Swyddi Cymraeg — Cyfryngau
66 swydd yn cyfateb
Dylunydd Graffeg
Mae Tinopolis yn edrych am Ddylunydd Graffeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a chreadigol i ymuno â thîm cynhyrchu Tinopolis. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â'r adran graffeg i weithio ar lu o raglenni gan gynn- wys dwy sioe gylchgrawn dyddiol byw, rhaglenni trafod, rhaglenni dogfen a chwaraeon.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio yn amgylchedd byw darlledu teledu â chreu cynnwys creadi- gol gwreiddiol ac amrywiol. Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn amryddawn a meddu ar y gallu i weithio'n unigol neu greu ar y cyd ag eraill ar amrywiaeth o brosiectau. Mae’r gallu i ddefnyddio meddalwedd Adobe yn hanfodol a byddai bod yn gyfarwydd â meddalwedd 3D yn fuddiol. Darperir hyfforddiant ar gyfer darlledu byw gan ddefnyddio'r Grass Valley, XPression a Maestro.
Byddai'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol oherwydd natur y cynyrchiadau a'r amgylchedd gwaith.
Rydym yn gwmni sydd am adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac yn credu mewn amrywiaeth a chyfle cyfartal. Rydym bob amser yn croesawu ceisiadau gan unigolion o unrhyw oedran, cefndir ethnig, anabledd, rhywioldeb a chefndir cymdeithasol yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.
Lleoliad: Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli SA15 3YE
Cyflog: Yn ddibynnol ar brofiad
Cytundeb: I ddechrau cyfnod o 12 mis gyda phrawf o 6 mis 27 Tachwedd 2022
Dyddiad Cau: 27 Tachwedd 2022
**Manylion pellach **
Oriau Gwaith: Cyfartaledd o 40 awr yr wythnos dros 5 diwrnod. Ond oherwydd natur y swydd ac oriau rhaglenni disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc.
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl pro rata i 25 diwrnod o wyliau dros flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn, bydd Tinopolis yn cyfrannu 3% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau: Dylid anfon ceisiadau mewn ffurf llythyr cais a CV erbyn 27 Tachwedd 2022 at [email protected] neu Swyddi, Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, SA15 3YE. Fe dderbynnir ceisiadau fideo.
Cyflog
💰 Yn ddibynnol ar brofiad
Lleoliad
📍 Llanelli
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Newyddiadurwr (Materion Cyfoes Cymraeg)
Mae ITV Cymru Wales yn edrych am Newyddiadurwr (Materion Cyfoes Cymraeg)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae ITV Cymru Wales yn chwilio am newyddiadurwr brwdfrydig sy’n llawn syniadau am straeon uchelgeisiol.
Fel Newyddiadurwr o fewn adran Rhaglenni Cymraeg ITV Cymru Wales byddwch yn gweithio ar draws ein cynnwys i S4C gan ymchwilio ar gyfer cyfres Y Byd ar Bedwar yn ogystal â datblygu straeon i gynulleidfa Hansh. Byddwch yn ymchwilio, yn cynllunio’r ffilmio ac yn creu cynnwys digidol fel rhan o’r tîm. Byddwch yn angerddol am gynrychioli cymunedau amrywiol Cymru ac yn cynnig syniadau creadigol sy’n herio’r drefn.
Bydd gennych farn olygyddol gadarn a phrofiad ymarferol o gydymffurfiaeth yn ogystal â gwybodaeth eang o faterion cyfoes Cymru a’r Byd.
Os ydych chi’n newyddiadurwr sydd yn chwilio am her ac eisiau profiad o greu cynnwys ffurf hir, gall y rôl yma fod yn gyfle gwych i chi.
Cytundeb 6 mis.
Cyflog : Yn ôl profiad
Dyddiad cau: 28ain o Hydref
**Sgiliau Allweddol **-
- Sgiliau ymchwil trylwyr a’r gallu i ddatblygu rhwydwaith eang o gysylltiadau.
- Ymwybyddiaeth wych o faterion cyfoes Cymru a’r Byd.
- Dealltwriaeth dda o blatfformau a chynulleidfaoedd digidol a sut i’w cyrraedd yn ddigidol.
- Yn angerddol dros Gymru a phwy
Nodweddion y rôl -
- Datblygu a chynnig syniadau yn gyson
- Y gallu i weithio dan bwysau ac ar draws brandiau gwahanol.
- Cyfathrebwr da gyda phrofiad o weithio mewn tim.
Mae ITV wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth ei weithlu ac rydym yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr o bob cefndir. Rydym yn annog ceisiadau am y rôl hon gan ymgeiswyr ag anabledd ac fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, os ydych yn bodloni’r meini prawf gofynnol ar gyfer y rôl a’ch bod wedi datgan bod gennych anabledd, byddwn yn gwarantu y bydd eich cais cyfan yn cael ei ystyried (h.y. byddwch yn cyrraedd ail gam ein proses).
Cyflog
💰 Yn ôl profiad
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Golygydd Creadigol
Mae Rily Publications yn edrych am Olygydd Creadigol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Os ydych yn frwd dros lyfrau plant Cymraeg a bod gennych brofiad o olygu creadigol, anfonwch eich CV atom cyn gynted â phosibl.
Dyma gyfle gwych i weithio gyda chyhoeddwr Cymraeg sydd wedi ennill gwobrau.
Bydd rôl y golygydd creadigol yn cynnwys gweithio o gartref yn ogystal â bod yn rhan o dîm ehangach, cyfeillgar.
Cefnogir y swydd gan Gyngor Llyfrau Cymru ac mae'n rhoi cyfle i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio gydag amrywiaeth o lyfrau gan gynnwys addasiadau o lyfrau cymeriad poblogaidd fel Paw Patrol a Roald Dahl hyd at ddatblygu cynnwys gwreiddiol gydag awduron a darlunwyr uchel eu parch.
Rydym yn cynnig rôl barhaol gyda 22.5 awr yr wythnos, gyda phatrwm gweithio hyblyg, a’r cyflog yw £15.40 yr awr (tua £30K pro rata).
Mae sgiliau hanfodol yn cynnwys lefel uchel o Gymraeg ysgrifenedig ac yn ddelfrydol, y profiad o olygu yn y cyfrwng hwn. (Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus ar y rhestr fer gwblhau ymarfer golygu cyn mynychu cyfweliad.)
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Llun 19eg Medi 2022. Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol, yn Gymraeg a Saesneg, i [email protected]
Mae Rily Publications yn hyrwyddo amrywiaeth a chynwysoldeb mewn gyrfaoedd cyhoeddi. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bobl o gefndiroedd proffesiynol a phrofiadau bywyd amrywiol. Mae ein proses recriwtio yn rhydd rhag gwahaniaethu, gan gynnwys ar sail hil, ethnigrwydd, oedran, crefydd, rhyw a rhywioldeb.
Cyflog
💰 £30,000 pro rata
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Bro360
Mae Golwg Cyf. yn edrych am Gydlynydd Bro360
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Yn dilyn llwyddiant 8 o wefannau bro yn Arfon a Cheredigion, mae ardaloedd eraill yng Nghymru yn dangos diddordeb mewn ymuno â’r rhwydwaith, felly mae Golwg yn awyddus i benodi:
**Cydlynydd Bro360 **
Mae’r swydd hon yn allweddol i dwf y rhwydwaith o wefannau bro – yn bwynt cyswllt rhwng pawb sy’n ymwneud â’r prosiect ac yn aelod o dîm fydd yn gweithio’n agos gyda chymunedau i’w cynorthwyo i greu gwefannau straeon lleol bywiog.
Y swydd:
· Bod yn bwynt cyswllt sy’n gyrru’r prosiect yn ei flaen, gan gynnwys arwain gwaith Ysgogydd lleol.
· Hyrwyddo’r rhwydwaith yn ddigidol a thu hwnt.
