei hun mewn cyfarfodydd strategol megis Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg,cyfarfodydd gyda swyddogion yr Awdurdodau lleol
· Arwain ar ddatblygu cynllun Sefydlu a Symud o fewn y dalaith
· Mynychu cyfarfodydd Tîm yn dymhorol a chyfarfodydd eraill yn ôl y gofyn
· Sicrhau presenoldeb Mudiad Meithrin mewn digwyddiadau ac achlysuron e.e. Sioeau, sioeau babis, Eisteddfodau
· Sicrhau tîm o staff cyflawn ac adnabod anghenion hyfforddiant a datblygu pob aelod o staff
· Ateb gofynion grantiau perthnasol gan gasglu gwybodaeth, data ac adnabod cyfloed yn ôl y gofyn e.e. UGMA
· Datblygu perthynas a chydweithio gyda phartneriaid o fewn y dalaith
· Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
· Ymgymryd â chyfrifoldebau dros ddarpariaeth/au Meithrinfeydd Cymru (Cylchoedd Canolog) drwy’r Dirprwy Rheolwr Talaith
· Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth Mudiad Meithrin yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr
Cyflog
💰 £36,918 – £46,335 pro rata
Lleoliad
📍 Llangefni, Aberystwyth, Wrecsam, Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Gweithrediadau a Phrofiad Ymwelwyr
Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn edrych am Reolwr Gweithrediadau a Phrofiad Ymwelwyr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Byddwch yn rheoli ein tîm sy'n delio'n uniongyrchol â chwsmeriaid yng Nghastell y Waun, sef castell canoloesol ysblennydd sy'n sefyll ym mhen uchaf Dyffryn Ceiriog, a'r unig gastell Edwardaidd y mae rhywun wedi trigo ynddo'n barhaus. Ers yr unfed ganrif ar bymtheg, mae wedi bod yn gartref i'r teulu Myddelton. Fel caer strategol allweddol yn y Gororau, mae hunaniaeth Gymreig a Saesnig yn brwydro am oruchafiaeth yma hyd heddiw.
Byddwch yn rhan allweddol o dîm arweinyddiaeth portffolio gogledd-ddwyrain Cymru, yn cydweithio â rhai sy'n gofalu am gefn gwlad, ein treftadaeth adeiledig a chyfleusterau ac ymgysylltu â'r cyhoedd. Dyma gyfle i weithiwr proffesiynol profiadol ym maes gweithrediadau ymwelwyr ysbrydoli ac arwain staff i wneud gwahaniaeth er lles natur a phobl, a darparu profiadau gwych i ymwelwyr.
Cymraeg yn ddymunol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl neu ofynion iaith cysylltwch â: [email protected]
Sut beth yw gweithio yma
Mae pob diwrnod yn wahanol yng Nghastell y Waun. Yn y swydd amrywiol hon, byddwch yn arwain y gwaith o ddarparu profiadau newydd i ymwelwyr, dod o hyd i ffyrdd newydd o ddod â hanes yn fyw, a chefnogi partneriaethau allanol.
Ceir digonedd o gyfleoedd i ddatblygu eich hun a'ch tîm, ac i wneud gwahaniaeth. Byddwch yn cael eich cefnogi gan dîm gwych o bobl sy'n llawn brwdfrydedd ynghylch rhannu'r lle hwn a'i awyrgylch rhagorol. Fel rhan o gymuned ehangach o fewn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, byddwch yn ein helpu i greu profiadau newydd a gwell ar gyfer ein holl ymwelwyr.
Beth y byddwch yn ei wneud
Byddwch yn ymuno â phortffolio gogledd-ddwyrain Cymru ar adeg gyffrous, gan gyflwyno ffyrdd newydd o weithio a dylanwadu ar ei drywydd ar gyfer y dyfodol. Byddwch yn chwarae rhan weithgar mewn prosiectau mawr, wrth reoli cyllidebau ac wrth sicrhau ein bod yn cyflawni tasgau cydymffurfio. Fe fyddwch yn arweinydd a rheolwr gweladwy i dimau, yn ysgogi perfformiad gweithredol cryf ac yn darparu profiadau o'r safon uchaf un i'n holl ymwelwyr. Bydd gennych brofiad yn y maes rheoli ymwelwyr, a byddwch yn mynnu safonau cyflwyno a diogelwch uwch.
Os ydych yn arweinydd a rheolwr profiadol, wrth eich bodd yn gweithio mewn amgylchedd prysur a gydag eraill - gallai hon fod y swydd berffaith i chi!
**Am bwy ydym yn chwilio **
Byddai’n wych clywed gan bobl sydd â'r sgiliau/profiad canlynol:
Arweinydd deinamig, pragmataidd a llawn egni sydd â hanes o lwyddiant ym maes gweithrediadau ymwelwyr
Rheolwr llinell profiadol ac effeithiol
Hyfforddwr a mentor gwych, sydd â safonau perfformiad uchel
Unigolyn trefnus sy'n gallu ymdopi â nifer o flaenoriaethau
Gallu rheoli gweithrediadau, gan gynnwys cyllidebau, rotâu a chynlluniau, yn fedrus
Presenoldeb hyderus a digynnwrf sy'n cefnogi'r tîm ar draws yr eiddo
Yn fedrus wrth ymgysylltu â rhanddeiliaid, er mwyn datblygu partneriaethau.
Y pecyn
Mae’r arwyddair ‘I bawb, am byth’ yn ganolbwynt yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rydym yn gweithio’n galed i greu diwylliant cynhwysol, ble mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn. Mae’n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu a chynrychioli amrywiaeth y cymunedau a’r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ni ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb dderbyn croeso yn ein timau hefyd.
O ba le bynnag y dewch, a waeth beth yw’ch cefndir, rydym yn awyddus i glywed gennych – p’un ai ydych yn rhoi jam yn gyntaf, hufen yn gyntaf, neu’n casáu sgons hyd yn oed, d’oes dim ots. Mae croeso i bawb.
Mae’r buddion o weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnwys:
Gweithio hyblyg pryd bynnag y bo modd
Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau
Mynediad am ddim i’n heiddo i chi, i’ch gwestai a’ch plant (dan 18)
Cynllun pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol
Cyflog
💰 £29,640
Lleoliad
📍 Wrecsam
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.