Swyddi Cymraeg — Cydlynu prosiectau
26 swydd yn cyfateb
Swyddog Cefnogi Prosiect - Twristiaeth
Mae Cadwyn Clwyd yn edrych am Swyddog Cefnogi Prosiect - Twristiaeth
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cadwyn Clwyd Cyfyngedig yn fenter gymdeithasol sy’n cynnig arweiniad a chymorth i gymunedau a mentrau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a thu hwnt. Mae’r Cwmni yn canolbwyntio’n benodol ar weithrediadau sy’n ysgogi cymryd rhan ar lawr gwlad, cydweithio ac arloesi i gefnogi prosiectau economaidd-gymdeithasol ar gyfer cymunedau a mentrau sy’n gweithredu’n lleol. Maen nhw’n cydweithio’n uniongyrchol gyda chymunedau a mentrau bach i’w cynorthwyo i ddatblygu a rhoi prosiectau ar waith sydd o fudd i economi leol yr ardal. Ar hyn o bryd mae’r Cwmni wrthi’n cyflawni prosiectau sydd wedi’u hariannu fel rhan o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU (SPF). Fel rhan o’r swydd hon, bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu cymorth prosiect i gyflawni ‘Prosiect Cronfa Allweddol Cefnogi Sector a Busnes Twristiaeth’, sydd wedi’i ariannu gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin, yn Sir y Fflint.
Bydd y swyddog cefnogi prosiect Twristiaeth yn gyfrifol dros ddarparu cymorth prosiect i gyflawni’r Prosiect Cronfa Allweddol Cefnogi Sector a Busnes Twristiaeth. Bydd y prosiect yn cynnig cyllid er mwyn datblygu a hyrwyddo’r economi ymwelwyr (masnach a defnyddwyr) megis atyniadau lleol, llwybrau, teithiau tywys a chynnyrch twristiaeth yn fwy cyffredinol. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar greu swyddi a hybu cydlyniant cymunedol, drwy fuddsoddiadau sy’n ategu diwydiannau a sefydliadau presennol. Mae’r buddsoddiadau yn amrywio o gymorth i fusnesau newydd i welliannau amlwg i gyfleusterau’r sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden lleol. Yn ei dro bydd hyn yn cynyddu buddsoddiad sector preifat mewn gweithgareddau i hybu twf, drwy gymorth wedi’i dargedu ar gyfer busnesau bach a micro i ymgymryd â gwaith sy’n torri tir newydd, gwella’u cynhyrchiant, mabwysiadu technolegau a thechnegau effeithlon o ran ynni a charbon isel a bwrw iddi gyda neu gynyddu eu hallforion.
Rydym yn chwilio am unigolyn deinamig sydd â phrofiad o gymorth prosiect i ddarparu cymorth ymarferol i gyflawni ein prosiect Prosiect Cronfa Allweddol Cefnogi Sector a Busnes Twristiaeth yn Sir y Fflint.
**Os hoffech wybod mwy, cysylltwch gyda Cara ar ebost [email protected], neu dros y ffon ar 01490 340500. **
Cyflog
💰 £22,486 - £26,465
Lleoliad
📍 Corwen, Gweithio o Adref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cefnogi Prosiect (Busnes)
Mae Cadwyn Clwyd yn edrych am Swyddog Cefnogi Prosiect (Busnes)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cadwyn Clwyd Cyfyngedig yn fenter gymdeithasol sy’n cynnig arweiniad a chymorth i gymunedau a mentrau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a thu hwnt. Mae’r Cwmni yn canolbwyntio’n benodol ar weithrediadau sy’n ysgogi cymryd rhan ar lawr gwlad, cydweithio ac arloesi i gefnogi prosiectau economaidd-gymdeithasol ar gyfer cymunedau a mentrau sy’n gweithredu’n lleol. Maen nhw’n cydweithio’n uniongyrchol gyda chymunedau a mentrau bach i’w cynorthwyo i ddatblygu a rhoi prosiectau ar waith, sydd o fudd i economi leol yr ardal. Ar hyn o bryd mae’r Cwmni wrthi’n cyflawni prosiectau sydd wedi’u hariannu fel rhan o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU (SPF). Fel rhan o’r swydd hon, bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gyflawni Cronfa Allweddol Busnes Sir Ddinbych, sydd wedi’i hariannu gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin, yn Sir Ddinbych.
