Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Llyfrgellydd: Ymgysylltu Oedolion
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn edrych am Lyfrgellydd: Ymgysylltu Oedolion
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Pwrpas Cyffredinol y Swydd
Rheoli, datblygu a hyrwyddo’r ystod lawn o Wasanaethau Llyfrgell i Oedolion. Annog yr ystod ehangaf bosib o ddefnyddwyr i ddefnyddio llyfrgelloedd, i sicrhau bod gan holl feysydd gwasanaeth yr awdurdod ystod gynhwysfawr o stoc ac i hyrwyddo gwasanaethau llyfrgell i gynulleidfa eang. Darparu mewnbwn proffesiynol ar gyfer gweithgareddau Datblygu Darllenwyr o fewn y gwasanaeth.
Cynorthwyo’r Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgell i sicrhau bod y gwasanaeth yn cyflawni ac yn cynnal lefel y gofynion o ran gwasanaeth a amlinellir yn Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru, er mwyn cydymffurfio â Deddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964.
Cymryd cyfrifoldeb fel rheolwr llinell dros grŵp o bwyntiau gwasanaeth, cynorthwyo'r Rheolwr Gwasanaeth Llyfrgell gyda'r recriwtio, hyfforddi, datblygu ac ysgogi staff, gan eu hyfforddi a’u mentora i berfformio hyd eithaf eu gallu. Yn unol â hynny, gweithredu’r holl bolisïau a gweithdrefnau AD.
Cynorthwyo’r Rheolwr y Gwasanaeth Llyfrgell trwy gyfrannu tuag at gynllunio strategol, datblygu polisïau, cydlynu a rheoli’r gwasanaeth fel aelod o’r tîm rheoli llyfrgell proffesiynol.
Cyfrannu mewn modd cadarnhaol tuag at brosesau Rheoli Perfformiad y Gwasanaeth, gan gynnwys asesu effeithiolrwydd ac effaith y gwasanaeth, ynghyd â dadansoddi anghenion cwsmeriaid. Cyfrannu tuag at gynllunio’r gyllideb, cynorthwyo i ddrafftio Cynlluniau Gweithredol Blynyddol sy’n adlewyrchu blaenoriaethau corfforaethol ac yn ymgorffori dangosyddion a thargedau perfformiad a gytunwyd.
Gweithio mewn modd cydweithredol ar draws yr Awdurdod a’r Rhanbarth, datblygu a chynnalpartneriaethau i hybu effeithlonrwydd, effeithiolrwydd ac arloesi wrth ddiogelu buddiannau ac uniondeb y gwasanaeth llyfrgell.
Dirprwyo ar ran y Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgell lle bo angen ac yn berthnasol.
**Cyffredinol: **Cydym_ffurfio â Pholisi Diogelu Corfforaethol yr awdurdod lleol a’r dyletswyddau a chyfrifoldebau diogelu y mae’r polisi hwnnw’n ei roi ar bob gweithiwr, gan gydweddu â gwerthoeddcraidd yr Awdurdod sy’n cynnwys cefnogi plant, oedolion a all fod mewn perygl a’u teuluoedd er mwyn eu cadw’n ddiogel ac iach._
Prif Ddyletswyddau / Cyfrifoldebau
Arwain ar ddatblygu’r gynulleidfa drwy drefnu, hyrwyddo a marchnata digwyddiadau, gwasanaethau dysgu a gweithgareddau ar gyfer oedolion, ledled y Sir. Sicrhau bod digwyddiadau a gweithgareddau’n cael digon o gyhoeddusrwydd i annog cyfranogiad. Cysylltu â grwpiau targed ar gyfer hyrwyddo’r gwasanaethau’n gyffredinol a datblygu mentrau a phrosiectau penodol.
Hyrwyddo a datblygu’r hyn a gynigir o ran hyrwyddo Iechyd a Llesiant o fewn y Gwasanaeth Llyfrgell.
Arwain ar bob agwedd ar y gwasanaeth mewn perthynas â rheoli, dethol a hyrwyddo’r stoc ar gyfer Oedolion, gan gynnwys hyfforddi staff. Bod yn gyfrifol am ddethol stoc (categorïau penodol), a chyfrannu mewn modd cadarnhaol tuag at ddatblygu a rheoli stoc y llyfrgelloedd cangen ynghyd â’r casgliadau wrth gefn.
Arwain ar y gwaith o ddatblygu a chyflenwi gwasanaethau rhithwir gan gynnwys e-lyfrau, adnoddau ar-lein, offerynnau canfod adnoddau, cynorthwyo gyda’r gwaith o ddiweddaru a datblygu’r catalog llyfrgell ar-lein.
Bod yn gyfrifol am reolaeth gyllidebol o feysydd penodol, e.e. categorïau o fewn y gronfa lyfrau, eiddo, prosiectau. Rheoli a monitro’r cyllidebau, er mwyn cyflawni Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â stoc.
Hyrwyddo darllen fel cyfrwng i hybu twf personol ac iechyd a llesiant o fewn y gwasanaeth llyfrgell a’r gymuned.
Gweithio mewn modd cydweithredol ar draws yr Awdurdod a’r Rhanbarth, datblygu a chynnalpartneriaethau i hybu effeithlonrwydd, effeithiolrwydd ac arloesi wrth ddiogelu buddiannau ac uniondeb y gwasanaeth llyfrgell.
Ymgymryd â gwaith ar draws awdurdodau neu ar lefel genedlaethol i gefnogi cydweithrediad, ef enghraifft, yng nghyswllt System Rheoli Llyfrgell ar y Cyd i Gymru.
Arwain ar gyflwyno a datblygiad parhaus agweddau / prosiectau penodol o fewn portffolio’rGwasanaeth o wasanaethau cyhoeddus.
Arwain ar ddatblygu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y cwsmer, gan sicrhau lefelau uchel o fodlonrwydd ymhlith cwsmeriaid drwy gyflenwi gwasanaethau sy’n ymateb i anghenion y cwsmer.
Bod yn Gydlynydd Gwirfoddolwyr ar gyfer y gwasanaeth llyfrgell i recriwtio gwirfoddolwyr a chyflenwi rhaglen hyfforddi gwirfoddolwyr pan fo’n briodol.
Darparu, ar adegau, gwasanaeth uniongyrchol mewn mannau gwasanaeth, pan fo lefelau staffio yn isel ac nid yw staff wrth law ar gael. (anaml).
Cyflog
💰 £32,020 - £35,411
Lleoliad
📍 Ynys Môn
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.