· Cefnogi unigolion, mudiadau a grwpiau o bobol o bob math i gymryd rhan ac i gyfrannu at y gwefannau newydd a’r gwefannau presennol.
· Creu cysylltiadau, a meithrin perthynas â’r cymunedau, y cyfranogwyr a busnesau lleol.
· Cyfrannu syniadau at ddatblygu prosiectau creu cynnwys.
· Cyfrannu at raglen hyfforddiant.
· Cadw cofnodion at ddibenion monitro a chyllido.
Y person:
· Y gallu i drin pobol yn effeithiol.
· Sgiliau cyfathrebu cryf.
· Diddordeb yn y We a’r cyfryngau cymdeithasol a phrofiad o’u defnyddio.
· Sgiliau TG da.
· Syniadau ffresh ac unigryw.
· Trefnus.
· Egnïol a phenderfynol.
Lleoliad y Swydd: Yn ddelfrydol byddwch wedi’ch lleoli yng Ngwynedd (neu gydag adnabyddiaeth dda o ardaloedd y gwefannau bro). Gweithio o adre a/neu o un o swyddfeydd Golwg yng Nghaernarfon neu Lanbed.
Cyflog: £25,000
Cytundeb: Cyfnod penodol o flwyddyn. Cyfnod prawf cychwynnol o chwe mis.
Oriau gwaith: Llawn amser, 40 awr yr wythnos
Dyddiad cau: 23 Medi 2022
Anfonwch lythyr cais, CV llawn ac enw dau ganolwr.
Mwy o fanylion: [email protected] / 01570 423 529
Cyflog
💰 £25,000
Lleoliad
📍 O gartref, Unrhyw un o’n swyddfeydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Ysgogydd de Ceredigion
Mae Golwg Cyf. yn edrych am Ysgogydd de Ceredigion
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Yn dilyn brwdfrydedd cymunedau de Ceredigion i ymuno â rhwydwaith Bro360, mae Golwg yn awyddus i benodi:
**Ysgogydd de Ceredigion **
Mae’r swydd hon yn allweddol i ddatblygiad y cynllun – yn gweithio gyda chymunedau de Ceredigion i’w cynorthwyo i greu gwefannau straeon lleol bywiog.
Y swydd:
· Sbarduno gweithgarwch yn yr ardal dan sylw.
· Hyrwyddo’r prosiect yn y cymunedau lleol a thu hwnt.
· Ysgogi unigolion, mudiadau a grwpiau o bobol o bob math i gymryd rhan ac i gyfrannu at y gwefannau newydd.
· Creu cysylltiadau, a meithrin perthynas â’r cymunedau, y cyfranogwyr a busnesau lleol.
· Cyfrannu syniadau at ddatblygu’r prosiect.
Y person:
· Y gallu i drin pobol yn effeithiol.
· Adnabyddiaeth dda o’r ardal.
· Sgiliau cyfathrebu cryf.
· Diddordeb yn y We a’r cyfryngau cymdeithasol a phrofiad o’u defnyddio.
· Syniadau ffresh ac unigryw.
· Trefnus.
· Egnïol a phenderfynol.
Lleoliad y Swydd: Gweithio o adre a/neu o swyddfa Golwg yn Llanbed, gyda phwyslais ar weithio yn y bröydd
Cyflog: £20,040
Cytundeb: Cyfnod penodol o flwyddyn. Cyfnod prawf cychwynnol o chwe mis.
Oriau gwaith: Llawn amser, 40 awr yr wythnos
Dyddiad cau: 23 Medi 2022
Anfonwch lythyr cais, CV llawn ac enw dau ganolwr.
Mwy o fanylion: [email protected] / 01570 423 529
Cyflog
💰 £20,040
Lleoliad
📍 O gartref, Llanbedr Pont Steffan
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Gohebydd Lleol i Golwg360
Mae Golwg Cyf. yn edrych am Ohebydd Lleol i Golwg360
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Fe fydd y Gohebydd yn gweithio’n rhan o dîm golwg360, yn cynhyrchu straeon newyddion ar gyfer y gwefannau bro a gwasanaeth golwg360.
Mae’r gwefannau bro presennol mewn dwy ardal – Arfon a Cheredigion – ac yn y broses o ehangu ar draws y gorllewin.
Y gwaith
Mae’r swydd yma’n gyfle i fod yn rhan o un o’r cynlluniau newyddiadurol mwya’ arloesol yng Nghymru.
Fe fydd y gwaith yn golygu:
- dod o hyd i straeon lleol gwreiddiol a’u datblygu nhw ar gyfer y gwefannau bro;
- addasu a datblygu straeon cenedlaethol i’w gwneud yn addas ar gyfer cynulleidfa leol;
- addasu straeon o’r gwefannau bro ar gyfer gwasanaeth newyddion cenedlaethol golwg360.
Fe fydd angen gweithio ar draws nifer o wahanol gyfryngau, o brint i fideo, blogiau byw a’r cyfryngau cymdeithasol.
Amser a chyfnod: Swydd lawn-amser, ar gontract penodol tan ddiwedd mis Medi 2023.
Cyflog: £20,040
Dyddiad cau: 23 Medi 2022
Anfonwch lythyr cais, CV llawn ac enw dau ganolwr.
Mwy o fanylion ac ymgeisio: [email protected]
Cyflog
💰 £20,040
Lleoliad
📍 I'w drafod
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pennaeth Di-sgript (Unscripted)
Mae S4C yn edrych am Bennaeth Di-sgript (Unscripted)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Fel un o dîm Cynnwys byddwch yn cydweithio'n agos gyda'r Prif Swyddog Cynnwys i greu a goruchwylio strategaeth cynnwys aml-lwyfan ar gyfer S4C.
Byddwch yn cyflwyno a chomisiynu ystod eang o gynnwys amrywiol ac arloesol gan gyflenwyr. Yn cydbwyso rhagoriaeth olygyddol â'r holl ofynion cydymffurfio a chyllidebol, gan sicrhau bod y cynnwys a gomisiynwyd yn cyd-fynd yn strategol â'r weledigaeth ar gyfer S4C.
Byddwch yn ddolen gyswllt allweddol ac adeiladol gyda'r sector gynhyrchu annibynnol drwy gydweithio, creu a meithrin syniadau ar y cyd er mwyn adnabod a meithrin cynnwys o'r safon uchaf.
Bydd eich cyfraniad a'ch dylanwad fel arweinydd yn holl bwysig wrth i S4C drawsnewid i fod yn gyhoeddwr cynnwys aml-lwyfan.
Manylion Eraill
Lleoliad: Canolfan yr Egin, Caerfyrddin
Mae S4C yn gweithredu polisi Hybrid
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Cytundeb: 3 mlynedd
Oriau Gwaith: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cyfnod Prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Mawrth 20 Medi 2022 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg
Cyflog
💰 Yn unol â phrofiad
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arweinydd Cyfryngau Cymdeithasol
Mae S4C yn edrych am Arweinydd Cyfryngau Cymdeithasol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae S4C yn chwilio am Arweinydd Cyfryngau Cymdeithasol i ymuno â'r Adran Gyhoeddi. Gyda'r cyfryngau cymdeithasol yn rhan ganolog o fywyd nifer fawr iawn o bobl, byddwch yn chwarae rhan allweddol yn strategaeth ddigidol S4C.
Mae'r ffordd yr ydym yn ymwneud â chynnwys yn newid ac mae S4C wrthi'n ymateb i'r newid hwnnw gyda ffocws ar ddatblygu cynnwys digidol, gwreiddiol yn ogystal â chynnwys sydd yn cyd-fynd â rhaglenni a chyfresi S4C.
Yn ogystal â gweithio ar leoliad, bydd elfen fawr o olygu cynnwys, dewis clipiau o raglenni S4C, rhedeg calendr cyfryngau cymdeithasol S4C, ffrydio cynnwys yn fyw i Facebook Live a YouTube yn ôl yr angen a gofalu am ein cyfrifon o ddydd i ddydd ar draws bob platfform.
