Swyddi Cymraeg — Llywodraethu
26 swydd yn cyfateb
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Gadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr Mudiad Meithrin
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Y Bwrdd Cyfarwyddwyr yw corff llywodraethol Mudiad Meithrin a’i aelodau yw Ymddiriedolwyr yr elusen. Dyma gyfle cyffrous i berson brwdfrydig ddylanwadu ar waith cenedlaethol a strategol y Mudiad.
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Ymddiriedolwyr (x2)
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn edrych am Ymddiriedolwyr (x2)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Disgrifiad: Cyngor Llyfrau Cymru: Ymddiriedolwyr Ydych chi’n frwd dros annog rhagor o bobl i godi llyfr ac elwa o’r holl fuddion sydd ynghlwm â darllen? Ydych chi’n awyddus i gyfrannu at y gwaith pwysig o gefnogi’r diwydiant cyhoeddi ar hyd a lled Cymru, yn Gymraeg ac yn Saesneg? Mae Cyngor Llyfrau Cymru’n awyddus i benodi hyd at ddau o ymddiriedolwyr newydd i ymuno â’r un ar ddeg presennol fel aelodau o’i Fwrdd i sicrhau bod gan y Cyngor drefn rheoli sy’n briodol ar gyfer gofynion y presennol a’r dyfodol. Rydym yn sefydliad sy’n credu mewn amrywiaeth a chynhwysiant ac sydd â gweithlu, bwrdd o ymddiriedolwyr a deunydd cyhoeddedig sy’n adlewyrchu’r gymdeithas gyfan. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o amrywiaeth eang o gefndiroedd, diwylliannau a lefelau profiad, sydd â diddordeb byw ym myd llyfrau, ac sy’n credu y gallant helpu i gefnogi’n gwaith a’n hamcanion strategol i gyflawni’r Gymru gynhwysol rydym wedi ymrwymo iddi fel sefydliad. Bydd y penodiadau am gyfnod cychwynnol o bedair blynedd, a disgwylir i aelodau fynychu pedwar cyfarfod o’r Bwrdd bob blwyddyn. Swyddi gwirfoddol yw’r rhain, ond ad-delir unrhyw dreuliau rhesymol. Am ragor o fanylion ac i wneud cais – www.llyfrau.cymru, neu ar gyfer ymholiadau, cysylltwch â [email protected]. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw canol dydd, ddydd Llun, 11 Medi 2023.
Gwybodaeth Ychwanegol: Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd ar gael isod Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud cais am yr hysbyseb swydd Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
Pecyn Ymddiriedolwyr
Cyflog
💰 Mae swydd Ymddiriedolwr yn ddi-dâl. Fodd bynnag, bydd pob cost resymol a achoswyd gan fusnes yr elusen yn cael ei had-dalu yn unol â’n polisi treuliau.
Lleoliad
📍 Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.