Swyddi Cymraeg — Cyfryngau cymdeithasol
49 swydd yn cyfateb
Gohebydd Lleol i Golwg360
Mae Golwg Cyf. yn edrych am Ohebydd Lleol i Golwg360
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Fe fydd y Gohebydd yn gweithio’n rhan o dîm golwg360, yn cynhyrchu straeon newyddion ar gyfer y gwefannau bro a gwasanaeth golwg360.
Mae’r gwefannau bro presennol mewn dwy ardal – Arfon a Cheredigion – ac yn y broses o ehangu ar draws y gorllewin.
Y gwaith
Mae’r swydd yma’n gyfle i fod yn rhan o un o’r cynlluniau newyddiadurol mwya’ arloesol yng Nghymru.
Fe fydd y gwaith yn golygu:
- dod o hyd i straeon lleol gwreiddiol a’u datblygu nhw ar gyfer y gwefannau bro;
- addasu a datblygu straeon cenedlaethol i’w gwneud yn addas ar gyfer cynulleidfa leol;
- addasu straeon o’r gwefannau bro ar gyfer gwasanaeth newyddion cenedlaethol golwg360.
Fe fydd angen gweithio ar draws nifer o wahanol gyfryngau, o brint i fideo, blogiau byw a’r cyfryngau cymdeithasol.
Amser a chyfnod: Swydd lawn-amser, ar gontract penodol tan ddiwedd mis Medi 2023.
Cyflog: £20,040
Dyddiad cau: 23 Medi 2022
Anfonwch lythyr cais, CV llawn ac enw dau ganolwr.
Mwy o fanylion ac ymgeisio: [email protected]
Cyflog
💰 £20,040
Lleoliad
📍 I'w drafod
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arweinydd Cyfryngau Cymdeithasol
Mae S4C yn edrych am Arweinydd Cyfryngau Cymdeithasol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae S4C yn chwilio am Arweinydd Cyfryngau Cymdeithasol i ymuno â'r Adran Gyhoeddi. Gyda'r cyfryngau cymdeithasol yn rhan ganolog o fywyd nifer fawr iawn o bobl, byddwch yn chwarae rhan allweddol yn strategaeth ddigidol S4C.
Mae'r ffordd yr ydym yn ymwneud â chynnwys yn newid ac mae S4C wrthi'n ymateb i'r newid hwnnw gyda ffocws ar ddatblygu cynnwys digidol, gwreiddiol yn ogystal â chynnwys sydd yn cyd-fynd â rhaglenni a chyfresi S4C.
Yn ogystal â gweithio ar leoliad, bydd elfen fawr o olygu cynnwys, dewis clipiau o raglenni S4C, rhedeg calendr cyfryngau cymdeithasol S4C, ffrydio cynnwys yn fyw i Facebook Live a YouTube yn ôl yr angen a gofalu am ein cyfrifon o ddydd i ddydd ar draws bob platfform.
Chi hefyd fydd llais S4C ar y cyfryngau cymdeithasol – yn perchnogi'r cyfrifon trwy fod yn chwareus, neidio ar "trends" ehangach a chreu sŵn.
Byddwch yn arwain tîm o swyddogion cyfryngau cymdeithasol ac yn rhoi trefn ar amserlen waith y tîm. Byddwch hefyd yn cadw golwg ar draws holl gyfrifon cyfryngau cymdeithasol cyfresi S4C, ac yn cynghori ac yn rhoi arweiniad i'r sector er mwyn sicrhau safon ac arloesedd yn y maes.
Bydd eich cyfraniad yn holl bwysig wrth i S4C drawsnewid i fod yn gyhoeddwr cynnwys aml-lwyfan.
Manylion Eraill
Lleoliad: Canolfan yr Egin, Caerfyrddin.
Mae S4C yn gweithredu polisi hybrid.
Bydd disgwyliad ichi fynychu swyddfeydd S4C yng Nghaernarfon ac yng Nghaerdydd o bryd i'w gilydd.
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Cytundeb: Parhaol
Cyfnod Prawf: 6 mis
Oriau Gwaith: 35.75 ar yr wythnos. Mi fydd disgwyl i chi weithio oriau hyblyg yn unol a'r gwasanaeth e.e. datrys problemau technegol ffrydiau byw a all fod tu allan i oriau gwaith safonol.
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Mawrth 20 Medi 2022 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mi fydd cyfweliadau yn cael ei chynnal ar ddydd Mercher 28 Medi 2022.
Cyflog
💰 Yn unol â phrofiad
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Prentis Newyddion Digidol (x 2 swydd)
Mae S4C yn edrych am Brentis Newyddion Digidol (x 2 swydd)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae' NS4C yn wasanaeth newyddion digidol Cymraeg gafodd ei lawnsio yn Ebrill 2021. Mae swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caernarfon a Chaerdydd. Rydym yn chwilio am ddau brentis fyddai'n gallu ymuno a'r tîm wrth i'r gwasanaeth dyfu.
Bydd prentisiaeth newyddion digidol yn S4C yn rhoi cyfle i chi:
• Fod yn rhan o'r tîm newyddion digidol yn S4C.
• Gweithio gyda'r tîm i becynnu cynnwys newyddion.
• Ymchwilio a datblygu syniadau am straeon.
• Ysgrifennu erthyglau ar gyfer gwefan ac App newyddion a phenawdau bachog ar gyfer cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.
• Ffilmio a golygu deunydd digidol ar gyfer platfformau fel Instagram, Facebook, Twitter yn ogystal a'r App Newyddion.
• Creu graffeg ar gyfer platfformau digidol.
• Gweithio gyda phartneriaid ac adrannau eraill o fewn S4C i rhoi llwyfan i'n cynnwys.
• Helpu S4C i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd.
Manylion Eraill
Dyddiad Cychwyn: Canol/diwedd Medi 2022
Lleoliad: Caerfyrddin/Caerdydd/Caernarfon
Cyflog: £15,000 y flwyddyn
Pensiwn: Mi fydd S4C yn cyfrannu 3% a disgwylir i chi cyfrannu 4%. Mae hyn yn seiliedig ar eich cyfanswm cyflog.
Cytundeb: 18 mis
Oriau Gwaith: 35.75 yr wythnos. Mi fydd disgwyl i chi weithio patrwm sifft yn unol â'r gwasanaeth sydd ar draws 7 diwrnod yr wythnos.
Cyfnod Prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Nifer o brentisiaeth ar gael: 2
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 ar ddydd Sul 4 Medi 2022 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Mi fydd angen i chi fod ar gael ar gyfer cyfweliad ar ddydd Mercher 7 Medi 2022.
Cyflog
💰 £15,000
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Caerdydd, Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Marchnata
Mae Gwasg y Bwthyn yn edrych am Swyddog Marchnata
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Gwasg y Bwthyn awyddus i benodi unigolyn i wneud gwaith marchnata am gyfnod o 6-7 mis i gyflawni prosiect penodol ar ran y wasg.
Rydym yn chwilio am rhywun â dealltwriaeth dda o egwyddorion cyfathrebu effeithiol ynghyd â phrofiad o waith marchnata, neu sydd wedi dilyn cwrs coleg mewn marchnata, ac yn deall y maes gwaith.
Bydd angen i’r sawl a benodir fod yn gwbl gyfforddus gyda’r cyfryngau cymdeithasol, a pharatoi deunydd ar gyfer Facebook, Trydar, Instagram ac unrhyw gyfryngau eraill perthnasol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn mwynhau ysgrifennu, ac yn gallu llunio testun bywiog, atyniadol, cryno a glân. Bydd yn meddu ar synnwyr da o beth sy’n effeithiol yn weledol. Bydd yn mwynhau’r elfen greadigol o greu deunydd deinamig a difyr ar gyfer y wasg.
Rydym yn ceisio unigolyn sydd â phrofiad o ffilmio a golygu fideos er mwyn creu cynnwys o ansawdd uchel i safon broffesiynol.
Hoffem i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio gyda staff y wasg ac Aelodau Bwrdd y Wasg i’w hyfforddi i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn effeithiol a hyderus.
Tasg bwysig i’r ymgeisydd llwyddiannus fydd llunio cynllun marchnata ymarferol ac effeithiol, hwylus i’w ddefnyddio, ar ôl i gyfnod y prosiect penodol ddirwyn i ben.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus greu cronfa o adnoddau digidol, yn cynnwys templedau, i’r staff golygyddol eu defnyddio yn y dyfodol. Bydd hyn yn cynnwys portreadau o awduron a’u gwaith, hysbysrwydd am gyfresi a deunydd i hyrwyddo’r ôl-restr. Bydd angen i’r holl ddeunydd a roddir ar y we fod yn gywir, glân a dengar.
Gofynion yr unigolyn
Rydym yn chwilio am berson trefnus a chydwybodol. Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus allu gweithio ar ei liwt ei hun, gan ddilyn rhaglen waith a gytunwyd, trefnu ei amser a chyflawni holl nodau’r prosiect o fewn y rhaglen amser a gytunwyd.
Rydym yn chwilio am unigolyn gyda Chymraeg cywir a graenus.
Hoffem benodi unigolyn sy’n mwynhau darllen ac yn frwd dros hyrwyddo’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru.
Oriau Gwaith
14 awr yr wythnos neu oriau eraill fel y cytunir gyda’r Bwrdd. Swydd ran amser fydd hon, a bydd croeso i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio yn y swyddfa yng Nghaernarfon neu gartref, neu gyfuniad o’r ddau. Ond bydd angen bod yn y swyddfa am gyfnod ar y dechrau er mwyn cael cyfnod o ddod i adnabod y staff, a dysgu am y wasg, a’r maes gwaith.
Bydd angen bod ar gael yn ystod oriau gwaith yn ystod hanner cyntaf yr wythnos yn benodol.
Cefndir
Cyhoeddwyr llyfrau yw Gwasg y Bwthyn, ac mae ein swyddfa yng Nghaernarfon, Gwynedd. Rydym yn arbenigo mewn cyhoeddi ffuglen boblogaidd, safonol i oedolion a llyfrau er lles. Rydym hefyd yn cyhoeddi ychydig o lyfrau plant ac ambell hunangofiant a chyfrol o farddoniaeth.
Mae dau olygydd rhan-amser yn gweithio i’r wasg, ynghyd â swyddog cyllid, ac mae’r tîm yn atebol i Fwrdd Gwasg y Bwthyn sy’n cyfarfod bob chwarter. Rydym yn defnyddio gwasanaethau arbenigwyr allanol ym maes dylunio, golygu copi a marchnata yn ôl yr angen.
**Rhaglen waith **
Cyd-destun
Mae Gwasg y Bwthyn yn awyddus i gryfhau agwedd farchnata’r busnes. Ar hyn o bryd y golygyddion sy’n gwneud yr holl waith marchnata a chyhoeddusrwydd. Ar adegau prysur, mae’r agwedd hon ar waith y wasg yn tueddu i fynd ar ôl ac rydym yn gobeithio y bydd y sawl a benodir yn cyflawni darn pwysig o waith a fydd yn gosod seiliau cadarn i’r dyfodol ym maes marchnata er mwyn gwella'r agwedd hon ar waith y wasg. Un o’r prif nodau yw gwella sgiliau marchnata’r golygyddion a’u hyder yn y maes, yn cynnwys darparu templedi hwylus a hyblyg ar gyfer y dyfodol.
Creu cynllun marchnata i'r Wasg ei weithredu yn y dyfodol
Creu asedau digidol a thempledau digidol y gallwch eu defnyddio yn y dyfodol
Creu cynllun a gweithdrefnau i hyrwyddo'r ôl-restr
Creu cynllun a gweithdrefnau i hyrwyddo cyfresi ac awduron penodol
Cynllun marchnata
Bydd y ddogfen hon yn nodi sut mae’r wasg yn mynd i fod yn hyrwyddo a marchnata ei llyfrau yn y dyfodol. Bydd yn cynnwys:
· rhoi sylw i hyrwyddo a marchnata cyn cyhoeddi, a chreu diddordeb cyn i lyfrau gyrraedd y siopau.