Chi hefyd fydd llais S4C ar y cyfryngau cymdeithasol – yn perchnogi'r cyfrifon trwy fod yn chwareus, neidio ar "trends" ehangach a chreu sŵn.
Byddwch yn arwain tîm o swyddogion cyfryngau cymdeithasol ac yn rhoi trefn ar amserlen waith y tîm. Byddwch hefyd yn cadw golwg ar draws holl gyfrifon cyfryngau cymdeithasol cyfresi S4C, ac yn cynghori ac yn rhoi arweiniad i'r sector er mwyn sicrhau safon ac arloesedd yn y maes.
Bydd eich cyfraniad yn holl bwysig wrth i S4C drawsnewid i fod yn gyhoeddwr cynnwys aml-lwyfan.
Manylion Eraill
Lleoliad: Canolfan yr Egin, Caerfyrddin.
Mae S4C yn gweithredu polisi hybrid.
Bydd disgwyliad ichi fynychu swyddfeydd S4C yng Nghaernarfon ac yng Nghaerdydd o bryd i'w gilydd.
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Cytundeb: Parhaol
Cyfnod Prawf: 6 mis
Oriau Gwaith: 35.75 ar yr wythnos. Mi fydd disgwyl i chi weithio oriau hyblyg yn unol a'r gwasanaeth e.e. datrys problemau technegol ffrydiau byw a all fod tu allan i oriau gwaith safonol.
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Mawrth 20 Medi 2022 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mi fydd cyfweliadau yn cael ei chynnal ar ddydd Mercher 28 Medi 2022.
Cyflog
💰 Yn unol â phrofiad
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Golwg Cyf. yn edrych am Ddylunydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyfle i fod yn greadigol a chreu marc.
Mae cwmni Golwg eisiau Dylunydd i fod yn gyfrifol am ddylunio cynnyrch cwmni Golwg - print a digidol.
Y Gwaith
- Dylunio cylchgronau Golwg, WCW a'i ffrindiau a lingo newydd
- Datblygu ochr ddylunio deunydd digidol y cwmni
- Dylunio deunyddiau marchnata
- Cyfle i weithio ar amrywiaeth o waith masnachol i gwsmeriaid allanol
- Ar adegau prysur cydweithio/ gosod gwaith i ddylunwyr ffri-lans allanol
Y person
- Creadigol
- Brwd
- Trefnus
- Llygad da
**Y Sgiliau **
- Dealltwriaeth o hanfodion dylunio print
- Diddordeb byw yn y cyfryngau newydd
- Gallu i ddefnyddio rhaglenni fel InDesign, Photoshop, Illustrator, Adobe Acrobat
Dyddiad dechrau swydd: Medi/Hydref
Dyddiad Cau: Dydd Llun, 12 Medi
Manylion pellach/Ymgeisio: Owain Schiavone/Prif Weithredwr – [email protected] / 01570 423 529 Golwg Cyf, Blwch Post 4, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion SA48 7LX
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 I'w drafod
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Prentis Newyddion Digidol (x 2 swydd)
Mae S4C yn edrych am Brentis Newyddion Digidol (x 2 swydd)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae' NS4C yn wasanaeth newyddion digidol Cymraeg gafodd ei lawnsio yn Ebrill 2021. Mae swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caernarfon a Chaerdydd. Rydym yn chwilio am ddau brentis fyddai'n gallu ymuno a'r tîm wrth i'r gwasanaeth dyfu.
Bydd prentisiaeth newyddion digidol yn S4C yn rhoi cyfle i chi:
• Fod yn rhan o'r tîm newyddion digidol yn S4C.
• Gweithio gyda'r tîm i becynnu cynnwys newyddion.
• Ymchwilio a datblygu syniadau am straeon.
• Ysgrifennu erthyglau ar gyfer gwefan ac App newyddion a phenawdau bachog ar gyfer cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.
• Ffilmio a golygu deunydd digidol ar gyfer platfformau fel Instagram, Facebook, Twitter yn ogystal a'r App Newyddion.
• Creu graffeg ar gyfer platfformau digidol.
• Gweithio gyda phartneriaid ac adrannau eraill o fewn S4C i rhoi llwyfan i'n cynnwys.
• Helpu S4C i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd.
Manylion Eraill
Dyddiad Cychwyn: Canol/diwedd Medi 2022
Lleoliad: Caerfyrddin/Caerdydd/Caernarfon
Cyflog: £15,000 y flwyddyn
Pensiwn: Mi fydd S4C yn cyfrannu 3% a disgwylir i chi cyfrannu 4%. Mae hyn yn seiliedig ar eich cyfanswm cyflog.
Cytundeb: 18 mis
Oriau Gwaith: 35.75 yr wythnos. Mi fydd disgwyl i chi weithio patrwm sifft yn unol â'r gwasanaeth sydd ar draws 7 diwrnod yr wythnos.
Cyfnod Prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Nifer o brentisiaeth ar gael: 2
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 ar ddydd Sul 4 Medi 2022 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Mi fydd angen i chi fod ar gael ar gyfer cyfweliad ar ddydd Mercher 7 Medi 2022.
Cyflog
💰 £15,000
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Caerdydd, Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Marchnata
Mae Gwasg y Bwthyn yn edrych am Swyddog Marchnata
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Gwasg y Bwthyn awyddus i benodi unigolyn i wneud gwaith marchnata am gyfnod o 6-7 mis i gyflawni prosiect penodol ar ran y wasg.
Rydym yn chwilio am rhywun â dealltwriaeth dda o egwyddorion cyfathrebu effeithiol ynghyd â phrofiad o waith marchnata, neu sydd wedi dilyn cwrs coleg mewn marchnata, ac yn deall y maes gwaith.
Bydd angen i’r sawl a benodir fod yn gwbl gyfforddus gyda’r cyfryngau cymdeithasol, a pharatoi deunydd ar gyfer Facebook, Trydar, Instagram ac unrhyw gyfryngau eraill perthnasol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn mwynhau ysgrifennu, ac yn gallu llunio testun bywiog, atyniadol, cryno a glân. Bydd yn meddu ar synnwyr da o beth sy’n effeithiol yn weledol. Bydd yn mwynhau’r elfen greadigol o greu deunydd deinamig a difyr ar gyfer y wasg.
Rydym yn ceisio unigolyn sydd â phrofiad o ffilmio a golygu fideos er mwyn creu cynnwys o ansawdd uchel i safon broffesiynol.
Hoffem i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio gyda staff y wasg ac Aelodau Bwrdd y Wasg i’w hyfforddi i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn effeithiol a hyderus.
Tasg bwysig i’r ymgeisydd llwyddiannus fydd llunio cynllun marchnata ymarferol ac effeithiol, hwylus i’w ddefnyddio, ar ôl i gyfnod y prosiect penodol ddirwyn i ben.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus greu cronfa o adnoddau digidol, yn cynnwys templedau, i’r staff golygyddol eu defnyddio yn y dyfodol. Bydd hyn yn cynnwys portreadau o awduron a’u gwaith, hysbysrwydd am gyfresi a deunydd i hyrwyddo’r ôl-restr. Bydd angen i’r holl ddeunydd a roddir ar y we fod yn gywir, glân a dengar.
Gofynion yr unigolyn
Rydym yn chwilio am berson trefnus a chydwybodol. Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus allu gweithio ar ei liwt ei hun, gan ddilyn rhaglen waith a gytunwyd, trefnu ei amser a chyflawni holl nodau’r prosiect o fewn y rhaglen amser a gytunwyd.
Rydym yn chwilio am unigolyn gyda Chymraeg cywir a graenus.
Hoffem benodi unigolyn sy’n mwynhau darllen ac yn frwd dros hyrwyddo’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru.
