Swyddi Cymraeg — Busnes
33 swydd yn cyfateb
Cynghorwyr Busnes
Mae Business in Focus yn edrych am Gynghorwyr Busnes
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae gan Business in Focus Ltd sawl contract busnes gyda phortffolio o gleientiaid gwahanol e.e. Cwmni Benthyciadau Dechrau Busnes a Llywodraeth Cymru. Mae'r contractau hyn yn cynnig gwasanaethau sy'n ymwneud â chymorth busnes yng Nghymru a ledled y DU. Rheolir y contractau hyn gan y Rheolwr Contractau Busnes. Mae tîm o gynghorwyr busnes sy'n darparu'r gwasanaethau hyn gyda phortffolio o ddefnyddwyr terfynol.
**Crynodeb o'r Swydd: **
Bydd Cynghorwyr Busnes yn rheoli portffolio o hyd at 40 o unigolion sy'n dechrau busnesau, busnesau newydd cyfnod cynnar a busnesau sy'n bodoli eisoes ar ôl Covid. Ar gyfer busnesau newydd sydd heb eu sefydlu eto ac sydd ar ddechrau cyfnod cynnar, bydd y Cynghorydd Busnes yn darparu dull diduedd sy'n canolbwyntio ar fusnes, gan gynnig cymorth penodol drwy gyfuniad o sesiynau un i un rhithiol a gweminarau, neu alwadau ffôn. Bydd y ddarpariaeth yn rhithwir/digidol yn bennaf, ond ceir darpariaeth gorfforol sylweddol i feithrin cysylltiadau, sicrhau bod atgyfeiriadau'n cael eu gwneud a chynwysoldeb. Ar gyfer busnesau sefydledig, bydd y Cynghorydd Busnes yn trefnu cyfarfodydd rhithiol un i un er mwyn gwneud diagnosis o anghenion y busnes ac yn cynnig cymorth addas penodol, gan hwyluso mynediad i gynghorwyr arbenigol a chymorth gan Busnes Cymru, fel y bo'n briodol.
DYMUNOL:
Cymhwyster sy'n gysylltiedig â chynghori, e.e. Cymhwyster Cymorth Busnes y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth Lefel 5, SFEDI Lefel 5, neu gyfwerth, NEU Cymhwyster sy'n gysylltiedig â rheoli, e.e. Cymhwyster Rheoli y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth Lefel 5, neu gyfwerth, NEU Gymhwyster busnes lefel gradd
**Prif Gyfrifoldebau: **
- Sefydlu cysylltiadau â chleientiaid er mwyn cael trafodaethau cychwynnol i gael dealltwriaeth o'r cleient a'u syniad busnes drwy sesiynau un i un a grŵp. Canfod pa heriau personol sydd ganddynt ac y mae angen iddynt eu goresgyn a chytuno ar gynllun gweithredu ynghylch sut i'w cefnogi i oresgyn y materion/rhwystrau hyn.
- Deall prif elfennau a gofynion syniadau busnes er mwyn nodi materion a/neu gyfleoedd i ddatblygu'r syniad busnes.
- Cynnig gwybodaeth a chymorth i gleientiaid ynghylch materion busnes i'w helpu nhw ddechrau busnes. Gwneud atgyfeiriadau at arbenigwyr priodol / rhaglenni Llywodraeth Cymru/ Gwasanaeth Busnes Cymru ar gyfer BBaCh.
- Cofnodi a chwblhau cynlluniau gweithredu'n gywir, gweithgarwch â chleientiaid, canlyniadau a'r holl waith papur cysylltiedig yn unol â gofynion cytundebol Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person a gweithdrefnau gweithredol. Sicrhau bod oriau cymorth yn cael eu cynnig, eu cofnodi a'u cymeradwyo.
- Datblygu a darparu cymorth wedi'i deilwra sy'n cyfuno gweminarau a fideogynadledda un i un i fusnesau newydd cyn dechrau, cyfnod cynnar a busnesau sy'n bodoli eisoes mewn modd proffesiynol a gwybodus.