· datblygu briff ar gyfer lansio cyfrolau newydd, ac yn benodol y defnydd o gyfryngau cymdeithasol, a zoom.
· datblygu rhestr e-bost ar gyfer anfon gwybodaeth a chadw mewn cyswllt rhwydd a rheolaidd â chyfeillion a chefnogwyr y Bwthyn, y wasg yn cynnwys papurau bro, adolygwyr a siopau llyfrau.
· llunio patrymau cymeradwy o ran amserlen farchnata llyfrau newydd gan ganolbwyntio ar wahanol adegau o’r flwyddyn, fel y cyfnod ar ddechrau’r flwyddyn, y farchnad Nadolig a’r eisteddfodau cenedlaethol.
· darparu amrywiol dempledau marchnata parod hwylus, hawdd eu defnyddio a’u haddasu.
· argymell system atgoffa i brocio’r staff i ddal ati i hyrwyddo teitlau sydd mewn print o bryd i’w gilydd (ee y rhaglen Llyfr y Dydd a gyflwynwyd gennym yn ystod y cyfnod covid) a stoc sy’n sefyll.
Creu asedau a thempledau digidol
Fel rhan o’r prosiect, bydd y sawl a benodir yn paratoi deunyddiau digidol at ddefnydd y staff. Bydd hyn yn cynnwys templedau y gellir eu defnyddio dro ar ôl tro, a fydd yn arbed amser ac yn golygu fod Gwasg y Bwthyn yn gallu rhoi llawer mwy o gynnyrch ar y cyfryngau cymdeithasol. Bydd brand y Bwthyn yn cael ei hyrwyddo ac yn dod yn hawdd ei adnabod ac yn gyfarwydd fel rhan o’r gwaith yma.
Creu cynllun a gweithdrefnau i hyrwyddo'r ôl-restr
Mae Gwasg y Bwthyn yn awyddus i wella cyfnod gwerthu eu llyfrau, ac i gynnal y diddordeb yn eu hôl-restr. Gyda hyn mewn golwg, bydd y swyddog prosiect yn creu system i hwyluso parhau i farchnata’r ôl-restr mewn dull systematig, hwylus ac effeithiol. Gwnaed hyn i raddau gyda’n cynllun Llyfr y Dydd yn ystod y ddau glo dros gyfnod covid, a fu’n arbrawf llwyddiannus. Mae angen adeiladu ar hyn a sefydlu fframwaith effeithiol er mwyn sicrhau fod llyfrau yn dal i werthu ar ôl y misoedd cyntaf, ac yn cael eu dwyn i sylw darpar brynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol.
Creu cynllun a gweithdrefnau i hyrwyddo cyfresi ac awduron penodol
Mae gan Wasg y Bwthyn sawl awdur sy’n ysgrifennu cyfresi o nofelau, yn eu plith Dyfed Edwards, Sonia Edwards a Gwen Parrott sydd wedi ymuno â ni yn ddiweddar. Bydd y swyddog yn creu deunydd addas i hyrwyddo cynnyrch yr awduron hyn, a theitlau unigol o fewn cyfresi, er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd darllenwyr sydd wedi mwynhau teitlau cynharach mewn cyfres, a denu ffans newydd. Mae potensial gwerthiant sylweddol i gyfresi gan fod darllenwyr yn hoffi dilyn cyfres, ac yn teimlo’n hyderus o wybod pa arlwy a ddarperir gan awduron cyfarwydd.
Mae’r un peth yn wir am waith awduron triw i’r Bwthyn sydd wedi cyhoeddi nifer dda o deitlau gyda ni, fel Harri Parri, lle gellid cynhyrchu ‘portreadau’ o’r awduron ar ffurf ffilm, y gellid eu defnyddio dro ar ôl tro. Felly bydd angen i’r swyddog prosiect fod â’r sgiliau i allu ffilmio a golygu fideos gan greu cynnwys o ansawdd uchel i’w roi ar ein gwefan, a’r cyfryngau cymdeithasol.
Cefndir
Cyhoeddwyr llyfrau yw Gwasg y Bwthyn, ac mae ein swyddfa yng Nghaernarfon, Gwynedd. Rydym yn arbenigo mewn cyhoeddi ffuglen boblogiadd, safonol i oedolion a llyfrau lles. Rydym hefyd yn cyhoeddi ychydig o lyfrau plant ac ambell hunangofiant a chyfrol o farddoniaeth.
Mae dau olygydd rhan-amser yn gweithio i’r wasg, ynghyd â swyddog cyllid, ac mae’r tîm yn atebol i Fwrdd Gwasg y Bwthyn sy’n cyfarfod bob chwarter. Rydym yn defnyddio gwasanaethau arbenigwyr allanol ym maes dylunio, golygu copi a marchnata yn ôl yr angen.
Cyflog
💰 I'w drafod yn unol a phrofiad
Lleoliad
📍 Caernarfon, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfleusterau - Creuddyn
Mae Barcud Cyf yn edrych am Swyddog Cyfleusterau - Creuddyn
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
**Cyfrifoldebau allweddol **
Cyfleusterau:
· Bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau gan denantiaid busnes ynghylch Creuddyn, gan geisio ymdrin â materion tenantiaid busnes yn gyflym ac yn llwyddiannus ac mewn modd croesawgar, proffesiynol a chyfeillgar.
· Datblygu a chyflwyno dulliau gweithredu a strategaethau ym maes Gwasanaeth i Gwsmeriaid a Phartneriaethau yng nghyswllt rheoli cyfleusterau.
· Hyrwyddo a marchnata’n weithredol y cyfleusterau cynadledda a hyfforddi, gan ddefnyddio amryw ddulliau sy’n cynnwys cyfryngau cymdeithasol.
· Bod yn gyfrifol am drefnu’r ystafelloedd hyfforddi / cynadledda fel eu bod yn addas i anghenion y sawl sy’n cynnal digwyddiadau.
· Bod yn gyfrifol am gynnwys y wefan / sianelau ar gyfryngau cymdeithasol ac am drefniadau archebu ystafelloedd neu ddesgiau a rennir, ar-lein a thros y ffôn.
· Yn gallu gweithio’n achlysurol gyda’r nos a phenwythnosau yn ddibynnol ar hyfforddiant/digwyddiadau cynadleddau.
· Cysylltu â sefydliadau arlwyo lleol er mwyn darparu gwasanaeth arlwyo allanol ar gyfer digwyddiadau yn ôl y gofyn.
· Trefnu te a choffi ar gyfer digwyddiadau a gynhelir yng Nghreuddyn.
· Datblygu cydberthnasau â darparwyr llety lleol er mwyn cynnig cyfleoedd i’r sawl sy’n mynychu cynadleddau aros dros nos.
· Rhoi gwybod i denantiaid busnes am y prosesau a’r gweithdrefnau y bydd y Gymdeithas yn eu dilyn wrth ymdrin â’r materion y maent wedi’u codi ynghylch y cyfleusterau.
· Rhoi gwybod i denantiaid am gyfrifoldebau Barcud a’u cyfrifoldebau nhw o ran rheoli cyfleusterau ac eiddo.
· Cysylltu â’r Syrfëwr Cynnal a Chadw er mwyn ymchwilio i faterion a godir, a defnyddio’r weithdrefn gywir i roi gwybod am unrhyw angen am waith atgyweirio.
· Bod yn gyfrifol am gario allan a recordio profion Iechyd a Diogelwch wythnosol megis larymau, goleuadau brys ag ati.
· Gweithio mewn modd cydweithredol ar draws y sefydliad i ddatrys unrhyw faterion a godir gan denantiaid busnes yng nghyswllt problemau sy’n ymwneud â chyfleusterau ac elfennau hanfodol.
· Gweithio gyda’r Gyfarwyddiaeth Ddatblygu a Rheoli Asedau i gyflawni gwaith cynnal a chadw a chydymffurfio sydd wedi’i gynllunio, gan sicrhau bod tenantiaid busnes yn gwybod am y gwaith cyn iddo ddechrau ac yn gwybod am ba hyd y disgwylir iddo bara.
· Ymdrin â chwynion a chanmoliaeth ynghylch cyfleusterau Barcud, gan ddosbarthu’r cwynion a’r ganmoliaeth dan sylw i’r staff perthnasol fel y bo’n briodol.
· Cynnal a rheoli cronfeydd data ar gyfer ymholiadau tenantiaid ynghylch y cyfleusterau, gan sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw’n gywir ac yn briodol.
· Cynorthwyo gyda gweithgareddau ehangach yn y swyddogaeth Gwasanaeth i Gwsmeriaid a Phartneriaethau.
· Dirprwyo dros y Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaeth i Gwsmeriaid a Phartneriaethau pan fo angen.
Pobl:
· Hybu diwylliant o gyflawni’n dda, sy’n hybu gwelliant parhaus ac arbedion effeithlonrwydd.
· Rhannu gwybodaeth am flaenoriaethau, cynlluniau, gweledigaeth ac amcanion y Gymdeithas er mwyn sicrhau bod gwaith yn cael ei gyflawni’n effeithiol gan fodloni’r safonau gwasanaeth a’r targedau a gytunwyd.
Corfforaethol:
· Hybu, datblygu a rheoli partneriaethau effeithiol â rhanddeiliaid mewnol ac allanol er mwyn sicrhau gwelliant parhaus wrth ddarparu gwasanaethau.
· Hybu mentrau iechyd a lles ym mhob rhan o’r sefydliad.
· Darparu gwasanaeth ardderchog i bob cwsmer mewnol ac allanol.
· Gweithio’n unol â pholisïau’r Gymdeithas ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant bob amser ac ym mhob agwedd ar waith cyflogi a darparu gwasanaethau.
· Sicrhau bod y Gymdeithas a’i gweithwyr yn cydymffurfio â’r holl ofynion cyfreithiol, statudol a rheoleiddiol ynghyd ag arfer gorau.
· Ym mhob agwedd ar waith y Gymdeithas, hyrwyddo systemau cyfathrebu effeithiol, rhagoriaeth o ran gwasanaeth i gwsmeriaid, a ffocws ar wella’n barhaus.
· Cyflawni unrhyw ddyletswyddau a chyfrifoldebau eraill y gallai fod yn rhesymol gofyn i ddeiliad y swydd eu cyflawni.
Ni fwriedir i’r disgrifiad swydd hwn fod yn rhestr gyflawn, ac o gofio y bydd gofynion, deddfwriaeth a rheoliadau’n newid, efallai y bydd angen adolygu a diwygio’r dyletswyddau fel y bernir yn rhesymol ac yn briodol.
Cyflog
💰 £23,174 - £25,579
Lleoliad
📍 Llanbedr Pont Steffan
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Cyfryngau Digidol a Marchnata
Mae Cwmni Theatr Volcano yn edrych am Reolwr Cyfryngau Digidol a Marchnata
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Theatr Volcano yn chwilio am berson egnïol, trefnus sy’n gallu cyfathrebu’n effeithiol gydag eraill, yn hyfedr gyda Google Workspace, WordPress, Canva, Photoshop a chymwysiadau perthnasol eraill, ac yn defnyddio ac yn mwynhau’r cyfryngau cymdeithasol.
Prif Leoliad: Swyddfa Volcano (Abertawe)
Oriau gwaith: Rhan amser 0.6 (22.5 awr yr wythnos)
Cyflog: £24,000 y flwyddyn pro rata
Bydd deiliad y Rheolwr Cyfryngau Digidol a Marchnata yn creu a datblygu ein presenoldeb drwy’r cyfryngau cymdeithasol, cyfryngau argraffedig, a’n gwefan, gan sicrhau bod gwaith sy’n cael ei greu, ei gomisiynu neu ei gefnogi gan Volcano yn sylw’r cyhoedd cyn gynted ag y bo modd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol hefyd am oruchwylio seilwaith Volcano gan ddefnyddio Google Workspace. Byddant yn gyfrifol am farchnata gwaith Volcano a’r cyfleusterau sydd gan y cwmni i’w cynnig.