Bydd y prosiect ar waith ledled Sir Ddinbych gan ymdrin â’r thema Busnesau Ffyniannus sydd ynghlwm â Chynllun Corfforaethol Sir Ddinbych a thema Cefnogi Busnes Lleol Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Bydd y prosiect yn ategu’r agenda codi’r gwastad er mwyn hybu cynhyrchiant, tâl, swyddi a safonau byw drwy ddatblygu’r sector preifat, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny sydd ar ei hôl hi o ran hynny. Rydym yn chwilio am unigolyn deinamig sydd â phrofiad o gymorth prosiect i ddarparu cymorth ymarferol i gyflawni ein prosiect Cymorth Busnes yn Sir Ddinbych.
Cysylltwch gyda Cara drwy ebost neu ffoniwch am fwy o wybodaeth: [email protected] / 01490 340500
Cyflog
💰 £22,486 - £26,465
Lleoliad
📍 Corwen, Gweithio o Adref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Prosiect (1 FTE)
Mae Menter a Busnes yn edrych am Gydlynydd Prosiect (1 FTE)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyfle gwych i ymuno â thîm Cyswllt Ffermio i gydlynu a chefnogi’r gwaith o ddarparu Agrisgôp, y rhaglen fentora ac academi Amaeth i ffermwyr yng Nghymru.
Disgrifiad:
Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn brosiect integredig ac uchel ei broffil sy’n cynnig cefnogaeth, cyngor a hyfforddiant i’r sector amaeth trwy Gymru gyfan. Ei brif ffocws yw i gynorthwyo ffermwyr i baratoi tuag at y Cynllun Ffermio Cynaliadwy gan annog y sector i addasu ac i barhau i fod yn gystadleuol tra’n symud tuag at economi carbon isel. Nod
Cydlynu a chefnogi'r gwaith o ddarparu Agrisgôp, y rhaglen fentora ac academi Amaeth i ffermwyr yng Nghymru gan sicrhau bod targedau'n cael eu cyflawni a bod y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu o'r safon uchaf. Prif Gyfrifoldebau
· Cydlynu pob elfen o gadw cofnodion ac adrodd ar gyfer elfennau perthnasol rhaglen Cyswllt Ffermio a gweithredu gwelliannau i brosesau gweinyddu lle bo angen
· Darparu cymorth gweinyddu i'r tîm o arweinwyr Agrisgôp i sicrhau bod cofnodion o'u gweithgareddau a'u grwpiau yn cael eu cofnodi a'u dadansoddi i'r terfynau amser y cytunwyd arnynt a mynd ar drywydd gwaith papur coll lle bo angen
· Rhoi cymorth gweinyddol ar gyfer fframwaith mentoriaid ffermwr i sicrhau bod dyddiaduron ac anfonebau mentora yn cael eu derbyn yn unol â'r terfynau amser y cytunwyd arnynt a mynd ar drywydd gwaith papur coll lle bo angen
· Ymdrin ag ymholiadau'n ymwneud â'r rhaglen a datblygu asesiad clir a dealltwriaeth o anghenion y ffermwr a'r coedwigwr cyn eu cofrestru gyda'r pecyn cymorth mwyaf priodol
· Cynorthwyo cwsmeriaid sydd wedi cofrestru gyda'r rhaglen i wneud cais am wasanaethau eraill a fydd yn cefnogi eu dilyniant drwy Cyswllt Ffermio
· Cyfathrebu â ffermwyr yn rheolaidd gan weithredu fel prif bwynt cyswllt i'r rhai sy'n dymuno gwneud cais am fentor, gan eu tywys drwy gydol y broses fentora
· Gweithio gydag arweinydd y tîm i neilltuo mentoriaid i fentoreion pan fydd ceisiadau'n cael eu cyflwyno a chyhoeddi'r gwaith papur perthnasol