- Cynnal cyfarfodydd un i un gyda busnesau presennol i wneud diagnosis o'r anghenion busnes a'r cymorth sydd ei angen, gan arwain at gefnogi'r perchennog i ddatblygu Cynllun Gweithredu. Ar ôl ei ddatblygu, cefnogi'r perchennog i esblygu'r cynllun a'u cyflwyno i rwydweithiau cymorth a chyngor perthnasol er mwyn rhoi hwb i'w gwybodaeth a'u hyder.
- Sefydlu a datblygu rhwydwaith effeithiol o gysylltiadau, e.e. Canolfannau Gwaith, Cymunedau am Waith, Cymdeithasau Tai, CGS, i hyrwyddo'r prosiect a denu ac ymgysylltu â phobl leol i ystyried hunangyflogaeth.
- Cefnogi Hwylusydd CRF i nodi a datblygu digwyddiadau i hyrwyddo'r gwasanaeth. Ymgymryd â'r gweithgareddau hyn mewn ffordd broffesiynol a gwybodus.
- Meithrin cysylltiadau effeithiol â chleientiaid, cydweithwyr a chyflenwyr; yn y sector cyhoeddus a'r gwasanaethau sydd ar gael o'r sector preifat.
- Bod ar flaen y datblygiadau diweddaraf mewn busnes ac arferion, cymryd rhan mewn sesiynau uwchsgilio, bod yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael gan wasanaethau cymorth busnes lleol a ledled Cymru.
- Rhannu gwybodaeth gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid a gweithio gyda nhw i roi gwelliannau parhaus ar with.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy'n rhesymol ofynnol gan yr Uwch Dîm Rheoli.
Cyflog
💰 £30,000
Lleoliad
📍 Pen-y-bont ar Ogwr
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Marchnata a Chefnogi
Mae Menter a Busnes yn edrych am Swyddog Marchnata a Chefnogi
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyflog
💰 £21,979 - £23,749
Lleoliad
📍 Aberystwyth, Bangor, Caerfyrddin, Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Menter Cwm Gwendraeth Elli yn edrych am Swyddog Datblygu Gwendraeth Uchaf
Ar gau. Mae’r swydd hon ar gau. Nid oes dyddiad cau wedi ei gofnodi.
Yn dilyn dathliadau penblwydd Menter Cwm Gwendraeth Elli yn 30 oed rydym am ehangu’r tîm wrth edrych ar gynlluniau iaith y dyfodol. Mae’r Fenter yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ac egniol er mwyn d
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Menter a Busnes yn edrych am Reolwr Prosiectau Arloesedd a Thwf Busnes
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
I arwain a rheoli pob agwedd o ddarpariaeth dwy gronfa her.
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Menter a Busnes yn edrych am Swyddog Busnes ac Ymchwil
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Nod y rôl hon yw i gyfrannu cefnogaeth strategol i ystod eang o weithgareddau’r cwmni trwy ddarparu ymchwil a dadansoddiad busnes o safon uchel.
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Menter Môn yn edrych am Gydlynydd Prosiect - Prosiect Selkie
Ar gau. Mae’r swydd hon ar gau. Nid oes dyddiad cau wedi ei gofnodi.
Rheoli'r agweddau gweithredol ar y prosiect Selkie. Yn cynnwys ond ddim yn gyfyngedig i gyfathrebiadau, rheolaeth rhaglen ac adrodd.
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Menter Môn yn edrych am Swyddog Cymorth Prosiectau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cynnig gwasanaethau cefnogi prosiectau a gweinyddol i sicrhau bod prosiectau ynni'n cael eu cyflwyno'n llwyddiannus.
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Menter Môn yn edrych am Reolwr Prosiect EMMP
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rheoli darpariaeth y Cynllun Lliniaru a Monitro Amgylcheddol Cyn-weithredol.
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Menter a Busnes yn edrych am Arweinydd Tîm – Cefnogaeth i Fusnesau Meicro a Bach: De Cymru
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dyma gyfle gwych i weithio ar brosiect o fewn y diwydiant bwyd a diod ffyniannus Cymreig sy’n hanfodol i dwf yr economi yng Nghymru.
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.