Dyddiad cau: 31/08/2022
Cyflog
💰 £24K pro rata
Lleoliad
📍 Abertawe
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cefnogi Pynciau
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Swyddog Cefnogi Pynciau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Coleg yn chwilio am unigolyn i gyfrannu at brosiectau penodol i roi mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg i bob myfyriwr addysg uwch.
Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn cydlynu, cefnogi a hyrwyddo amrywiaeth o brosiectau, gweithgareddau a digwyddiadau, sy’n anelu at roi ystod o gyfleoedd i fyfyrwyr yn ein prifysgolion. Mae’r rôl yn cynnwys datblygu ymgyrchoedd i hyrwyddo pynciau penodol a sicrhau presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol.
Os wyt ti’n unigolyn trefnus sy’n gallu cydlynu prosiectau a chydweithio’n effeithiol ag eraill – ymgeisia am y swydd hon!
Cyflog
💰 £27,116 – £33,309
Lleoliad
📍 Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Marchnata
Mae Menter a Busnes yn edrych am Swyddog Marchnata
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dyma gyfle gwych i weithio ar brosiect yn niwydiant byrlymus bwyd a diod Cymru sy’n hollbwysig i dŵf yr economi Gymreig.
Cywain
Mae Cywain, a ddarperir gan Menter a Busnes, yn fodel sy’n darparu cefnogaeth wedi’i dargedu ar gyfer busnesau micro a BBaCh sy’n gweithredu yn y sector bwyd a diod yng Nghymru. Rydym yn dechrau cyfnod newydd ac rydym wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020 i ddarparu gwasanaeth diwygiedig. Mae cyllid y prosiect wedi cael ei gadarnhau tan Mehefin 2023.
Mae’r gwasanaeth yn cefnogi busnesau i gryfhau a thyfu, yn eu helpu i drosglwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o’r diwydiant, yn ogystal â chryfhau eu hintegreiddiad yn y gadwyn gyflenwi. Mae’n darparu gwasanaethau drwy Gymru gyfan gyda phwyslais ar gydweithredu drwy glystyru, ychwanegu gwerth, datblygu’r farchnad er mwyn tyfu a chreu swyddi. Mae Cywain wedi datblygu rhwydwaith eang o randdeiliaid ac, yn ganolog i ddatblygiad y cleient, mae gennym agwedd gydlynol tuag at weithio gyda phartneriaid darparu eraill.
Mae tair elfen i’r prosiect:
● Cefnogaeth i fusnesau newydd a micro ● Cefnogaeth diagnosteg ar gael i holl fusnesau bwyd a diod yng Nghymru
● Clystyru a chyd weithio rhwng busnesau er mwyn hyrwyddo twf ac effeithlonrwydd
**Nod y Rôl **
Cefnogi’r Arweinydd Tîm Marchnata a Digwyddiadau i lunio a gweithredu’r cynllun marchnata a chyfathrebu o ddydd i ddydd, gyda ffocws arbennig ar gefnogi cyfathrebiadau allanol gyda budd-ddeiliad allweddol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn hyblyg, gyda’r gallu i addasu unrhyw weithgareddau marchnata a chyfathrebu yn ôl yr angen, a hyn yn seiliedig ar ymchwil, newidiadau i’r farchnad a/neu mewn ymateb i ffactorau allanol.
Prif Gyfrifoldebau
● Cyd weithio gyda’r Arweinydd Tîm Marchnata a Digwyddiadaui weithredu cynllun marchnata a chyfathrebu ar gyfer y prosiect
● Datblygu brand a hunaniaeth y prosiect; dewis a datblygu sianelau cyfathrebu perthnasol
● Rheoli sianelau cyfryngau cymdeithasol a chynhyrchu copi ar gyfer gwefan y prosiect
● Cyfrannu at gyflawni targedau marchnata a chyfathrebu y rhaglen, gan sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir o’r safon uchaf
● Cynorthwyo i ddylunio, gweithredu a gwerthuso gweithgareddau marchnata a chyfathrebu y rhaglen
● Ysgrifennu a golygu copi, gan sicrhau bod datganiadau i’r wasg, ymgyrchoedd cymdeithasol/digidol yn y cyfryngau, cynnwys ar y we a chyhoeddiadau mewn print, gan gynnwys ffeithlenni a chyhoeddiadau technegol ac erthyglau, oll yn cael eu cynhyrchu’n amserol a chywir, yn unol â chanllawiau’r arianwyr
● Prawf ddarllen copi’n gydwybodol, gan sicrhau bod unrhyw wallau neu ymholiadau am ramadeg, sillafu, atalnodi, arddull a/neu gywirdeb yn cael eu canfod a’u cywiro, yn ogystal â sicrhau darpariaeth a chyfathrebiad cyson brand y prosiect
● Cynnal llyfrgell o gyhoeddiadau’r prosiect
● Cynorthwyo i weithredu portffolio o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd mewn ffordd broffesiynol, yn lleol a chenedlaethol, gan sicrhau amserlen gynnwys berthnasol ac ymgysylltiol
● Cydweithio â’r cyfryngau’n lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, gan ddelio gydag ymholiadau fel y bo’n ofynnol
● Cyflawni tasgau ymchwil farchnad penodol a darparu arweiniad i gytundebwyr allanol
● Gweithio gyda’r Arweinydd Tîm Marchnata a Digwyddiadau i oruchwylio a rheoli isgontractwyr sy’n darparu gwasanaeth marchnata a chyfathrebu i’r rhaglen
● Profi, mesur a gwerthuso gweithgareddau marchnata a chyfathrebu’r rhaglen yn barhaus, gan sicrhau bod adroddiadau’n cael eu creu a’u dosbarthu i’r rhanddeiliaid perthnasol
● Monitro, adolygu ac adrodd am ganlyniadau cyfathrebu a marchnata, gwariant a pherfformiad yn unol â gofynion y rhaglen, gan gynnwys creu a chynnal systemau rheoli effeithiol er mwyn bodloni gofynion Archwilio perthnasol
**Arall **
● Sicrhau bod y safonau’n cael eu cyrraedd ar gyfer gwasanaethau’r cwsmer, ansawdd, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch
● Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill yn ôl y galw
● Cynrychioli Menter a Busnes yn ôl y galw
Sgiliau a Phrofiad
Hanfodol
● Addysg hyd lefel gradd, neu gyfatebol, mewn pwnc perthnasol megis marchnata, cyfathrebu, busnes neu faes tebyg, neu brofiad dangosadwy mewn rôl farchnata, gyfathrebu a/neu ddigwyddiadau
● Gwybodaeth a dealltwriaeth am y sectorau bwyd, diod ac amaeth yng Nghymru
● Profiad dangosadwy o helpu gyda datblygiad, gweithrediad a gwerthusiad effeithiol o gynlluniau marchnata a chyfathrebu integredig
● Profiad eang o ysgrifennu copi clir, cywir a manwl ar gyfer ei brintio a/neu gyhoeddiadau digidol sy’n berthnasol i’r gynulleidfa ac o fewn canllawiau penodol
● Sgiliau prawf ddarllen ragorol
● Profiad o reoli cyfrifon cyfryngau cymdeithasol busnes, gan gynnwys paratoi calendr cynnwys misol, monitro ac adrodd ar berfformiad cyfryngau cymdeithasol a chanlyniadau ymgyrchoedd
● Profiad o reoli ac optimeiddio ymgyrchoedd hysbysebu digidol gan ddefnyddio chwiliad taledig a chyfryngau cymdeithasol taledig
● Profiad o ddiweddaru cynnwys y we
● Rhwydweithiau wedi eu datblygu’n dda gyda’r cyfryngau yng Nghymru
● Profiad o gynhyrchu adroddiadau clir, cywir a manwl sy’n berthnasol i’r gynulleidfa
● Sgiliau trefnu a chydgysylltu rhagorol gyda’r gallu i weithio i ddyddiadau tynn
● Gallu ysgogi ei hun yn greadigol gan dderbyn y cyfrifoldeb am osod ac adolygu blaenoriaethau i gyflawni targedau, gyda ffocws clir ar ansawdd
● Gweithio’n dda fel aelod o dîm gydag agwedd ragweithiol a’r hyder i gymryd yr awenau ac arwain gweithwyr eraill pan fo raid
● Sgiliau cyfathrebu dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) llafar ac ysgrifenedig rhagorol
● Sgiliau TG o safon uwch, gan gynnwys Word, Excel, PowerPoint, Ebost, cronfeydd data a’r we
● Trwydded yrru lawn a char i’w ddefnyddio Manteisiol
● Meddu ar gymhwyster proffesiynol perthnasol, megis cymhwyster y Sefydliad Marchnata Siartredig
● Profiad o drefnu arddangosfeydd a digwyddiadau
● Profiad dangosadwy o weithio yn y diwydiant amaeth, bwyd a diod yng Nghymru Gwneud Cais
Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy lenwi ffurflen gais a ffurflen cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected]. Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ag Alex James ar 07539 173732. Cyfweliadau Byddwn yn cynnal y cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn rhithiol ar ddydd Gwener, 15 Gorffennaf 2022. Os yw’r dyddiad hwn yn anghyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais os gwelwch yn dda. Dyddiad Cau
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 10.00yb, dydd Mawrth, 12 Gorffennaf 2022. **Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ** Gwelwch ein gwefan i gael copi o’n Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Cyflog
💰 £27,433 - £30,205
Lleoliad
📍 Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Caerfyrddin, Meifod, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfathrebu
Mae Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru, Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Cyfathrebu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ry’n ni’n chwilio am berson creadigol, brwd a chydwybodol i weithio o fewn adran farchnata a chyfathrebu fyrlymus a phrysur i hyrwyddo gwaith ac amcanion Mudiad Meithrin. Mae hon yn rôl gyffrous a chreadigol sy’n ddelfrydol i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a phrofiad gwerthfawr ym maes y wasg a’r cyfryngau cymdeithasol. Bydd gan y person a gaiff ei benodi wybodaeth a phrofiad o farchnata gan gynnwys y dulliau cyfathrebu diweddaraf ynghyd â sgiliau rhyngbersonol da. Ry’n ni’n disgwyl i’r person a gaiff ei benodi fod yn gallu cyfathrebu’n hyderus ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg gan feddu ar ddawn greadigol a dull rhagweithiol, hyblyg at bob agwedd o’r gwaith i greu cynnwys digidol deniadol. Mae’r gallu i weithio’n yn annibynnol ac fel rhan o dîm yn hanfodol ynghyd â’r gallu i chwilio am gyfleoedd creadigol i hyrwyddo amcanion y Mudiad.
Disgrifiad:
Bod yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu am gyflawni’r dyletswyddau canlynol: · Cynorthwyo i lunio a dosbarthu datganiadau i’r wasg gan gydlynu a delio gyda chyfleoedd am gyfweliadau â’r cyfryngau i sicrhau sylw teilwng i waith Mudiad Meithrin · Monitro a dadansoddi’r holl weithgareddau ar y cyfryngau cymdeithasol a’r straeon i’r wasg a’u heffeithlonrwydd
· Cynorthwyo gydag ymgyrchoedd marchnata a chyfathrebu penodol y Mudiad mewn modd blaengar, creadigol a chyfoes · Cynorthwyo i ddatblygu a diweddaru llwyfannau rhwydweithio cymdeithasol Mudiad Meithrin yn ddyddiol (trwy trydar, facebook ac instagram yn bennaf) gan lunio cynnwys cywir, amrywiol, deniadol sy’n ymgysylltu â rhieni a rhanddeiliaid · Cynorthwyo i ddatblygu a diweddaru gwefan Mudiad Meithrin, gan gymryd cyfrifoldeb am sicrhau fod cynnwys yr adran newyddion a chyfathrebu yn amrywiol, deniadol ac yn gywir o ran cynnwys a chywirdeb iaith · Cynorthwyo i greu cynnwys, cydlynu dylunio amrywiol ddogfennau, taflenni, posteri a deunydd hyrwyddo a marchnata i wahanol ymgyrchoedd ac adrannau o’r Mudiad · Cyfrannu fel aelod o’r tîm marchnata a chyfathrebu at holl waith yr adran gan ddangos y gallu i fod yn hyblyg i ymgymryd â gwahanol dasgau yn ôl y gofyn a derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill sy’n berthnasol i waith Mudiad Meithrin · Cynorthwyo gyda threfniadau a mynychu digwyddiadau cenedlaethol a thaleithiol e.e. Eisteddfodau a sioeau cenedlaethol, Taith Gŵyl Dewin a Doti, Seremoni Gwobrau Mudiad Meithrin, cynadleddau, lansiadau a digwyddiadau perthnasol i waith y Mudiad · Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill yn ôl y galw sy’n berthnasol i waith Mudiad Meithrin · Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Cyflog
💰 £21,453 - £25,017
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Marchnata Digidol Eisteddfod yr Urdd
Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Swyddog Marchnata Digidol Eisteddfod yr Urdd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Urdd Gobaith Cymru yw mudiad ieuenctid cenedlaethol mwyaf Cymru sy’n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ymwneud â chwaraeon, y celfyddydau, gwirfoddoli, hyfforddiant, gwaith dyngarol, rhyngwladol a phreswyl, sy’n eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymuned a’r byd yn ehangach.