· Sicrhau bod yr holl gofnodion sy'n ymwneud â'r gweithgareddau o'r safonau uchaf ac yn cydlynu coladu adborth cwsmeriaid
· Cysylltu ag Arweinwyr yr Academi Amaeth i'w cefnogi gyda threfnu a chynnal dosbarthiadau'r Academi Amaeth
· Cydlynu proses recriwtio’r Academi Amaeth a hysbysu ymgeiswyr llwyddiannus/aflwyddiannus
· Bod yn gyfrifol am archebu lleoliadau, lluniaeth a threfnu cludiant pan fo angen
· Sicrhau bod gweithgareddau a digwyddiadau'n rhedeg yn llyfn a rhoi gwerth i gwsmeriaid · Bod yn gyfrifol am gasglu gwybodaeth cleientiaid ar yr holl gyfranogwyr a'r mynychwyr a sicrhau eu bod yn cael eu lanlwytho i'r gronfa ddata ganolog (BAS)
· Gweithio'n agos gyda'r Swyddogion Datblygu i sicrhau bod ymholiadau yn ymwneud â gweithgareddau Datblygu a Mentora yn cael eu trin yn unol â hynny
· Cyflenwi ystadegau cywir ar gyfer yr adroddiadau misol a monitro niferoedd sy'n mynychu gweithgareddau gan sicrhau bod y cronfeydd data a'r systemau canolog (BAS a CMS) yn cael eu diweddaru mewn modd amserol
· Coladu'r gwaith papur a gyflwynir gan is-gontractwyr a gwirio ei fod yn bodloni'r gofynion angenrheidiol **Arall **
· Sicrhau bod safonau ansawdd, gwasanaeth cwsmeriaid, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch yn cael eu bodloni
· Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill a chynrychioli Menter a Busnes yn ôl yr angen Sgiliau a Phrofiad
Hanfodol
· Addysg hyd at lefel gradd mewn amaeth neu bwnc perthnasol neu brofiad dangosadwy o weithio yn y sector amaeth yng Nghymru
· Gallu i asesu a deall yn glir anghenion busnesau fferm/coedwigaeth, y gefnogaeth sydd angen a’i gofynion
· Sgiliau cydlynu a threfnu rhagorol
· Sgiliau gweinyddol a rhyngbersonol gwych
· Gallu asesu a delio gydag ymholiadau’n gyflym ac effeithiol
· Gallu adnabod anghenion y cwsmer a thynnu’r wybodaeth berthnasol i deilwra cyngor i ofynion penodol y cwsmer
· Cyfathrebu llafar o safon uchel
· Sgiliau ysgrifenedig dwyieithog cywir
· Sgiliau gwasanaeth cwsmer rhagorol
· Dealltwriaeth dda neu brofiad o’r sector amaethyddiaeth / gwledig
· Gallu mewnbynnu data’n gywir a chydymffurfio gyda deddfau diogelu data perthnasol
· Gallu ysgogi ei hun i weithio gan dderbyn y cyfrifoldeb am osod ac adolygu blaenoriaethau i gyflawni ei amcanion a’i waith ei hun, gan ystyried anghenion y cwsmer
· Rhagweithiol a brwdfrydig am waith yr Adran Wledig
· Gallu bod yn rhagweithiol a gyrru pethau ymlaen yn effeithlon
· Gallu parhau gyda’i waith ei hun yn ogystal â bod yn rhan o dîm
· Sgiliau TG rhagorol gan gynnwys - Windows; Meddalwedd cynhyrchiant (e-bost, prosesu geiriau, taenlenni, ffeilio data); Defnydd diogel o gyfrifiaduron a'r rhyngrwyd (chwilio a phori'r we, defnyddio gwefannau a chymwysiadau ar-lein)
· Os yn gweithio o adref am unrhyw adeg, bydd gofyn bod gennych gysylltiad rhyngrwyd addas yn barod
· Trwydded yrru lawn a char i’w ddefnyddio