Oriau Gwaith
14 awr yr wythnos neu oriau eraill fel y cytunir gyda’r Bwrdd. Swydd ran amser fydd hon, a bydd croeso i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio yn y swyddfa yng Nghaernarfon neu gartref, neu gyfuniad o’r ddau. Ond bydd angen bod yn y swyddfa am gyfnod ar y dechrau er mwyn cael cyfnod o ddod i adnabod y staff, a dysgu am y wasg, a’r maes gwaith.
Bydd angen bod ar gael yn ystod oriau gwaith yn ystod hanner cyntaf yr wythnos yn benodol.
Cefndir
Cyhoeddwyr llyfrau yw Gwasg y Bwthyn, ac mae ein swyddfa yng Nghaernarfon, Gwynedd. Rydym yn arbenigo mewn cyhoeddi ffuglen boblogaidd, safonol i oedolion a llyfrau er lles. Rydym hefyd yn cyhoeddi ychydig o lyfrau plant ac ambell hunangofiant a chyfrol o farddoniaeth.
Mae dau olygydd rhan-amser yn gweithio i’r wasg, ynghyd â swyddog cyllid, ac mae’r tîm yn atebol i Fwrdd Gwasg y Bwthyn sy’n cyfarfod bob chwarter. Rydym yn defnyddio gwasanaethau arbenigwyr allanol ym maes dylunio, golygu copi a marchnata yn ôl yr angen.
**Rhaglen waith **
Cyd-destun
Mae Gwasg y Bwthyn yn awyddus i gryfhau agwedd farchnata’r busnes. Ar hyn o bryd y golygyddion sy’n gwneud yr holl waith marchnata a chyhoeddusrwydd. Ar adegau prysur, mae’r agwedd hon ar waith y wasg yn tueddu i fynd ar ôl ac rydym yn gobeithio y bydd y sawl a benodir yn cyflawni darn pwysig o waith a fydd yn gosod seiliau cadarn i’r dyfodol ym maes marchnata er mwyn gwella'r agwedd hon ar waith y wasg. Un o’r prif nodau yw gwella sgiliau marchnata’r golygyddion a’u hyder yn y maes, yn cynnwys darparu templedi hwylus a hyblyg ar gyfer y dyfodol.
Creu cynllun marchnata i'r Wasg ei weithredu yn y dyfodol
Creu asedau digidol a thempledau digidol y gallwch eu defnyddio yn y dyfodol
Creu cynllun a gweithdrefnau i hyrwyddo'r ôl-restr
Creu cynllun a gweithdrefnau i hyrwyddo cyfresi ac awduron penodol
Cynllun marchnata
Bydd y ddogfen hon yn nodi sut mae’r wasg yn mynd i fod yn hyrwyddo a marchnata ei llyfrau yn y dyfodol. Bydd yn cynnwys:
· rhoi sylw i hyrwyddo a marchnata cyn cyhoeddi, a chreu diddordeb cyn i lyfrau gyrraedd y siopau.
· datblygu briff ar gyfer lansio cyfrolau newydd, ac yn benodol y defnydd o gyfryngau cymdeithasol, a zoom.
· datblygu rhestr e-bost ar gyfer anfon gwybodaeth a chadw mewn cyswllt rhwydd a rheolaidd â chyfeillion a chefnogwyr y Bwthyn, y wasg yn cynnwys papurau bro, adolygwyr a siopau llyfrau.
· llunio patrymau cymeradwy o ran amserlen farchnata llyfrau newydd gan ganolbwyntio ar wahanol adegau o’r flwyddyn, fel y cyfnod ar ddechrau’r flwyddyn, y farchnad Nadolig a’r eisteddfodau cenedlaethol.
· darparu amrywiol dempledau marchnata parod hwylus, hawdd eu defnyddio a’u haddasu.
· argymell system atgoffa i brocio’r staff i ddal ati i hyrwyddo teitlau sydd mewn print o bryd i’w gilydd (ee y rhaglen Llyfr y Dydd a gyflwynwyd gennym yn ystod y cyfnod covid) a stoc sy’n sefyll.
Creu asedau a thempledau digidol
Fel rhan o’r prosiect, bydd y sawl a benodir yn paratoi deunyddiau digidol at ddefnydd y staff. Bydd hyn yn cynnwys templedau y gellir eu defnyddio dro ar ôl tro, a fydd yn arbed amser ac yn golygu fod Gwasg y Bwthyn yn gallu rhoi llawer mwy o gynnyrch ar y cyfryngau cymdeithasol. Bydd brand y Bwthyn yn cael ei hyrwyddo ac yn dod yn hawdd ei adnabod ac yn gyfarwydd fel rhan o’r gwaith yma.
Creu cynllun a gweithdrefnau i hyrwyddo'r ôl-restr
Mae Gwasg y Bwthyn yn awyddus i wella cyfnod gwerthu eu llyfrau, ac i gynnal y diddordeb yn eu hôl-restr. Gyda hyn mewn golwg, bydd y swyddog prosiect yn creu system i hwyluso parhau i farchnata’r ôl-restr mewn dull systematig, hwylus ac effeithiol. Gwnaed hyn i raddau gyda’n cynllun Llyfr y Dydd yn ystod y ddau glo dros gyfnod covid, a fu’n arbrawf llwyddiannus. Mae angen adeiladu ar hyn a sefydlu fframwaith effeithiol er mwyn sicrhau fod llyfrau yn dal i werthu ar ôl y misoedd cyntaf, ac yn cael eu dwyn i sylw darpar brynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol.
Creu cynllun a gweithdrefnau i hyrwyddo cyfresi ac awduron penodol
Mae gan Wasg y Bwthyn sawl awdur sy’n ysgrifennu cyfresi o nofelau, yn eu plith Dyfed Edwards, Sonia Edwards a Gwen Parrott sydd wedi ymuno â ni yn ddiweddar. Bydd y swyddog yn creu deunydd addas i hyrwyddo cynnyrch yr awduron hyn, a theitlau unigol o fewn cyfresi, er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd darllenwyr sydd wedi mwynhau teitlau cynharach mewn cyfres, a denu ffans newydd. Mae potensial gwerthiant sylweddol i gyfresi gan fod darllenwyr yn hoffi dilyn cyfres, ac yn teimlo’n hyderus o wybod pa arlwy a ddarperir gan awduron cyfarwydd.
Mae’r un peth yn wir am waith awduron triw i’r Bwthyn sydd wedi cyhoeddi nifer dda o deitlau gyda ni, fel Harri Parri, lle gellid cynhyrchu ‘portreadau’ o’r awduron ar ffurf ffilm, y gellid eu defnyddio dro ar ôl tro. Felly bydd angen i’r swyddog prosiect fod â’r sgiliau i allu ffilmio a golygu fideos gan greu cynnwys o ansawdd uchel i’w roi ar ein gwefan, a’r cyfryngau cymdeithasol.
Cefndir
Cyhoeddwyr llyfrau yw Gwasg y Bwthyn, ac mae ein swyddfa yng Nghaernarfon, Gwynedd. Rydym yn arbenigo mewn cyhoeddi ffuglen boblogiadd, safonol i oedolion a llyfrau lles. Rydym hefyd yn cyhoeddi ychydig o lyfrau plant ac ambell hunangofiant a chyfrol o farddoniaeth.
Mae dau olygydd rhan-amser yn gweithio i’r wasg, ynghyd â swyddog cyllid, ac mae’r tîm yn atebol i Fwrdd Gwasg y Bwthyn sy’n cyfarfod bob chwarter. Rydym yn defnyddio gwasanaethau arbenigwyr allanol ym maes dylunio, golygu copi a marchnata yn ôl yr angen.