Ers ei sefydlu yn 1922, mae’r mudiad wedi meithrin cenedlaethau o bobl ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i eraill ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru. Hyd yma mae dros 4 miliwn o bobl wedi bod yn aelodau o’r Urdd ac eleni mae’r mudiad yn edrych ymlaen at ddathlu ei ganmlwyddiant a chydag nifer o ddigwyddiadau mawr wedi’u cynllunio’n arbennig.
Yr Urdd yw cyflogwr trydydd sector cyfrwng Cymraeg mwyaf yng Nghymru, gyda dros 200 o staff wedi’u lleoli mewn 12 swyddfa ledled Cymru. Roedd ei drosiant blynyddol cyn Covid bron yn £12M, a daeth â gwerth economaidd o £32M i Gymru yn ystod 2019/20. Y Swydd
Wrth i ni gynllunio ar gyfer Eisteddfodau’r dyfodol bydd sicrhau cynnwys gwreiddiol a dawn i gysylltu’n ddigidol gyda’n aelodau a chynulleidfaoedd yn medru dyrchafu presenoldeb ar-lein yr Eisteddfod i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd yng Nghymru a thu hwnt.
Bydd y Swyddog Marchnata Digidol yn gyfrifol am arwain ac ychwanegu gwerth i blatfformau a chynnwys digidol Eisteddfod yr Urdd drwy greu cynnwys sy’n berthnasol, apelgar a chyfoes. Un o brif nodau’r swydd bydd codi proffil yr Eisteddfod fel un o brif wyliau Ieuenctid Ewrop a chodi ymwybyddiaeth o waith celfyddydol yr adran trwy gydol y flwyddyn.
Bydd disgwyl i’r Swyddog Digidol i fod yn gyfrifol am greu cynnwys newydd ar gyfer ein cynulleidfaoedd amrywiol, creu ymgyrchoedd i hyrwyddo gwaith yr adran, arwain ar ddatblygu ein cyfrifon Cyfryngau Cymdeithasol, a denu incwm drwy ymgyrchoedd gwerthiant tocynnau ac ymgyrchoedd i ddenu noddwyr a chystadleuwyr newydd. Am fwy o fanylion cysylltwch â Sian Eirian (Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a’r Celfyddydau) ar [email protected] Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at [email protected] Dyddiad Cau: 12pm ar y 6ed o Orffennaf
Cyfweliadau: Wythnos yr 11eg i’r 15fed o Orffennaf Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.
Cyflog
💰 £28,505 - £31,757
Lleoliad
📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Datblygu Cymunedol
Mae Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy yn edrych am Swyddog Datblygu Cymunedol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi’n hoffi trefnu gweithgareddau ac yn caru’r Gymraeg?
Mae Menter Iaith BGTM yn chwilio am berson arbennig i adeiladu ar y gwaith o hyrwyddo a datblygu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a wnaed eisoes yn Sir Fynwy.
Cefndir
Nod y Mentrau Iaith ydy hybu a hyrwyddo’r Gymraeg ar draws Cymru. Sefydlwyd y Fenter Iaith gyntaf yng Nghwm Gwendraeth yn 1991,ac erbyn hyn mae 22 Menter Iaith yn gwasanaethu pob rhan o Gymru. Wedi tyfu o awydd a dyheadau pobl leol y mae’r Mentrau Iaith, er mwyn hyrwyddo defnydd y Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd yn eu cymunedau. Mae’r Mentrau Iaith yn un o bartneriaid allweddol Llywodraeth Cymru ac yn gweithredu ar lawr gwlad i wireddu amcanion Cymraeg 2050: Strategaeth y Gymraeg – sydd yn nodi sut bydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. Mae pob Menter Iaith yn gweithredu mewn ffordd unigryw yn ddibynnol ar anghenion lleol.
Disgrifiad Swydd/Prif Gyfrifoldebau:
Darparu cyfleoedd i drigolion y sir gael mynediad i ddigwyddiadau ieithyddol, diwylliannol a chelfyddydol.
Grymuso grymuso unigolion, grwpiau a chymunedau i ddefnyddio’r iaith.
Asesu anghenion cymunedau Sir Fynwy o safbwynt gweithgareddau cyfrwng Cymraeg drwy broses o ymgynghori eang.
Meithrin a datblygu cysylltiadau agos gyda grwpiau cymunedol, mudiadau gwirfoddol a phartneriaid eraill (e.e Cymraeg i Oedolion Gwent, Mudiad Meithrin) gan gydlynu a threfnu gweithgareddau blaengar a deniadol a’u gwerthuso’n gyson.
Gweithio gyda phlant a phobl o bob oedran.
Datblygu prosiectau penodol a flaenoriaethwyd yng nghais a thargedau’r Llywodraeth.
Cyfrannu at brosesau gwerthuso a monitro'r Fenter.
Hyrwyddo gwaith y Fenter trwy ddefnydd helaeth o’r cyfryngau cymdeithasol a’r wefan.
Codi proffil y Fenter yn y wasg leol a chenedlaethol, paratoi datganiadau ac erthyglau cyson a’u dosbarthu i’r wasg a’r cyfryngau ac ati.
Paratoi ceisiadau am nawdd.
Manyleb person:
Sgiliau Iaith Gymraeg da ar lafar ac yn ysgrifendig yn hanfodol Dealltwriaeth o ddiwylliant ac anghenion ieithyddol Sir Fynwy a'r De-ddwyrain
Profiad o weithio gyda phlant ac oedolion a threfnu amrwy o weithgareddau ar eu cyfer
Y gallu i gyfathrebu’n glir yn Gymraeg a Saesneg ar bob lefel a gweithio gydag ystod eang o oedrannau
Hyderus pan yn weithio’n annibynnol ac yn dangos blaengaredd Profiad o greu ac annog syniadau newydd (arloesol)
Sgiliau safonol o ddefnyddio TG / cyfryngau cymdeithasol
DBS cyfredol
Trwydded yrru gyfredol a char
Telerau’r Swydd
Cyflog: £22,002 - £23,111 (yn ddibynol ar sgiliau a phrofiad)
Telir cyfraniad pensiwn cyflogwr (8%) yn ychwanegol
**Costau Teithio: **Telir costau teithio yn ôl graddfa CThEM
**Oriau Gwaith: **37.5 awr yr wythnos. Yn ddelfrydol bydd hon yn swydd amser llawn ond gellir ystyried ymgeiswyr sydd am weithio’n rhan amser.
**Gwyliau: **28 diwrnod y flwyddyn (+2 ddydd ychwanegol ar gyfer y Nadolig)
**Hyd y Cytundeb: **Parhaol
Bydd angen cwblhau cyfnod prawf o dri mis yn llwyddiannus.
Strwythur Rheoli
Byddwch yn gweithio o dan gyfarwyddyd Prif Swyddog ac yn atebol i fwrdd Ymddiriedolwyr y Fenter.
Lleoliad swyddfa’r Fenter:
Ystafell L4 Alder Suite, Tŷ Mamhilad C Llawr Cyntaf Gogledd Ystad Parc Mamhilad Park Pontypŵl NP4 0HZ
*Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr llwyddiannus weithio mewn swyddfeydd ledled y sir ar adegau yn ogystal â'r posibilrwydd o gweithio o gartref
Dyddiad Cau: 1 Gorffennaf 2022
Cyswllt:Thomas Hughes, Prif Swyddog
Dychwelwch y ffurflen trwy ebost os gwelwch yn dda erbyn 5pm, Dydd Gwener, 1 Gorffennaf 2022
Cyflog
💰 £22,002 - £23,111
Lleoliad
📍 Torfaen
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Ymchwilydd Sgorio
Mae Rondo yn edrych am Ymchwilydd Sgorio
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Rondo yn chwilio am berson sydd â diddordeb brwd mewn pêl-droed i weithio ar raglenni Sgorio mewn cyfnod euraidd i bêl-droed Cymru.
Bydd yr ymchwilydd llwyddiannus yn gweithio ar gemau byw llinol a digidol, ar raglenni uchafbwyntiau ac hefyd yn ymchwilio a chreu cynnwys i gyfryngau cymdeithasol Sgorio.
Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn gweithio fel rhan o dîm cynhyrchu profiadol ac yn cynnig syniadau am eitemau, dod o hyd i gyfranwyr, paratoi nodiadau cynhwysfawr i sylwebwyr, logio manylion mewn basau data, gan hefyd dderbyn hyfforddiant mewn nifer o roliau’r tîm cynhyrchu’n ystod gemau byw.
Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn brwdfrydig ymuno ag adran lwyddiannus mewn cyfnod hynod gyffrous. Er bod profiad blaenorol yn fanteisiol, nid yw profiad yn hanfodol ar gyfer y rôl hon – rydyn ni’n croesawu ymgeiswyr sydd ag angerdd dros bêl-droed a pharodrwydd i ddysgu.
Hanfodol
Person brwdfrydig, egniol a chreadigol sydd â gwir ddiddordeb ym mhêl-droed Cymru.
Y gallu i gyfathrebu’n glir a chywir yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Bod yn barod i gyflawni pob math o dasgau a hynny ar brydiau o fewn terfynau amser tynn Dealltwriaeth o’r cyfryngau cymdeithasol. Sgiliau TG sylfaenol.
Manteisiol
Trwydded yrru lawn.
Profiad o ymchwilio neu gymhwyster mewn darlledu.
Mae Rondo Media yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o safbwyntiau a chefndiroedd amrywiol.
Lleoliad: Caernarfon neu Caerdydd, gyda’r disgwyl i weithio ar leoliadau ledled Cymru a’r gallu hefyd i weithio’n hyblyg ac o adre ar adegau. Parodrwydd i weithio o swyddfeydd Rondo yng Nghaerdydd a Chaernarfon yn ôl y galw, ac ar nifer o benwythnosau’n ôl y galw.
Am ffurflen gais ewch i wefan rondomedia.co.uk/swyddi a’i dychwelyd ar e-bost i [email protected]
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 Caernarfon, Caerdydd, Hyblyg, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynhyrchydd Cynnwys
Mae Rondo yn edrych am Gynhyrchydd Cynnwys
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydyn ni’n edrych am Gynhyrchydd profiadol i ymuno â thîm chwaraeon Rondo.
Byddai’r rôl yn berffaith i unigolyn creadigol ac egniol sy’n deall y broses o greu cynnwys ar draws y platfformau digidol a llinol.
Bydd gan y Cynhyrchydd Cynnwys gyfrifoldeb dros ddatblygu, cynllunio a chyfleu cynnwys dan frand Sgorio, arlein ac ar deledu llinol, gan ysbrydoli tîm cynhyrchu bywiog i wireddu’r weledigaeth.
Bydd hefyd yn datblygu syniadau newydd i ennill comisiynau nodwedd a dogfen ar deledu ac arlein.
Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn creadigol a blaengar gael creu cynnwys cyffrous ac atyniadol, gan ymuno ag adran lwyddiannus.
