Swyddi Cymraeg
3 swydd yn cyfateb
Arweinydd
Cylch Meithrin Dechrau'n Deg Gwdihŵ
Mae Cylch Meithrin Dechrau'n Deg Gwdihŵ yn edrych am Arweinydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydy’r rôl hon yn addas i chi?
Rydym yn chwilio am arweinydd brwdfrydig ac ymroddedig i arwain ein cylch Cymraeg a sicrhau'r safonau uchaf o ofal, dysgu a chwarae i blant bach.
Rydym yn edrych am rywun:
sy’n angerddol am roi’r dechrau gorau i blant drwy gyfrwng y Gymraeg
sydd â’r gallu i arwain, ysbrydoli a chefnogi tîm o staff
sy’n gallu sicrhau gwasanaeth o safon uchel sy’n ddiogel, cynhwysol a chroesawgar
sy’n meddu ar sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol ac yn gallu adeiladu perthnasoedd cadarnhaol gyda phlant, teuluoedd a phartneriaid
sy’n ymrwymedig i ddatblygu’r Gymraeg, hyrwyddo dysgu drwy chwarae a chreu profiadau cyfoethog i bob plentyn
sy’n gallu sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion rheoleiddiol a diogelu, gan arwain drwy esiampl
Dyma gyfle cyffrous i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant a theuluoedd wrth arwain gwasanaeth Cymraeg o’r radd flaenaf yn y gymuned.
Lleoliad: Cylch Meithrin Dechrau'n Deg Gwdihw, Brynithel
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
Ceri Preston, Dirprwy Reolwr Talaith
Rhif Ffôn: 07494491884
E-bost: [email protected]
Gwneud Cais:
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma:
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Cyflog
💰 MCC8 £28,879.50 pro rata (£14.81 yr awr). Gwir gyflog ar sail gweithio 33.25 awr yr wythnos £21,962.49.
Lleoliad
📍 Blaenau Gwent
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cylch Meithrin Gwdihw yn edrych am Gynorthwyydd Achlysurol
Ydy’r rôl hon yn addas i chi?
Rydym yn chwilio rywun:
sy’n garedig, brwdfrydig ac ymroddedig
sy’n mwynhau gweithio gyda phlant bach
sydd â natur ofalgar a’r gallu i chwarae, dysgu a meithrin perthnasoedd cadarnhaol
sydd eisiau gweithio mewn amgylchedd Cymraeg, croesawgar a llawn cariad
Gofyniad Iaith: Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Dylech fod yn rhugl yn y Gymraeg neu’n ddysgwr sydd â lefel dderbyniol o Gymraeg i gyflwyno’r iaith i blant bach.
Lleoliad: Cylch Meithrin Dechrau'n Deg Gwdihw, Brynithel
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
Ceri Preston, Dirprwy Reolwr Talaith
Rhif Ffôn: 07494491884
E-bost: [email protected]
Gwneud Cais:
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma:
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Cyflog
💰 £12.71 yr awr
Lleoliad
📍 Blaenau Gwent
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Gweithiwr Cefnogi Anghenion Ychwanegol
Cylch Meithrin Dechrau'n Deg Gwdihŵ
Mae Cylch Meithrin Dechrau'n Deg Gwdihŵ yn edrych am Gweithiwr Cefnogi Anghenion Ychwanegol
Ydy’r rôl hon yn addas i chi?
Bydd y rôl hon yn cynnwys:
- Cynnig cymorth a chefnogaeth briodol er mwyn sicrhau bod plentyn ag anghenion ychwanegol yn cael yr un cyfleoedd â’i gyfoedion i fwynhau ac elwa o holl weithgareddau’r Cylch.
- Sicrhau bod plentyn ag anghenion ychwanegol yn cael ei gynnwys yn llawn ym mhob agwedd o waith y Cylch, gan addasu adnoddau, amgylcheddau a gweithgareddau lle bo angen.
Rydym yn chwilio am rywun:
- Sy’n garedig, brwdfrydig ac ymroddedig.
- Sy’n credu ym mhwysigrwydd cynhwysiant a sicrhau cyfleoedd cyfartal i bob plentyn.
- Sy’n mwynhau gweithio gyda phlant bach ac sydd â diddordeb mewn cefnogi eu datblygiad a’u lles.
- Sydd â natur ofalgar a’r gallu i chwarae, dysgu a meithrin perthnasoedd cadarnhaol.
- Sy’n amyneddgar, yn gefnogol ac yn sensitif i anghenion unigol plant.
- Sy’n gallu gweithio’n dda fel rhan o dîm ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu da.
- Sydd eisiau gweithio mewn amgylchedd Cymraeg, croesawgar a llawn cariad.
Lleoliad: Cylch Meithrin Dechrau'n Deg Gwdihŵ, Brynithel
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â: Ceri Preston, Dirprwy Reolwr Talaith y De Ddwyrain
Rhif Ffôn: 07494491884
E-bost: [email protected]
Gwneud Cais:
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma:
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Cyflog
💰 £25,564.50 pro rata (£13.11 yr awr)
Lleoliad
📍 Blaenau Gwent
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.