Cyflog
💰 I'w drafod yn unol a phrofiad
Lleoliad
📍 Caernarfon, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arweinydd Strategaeth Cymraeg
Mae S4C yn edrych am Arweinydd Strategaeth Cymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Byddwch yn cyflwyno a gweithredu strategaeth uchelgeisiol i ddiffinio rôl S4C yn y nod o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Yn cynghori ac yn cydweithio gyda'r adran Gynnwys a Chyhoeddi byddwch yn sicrhau bod S4C yn darparu cynnwys deniadol a phwrpasol i siaradwyr Cymraeg newydd ar amrywiol lwyfannau.
Mewn cydweithrediad gyda'r Cydlynydd Gwasanaethau Mynediad, byddwch yn sicrhau darpariaeth is-deitlau eang a phwrpasol ac unrhyw ddatblygiadau eraill addas i hwyluso'r ymwneud â'r cynnwys.
Byddwch yn gyswllt gweithgar gyda chymunedau sy'n dysgu Cymraeg ar draws Cymru er mwyn cyflwyno S4C fel adnodd a chartref i'r rhai sydd am ddysgu neu ddatblygu eu defnydd o'r iaith ac yn gweithio yn agos gyda'r adrannau cynnwys, cyhoeddi, cyfathrebu a phartneriaethau.
Manylion Eraill
Lleoliad: Canolfan Yr Egin, Caerfyrddin. Mae S4C yn gweithredu polisi Hybrid
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Cytundeb: Parhaol
Cyfnod Prawf: 6 mis
Oriau Gwaith: 35 ¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Iau 1 Medi 2022 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Cyflog
💰 Yn unol â phrofiad
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Gweithredwr Comisiynu (Sgriptio)
Mae S4C yn edrych am Weithredwr Comisiynu (Sgriptio)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae S4C yn chwilio am Gweithredwr Comisiynu i gyfrannu at y broses o gomisiynu cynnwys wedi ei sgriptio ar draws bob llwyfan. Trwy weithio'n agos gyda'r Pennaeth Sgriptio, byddwch yn gyfrifol am gyflwyno a chomisiynu ystod eang o gynnwys amrywiol ac arloesol gan gyflenwyr ac yn cydbwyso rhagoriaeth olygyddol â'r holl ofynion cydymffurfio a chyllidebol, gan sicrhau bod y cynnwys a gomisiynwyd yn cyd-fynd yn strategol â'r weledigaeth ar gyfer S4C.
Cyflog
💰 Yn unol â phrofiad
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Uwch Olygydd Newyddion Digidol S4C
Mae S4C yn edrych am Uwch Olygydd Newyddion Digidol S4C
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â greddf newyddiadurol gryf a syniadau creadigol a dyfeisgar am sut i ddenu dilyniant newydd yn enwedig ymysg pobol ifanc.
Cyflog
💰 Cystadleuol
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes
Mae S4C yn edrych am Gomisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Fel un o dîm o Gomisiynwyr Cynnwys byddwch yn cydweithio'n agos gyda'r Prif Swyddog Cynnwys i greu a goruchwylio strategaeth cynnwys aml-lwyfan ar gyfer S4C.
Byddwch yn ddolen gyswllt allweddol ac adeiladol gyda'r sector gynhyrchu annibynnol a'r BBC drwy gydweithio, creu a meithrin syniadau ar y cyd er mwyn adnabod a meithrin cynnwys o'r safon uchaf.
Bydd eich cyfraniad a'ch dylanwad fel arweinydd yn holl bwysig wrth i S4C drawsnewid i fod yn gyhoeddwr cynnwys aml-lwyfan.
Cyflog
💰 Cystadleuol
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfarwyddwr / Cynhyrchydd
Mae Telesgop yn edrych am Gyfarwyddwr / Gynhyrchydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae cwmni Telesgop yn chwilio am gyfarwyddwr / cynhyrchydd profiadol, hyderus a dyfeisgar sydd â diddordeb gwirioneddol yn y byd darlledu a'r awydd i rannu straeon difyr, gan weithio ar amrywiaeth o raglenni teledu.
Disgrifiad:
Mae Telesgop yn cynhyrchu ystod o raglenni i S4C, i’r BBC a darlledwyr eraill, ac i blatfformau digidol. Fe fydd gofyn i’r person llwyddiannus weithio ar y gyfres FFERMIO a hefyd ar raglenni amrywiol a chyfresi newydd. Mae’n gyfle i ddatblygu syniadau newydd ac i weithio ar ystod o genres.
Mae Telesgop yn gwmni cyfeillgar ac yn ymfalchio yn y teimlad cartrefol a theuluol sydd yn ein gweithle, gyda gwerthoedd uchel o ran disgwyliadau a gofal staff. Mae’r prif swyddfa yn Abertawe ac mae gennym adrannau golygu, graffeg a digidol.
Dylai'ch sgiliau cyfathrebu fod yn ardderchog, eich bod yn gallu gweithio’n dda fel rhan o dîm, ac yn gallu gweithio o fewn cyfyngiadau amser tynn. Mae trwydded yrru yn hanfodol.
Byddwch hefyd yn meddu ar ddealltwriaeth o’r cyfryngau cymdeithasol fel Facebook, Instagram, Twitter a Zoom. Bydd gennych y gallu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg a Saesneg cywir ac ystwyth.
Swydd cytundeb tymor penodol fydd hon am 6 mis i ddechrau gyda’r posiblrwydd o arwain at swydd lawn amser, 5 diwrnod yr wythnos. Croesawir cynigion gan ymgeiswyr o bob cefndir heb wahaniaethu.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio o swyddfa Telesgop yn Abertawe ac yn medru gweithio o gartref yn y tymor byr.
Os am ymgeisio ar gyfer y swydd, anfonwch ebost, a CV yn cyflwyno’ch hunan a’ch profiad wedi’i labeli ‘Cyfarwyddwr / Cynhyrchydd’ at [email protected], neu os am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01792 82 45 67.
Cyflog
💰 Cystadleuol yn dibynnu ar brofiad
Lleoliad
📍 Abertawe, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Ymchwilydd / Gohebydd Materion Gwledig
Mae Telesgop yn edrych am Ymchwilydd / Gohebydd Materion Gwledig
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae cwmni Telesgop yn chwilio am ymchwilydd/gohebydd hyderus a dyfeisgar sydd â diddordeb gwirioneddol yn y byd darlledu a'r awydd i rannu straeon difyr gan weithio ar amrywiaeth o raglenni radio a theledu.
Disgrifiad:
Mae Telesgop yn cynhyrchu ystod o raglenni ond yn chwilio am bobl i weithio yn benodol ar y gyfres ‘Ffermio’ ar S4C, ‘Bwletin Amaeth’ a ‘Troi’r Tir’ sydd ar BBC Radio Cymru. Mae'r swydd yn gofyn am berson brwdfrydig, trefnus a chreadigol sy’n barod i ymchwilio, recordio a golygu cyfweliadau radio. Bydd gennych ddiddordeb yn y byd amaethyddol a gwledig, a byddai dealltwriaeth o olygu clipiau sain ar raglenni fel Audacity neu Adobe Audition yn fanteisiol, ond nid yn hanfodol, gan y bydd hyfforddiant sylfaenol yn cael ei gynnig i chi baratoi, recordio a lleisio dau fwletin bob tair wythnos, eu pecynnu a'u cyfleu ar gyfer yr orsaf.
Dylai'ch sgiliau cyfathrebu fod yn ardderchog, ynghyd â’ch gallu i weithio’n dda fel rhan o dîm, a gweithio o fewn cyfyngiadau amser tynn.
Byddwch hefyd yn meddu ar ddealltwriaeth o’r cyfryngau cymdeithasol fel Facebook, Instagram, Twitter a Zoom. Bydd gennych hefyd y gallu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg a Saesneg cywir ac ystwyth.
Swydd cytundeb tymor penodol fydd hon am oddeutu 3 mis i ddechrau gyda’r posiblrwydd o arwain at swydd llawn amser, 5 diwrnod yr wythnos. Croesawir cynigion gan ymgeiswyr di-brofiad, a rhai mwy profiadol o bob cefndir.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio o swyddfeydd Telesgop yn Abertawe ac yn medru gweithio o gartref yn y tymor byr gyda'r offer recordio'n cael ei ddarparu.