**Hanfodol **
Ymwybyddiaeth o blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol a dealltwriaeth glir o sut i greu cynnwys sy’n gweithio ar bob platfform.
Profiad o greu a chyfleu syniadau creadigol newydd sy’n arwain at gomisiynau yng Nghymru a thu hwnt, o syniadau dogfen llinol i brosiectau uchelgeisiol arlein.
Profiad o amserlennu, a chreu cynnwys, gan sicrhau bod y deunydd yn cael ei gyfleu i safon uchel golygyddol, ar amser ac o fewn cyllideb.
Medru cyfathrebu’n gryno a rhugl ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg.
**Manteisiol **
Dealltwriaeth dechnegol o’r ffyrdd cyfoes o greu a chyfleu cynnwys Sgiliau hunansaethu.
Y gallu i weithio dan gyfyngderau amser tynn ar adegau, i drefnu tîm i ymateb i straeon a chyfleu cynnwys ar fyr rybudd.
Diddordeb mewn chwaraeon a phêl-droed. **Nodweddion Personol **
Y gal_lu i ysbrydoli ac ysgogi tîm i fod yn greadigol a beiddgar_
Y gal_lu i fod yn fywiog yn greadigol ac yn finiog yn olygyddol_
Y ga_llu i weithio dan bwysau a heb oruchwyliaeth i safon uchel Y gallu i weithio o fewn tîm a bod yn hyderus i arwain _
Mae Rondo Media yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o safbwyntiau a chefndiroedd amrywiol.
Lleoliad: Caernarfon neu Caerdydd, gyda’r disgwyl i weithio ar leoliadau ledled Cymru a’r gallu hefyd i weithio’n hyblyg ac o adre ar adegau.
Am ffurflen gais ewch i wefan rondomedia.co.uk/swyddi a’i dychwelyd ar e-bost i [email protected]
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 Caernarfon, Caerdydd, Hyblyg, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Sgorio
Mae Rondo yn edrych am Gydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Sgorio
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mewn cyfnod cyffrous i bêl-droed Cymru, mae Rondo yn edrych am unigolyn i ymuno â thîm cynhyrchu Sgorio.
Mae’r swydd yn benodol yn ymwneud â chyhoeddi cynnwys ar gyfrifon Sgorio ar draws y cyfryngau cymdeithasol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn berson creadigol sydd â’r ddawn i ddweud stori, yn ogystal â dealltwriaeth dechnegol o gyhoeddi cynnwys arlein.
Mae’r cyfrifoldebau yn cynnwys:
- Cyhoeddi cynnwys ar lwyfannau cymdeithasol Sgorio
- Dyletswyddau penodol ar Sgorio Stwnsh, sy’n cynnwys atodi ystadegau ar y wefan, rhannu uchafbwyntiau a diweddaru playlists ar YouTube
- Hyrwyddo gemau byw, e.e. drwy addasu templedi ar Photoshop - Is-deitlo eitemau a chyfweliadau, e.e. drwy ddefnyddio Premiere Pro
- Clipio, neu recordio deunydd systemau’n y cwmwl a golygu pan bydd angen
- Cyhoeddi cynnwys ar lwyfannau cymdeithasol Sgorio, yn cynnwys amserlennu negeseuon
Hanfodol
Dealltwriaeth o pa gynnwys sy’n gweithio orau ar wahanol blatfformau a pha trends sy’n datblygu Gallu defnyddio meddalwedd Adobe Photoshop a PremierePro neu debyg i greu cynnwys atyniadol Y gallu i weithio dan gyfyngderau amser tynn ar adegau, i gyhoeddi cynnwys o safon ar fyr rybudd Medru cyfathrebu’n gryno a rhugl yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg
Synnwyr cyffredin a synnwyr digrifwch – y gallu i daro’r cywair priodol wrth bostio negeseuon arlein Manteisiol
Diddordeb brwd mewn chwaraeon a phêl-droed.
Profiad o ddylunio graffeg trawiadol.
Dealltwriaeth o blatfform dosbarthu cynnwys fel Wild Moka.
Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn brwdfrydig gyfrannu at greu cynnwys atyniadol a chyfrannu at waith adran lwyddiannus mewn cyfnod hynod gyffrous.
Mae Rondo Media yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o safbwyntiau a chefndiroedd amrywiol.
Lleoliad: Caernarfon neu Caerdydd, gyda’r disgwyl i weithio ar leoliadau ledled Cymru a’r gallu hefyd i weithio’n hyblyg. Parodrwydd i weithio o swyddfeydd Rondo yng Nghaerdydd a Chaernarfon yn ôl y galw, ac ar nifer o benwythnosau’n ôl y galw.
Am ffurflen gais ewch i wefan rondomedia.co.uk/swyddi a’i dychwelyd ar e-bost i [email protected]
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 Caernarfon, Caerdydd, Hyblyg, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynhyrchydd Promos
Mae S4C yn edrych am Gynhyrchydd Promos
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae S4C yn edrych am berson brwdfrydig i ymuno’r â’r Tîm Delwedd a Brand i gynhyrchu/cyfarwyddo ffilmiau byr creadigol sy’n hyrwyddo cynnwys y sianel ac yn gyrru gwylio.
Disgrifiad:
Cynhyrchydd Promos
Pwrpas S4C yw gwasanaethu‘r gynulleidfa gyda chynnwys sydd yn diddanu, yn cyffroi ac yn adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth. Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus mae gennym ddyletswydd i greu y platfform ac ecosystem i sbarduno’r diwydiannau creadigol yng Nghymru i greu cynnwys uchelgeisiol ac unigryw sy’n apelio bob oedran, cefndir a gallu ieithyddol. Nod S4C yw bod yn gyrchfan ar gyfer cynnwys Cymraeg creadigol, gafaelgar a deniadol sydd ar gael i’w fwynhau ar amryw o lwyfannau yng Nghymru a thu hwnt.
Mae S4C yn edrych am berson brwdfrydig i ymuno’r â’r Tîm Delwedd a Brand i gynhyrchu/cyfarwyddo ffilmiau byr creadigol sy’n hyrwyddo cynnwys y sianel ac yn gyrru gwylio. Byddwch yn cyfarwyddo a chynhyrchu deunydd fideo o promos, teasers a showreels i hysbysebion digidol er mwyn codi ymwybyddiaeth am raglenni a denu gwylwyr i S4C - naill ai i wylio rhaglenni ar deledu, ar-lein, ar-alw neu drwy’r cyfryngau cymdeithasol.
Yn ogystal â chynhyrchu a chyfarwyddo’r promos hyn ar gyfer amrediad eang o gynnwys S4C (drama, adloniant, dogfennau, digwyddiadau), byddwch hefyd yn gyfrifol am gynhyrchu deunydd i hyrwyddo gwahanol elfennau o wasanaeth S4C mewn amrywiaeth o leoliadau ac ar amrediad o lwyfannau (teledu, cyfryngau cymdeithasol, sgriniau digidol ayyb). Yn ddelfrydol byddwch â phrofiad o gyfarwyddo, golygu ac ôl-gynhyrchu ac o gyfarwyddo sesiynau trosleisio. Byddwch a barn olygyddol gref, gwybodaeth eang o dechnegau saethu/golygu, gwybodaeth am gerddoriaeth gyfoes Cymraeg a gwybodaeth eang am arlwy S4C ar draws y llwyfannau gwahanol. Y gallu i fras olygu gan ddefnyddio Avid yn ddymunol. Dyfeisgarwch ac egni’n angenrheidiol.
Manylion eraill
Lleoliad: Lleoliad arferol eich gwaith fydd S4C, Sgwâr Canolog Caerdydd. Disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn o dro i dro.
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Cytundeb: 12 mis
Oriau gwaith: 35.75 awr yr wythnos. Oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio ar rai penwythnosau a gwyliau banc ac mewn digwyddiadau gyda’r nos. Bydd y cyflog yn cymryd i ystyriaeth yr oriau ychwanegol y mae’n bosibl y bydd angen i chi weithio.
Cyfnod prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau.
Pensiwn: Os byddwch yn ymuno â’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn 12:00 yn y prynhawn ar ddydd Llun 4 Gorffennaf 2022 i [email protected] neu’r Adran Adnoddau Dynol, S4C, Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin SA31 3EQ.
Ni dderbynnir CV.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu gefndir economaidd cymdeithasol, oedran, sefyllfa deuluol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, gweithwyr rhan neu lawn amser, crefydd, gwleidyddiaeth, tueddfryd rhywiol, ailbennu rhyw, beichiogrwydd a mamolaeth, defnydd o iaith (heblaw lle mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn angenrheidiol ar gyfer swydd) neu unrhyw wahaniaeth amherthnasol arall ac mae'n ymroddedig i ystyried amrywiaethau mewn modd positif. Mae S4C yn croesawu ac yn cymell ceisiadau am swyddi oddi wrth grwpiau allai fod wedi eu tangynrychioli gan gynnwys merched, pobl dduon ac o leiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau. Gweithredir egwyddorion cystadleuaeth agored a theg a phenderfynir ar benodiadau ar sail teilyngdod.
Cyflog
💰 Yn unol â phrofiad
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol Clwb Cwtsh
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol Clwb Cwtsh
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ry’n ni’n chwilio am berson creadigol, brwd a chydwybodol i weithio o fewn adran farchnata a chyfathrebu fyrlymus a phrysur i hyrwyddo gwaith ac amcanion Mudiad Meithrin. Mae hon yn rôl gyffrous a chreadigol sy’n ddelfrydol i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a phrofiad gwerthfawr ym maes marchnata a’r cyfryngau cymdeithasol. Bydd gan y person a gaiff ei benodi wybodaeth a phrofiad o farchnata gan gynnwys y dulliau cyfathrebu diweddaraf ynghyd â sgiliau rhyngbersonol da. Ry’n ni’n disgwyl i’r person a gaiff ei benodi fod yn gallu cyfathrebu’n hyderus ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg gan feddu ar ddawn greadigol a dull rhagweithiol, hyblyg at bob agwedd o’r gwaith i greu cynnwys digidol deniadol. Mae’r gallu i weithio’n yn annibynnol ac fel rhan o dîm yn hanfodol ynghyd â’r gallu i chwilio am gyfleoedd creadigol i hyrwyddo amcanion y Mudiad.
Disgrifiad:
Bod yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu am gyflawni’r dyletswyddau canlynol: · Cynorthwyo gydag ymgyrchoedd marchnata a chyfathrebu’r Mudiad mewn modd blaengar, creadigol a chyfoes – gan ganolbwyntio ar brosiect Clwb Cwtsh yn benodol · Cynorthwyo i ddatblygu a diweddaru llwyfannau rhwydweithio cymdeithasol Mudiad Meithrin yn rheolaidd gan lunio cynnwys cywir, amrywiol, deniadol sy’n ymgysylltu â rhieni a rhanddeiliaid · Cynorthwyo i ddatblygu a diweddaru platfformau digidol Clwb Cwtsh gan gymryd cyfrifoldeb am sicrhau fod y cynnwys yn amrywiol a deniadol.
· Cynorthwyo i greu cynnwys, cydlynu dylunio amrywiol ddogfennau, taflenni, posteri a deunydd hyrwyddo a marchnata cynllun Clwb Cwtsh. · Cyfrannu fel aelod o’r tîm marchnata a chyfathrebu at holl waith yr adran gan ddangos y gallu i fod yn hyblyg i ymgymryd â gwahanol dasgau yn ôl y gofyn a derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill sy’n berthnasol i waith Mudiad Meithrin · Cynorthwyo gyda threfniadau a mynychu digwyddiadau cenedlaethol a thaleithiol e.e. Eisteddfodau a sioeau cenedlaethol, Taith Gŵyl Dewin a Doti, Seremoni Gwobrau Mudiad Meithrin, cynadleddau, lansiadau a digwyddiadau perthnasol i waith Clwb Cwtsh a’r Mudiad · Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill yn ôl y galw sy’n berthnasol i waith Mudiad Meithrin · Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Cyflog
💰 £21,453 - £25,017 pro rata
Lleoliad
📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Prif Swyddog Croesi’r Bont Talaith y De Ddwyrain a Clebran
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Brif Swyddog Croesi’r Bont Talaith y De Ddwyrain a Clebran
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig, gweithgar a chydwybodol i ymgymryd â’r swydd uchod a bod yn rhan o ddatblygiadau cynllun cyffrous Croesi’r Bont. Dylai’r person feddu ar bersonoliaeth sy’n caniatáu iddi/iddo gyfathrebu yn effeithiol ar sawl lefel a chydweithio’n agos gyda staff y cynllun. Mae’n hanfodol i fod â’r gallu i weithio’n hyblyg, yn annibynnol ac fel rhan o dîm. Rydym angen person sydd yn frwd dros y Gymraeg ac yn deall hanfodion rheoli pobl. Yn ychwanegol i hynny bydd disgwyl i’r person arwain a chefnogi gwaith cenedlaethol y cynllun yn un o’r meysydd canlynol: Ansawdd, Datblygu, Asesu a Hyfforddiant.
