Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Prosiect Cynllun Twf

💰 £28,226 - £30,095 📍 Cyffordd Llandudno Ar gau

Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn edrych am Swyddog Prosiect Cynllun Twf

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Ydych chi'n angerddol am adeiladu cyfleoedd ar gyfer Gogledd Cymru, gyda sgiliau pobl da a'r gallu i gyflawni o fewn amserlenni? Os felly, gall y Swyddog Prosiect Cynllun Twf sy’n cynnig trefniadau gweithio ystwyth, model gweithio hybrid, hawl i wyliau blynyddol hael ynghyd a chyfleoedd hyfforddiant a datblygiad personol o fewn tîm bach cyfeillgar mewn awyrgylch gefnogol - fod yn rôl i chi.

Rydym yn ehangu ein tîm y Uchelgais Gogledd Cymru ac yn chwilio am Swyddog Prosiect i ymuno â ni a helpu i gyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru. Nod y Cynllun Twf yw adeiladu economi bywiog, cynaliadwy a gwydn yng Ngogledd Cymru, gan fynd i’r afael â’r heriau hirdymor sy’n wynebu’r rhanbarth i sicrhau twf cynhwysol carbon isel.

Byddwch yn gweithio gyda'r Rhaglen Bwyd-amaeth a Thwristiaeth a'r Rhaglen Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uwch. Mae’r swydd yn rhoi’r cyfle i chwarae rhan annatod wrth gyflawni prosiectau trawsnewidiol yng Ngogledd Cymru a fydd yn cael effaith ar yr economi, ysgogi twf cynaliadwy, cynyddu buddsoddiad yn ein rhanbarth a chreu swyddi.

Fel Swyddog Prosiect y Cynllun Twf bydd eich cyfrifoldebau yn cynnwys:

•   Rheoli a chyflawni prosiectau ar draws y Cynllun Twf gan gynnwys dylunio, datblygu achosion busnes, negodi a chynllunio, drwy gymeradwyo a gweithredu;

•   Rheoli adnoddau gan gynnwys dyrannu a rheoli gwaith;

•   Darparu cymorth proffesiynol gan gynnwys sicrwydd ansawdd i bob rhaglen o fewn portffolio ehangach y Cynllun Twf;

•   Cefnogi'r gwaith o gydlynu a goruchwylio systemau a disgyblaethau rheoli rhaglenni i safon diwydiant.

Mae gennym ddiddordeb mewn siarad â phobl am rôl Swyddog Prosiect y Cynllun Twf sydd â’r sgiliau a’r profiad canlynol:

•   Gwybodaeth dda am ddulliau a thechnegau rheoli prosiect ar gyfer cynllunio, monitro a rheoli aseiniadau;

•   Profiad amlwg o gyflawni prosiectau'n llwyddiannus o fewn terfynau amser ac o fewn y gyllideb;

•   Dealltwriaeth o arferion rheolaeth ariannol;

•   Y gallu i gyflwyno, defnyddio a dehongli gwybodaeth yn hyderus.

•   Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol, ond nid yw'n hanfodol ar gyfer y rôl hon.

Mae’r tîm wedi mabwysiadu model gweithio hybrid, gyda cymysgedd o weithio o’n swyddfa yng Nghyffordd Llandudno ac gweithio o gartref. Bydd Swyddog Prosiect y Cynllun Twf yn derbyn cyflog o £28,226 - £30,095 y flwyddyn ynghyd ac aelodau o gynllun pensiwn llywodraeth leol ac hawl gwyliau blynyddol hael. Mae’r rôl hon yn llawn amser; ond byddwn yn ystyried ceisiadau gweithio hyblyg ar gyfer y person cywir. I ddechrau mae hon yn swydd cyfnod penodol tan fis Mawrth 2024, gyda phosibilrwydd o estyniad.

Os yw hyn yn swnio fel y rôl i chi, cliciwch ar y botwm ymgeisio ar-lein a byddwn yn cysylltu â chi gyda’r camau nesaf yn y broses ymgeisio. Edrychwn ymlaen at glywed ganddo chi. Mae Gogledd Cymru yn le ardderchog i fyw a gweithio a gallwch chwarae rhan allweddol wrth lunio ei ddyfodol.

Dyddiad Cau: 10:00yb Dydd Llun 7fed Tachwedd, 2022. Bydd angen cyflwyno pob dogfen gais erbyn y dyddiad hwn. Wrth wneud cais, anfonir cyfarwyddiadau pellach atoch ynghylch y broses ymgeisio. Cynhelir cyfweliadau ar 17 Tachwedd 2022.

*Ariennir y swydd hon yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

** Croesawir ceisiadau gan raddedigion a byddai graddedigion yn cael eu penodi ar ein graddfa Rheolwr Prosiect Graddedig. 

Hysbysebion Cyfryngau Cymdeithasol

•   A ydych chi wedi cyflawni prosiectau'n effeithiol ac yn chwilio am y cam nesaf? Os felly, efallai mai dyma'r rôl i chi.

•   A ydych wedi cyflawni prosiectau'n effeithiol ac yn chwilio am her newydd? Ydych chi eisiau cefnogi newid trawsnewidiol ar gyfer Gogledd Cymru?

•   Ydych chi'n chwilio am her newydd? Fel Swyddog Prosiect y Cynllun Twf gallwch chwarae rhan allweddol wrth gyflawni prosiectau trawsnewidiol ar draws Gogledd Cymru..

Cyflog

💰 £28,226 - £30,095

Lleoliad

📍 Cyffordd Llandudno

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £543 yr awr o sain 📍 Gweithio o Adref Ar gau

💰 £15k - £18k 📍 Caeredin📍 Gweithio o Adref Ar gau

💰 £23k 📍 Y Bala Ar gau

💰 £67k - £70k 📍 Caernarfon📍 Hyblyg Ar gau

💰 £30,966 📍 Llandeilo📍 Hyblyg Ar gau

💰 £24,669 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £29k 📍 Caernarfon📍 Hybrid Ar gau

💰 £28k 📍 Llangefni Ar gau

💰 £30k 📍 Bangor📍 Hybrid Ar gau

💰 £28,459 📍 Llithfaen Ar gau

💰 £28k - £30k 📍 Hybrid📍 Pen-y-bont ar Ogwr Ar gau

💰 £23k 📍 Llithfaen Ar gau

💰 £29k - £33k 📍 Llithfaen Ar gau

💰 £29k - £33k 📍 Llithfaen Ar gau

💰 £31k 📍 Aberystwyth📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £29k - £34k 📍 Corwen Ar gau

💰 £22k - £26k 📍 Corwen📍 Gweithio o Adref Ar gau

💰 £22k - 26k 📍 Corwen📍 Gweithio o Adref Ar gau

💰 £25k - £30k 📍 Botwnnog Ar gau

💰 £35k - £45k 📍 Botwnnog Ar gau

💰 £21k 📍 Botwnnog Ar gau

💰 £29.5k 📍 Y Fenni📍 Abertyleri +23 Ar gau

💰 Soulbury 27-30 ynghyd â 3 phwynt SPA 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 Cystadleuol 📍 Caerfyrddin📍 Caernarfon +1 Ar gau