Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Mae Cylch Meithrin Gwdihw yn edrych am Gynorthwyydd Achlysurol
Ydy’r rôl hon yn addas i chi?
Rydym yn chwilio rywun:
sy’n garedig, brwdfrydig ac ymroddedig
sy’n mwynhau gweithio gyda phlant bach
sydd â natur ofalgar a’r gallu i chwarae, dysgu a meithrin perthnasoedd cadarnhaol
sydd eisiau gweithio mewn amgylchedd Cymraeg, croesawgar a llawn cariad
Gofyniad Iaith: Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Dylech fod yn rhugl yn y Gymraeg neu’n ddysgwr sydd â lefel dderbyniol o Gymraeg i gyflwyno’r iaith i blant bach.
Lleoliad: Cylch Meithrin Dechrau'n Deg Gwdihw, Brynithel
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
Ceri Preston, Dirprwy Reolwr Talaith
Rhif Ffôn: 07494491884
E-bost: [email protected]
Gwneud Cais:
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma:
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Cyflog
💰 £12.71 yr awr
Lleoliad
📍 Blaenau Gwent
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.