Disgrifiad:
Bod yn atebol i’r Prif Weithredwr trwy’r Rheolwr Cenedlaethol Croesi’r Bont am gyflawni’r dyletswyddau canlynol: · Llunio a gweithredu Cynllun Strategol ar y cyd â Rheolwr Cenedlaethol Croesi’r Bont i sicrhau isadeiledd cryf o ran cydweithio rhwng Swyddogion Croesi’r Bont a staff ein Cylchoedd.
· Llunio a gweithredu Cynllun Taleithiol ar y cyd â’r Rheolwr Talaith i adnabod Cylchoedd a sicrhau cefnogaeth effeithiol a chydweithio agos gyda’r Swyddogion Cefnogi er budd Cylchoedd y dalaith.
· Gweithredu fel rheolwr llinell i Swyddogion Croesi’r Bont a Swyddogion Clebran yn y dalaith.
· Cynllunio gweithgareddau a threfnu adnoddau addas ar gyfer swyddogion Croesi’r Bont a Clebran.
· Sicrhau ansawdd a safon y cynllun ar draws y dalaith ac yn genedlaethol gan fonitro a gwirio cyson ac effeithiol.
· Creu perthynas a chreu cyfleoedd i gydweithio gydag ystod o bartneriaid yn cynnwys cynrychiolwyr o’r siroedd.
· Cydweithio gyda Phrif Swyddog y Cyfnod Sylfaen i ddatblygu cynllun Croesi’r Bont ochr yn ochr â’r Cwricwlwm newydd.
· Cynnal cyflwyniadau ar gyfer sefydliadau’r sir e.e. staff Cylchoedd, tîm Blynyddoedd Cynnar, staff yr ysgolion a fwydir gan gynnwys penaethiaid, penaethiaid Cyfnod Sylfaen, athrawon a staff y dosbarthiadau meithrin, Dechrau’n Deg, ac mewn rhai achosion, cynrychiolaeth o’r consortia lleol.
· Ymweld â’r Cylchoedd yn unol â’r amserlen weithredu er mwyn arsylwi, sicrhau cysondeb a safonau’r asesiadau yn lleol ac yn genedlaethol.
· Paratoi adroddiadau rheolaidd yn ôl y gofyn i fesur llwyddiant y sesiynau yn erbyn y targedau, a chyfrannu at adroddiadau cynnydd a monitro ar gyfer gwerthusiad annibynnol mewnol o’r cynllun.
· Cydweithio gyda’r adran farchnata i hyrwyddo’r cynllun a chodi ymwybyddiaeth o ddulliau rhannu arfer dda ieithyddol rhwng y Cylch a’r cartref.
· Adnabod cyfleodd ac ymchwilio mewn i ddatblygu’r cynllun yn ehangach.
· Arolygu asesu llawr gwlad gan sicrhau cysondeb a safon genedlaethol i gamau datblygu Croesi’r Bont.
· Cydweithio gyda Chydlynwyr Hyfforddiant Iaith Camau Mudiad Meithrin er mwyn adnabod cyfleoedd ar gyfer cyrsiau Cymraeg pellach i staff mewn lleoliadau.
· Hyrwyddo, hysbysebu a marchnata’r cynllun pan yn briodol, a bod yn barod i baratoi deunydd ysgrifenedig i wefannau, i’r wasg a thrwy’r cyfryngau cymdeithasol.
· Goruchwylio a chynnal tudalennau Facebook caeedig ar gyfer ysgogi a rhannu arfer dda.
· Cydweithio a chynnal cyfarfodydd gyda chysylltiadau a phartneriaid o’r awdurdod lleol.
· Parhau i ddatblygu cynnwys a goruchwylio cynhyrchu’r pecynnau (ffeiliau/CDs/Llyfrau Canu).
· Arwain cyfarfodydd tîm Croesi’r Bont yn dymhorol a chyfarfodydd eraill yn ôl y gofyn.
· Mynychu cyfarfodydd Timau Taleithiol yn rheolaidd.
· Trefnu hyfforddiant proffesiynol parhaus a rhannu arfer dda i’r tîm o Swyddogion Croesi’r Bont ar y cyd â Rheolwr Croesi’r Bont.
· Adnabod cyfleoedd i gyfrannu at gyrsiau hyfforddiant Trochi Iaith drwy Academi.
· Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth Croesi’r Bont yn ôl cyfarwyddyd y Rheolwr Cenedlaethol neu Bennaeth yr Adran Hyfforddiant.
· Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Cyflog
💰 £29,614 – £32,375
Lleoliad
📍 De Ddwyrain
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Ymgynghorydd Cyfathrebu
Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys yn edrych am Ymgynghorydd Cyfathrebu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Ymgynghorydd Cyfathrebu.
Gan weithio'n agos gyda'r Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu er mwyn sicrhau darpariaeth o ran materion y cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol ar ran y Comisiynydd, byddwch yn gyfrifol am faterion yn ymwneud â’r cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol gan ddarparu gwasanaeth cysylltiadau cyhoeddus proffesiynol sy'n hyrwyddo delwedd gadarnhaol o'r Comisiynydd, y Swyddfa a'r heddlu. Byddwch yn mynd ati'n rhagweithiol o ran gwaith cyfathrebu, a phob math o ymgyrchoedd er mwyn ennyn hyder y cyhoedd mewn plismona, y Comisiynydd a'r Swyddfa.
Os credwch fod gennych y sgiliau a'r angerdd dros y rôl hon, cliciwch y ddolen isod i weld proffil y rôl. Os ydych chi'n credu mai dyma'r swydd i chi, cwblhewch gais, gan ddangos tystiolaeth yn unig yn erbyn y 5 cyrhaeddiad a restrir ar broffil y rôl (a geir fel arfer ar dudalen olaf proffil y rôl).Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau i ymgeiswyr ar ein gwefan sy’n darparu mwy o fanylion ynghylch sut i gwblhau eich cais.
Cynhelir cyfweliadau ar: 16/06/2022
Bydd y cyflog yn ôl cyfran ar gyfer unrhyw swyddi gwag rhan amser.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriadau meddygol a fetio.
Cyflog
💰 £31,425 - £34,326
Lleoliad
📍 Glangwili
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Datblygu Cymunedol (Ardal Sir Fynwy)
Mae Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy yn edrych am Swyddog Datblygu Cymunedol (Ardal Sir Fynwy)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi’n hoffi trefnu gweithgareddau ac yn caru’r Gymraeg?
Mae Sefydliad Corfforedig Elusennol Menter Iaith BGTM (rhif elusennol 1181104) yn chwilio am berson arbennig i adeiladu ar y gwaith o hyrwyddo a datblygu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a wnaed eisoes yn Sir Fynwy.
Cefndir
Nod y Mentrau Iaith ydy hybu a hyrwyddo’r Gymraeg ar draws Cymru. Sefydlwyd y Fenter Iaith gyntaf yng Nghwm Gwendraeth yn 1991,ac erbyn hyn mae 22 Menter Iaith yn gwasanaethu pob rhan o Gymru. Wedi tyfu o awydd a dyheadau pobl leol y mae’r Mentrau Iaith, er mwyn hyrwyddo defnydd y Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd yn eu cymunedau. Mae’r Mentrau Iaith yn un o bartneriaid allweddol Llywodraeth Cymru ac yn gweithredu ar lawr gwlad i wireddu amcanion Cymraeg 2050: Strategaeth y Gymraeg – sydd yn nodi sut bydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. Mae pob Menter Iaith yn gweithredu mewn ffordd unigryw yn ddibynnol ar anghenion lleol.
Disgrifiad Swydd/Prif Gyfrifoldebau:-
Darparu cyfleoedd i drigolion y sir gael mynediad i ddigwyddiadau ieithyddol, diwylliannol a chelfyddydol.
Grymuso grymuso unigolion, grwpiau a chymunedau i ddefnyddio’r iaith
Asesu anghenion cymunedau Sir Fynwy o safbwynt gweithgareddau cyfrwng Cymraeg drwy broses o ymgynghori eang.
Meithrin a datblygu cysylltiadau agos gyda grwpiau cymunedol, mudiadau gwirfoddol a phartneriaid eraill (e.e Cymraeg i Oedolion Gwent, Mudiad Meithrin) gan gydlynu a threfnu gweithgareddau blaengar a deniadol a’u gwerthuso’n gyson. Gweithio gyda phlant a phobl o bob oedran.
Datblygu prosiectau penodol a flaenoriaethwyd yng nghais a thargedau’r Llywodraeth.
Cyfrannu at brosesau gwerthuso a monitro'r Fenter.
Hyrwyddo gwaith y Fenter trwy ddefnydd helaeth o’r cyfryngau cymdeithasol a’r wefan.
Codi proffil y Fenter yn y wasg leol a chenedlaethol, paratoi datganiadau ac erthyglau cyson a’u dosbarthu i’r wasg a’r cyfryngau ac ati.
Paratoi ceisiadau am nawdd.
Manyleb person
Sgiliau Iaith Gymraeg da ar lafar ac yn ysgrifendig yn hanfodol
Dealltwriaeth o ddiwylliant ac anghenion ieithyddol Sir Fynwy a'r De-ddwyrain
Profiad o weithio gyda phlant ac oedolion a threfnu amrwy o weithgareddau ar eu cyfer
Y gallu i gyfathrebu’n glir yn Gymraeg a Saesneg ar bob lefel a gweithio gydag ystod eang o oedrannau
Hyderus pan yn weithio’n annibynnol ac yn dangos blaengaredd
Profiad o greu ac annog syniadau newydd (arloesol)
Sgiliau safonol o ddefnyddio TG / cyfryngau cymdeithasol
DBS cyfredol
Trwydded yrru gyfredol a char
Telerau’r Swydd
Cyflog: £22,002 -£23,111 (yn ddibynol ar sgiliau a phrofiad)
Telir cyfraniad pensiwn cyflogwr (8%) yn ychwanegol
Costau Teithio
Telir costau teithio yn ôl graddfa CThEM
Oriau Gwaith
37.5 awr yr wythnos. Yn ddelfrydol bydd hon yn swydd amser llawn ond gellir ystyried ymgeiswyr sydd am weithio’n rhan amser. Disgwylir i chi weithio oriau anghymdeithasol ar adegau
Gwyliau
28 diwrnod y flwyddyn.
Hyd y Cytundeb
Ariennir y swydd hon yn flynyddol gan Lywodraeth Cymru.
Bydd angen cwblhau cyfnod prawf o dri mis yn llwyddiannus.
**Strwythur Rheoli **
Byddwch yn gweithio o dan gyfarwyddyd Prif Swyddog ac yn atebol i fwrdd Ymddiriedolwyr y Fenter.