Os am ymgeisio ar gyfer y swydd, anfonwch ebost, CV a ffeil mp3 munud o hyd o'ch llais yn cyflwyno’ch hunan wedi’i labeli ‘CAIS AM SWYDD YMCHWILYDD/GOHEBYDD MATERION GWLEDIG’ at [email protected], neu os am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01792 82 45 67.
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 Abertawe, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Peiriannydd dan Hyfforddiant - Heno / Prynhawn Da
Mae Tinopolis yn edrych am Beiriannydd dan Hyfforddiant - Heno / Prynhawn Da
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am Beiriannydd i ymuno â ni a gweithio gydag un o brif gwmnïau cynhyrchu Teledu a Ffilm annibynnol y DU. Byddwch yn gweithio mewn tîm o weithwyr proffesiynol hynod dalentog a dynamig ar raglenni teledu byw ac wedi'u recordio ymlaen llaw.
Crynodeb:
Mae Tinopolis yn un o brif gwmnïau cynhyrchu Teledu a Ffilm annibynnol y DU, ac mae iddo swyddfeydd a chwmnïau cynhyrchu yng Nghymru, Llundain, Glasgow, Washington DC a Los Angeles. Rydym yn darparu dros 500 o oriau o raglenni teledu byw ac wedi'u recordio ymlaen llaw bob blwyddyn o'n stiwdios yn Llanelli. Os byddwch yn llwyddiannus yn eich cais byddwch yn ymuno â thîm o weithwyr proffesiynol ymroddedig lle mae creadigrwydd, ansawdd, dibynadwyedd a rhagoriaeth dechnegol wrth wraidd popeth a wnawn.
Darperir hyfforddiant llawn i'r ymgeisydd llwyddiannus.
Trosolwg o'r Rôl:
• Cyflanwni dyletswyddi ymarferol dyddiol gan gynnwys Reoli Lluniau, y Brif Ystafell Reoli (MCR), Darlledu y tu Allan, SNG (Casglu Newyddion â Lloeren)
• Rhoi cymorth technegol elfennol i'r staff cynhyrchu a'r criwiau technegol i hwyluso eu gweithrediadau. • Gweithio gyda'r timau Darlledu a TG mewnol yn ôl yr angen
• Gweithrediadau'r Brif Ystafell Reoli (MCR), gan gynnwys gwiriadau a recordio, gwiriadau darlledu, darllediadau lloeren a ffrydiau ffibr sy'n dod i mewn
• Rheoli lluniau, darlledu stiwdio a darlledu y tu allan
• Casglu Newyddion â Lloeren (SNG), Gweithrediadau trosglwyddo o orsaf ar y tir i loeren (band KU a KA), cysylltiadau camera Microdon, system cyfathrebu â'r stiwdio UHF/symudol/lloeren/IP
• Cynnal a chadw OB, SNG a Stiwdio llinell gyntaf gan gynnwys cynnal a chadw systemau
Cymwyseddau Manteisiol:
• Cymhwysedd TG
• Yn frwdfrydig ac yn hyblyg
• Yn gweithio'n dda mewn tîm
• Yn cadw amser yn dda
• Trwydded yrru lawn
• Y gallu i gadw pen clir o dan bwysau
Lleoliad: Canolfan Tinopolis, Park Street, Llanelli, SA15 3YE
Cyflog: Yn ddibynnol ar brofiad
Oriau Gweithio: Cyfartaledd o 40 awr yr wythnos. Oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc
Gwyliau: Yn ogystal â'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 25 diwrnod o wyliau dros y flwyddyn pro rata
Pensiwn: Bydd gennych hawl i ymuno â'r cynllun pensiwn yn amodol ar delerau unrhyw gynllun presennol. Os ydych yn aelod o'r cynllun pensiwn bydd Tinopolis yn cyfrannu 3% o'ch cyflog sylfaenol. Disgwylir i chi gyfrannu 5%
Ceisiadau: Dylid anfon ceisiadau ar ffurf CV ynghyd â llythyr eglurhaol cyn 12:00 ddydd Llun 11 Gorffennaf 2022 i: [email protected] neu Post: Swyddi, Canolfan Tinopolis, Park Street, Llanelli, SA15 3YE.
Rydym yn gwmni sy’n credu mewn amrywiaeth a chyfle cyfartal, ac rydym bob amser yn croesawu ceisiadau gan unigolion o unrhyw oedran, cefndir ethnig, anabledd, rhywioldeb a chefndir cymdeithasol yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010. Yn unol â gofynion Deddf Lloches a Mewnfudo 1996, rhaid bod gan bob ymgeisydd hawl i fyw a gweithio yn y DU. Bydd angen tystiolaeth ddogfennol o gymhwysedd gan ymgeiswyr yn ystod y broses recriwtio. Wrth wneud cais am swydd, bydd disgwyl i chi ddarparu CV yn ystod y broses. Byddwn yn cadw copi o'ch CV ar ffeil am gyfnod o dair blynedd. Pe bai swydd debyg yn dod ar gael yn y cyfnod hwn, gallem ddefnyddio'r wybodaeth i gysylltu â chi. Gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol o'n ffeiliau unrhyw bryd. I gael rhagor o wybodaeth am ein Polisi Diogelu Data, gweler http://www.tinopolis.com/privacy-notice/
Cyflog
💰 Yn ddibynnol ar brofiad
Lleoliad
📍 Llanelli
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Peiriannydd - Heno / Prynhawn Da
Mae Tinopolis yn edrych am Beiriannydd - Heno / Prynhawn Da
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am Beiriannydd i ymuno â ni a gweithio gydag un o brif gwmnïau cynhyrchu Teledu a Ffilm annibynnol y DU. Byddwch yn gweithio mewn tîm o weithwyr proffesiynol hynod dalentog a dynamig ar raglenni teledu byw ac wedi’u recordio ymlaen llaw. Mae’r gallu i gadw pwyll dan bwysau yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Crynodeb:
Mae Tinopolis yn un o brif gwmnïau cynhyrchu Teledu a Ffilm annibynnol y DU, ac mae iddo swyddfeydd a chwmnïau cynhyrchu yng Nghymru, Llundain, Glasgow, Washington DC a Los Angeles. Rydym yn darparu dros 500 o oriau o raglenni teledu byw ac wedi’u recordio ymlaen llaw bob blwyddyn o’n stiwdios yn Llanelli. Os byddwch yn llwyddiannus yn eich cais byddwch yn ymuno â thîm o weithwyr proffesiynol ymroddedig le mae creadigrwydd, ansawdd, dibynadwyedd a rhagoriaeth dechnegol wrth wraidd popeth a wnawn.
Darperir hyfforddiant i’r ymgeisydd llwyddiannus.
Yn unol â gofynion Deddf Lloches a Mewnfudo 1996, rhaid i bob ymgeisydd fod yn gymwys i fyw a gweithio yn y DU. Bydd yn ofynnol cael tystiolaeth ddogfennol o gymhwyster gan ymgeiswyr fel rhan o’r broses recriwtio.
Trosolwg o’r Rôl:
· Hwyluso gyda gweithrediadau dyddiol adran beirianneg brysur, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i Reoli Lluniau, y Brif Ystafell Reoli (MCR), Darlledu y tu Allan, SNG (Casglu Newyddion â Lloeren)
· Rhoi cymorth technegol priodol i’r staff cynhyrchu a’r criwiau technegol i’w helpu i hwyluso eu gweithrediadau.
· Mynd i’r afael â diffygion a phroblemau technegol a gweithredol mewn modd amserol a phroffesiynol.
· Gweithio gyda’r timau Darlledu a TG mewnol yn ôl yr angen.
