Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Cynorthwyydd Casgliadau
Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn edrych am Gynorthwyydd Casgliadau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyfle unigryw a rôl ddelfrydol yng Nghastell y Waun, un o eiddo blaenllaw Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru.
Byddwch yn helpu gyda gofal, cadwraeth a chyflwyniad y tŷ a’r tu mewn.
Gofalu am gasgliad sy’n adlewyrchu pethau o ddiddordeb i'r teulu Myddelton ers dros 400 mlynedd.
Croesawu hyd at 800 o ymwelwyr y dydd i'r tŷ - a chefnogi gwirfoddolwyr.
Cyflawni safonau rhagorol o ddehongli, cyflwyno a chadwraeth ataliol.
Mae'r rôl yn cynnwys cyfrifoldebau Cynrychiolydd Allweddol ac yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus fyw ar y safle yn llawn amser.
Bydd cyfweliadau a drefnwyd ar gyfer 29 a 30 Mehefin 2022 yng Nghastell y Waun yn cynnwys y cyfle i gael taith o amgylch y tŷ, gweld ein casgliad a gweld y llety. Os oes gennych unrhyw gwestiynau cyn i’r hysbyseb swydd gau, anfonwch neges e-bost at Karen George [email protected].
Sut brofiad yw gweithio yma?
Mae Castell y Waun yn lle bywiog ac egnïol, yn gadarnle i ddiwylliant a hunaniaeth Gymreig. Mae ein Tîm Tŷ a Chasgliadau hynod brofiadol yn ffynnu yn ein hamgylchedd gweithredol, prysur, gan gydweithio er mwyn gwella ein darpariaeth ragorol i ymwelwyr.
Mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i ddatblygu ein casgliadau a'n dehongliad, ac rydym yn awyddus i benodi unigolyn a all chwarae rhan allweddol wrth gyflawni’r cynlluniau hynny. Mae hon yn swydd ddelfrydol i lansio’ch gyrfa ym maes rheoli casgliadau.
Mae hon yn swydd llawn amser ar rota 7 diwrnod cylchol dros 3 wythnos: mae angen gweithio’n rheolaidd ar benwythnosau ac ar wyliau banc.
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Fel Cynorthwyydd Casgliadau yng Nghastell y Waun, byddwch yn helpu gyda gofalu am y casgliadau a'r glanhau o ddydd i ddydd. Sylwir ar bob manylyn, a byddwch yn cadw llygad barcud ar bopeth o'r amodau amgylcheddol mewn ystafell, i arwyddion o draul. Byddwch yn cadw cofnodion cywir hefyd.
Yn y rôl hon sy'n wynebu'r cyhoedd, hoffem i chi siarad ag ymwelwyr am y gwaith a wnewch, a'r casgliadau sydd gennym. Byddwch hefyd yn rhan o'r tîm ehangach o weithwyr a gwirfoddolwyr, yn helpu i gyflenwi lle bo angen.
Am bwy rydym ni'n chwilio
Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi os oes gennych chi;
Agwedd gall a phragmatig
Sgiliau medrusrwydd llaw da, a chydsymud da rhwng y llaw a'r llygaid, yn ogystal â'r gallu i weithio ar ysgolion ac ar sgaffald uchel
Mae trwydded yrru lawn yn hanfodol
Ddiddordeb mawr mewn eiddo hanesyddol, cadwraeth eu casgliadau a dealltwriaeth o gadwraeth ataliol
Dealltwriaeth dda o faterion Iechyd a Diogelwch a gweithdrefnau argyfwng
Gallu cefnogi gwirfoddolwyr i ymdrechu o fewn eu gwaith
Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da, ac yn gweithio'n dda mewn tîm
Parodrwydd i ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus a datblygu sgiliau personol, a dangos brwdfrydedd i ddysgu
Y pecyn
Mae’r arwyddair ‘I bawb, am byth’ yn ganolbwynt yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rydym yn gweithio’n galed i greu diwylliant cynhwysol, ble mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn. Mae’n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu a chynrychioli amrywiaeth y cymunedau a’r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ni ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb dderbyn croeso yn ein timau hefyd.
O ba le bynnag y dewch, a waeth beth yw’ch cefndir, rydym yn awyddus i glywed gennych – p’un ai ydych yn rhoi jam yn gyntaf, hufen yn gyntaf, neu’n casáu sgons hyd yn oed, d’oes dim ots. Mae croeso i bawb.
Mae’r buddion o weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnwys:
Gweithio hyblyg pryd bynnag y bo modd
Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau
Mynediad am ddim i’n heiddo i chi, i’ch gwestai a’ch plant (dan 18)
Cynllun pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol
Cyflog
💰 £19,305
Lleoliad
📍 Wrecsam
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.