Lleoliad swyddfa’r Fenter
Ystafell L4 Alder Suite, Tŷ Mamhilad C
Llawr Cyntaf Gogledd
Ystad Parc Mamhilad Park
Pontypŵl
NP4 0HZ
*Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr llwyddiannus weithio mewn swyddfeydd ledled y sir ar adegau yn ogystal â gweithio o gartref
Dyddiad Cau: 15 Mehefin 2022
Cyswllt:Thomas Hughes, Prif Swyddog
Dychwelwch y ffurflen trwy ebost os gwelwch yn dda erbyn 12pm, Dydd Mercher, 15 Mehefin 2022
Cyflog
💰 £22,002 - £23,111
Lleoliad
📍 Torfaen
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Prif Swyddog Croesi’r Bont Talaith y De Ddwyrain a Clebran
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Brif Swyddog Croesi’r Bont Talaith y De Ddwyrain a Clebran
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig, gweithgar a chydwybodol i ymgymryd â’r swydd uchod a bod yn rhan o ddatblygiadau cynllun cyffrous Croesi’r Bont. Dylai’r person feddu ar bersonoliaeth sy’n caniatáu iddi/iddo gyfathrebu yn effeithiol ar sawl lefel a chydweithio’n agos gyda staff y cynllun. Mae’n hanfodol i fod â’r gallu i weithio’n hyblyg, yn annibynnol ac fel rhan o dîm. Rydym angen person sydd yn frwd dros y Gymraeg ac yn deall hanfodion rheoli pobl. Yn ychwanegol i hynny bydd disgwyl i’r person arwain a chefnogi gwaith cenedlaethol y cynllun yn un o’r meysydd canlynol: Ansawdd, Datblygu, Asesu a Hyfforddiant.
Dyletswyddau’r Swydd:
Bod yn atebol i’r Prif Weithredwr trwy’r Rheolwr Cenedlaethol Croesi’r Bont am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
Llunio a gweithredu Cynllun Strategol ar y cyd â Rheolwr Cenedlaethol Croesi’r Bont i sicrhau isadeiledd cryf o ran cydweithio rhwng Swyddogion Croesi’r Bont a staff ein Cylchoedd.
Llunio a gweithredu Cynllun Taleithiol ar y cyd â’r Rheolwr Talaith i adnabod Cylchoedd a sicrhau cefnogaeth effeithiol a chydweithio agos gyda’r Swyddogion Cefnogi er budd Cylchoedd y dalaith.
Gweithredu fel rheolwr llinell i Swyddogion Croesi’r Bont a Swyddogion Clebran yn y dalaith.
Cynllunio gweithgareddau a threfnu adnoddau addas ar gyfer swyddogion Croesi’r Bont a Clebran.
Sicrhau ansawdd a safon y cynllun ar draws y dalaith ac yn genedlaethol gan fonitro a gwirio cyson ac effeithiol.
Creu perthynas a chreu cyfleoedd i gydweithio gydag ystod o bartneriaid yn cynnwys cynrychiolwyr o’r siroedd.
Cydweithio gyda Phrif Swyddog y Cyfnod Sylfaen i ddatblygu cynllun Croesi’r Bont ochr yn ochr â’r Cwricwlwm newydd.
Cynnal cyflwyniadau ar gyfer sefydliadau’r sir e.e. staff Cylchoedd, tîm Blynyddoedd Cynnar, staff yr ysgolion a fwydir gan gynnwys penaethiaid, penaethiaid Cyfnod Sylfaen, athrawon a staff y dosbarthiadau meithrin, Dechrau’n Deg, ac mewn rhai achosion, cynrychiolaeth o’r consortia lleol.
Ymweld â’r Cylchoedd yn unol â’r amserlen weithredu er mwyn arsylwi, sicrhau cysondeb a safonau’r asesiadau yn lleol ac yn genedlaethol.
Paratoi adroddiadau rheolaidd yn ôl y gofyn i fesur llwyddiant y sesiynau yn erbyn y targedau, a chyfrannu at adroddiadau cynnydd a monitro ar gyfer gwerthusiad annibynnol mewnol o’r cynllun.
Cydweithio gyda’r adran farchnata i hyrwyddo’r cynllun a chodi ymwybyddiaeth o ddulliau rhannu arfer dda ieithyddol rhwng y Cylch a’r cartref.
Adnabod cyfleodd ac ymchwilio mewn i ddatblygu’r cynllun yn ehangach.
Arolygu asesu llawr gwlad gan sicrhau cysondeb a safon genedlaethol i gamau datblygu Croesi’r Bont.
Cydweithio gyda Chydlynwyr Hyfforddiant Iaith Camau Mudiad Meithrin er mwyn adnabod cyfleoedd ar gyfer cyrsiau Cymraeg pellach i staff mewn lleoliadau.
Hyrwyddo, hysbysebu a marchnata’r cynllun pan yn briodol, a bod yn barod i baratoi deunydd ysgrifenedig i wefannau, i’r wasg a thrwy’r cyfryngau cymdeithasol.
Goruchwylio a chynnal tudalennau Facebook caeedig ar gyfer ysgogi a rhannu arfer dda.
Cydweithio a chynnal cyfarfodydd gyda chysylltiadau a phartneriaid o’r awdurdod lleol.
Parhau i ddatblygu cynnwys a goruchwylio cynhyrchu’r pecynnau (ffeiliau/CDs/Llyfrau Canu)
Arwain cyfarfodydd tîm Croesi’r Bont yn dymhorol a chyfarfodydd eraill yn ôl y gofyn.
Mynychu cyfarfodydd Timau Taleithiol yn rheolaidd.
Trefnu hyfforddiant proffesiynol parhaus a rhannu arfer dda i’r tîm o Swyddogion Croesi’r Bont ar y cyd â Rheolwr Croesi’r Bont.
Adnabod cyfleoedd i gyfrannu at gyrsiau hyfforddiant Trochi Iaith drwy Academi
Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth Croesi’r Bont_ _yn ôl cyfarwyddyd y Rheolwr Cenedlaethol neu Bennaeth yr Adran Hyfforddiant.
Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Dyddiad Cyfweliadau: 7.6.2022 dros Teams
Cyflog
💰 £29,614 – £32,375
Lleoliad
📍 De Ddwyrain
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Digidol
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Digidol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn brifysgol sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth, ac sy’n ymroi i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu’r wybodaeth academaidd a’r sgiliau ymarferol i ffynnu.
Rydym ni’n cynnig addysgu arloesol, y cyfarpar diweddaraf a chefnogaeth ragorol ar draws ystod eang o leoliadau dysgu a chyrsiau.
Ymhellach, cawsom ein gosod yn 13eg am ansawdd addysgu yn y Times and Sunday Times Good University Guide 2022 ac 8fed yn y DU am ‘Gynhwysiant Cymdeithasol’ yn y gynghrair hon eleni.
Rydym ni nawr yn edrych am Lyfrgellydd Gwasanaethau Cwsmeriaid i ymuno â champws Caerfyrddin ar sail lawn amser, barhaol yn gweithio 22 awr yr wythnos.
- Y RÔL –
Rôl y Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Digidol fydd datblygu ar y seiliau cadarn a osodwyd eisoes trwy ddefnydd medrus o ddulliau digidol gan gyfathrebu’n effeithiol a chreu cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a phlatfformau digidol sy’n cynnwys nifer o llwyfannau ar-lein (gwefan, cyfryngau cymdeithasol, cylchlythyron).
Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am ddarganfod ffyrdd amrywiol a dychmygus o gyfathrebu a hyrwyddo cynnig eang y Ganolfan, sy’n cynnwys:
y rhaglen artistig a phrosiectau creadigol
y gymuned greadigol â digwyddiadau rhyngweithio i’r sector sgrîn
cyrsiau hyfforddiant a chyfleon addysgiadol
adnoddau'r ganolfan sy’n cynnwys gofodau cynhyrchu a chydweithio
Disgwylir i’r swyddog gyfrannu at, ysgrifennu a/neu olygu copi ar gyfer adroddiadau, cyhoeddiadau, y wefan, datganiadau ac erthyglau, a deunydd ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol gan gynnig syniadau o ran deunydd addas i gynulleidfaoedd amrywiol.
** - AMDANOCH CHI - **
I gael eich ystyried fel Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Digidol, bydd angen i chi feddu ar y canlynol:
Profiad o ddefnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a phlatfformau digidol i gyflawni ymgyrchoedd yn effeithiol
Sgiliau cynllunio a threfnu gan ymdopi â sawl math o waith ar yr un pryd
Gradd anrhydedd dda neu gymhwyster cyfatebol
Y gallu i adnabod y gynulleidfa darged, ei hanghenion a’i disgwyliadau;
Profiad o gynhyrchu a chreu cynnwys addas ar ffurf lluniau a fideos.
Y gallu i gydweithio ac ymgynghori gyda chydweithwyr a phartneriaid
Sgiliau cyfathrebu rhagorol yn y Gymraeg a’r Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig
**- BUDDION – **
- Yr hawl gwyliau blynyddol yw 28 diwrnod o wyliau ynghyd â 8 gwyl banc a 4 diwrnod cau’r Brifysgol
Mae ein gweithwyr yn manteisio ar becyn cyflog a buddion gwych i gydnabod eu cyfraniad gwerthfawr gan gynnwys:
- Cyflog ac amodau da; fel cyflogwr cyflog byw achrededig, rydym yn cynnig cyflog cystadleuol
- Aelodaeth cynllun pensiwn gan USS i ddarparu buddion i chi a’ch teulu
- Polisïau sy’n dda i deuluoedd sy’n darparu ar gyfer gweithio hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth â thâl
- Cyfleoedd gyrfa a datblygu, gan gynnwys cymorth i sicrhau cymwysterau pellach
- Cefnogaeth iechyd meddwl a llesiant, yn cynnwys gwasanaethau cymorth iechyd galwedigaethol a chwnsela
- Gostyngiadau i staff ar amrywiol gynhyrchion a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio fel y cynllun seiclo i’r gwaith
Cyflog
💰 £27,116 - £30,497
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Ymgysylltu Digidol Amser i Newid Cymru
Mae Mind Cymru yn edrych am Swyddog Ymgysylltu Digidol Amser i Newid Cymru
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Caerdydd, Cymru
£17,538 y flwyddyn (yn cynnwys lwfans pwysoliad Caerdydd)
Rhan amser 21 awr
Cyfnod penodol hyd at 31ain Mawrth 2025
Mae gennym nodau pwysig dros y blynyddoedd nesaf. Rydyn ni'n mynd i frwydro dros iechyd meddwl mewn ffordd na wnaethom erioed o’r blaen. Gyda’n gilydd, byddwn yn gweithio i wneud yn siŵr bod pawb sydd â phroblem iechyd meddwl yn cael y gefnogaeth a’r parch maen nhw’n eu haeddu. Wnewch chi ymuno â ni? Rydyn ni'n chwilio am Swyddog Ymgysylltu Digidol profiadol a medrus i helpu i gyflawni pedwerydd cam y Rhaglen Amser i Newid Cymru. Gan weithio dan gyfarwyddyd Arweinydd Ymgyrchoedd a Strategaeth Amser i Newid Cymru a Rheolwr y Rhaglen, byddwch yn:
- Cyflawni gweithgareddau ymgysylltu o ddydd i ddydd ar gyfer y rhaglen, gan ganolbwyntio’n benodol ar gynulleidfaoedd targed newydd yn unol ag amcanion cyffredinol strategaeth a rhaglen Marchnata Amser i Newid Cymru.
- Cyfrannu at ymgyrch uchel ei phroffil o ansawdd uchel yng Nghymru o ran lleoli a negeseua, gan gynnwys ym maes cyfathrebu rhaglenni, cysylltiadau cyhoeddus, marchnata a chyfathrebu.
- Gweithio’n agos gyda’r Arweinydd Ymgyrchoedd a Strategaeth a’r Swyddog Cyfathrebu Marchnata i sicrhau dull gweithredu cwbl integredig ar gyfer cyfathrebu ar draws nifer o sianeli ar-lein ac all-lein.
- Gwella profiad defnyddwyr ac ymgysylltiad digidol â’r ymgyrch drwy’r wefan, asedau digidol creadigol, a chreu calendr cynnwys rheolaidd ar gyfer sianeli cyfryngau cymdeithasol a llwyfannau digidol.
