Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Swyddog Prosiect Cynllun Twf
Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn edrych am Swyddog Prosiect Cynllun Twf
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi'n angerddol am adeiladu cyfleoedd ar gyfer Gogledd Cymru, gyda sgiliau pobl da a'r gallu i gyflawni o fewn amserlenni? Os felly, gall y Swyddog Prosiect Cynllun Twf sy’n cynnig trefniadau gweithio ystwyth, model gweithio hybrid, hawl i wyliau blynyddol hael ynghyd a chyfleoedd hyfforddiant a datblygiad personol o fewn tîm bach cyfeillgar mewn awyrgylch gefnogol - fod yn rôl i chi.
Rydym yn ehangu ein tîm y Uchelgais Gogledd Cymru ac yn chwilio am Swyddog Prosiect i ymuno â ni a helpu i gyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru. Nod y Cynllun Twf yw adeiladu economi bywiog, cynaliadwy a gwydn yng Ngogledd Cymru, gan fynd i’r afael â’r heriau hirdymor sy’n wynebu’r rhanbarth i sicrhau twf cynhwysol carbon isel.
Byddwch yn gweithio gyda'r Rhaglen Bwyd-amaeth a Thwristiaeth a'r Rhaglen Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uwch. Mae’r swydd yn rhoi’r cyfle i chwarae rhan annatod wrth gyflawni prosiectau trawsnewidiol yng Ngogledd Cymru a fydd yn cael effaith ar yr economi, ysgogi twf cynaliadwy, cynyddu buddsoddiad yn ein rhanbarth a chreu swyddi.
Fel Swyddog Prosiect y Cynllun Twf bydd eich cyfrifoldebau yn cynnwys:
• Rheoli a chyflawni prosiectau ar draws y Cynllun Twf gan gynnwys dylunio, datblygu achosion busnes, negodi a chynllunio, drwy gymeradwyo a gweithredu;
• Rheoli adnoddau gan gynnwys dyrannu a rheoli gwaith;
• Darparu cymorth proffesiynol gan gynnwys sicrwydd ansawdd i bob rhaglen o fewn portffolio ehangach y Cynllun Twf;
• Cefnogi'r gwaith o gydlynu a goruchwylio systemau a disgyblaethau rheoli rhaglenni i safon diwydiant.
Mae gennym ddiddordeb mewn siarad â phobl am rôl Swyddog Prosiect y Cynllun Twf sydd â’r sgiliau a’r profiad canlynol:
• Gwybodaeth dda am ddulliau a thechnegau rheoli prosiect ar gyfer cynllunio, monitro a rheoli aseiniadau;
• Profiad amlwg o gyflawni prosiectau'n llwyddiannus o fewn terfynau amser ac o fewn y gyllideb;
• Dealltwriaeth o arferion rheolaeth ariannol;
• Y gallu i gyflwyno, defnyddio a dehongli gwybodaeth yn hyderus.
• Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol, ond nid yw'n hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Mae’r tîm wedi mabwysiadu model gweithio hybrid, gyda cymysgedd o weithio o’n swyddfa yng Nghyffordd Llandudno ac gweithio o gartref. Bydd Swyddog Prosiect y Cynllun Twf yn derbyn cyflog o £28,226 - £30,095 y flwyddyn ynghyd ac aelodau o gynllun pensiwn llywodraeth leol ac hawl gwyliau blynyddol hael. Mae’r rôl hon yn llawn amser; ond byddwn yn ystyried ceisiadau gweithio hyblyg ar gyfer y person cywir. I ddechrau mae hon yn swydd cyfnod penodol tan fis Mawrth 2024, gyda phosibilrwydd o estyniad.
Os yw hyn yn swnio fel y rôl i chi, cliciwch ar y botwm ymgeisio ar-lein a byddwn yn cysylltu â chi gyda’r camau nesaf yn y broses ymgeisio. Edrychwn ymlaen at glywed ganddo chi. Mae Gogledd Cymru yn le ardderchog i fyw a gweithio a gallwch chwarae rhan allweddol wrth lunio ei ddyfodol.
Dyddiad Cau: 10:00yb Dydd Llun 7fed Tachwedd, 2022. Bydd angen cyflwyno pob dogfen gais erbyn y dyddiad hwn. Wrth wneud cais, anfonir cyfarwyddiadau pellach atoch ynghylch y broses ymgeisio. Cynhelir cyfweliadau ar 17 Tachwedd 2022.
*Ariennir y swydd hon yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.
** Croesawir ceisiadau gan raddedigion a byddai graddedigion yn cael eu penodi ar ein graddfa Rheolwr Prosiect Graddedig.
Hysbysebion Cyfryngau Cymdeithasol
• A ydych chi wedi cyflawni prosiectau'n effeithiol ac yn chwilio am y cam nesaf? Os felly, efallai mai dyma'r rôl i chi.
• A ydych wedi cyflawni prosiectau'n effeithiol ac yn chwilio am her newydd? Ydych chi eisiau cefnogi newid trawsnewidiol ar gyfer Gogledd Cymru?
• Ydych chi'n chwilio am her newydd? Fel Swyddog Prosiect y Cynllun Twf gallwch chwarae rhan allweddol wrth gyflawni prosiectau trawsnewidiol ar draws Gogledd Cymru..
Cyflog
💰 £28,226 - £30,095
Lleoliad
📍 Cyffordd Llandudno
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.