· Gweithrediadau’r Brif Ystafell Reoli (MCR), gan gynnwys gwiriadau a recordio, gwiriadau darlledu, trosglwyddo o loeren i orsaf ar y tir a ffrydiau ffibr sy’n dod i mewn.
· Rheoli lluniau, darlledu stiwdio a darlledu y tu allan.
· Casglu Newyddion â Lloeren (SNG), Gweithrediadau trosglwyddo o orsaf ar y tir i loeren (band KU a KA), cysylltiadau camera Microdon, system cyfathrebu â’r stiwdio UHF/symudol/lloeren/IP.
· Cynnal a chadw OB, SNG a Stiwdio llinell gyntaf gan gynnwys cynnal a chadw systemau.
Cymwyseddau Manteisiol:
· Cymhwysedd TG gan gynnwys seilweithiau rhwydweithiau a gweinyddwyr
· Gwybodaeth am fformatau, llifoedd gwaith a thechnolegau ar ffeiliau
· Signalau, safonau a phrosesu fideo a sain digidol
· Ymwybyddiaeth o fformatau ffeiliau fideo digidol amrywiol, codecau a lapwyr
· Yn frwdfrydig ac yn hyblyg
· Yn gweithio’n dda mewn tîm
· Yn cadw amser yn dda
· Trwydded yrru llawn – byddai hyfforddiant Dosbarth C1 a CPC yn fantais
Lleoliad: Canolfan Tinopolis, Park Street, Llanelli, SA15 3YE
Cyflog: Yn ddibynnol ar brofiad
Oriau Gweithio: Cyfartaledd o 40 awr yr wythnos. Oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc.
Gwyliau: Yn ogystal â’r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl I 25 diwrnod o wyliau dros y flwyddyn pro rata.
Pensiwn: Bydd gennych hawl i ymuno â’r cynllun pensiwn yn amodol ar delerau unrhyw gynllun presennol. Os ydych yn aelod o’r cynllun pensiwn bydd Tinopolis yn cyfrannu 3% o’ch cyflog sylfaenol. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau: Dylid anfon ceisiadau ar ffurf CV ynghyd â llythyr eglurhaol cyn 12:00 ddydd Llun 11 Gorffennaf 2022 i: [email protected] [email protected] neu Post: Swyddi, Canolfan Tinopolis, Park Street, Llanelli, SA15 3YE
Yn unol â gofynion Deddf Lloches a Mewnfudo 1996, rhaid i bob ymgeisydd fod yn gymwys i fyw a gweithio yn y DU. Bydd yn ofynnol cael tystiolaeth ddogfennol o gymhwyster gan ymgeiswyr fel rhan o’r broses recriwtio.
Gwybodaeth bersonol a gasglwn amdanoch chi pan fyddwch yn ymgeisio am swydd yn Tinopolis: Wrth wneud cais am swydd, bydd disgwyl i chi ddarparu CV fel rhan o’r broses. Byddwn yn cadw copi o’ch CV ar ffeil am gyfnod o dair blynedd. Pe bai swydd debyg yn codi yn y cyfnod hwn, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth er mwyn cysylltu â chi. Gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol o’n ffeiliau ar unrhyw adeg. Am ragor o wybodaeth am ein Polisi Diogelu Data, gweler <http://www.tinopolis.com/privacy-notice
Cyflog
💰 Yn ddibynnol ar brofiad
Lleoliad
📍 Llanelli
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Datblygwr Gwe
Mae S4C yn edrych am Ddatblygwr Gwe
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Pwrpas S4C yw gwasanaethu'r gynulleidfa gyda chynnwys sy'n diddanu, cyffroi ac sy'n adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth. Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, mae gennym ddyletswydd i greu llwyfan ac ecosystem i ysgogi'r diwydiannau creadigol yng Nghymru i greu cynnwys uchelgeisiol ac unigryw sy'n apelio at bob oedran, cefndir a gallu ieithyddol.
Rydym yn chwilio am Ddatblygwr Gwe profiadol sy'n gallu addasu i dechnolegau newydd a'u dysgu. Pwrpas y rôl yw i ddatblygu darpariaethau digidol S4C, gwella profiad y defnyddiwr, a chyflwyno nodweddion newydd ynghyd â datblygu llwyfannau a gwasanaethau newydd. Bydd y Datblygwr Gwe yn gyfrifol am wneud gwaith datblygu fel rhan o strategaeth ddigidol S4C.
Byddwch yn gyfrifol am waith datblygu a chynnal a chadw, gan gynnwys rhaglenni gwe, rhaglenni symudol, llwyfannau a gwefannau. Mae'r rôl hon yn rhan o'n Hadran Ddigidol a Marchnata ac mae'n rhan o'r tîm Datblygu. Byddwch yn adrodd i'r Uwch Ddatblygwr.
Manylion Eraill
Lleoliad: Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac rydym yn gweithredu polisi hybrid ynghyd ag ystod eang o batrymau gwaith hyblyg. Cysylltwch â [email protected] os hoffech ragor o wybodaeth am hyn.
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Cytundeb: Parhaol
Oriau Gwaith: 35¾ yr wythnos
Cyfnod Prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Llun 11 Gorffennaf 2022 at [email protected] neu'r adran Adnoddau Dynol, S4C, Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Cyflog
💰 Yn unol â phrofiad
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Ymchwilydd Sgorio
Mae Rondo yn edrych am Ymchwilydd Sgorio
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Rondo yn chwilio am berson sydd â diddordeb brwd mewn pêl-droed i weithio ar raglenni Sgorio mewn cyfnod euraidd i bêl-droed Cymru.
Bydd yr ymchwilydd llwyddiannus yn gweithio ar gemau byw llinol a digidol, ar raglenni uchafbwyntiau ac hefyd yn ymchwilio a chreu cynnwys i gyfryngau cymdeithasol Sgorio.
Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn gweithio fel rhan o dîm cynhyrchu profiadol ac yn cynnig syniadau am eitemau, dod o hyd i gyfranwyr, paratoi nodiadau cynhwysfawr i sylwebwyr, logio manylion mewn basau data, gan hefyd dderbyn hyfforddiant mewn nifer o roliau’r tîm cynhyrchu’n ystod gemau byw.
Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn brwdfrydig ymuno ag adran lwyddiannus mewn cyfnod hynod gyffrous. Er bod profiad blaenorol yn fanteisiol, nid yw profiad yn hanfodol ar gyfer y rôl hon – rydyn ni’n croesawu ymgeiswyr sydd ag angerdd dros bêl-droed a pharodrwydd i ddysgu.
Hanfodol
Person brwdfrydig, egniol a chreadigol sydd â gwir ddiddordeb ym mhêl-droed Cymru.
Y gallu i gyfathrebu’n glir a chywir yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Bod yn barod i gyflawni pob math o dasgau a hynny ar brydiau o fewn terfynau amser tynn Dealltwriaeth o’r cyfryngau cymdeithasol. Sgiliau TG sylfaenol.
Manteisiol
Trwydded yrru lawn.
Profiad o ymchwilio neu gymhwyster mewn darlledu.
Mae Rondo Media yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o safbwyntiau a chefndiroedd amrywiol.
Lleoliad: Caernarfon neu Caerdydd, gyda’r disgwyl i weithio ar leoliadau ledled Cymru a’r gallu hefyd i weithio’n hyblyg ac o adre ar adegau. Parodrwydd i weithio o swyddfeydd Rondo yng Nghaerdydd a Chaernarfon yn ôl y galw, ac ar nifer o benwythnosau’n ôl y galw.
Am ffurflen gais ewch i wefan rondomedia.co.uk/swyddi a’i dychwelyd ar e-bost i [email protected]
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 Caernarfon, Caerdydd, Hyblyg, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynhyrchydd Cynnwys
Mae Rondo yn edrych am Gynhyrchydd Cynnwys
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydyn ni’n edrych am Gynhyrchydd profiadol i ymuno â thîm chwaraeon Rondo.