Byddwch yn gweithio’n agos gydag aelodau’r tîm ym Mind Cymru ac Adferiad, felly mae’r gallu i feithrin perthnasoedd gwaith da yn hanfodol. Bydd angen i chi hefyd fod yn fodlon teithio o bryd i’w gilydd fel rhan o’ch swydd i fynychu cyfarfodydd oddi ar y safle.
Dyddiad Cau: 18eg Mai 2022
Mae Mind wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff, ac mae ceisiadau yn cael eu hannog gan unigolion waeth beth yw eu hoed, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.
Edrychwch ar y Disgrifiad o’r Swydd pan fyddwch chi’n cwblhau eich cais oherwydd bydd ymgeiswyr yn cael eu dewis i’r rhestr fer yn seiliedig ar i ba raddau maen nhw’n bodloni’r meini prawf.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Cyflog
💰 £17,538
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn edrych am Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Swydd: Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Contract: Tymor penodol neu secondiad am 2 flynedd
Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos
Cyflog: £31,210 - £38,160 y flwyddyn
Lleoliad: Hyblyg - gweithredir trefniant gweithio hybrid. Lleolir swyddfeydd y Comisiynydd yng Nghaerdydd, Caernarfon, Caerfyrddin, a Rhuthun
Dyddiad cau: 12.00 canol dydd, 13 Mai 2022 Cyfweliadau: 23 Mai 2022 (cynhelir dros Teams)
Pwrpas
Fel aelod o’r tîm cyfathrebu byddwch yn gyfrifol am rannu gwybodaeth a hyrwyddo pob elfen o waith Comisiynydd y Gymraeg. Byddwch yn defnyddio eich sgiliau a thechnegau i gyfleu negeseuon a denu sylw yn y wasg ac ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn sicrhau bod cynulleidfaoedd ym mhobman yn ymwybodol o waith y Comisiynydd.
Dyletswyddau craidd
- Darparu gwasanaeth cyfathrebu cyflym, arbenigol a dibynadwy, gan ymdrin ag ymholiadau a cheisiadau gan y wasg a’r cyfryngau.
- Rhoi cyngor i aelodau staff y Comisiynydd ynghylch rhannu gwaith y sefydliad a darparu sesiynau briffio cyn cyfweliadau ar y cyfryngau.
- Llunio safbwyntiau ac ymatebion y Comisiynydd mewn modd rhagweithiol ac adweithiol.
- Ysgrifennu datganiadau i’r wasg, a pharatoi a chomisiynu deunydd gweledol addas i gyd-fynd â’r straeon hynny gan sicrhau eu dosbarthu’n eang.
- Cyfathrebu gyda rhan-ddeiliaid y Comisiynydd, drwy gyfarfodydd, cyflwyniadau a thrwy ysgrifennu a chylchredeg cylchlythyr i ran-ddeiliaid.
- Datblygu perthnasoedd gwaith cryf, rhagweithiol gyda newyddiadurwyr ar draws Cymru a’r Deyrnas Unedig.
- Ysgrifennu, golygu a phrawf ddarllen copi ar gyfer yr adroddiad blynyddol ac adroddiadau eraill, cyhoeddiadau, y wefan, datganiadau ac erthyglau, a deunydd ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol gan gynnig syniadau o ran deunydd addas i gynulleidfaoedd amrywiol.
- Gweithredu Strategaeth Gyfathrebu’r Comisiynydd drwy weithio gyda thimoedd ar gynlluniau cyfathrebu penodol, hyrwyddo prif negeseuon ac ymgyrchoedd yn y wasg a llunio datganiadau i ddwyn perswâd ar olygyddion a newyddiadurwyr i gynnwys y straeon.
- Datblygu sgiliau digidol e.e ffilmio a golygu fideo er mwyn cynhyrchu cynnwys ar gyfer y cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol sy’n ddeniadol, i gefnogi a hyrwyddo gwaith y Comisiynydd.
- Cynorthwyo gyda chynnal a chreu cynnwys ar gyfer cyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Comisiynydd, gan ateb yn ôl yr angen.
- Diweddaru gwefan y Comisiynydd a’r adran newyddion yn rheolaidd gan sicrhau bod y cynnwys yn cael ei hyrwyddo a’i rannu yn eang.
- Cadw golwg ar ddatblygiadau o bwys a newyddion y dydd a’u rhannu yn ôl yr angen.
- Creu a chylchredeg negeseuon wythnosol a chylchlythyron mewnol yn crynhoi pynciau pwysig a gwybodaeth berthnasol i staff y Comisiynydd.
- Monitro ein sylw yn y cyfryngau a helpu i werthuso ein hymdrechion cyfathrebu er mwyn gwella perfformiad.
Cyflog
💰 £31,210 - £38,160
Lleoliad
📍 Caerdydd, Caernarfon, Caerfyrddin, Rhuthun
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Gweinyddwr - Recriwtio a Gwasanaethau Cleient
Mae Webrecruit yn edrych am Weinyddwr - Recriwtio a Gwasanaethau Cleient
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gweithio Hybrid (Yn y Cartref ac yn y Swyddfa, yn y Cartref yn unig ar gyfer gweithwyr y tu allan i bellter cymudo)
Amdanom ni
Yn Webrecruit, rydym yn gwmni hysbysebu a meddalwedd recriwtio, yn gyfuniad prin o bobl greadigol, datblygwyr, arweinwyr meddwl a gweithwyr proffesiynol gwerthu sy'n cydweithio i greu atebion ymarferol, defnyddiadwy i anghenion recriwtio cleientiaid.
Rydyn ni'n gwneud rhywbeth o'r enw Recriwtio Hybrid - dydyn ni ddim i gyd yn hysbysebu recriwtio ac nid ydym yn canolbwyntio ar wneud meddalwedd yn unig. Rydym yn hysbysebu, recriwtio a llogi arbenigwyr meddalwedd sy’n darparu datrysiadau cyflawn sy’n bodloni holl anghenion recriwtio cwmni, o gynhyrchu hysbyseb i ddenu’r bobl gywir a’u cynnwys trwy ein meddalwedd platfform llogi sy’n arwain y farchnad.
Ni yw stop cyntaf llawer o gleientiaid ar gyfer eu hanghenion hysbysebu a chyda hynny mewn golwg, rydym yn parhau i weld galwadau cynyddol am ein cefnogaeth gan gleientiaid newydd a phresennol.
Rydyn ni nawr yn recriwtio ar gyfer Gweinyddwr i ymuno â'n tîm Gwasanaethau Cleient sy'n ymwneud â phostio a gweinyddu'r hysbysebion swyddi rydyn ni'n eu creu ar y byrddau swyddi a'r cyfryngau cymdeithasol.
Eich dydd i ddydd:
O ddydd i ddydd, mae ein Gweinyddwyr yn yr adran Gwasanaethau Cleient yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod ein hysbysebion swyddi yn cael eu postio i fyrddau swyddi gofynnol ac allfeydd cyfryngau cymdeithasol mewn modd amserol, effeithlon a chywir. Mae ein Gweinyddwyr yn sicrhau ein bod yn cyflawni'r hyn y mae ein cleientiaid yn dod i Webrecruit amdano!
Gan weithio gydag atebion awtomataidd profedig ac ymarferol ochr yn ochr â phrosesau cynnil, ystyriol, nid oes unrhyw ddau ddiwrnod yr un fath mewn gwirionedd; mae gennym ddigonedd o systemau a ffyrdd o weithio yn eu lle i wneud ein darpariaeth mor llyfn â phosibl, ond rydym hefyd yn gweithio mewn amgylchedd cyflym sy'n cyflwyno anghenion dyddiol, amrywiol sy'n creu amgylchedd gwaith cadarnhaol a deinamig.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano:
Daw ein tîm o amrywiaeth eang o gefndiroedd gyda lefelau amrywiol o brofiad. Yr hyn sy'n gwneud ein timau a'n cymdeithion yn llwyddiannus yw parodrwydd cymunedol i gyflawni gwaith rhagorol i'n cleientiaid bob dydd.
Gyda’n llwyddiannau parhaus, mae gennym ddyddiau lle gall y swm o waith sy’n dod drwodd fod yn uchel ac mae angen aelodau tîm arnom sy’n gallu addasu i’r cyfnodau hyn o fusnes gyda dull tawel a chasgledig, tra’n cadw llygad am fanylion. Bydd angen hyder arnoch hefyd i allu cyfathrebu â chleientiaid, ymgeiswyr a chydweithwyr fel ei gilydd felly mae proffesiynoldeb a galluoedd meithrin cydberthnasau yn bwysig i'r rôl hon. Mae'r gallu i siarad Cymraeg, yn ogystal â Saesneg, hefyd yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Yn benodol, byddwch yn:
- Postio swyddi gweigion cymeradwy cleientiaid i fyrddau swyddi - Golygu hysbysebion byw ar fyrddau swyddi - Cydgysylltu â chyflenwyr a'r tîm masnachol yn ôl yr angen i sicrhau bod rolau'n cael eu gosod ar fyrddau swyddi cyffredinol ac arbenigol - Rheoli ac ymateb i ymholiadau a cheisiadau yn y mewnflwch gwasanaethau a rennir - Cysylltu â chleientiaid, ymgeiswyr a chydweithwyr dros y ffôn
Nid yw hon yn rhestr hollgynhwysfawr o ddyletswyddau, ac mae digon i gymryd rhan ynddo gan gynnwys sefydlu cyfrifon brand ar gyfer cleientiaid ar y byrddau swyddi, gweinyddu ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol, cefnogi cleientiaid ac ymgeiswyr ar eu teithiau a mwy!
Bydd gan ymgeiswyr delfrydol brofiad o weithio mewn swyddogaeth weinyddol naill ai mewn Hysbysebu neu Recriwtio, neu'r ddau; fodd bynnag, nid yw hyn yn orfodol a'r hyn yr ydym yn chwilio amdano mewn gwirionedd yw sgiliau gweinyddol cryf ac amlwg, llygad am fanylion ac ymrwymiad i wneud swydd yn iawn.
Beth fyddwch chi'n ei gael yn gyfnewid?
- Cyflog o £22,500 DOE - Cynllun bonws (ar ôl cyfnod prawf) - Cynllun pensiwn - 23 diwrnod o wyliau pro rata (cynyddu gyda gwasanaeth i 25) - Polisi gwisgo i lawr - Gweithio o gartref - Hyfforddiant cynhwysfawr
Fe welwch ein bod ni’n dîm amrywiol o unigolion gydag ehangder o brofiad, cefndiroedd a diddordebau ac mae hyn oll yn cyfrannu at ein gweithle fel rhywbeth yr ydym ni yn Webrecruit yn falch ohono. Rydyn ni'n gweithio o gartref, yn 'gyfarfodydd' Zoom ac yn sgwrsio DM y dyddiau hyn - rydyn ni'n gyson mewn cysylltiad â'n gilydd er ein bod ni'n bell. Rydym hefyd nawr yn ôl yn y swyddfa un diwrnod yr wythnos!
Cynhelir cyfweliadau trwy sgwrs fideo a bydd y broses recriwtio yn cynnwys profion ysgrifennu a sgiliau ochr yn ochr â'r broses ymgeisio a chyfweld.
Cynigir y rôl hon ar sail amser llawn.
Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Gynorthwyydd Gweinyddol, Cynorthwy-ydd Gweinyddol, Cynorthwy-ydd Cymorth Gweinyddol, Swyddog Gweinyddol, Gweinyddwr Recriwtio, Gweinyddwr Adnoddau Dynol, Gweinyddwr Hysbysebu, neu Weithredwr Gweinyddol.
Mae Webrecruit yn gyflogwr cyfle cyfartal, yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac wedi ymrwymo'n gryf i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth cyfartal i bob gweithiwr a phob ymgeisydd am gyflogaeth. Cyfle cyfartal yw’r unig ffordd dderbyniol o gynnal busnes a chredwn po fwyaf cynhwysol yw ein hamgylcheddau, gorau oll fydd ein gwaith.
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Weinyddwr yn Webrecruit, dewiswch y botwm ymgeisio a chyflwynwch lythyr eglurhaol cyffrous ochr yn ochr â'ch CV a chwestiynau ategol.
Cyflog
💰 £22,500
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!