Byddai’r rôl yn berffaith i unigolyn creadigol ac egniol sy’n deall y broses o greu cynnwys ar draws y platfformau digidol a llinol.
Bydd gan y Cynhyrchydd Cynnwys gyfrifoldeb dros ddatblygu, cynllunio a chyfleu cynnwys dan frand Sgorio, arlein ac ar deledu llinol, gan ysbrydoli tîm cynhyrchu bywiog i wireddu’r weledigaeth.
Bydd hefyd yn datblygu syniadau newydd i ennill comisiynau nodwedd a dogfen ar deledu ac arlein.
Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn creadigol a blaengar gael creu cynnwys cyffrous ac atyniadol, gan ymuno ag adran lwyddiannus.
**Hanfodol **
Ymwybyddiaeth o blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol a dealltwriaeth glir o sut i greu cynnwys sy’n gweithio ar bob platfform.
Profiad o greu a chyfleu syniadau creadigol newydd sy’n arwain at gomisiynau yng Nghymru a thu hwnt, o syniadau dogfen llinol i brosiectau uchelgeisiol arlein.
Profiad o amserlennu, a chreu cynnwys, gan sicrhau bod y deunydd yn cael ei gyfleu i safon uchel golygyddol, ar amser ac o fewn cyllideb.
Medru cyfathrebu’n gryno a rhugl ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg.
**Manteisiol **
Dealltwriaeth dechnegol o’r ffyrdd cyfoes o greu a chyfleu cynnwys Sgiliau hunansaethu.
Y gallu i weithio dan gyfyngderau amser tynn ar adegau, i drefnu tîm i ymateb i straeon a chyfleu cynnwys ar fyr rybudd.
Diddordeb mewn chwaraeon a phêl-droed. **Nodweddion Personol **
Y gal_lu i ysbrydoli ac ysgogi tîm i fod yn greadigol a beiddgar_
Y gal_lu i fod yn fywiog yn greadigol ac yn finiog yn olygyddol_
Y ga_llu i weithio dan bwysau a heb oruchwyliaeth i safon uchel Y gallu i weithio o fewn tîm a bod yn hyderus i arwain _
Mae Rondo Media yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o safbwyntiau a chefndiroedd amrywiol.
Lleoliad: Caernarfon neu Caerdydd, gyda’r disgwyl i weithio ar leoliadau ledled Cymru a’r gallu hefyd i weithio’n hyblyg ac o adre ar adegau.
Am ffurflen gais ewch i wefan rondomedia.co.uk/swyddi a’i dychwelyd ar e-bost i [email protected]
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 Caernarfon, Caerdydd, Hyblyg, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Sgorio
Mae Rondo yn edrych am Gydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Sgorio
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mewn cyfnod cyffrous i bêl-droed Cymru, mae Rondo yn edrych am unigolyn i ymuno â thîm cynhyrchu Sgorio.
Mae’r swydd yn benodol yn ymwneud â chyhoeddi cynnwys ar gyfrifon Sgorio ar draws y cyfryngau cymdeithasol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn berson creadigol sydd â’r ddawn i ddweud stori, yn ogystal â dealltwriaeth dechnegol o gyhoeddi cynnwys arlein.
Mae’r cyfrifoldebau yn cynnwys:
- Cyhoeddi cynnwys ar lwyfannau cymdeithasol Sgorio
- Dyletswyddau penodol ar Sgorio Stwnsh, sy’n cynnwys atodi ystadegau ar y wefan, rhannu uchafbwyntiau a diweddaru playlists ar YouTube
- Hyrwyddo gemau byw, e.e. drwy addasu templedi ar Photoshop - Is-deitlo eitemau a chyfweliadau, e.e. drwy ddefnyddio Premiere Pro
- Clipio, neu recordio deunydd systemau’n y cwmwl a golygu pan bydd angen
- Cyhoeddi cynnwys ar lwyfannau cymdeithasol Sgorio, yn cynnwys amserlennu negeseuon
Hanfodol
Dealltwriaeth o pa gynnwys sy’n gweithio orau ar wahanol blatfformau a pha trends sy’n datblygu Gallu defnyddio meddalwedd Adobe Photoshop a PremierePro neu debyg i greu cynnwys atyniadol Y gallu i weithio dan gyfyngderau amser tynn ar adegau, i gyhoeddi cynnwys o safon ar fyr rybudd Medru cyfathrebu’n gryno a rhugl yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg
Synnwyr cyffredin a synnwyr digrifwch – y gallu i daro’r cywair priodol wrth bostio negeseuon arlein Manteisiol
Diddordeb brwd mewn chwaraeon a phêl-droed.
Profiad o ddylunio graffeg trawiadol.
Dealltwriaeth o blatfform dosbarthu cynnwys fel Wild Moka.
Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn brwdfrydig gyfrannu at greu cynnwys atyniadol a chyfrannu at waith adran lwyddiannus mewn cyfnod hynod gyffrous.
Mae Rondo Media yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o safbwyntiau a chefndiroedd amrywiol.
Lleoliad: Caernarfon neu Caerdydd, gyda’r disgwyl i weithio ar leoliadau ledled Cymru a’r gallu hefyd i weithio’n hyblyg. Parodrwydd i weithio o swyddfeydd Rondo yng Nghaerdydd a Chaernarfon yn ôl y galw, ac ar nifer o benwythnosau’n ôl y galw.
Am ffurflen gais ewch i wefan rondomedia.co.uk/swyddi a’i dychwelyd ar e-bost i [email protected]
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 Caernarfon, Caerdydd, Hyblyg, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Gweithredwr Technegol Ôl-Cynhyrchu (Swyddfa Caernarfon)
Mae Rondo yn edrych am Weithredwr Technegol Ôl-Cynhyrchu (Swyddfa Caernarfon)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gweithredwr Technegol Ôl-Cynhyrchu - gyda chyfrifoldeb dros lwytho, ymdrin â chyfleu cynnwys a data (Swyddfa Caernarfon) Mae Rondo n gwmni sy'n cynhyrchu cynnwys aml-genre ac aml-lwyfan gyda swyddfeydd yng Nghaernarfon, Caerdydd, Porthaethwy a Llangefni.
Mae adran ôl-gynhyrchu'r cwmni yn edrych benodi nifer o swyddi newydd. Dyma adran sy'n gyfrifol am ôl-gynhyrchu cannoedd o oriau gynnwys bob blwyddyn, ar draws sawl genre - chwaraeon i drama; o adloniant i gynnwys ffeithiol a digwyddiadau cerddorol.
Mae'r allbwn yn cynnwys rhai o brif cyfresi S4C, fel Sgorio, Rownd a Rownd, Dechrau Canu Dechrau Canmol a Cynefin ac hefyd cyfresi rhwydwaith cwmni Yeti - fel Find it Fix it Flog it i Channel 4, The Great Big Tiny Design Challenge i More 4 ynghyd à rhaglenni i ddarlledwyr fel Channel 5, y BBC, itv, Sky, CBS ac eraill.
O'r Ilwytho ir cyfleu; o'r recordio i'r darlledu, mae'n adran allweddol o fewn y cwmni ac mae'n adran sy'n ehangu.
Mae Rondo Media yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o safbwyntiau a chefndiroedd amrywiol.
Lleoliad: Gofynnwn am barodrwydd a hyblygrwydd i weithio o swyddfeydd Rondo yng Nghaerdydd a Chaernarfon yn y galw, ac ar benwythnosau'n ôl y galw gyda'r gallu hefyd i weithio'n hyblyg ar adegau.
Mae Rondo Media yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o safbwyntiau a chefndiroedd amrywiol.
Contract: Blwyddyn y gychwyn
Os oes ganddoch chi ddiddordeb, anfonwch lythyr byr yn nodi pa un o'r swyddi sydd ddiddordeb i chi a pham, a'i anfon gyda chopi o'ch CV cyfredol at [email protected]
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 Caernarfon, Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!