· Ar gael i weithio gyda’r nos fel y bo’r gofyn **Dymunol **
· Gwybodaeth am raglen Cyswllt Ffermio Gwneud Cais
Gellir gwneud ceisiadau am y swydd hon drwy lawrlwytho a chwblhau’r ffurflen gais a’r ffurflen monitro cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan: www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected] Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ag Einir Davies ar 07985 155 514 neu [email protected] Dyddiad Cau
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 10.00yb, dydd Llun, 13 Mawrth 2023. Cyfweliadau Cynhelir cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn rhithiol ar wythnos cychwyn 20 Mawrth 2023. Os yw’r dyddiad yn anghyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais. Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Mae ein Polici Cydraddoldeb ac Amyrwiaeth i’w weld ar ein gwefan.
Cyflog
💰 £21,979 - £23,749
Lleoliad
📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Cyfieithu a Llif Gwaith
Mae Atebol yn edrych am Gydlynydd Cyfieithu a Llif Gwaith
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Atebol yn gwmni bywiog sydd yn gweithredu o fewn y sector greadigol.
Rydyn ni'n creu cynnwys er mwyn agor drysau - drysau i ddysgu, i hwyl, i gyfro ac i ddealltwriaeth. Ar Bapur. Ar-lein. Ar Sgrin. Mewn Bywyd Bob Dydd.
Rydym yn chwilio am berson trefnus i ymuno a'r tîm cyfieithu i helpu gyda'r gwaith gweinyddu.
Cefnogi'r tîm i sicrhau ein bod yn darparu cyfieithiadau ac isdeitlau o ansawdd yn effeithlon ac ar amser. Bydd angen amserlennu, monitro a chyfathrebu yn effeithiol. Mae darparu gwasanaeth eithriadol i’n Cleientiaid, yn ogystal â ffocws ar ansawdd yn bwysig iawn i Atebol.
Mae hyblygrwydd a'r gallu i weithio fel rhan o dîm yn hanfodol. Yn amlwg mae llygad am fanylder yn bwysig iawn i’r swydd. Yn ogystal, mae angen gallu gweithio yn gywir o dan bwysau amserlen dynn ar adegau. Ydych chi'n frwdfrydig? Rydym yn barod i ystyried hyblygrwydd o ran y math o gytundeb a pherthynas.
Cysylltwch os am sgwrs anffurfiol a rhagor o wybodaeth. [email protected]
Cyflog
💰 Yn ddibynnol ar brofiad
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cefnogi a Chydlynydd Digwyddiadau
Mae Menter a Busnes yn edrych am Swyddog Cefnogi a Chydlynydd Digwyddiadau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cywain, a ddarperir gan Menter a Busnes, yn fodel sy’n darparu cefnogaeth wedi’i dargedu ar gyfer busnesau micro a BBaCh sy’n gweithredu yn y sector bwyd a diod yng Nghymru. Rydym yn dechrau cyfnod newydd ac rydym wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020 i ddarparu gwasanaeth diwygiedig. Mae cyllid y prosiect wedi cael ei gadarnhau tan Mehefin 2023. Darperir gwasanaethau i ddatblygu capasiti a gallu busnesau, hwyluso trosglwyddo gwybodaeth a gwybodaeth y diwydiant ac atgyfnerthu integreiddiad y gadwyn gyflenwi. Mae’r ddarpariaeth ar gael ledled Cymru gyda phwyslais ar gydweithio drwy glystyru, ychwanegu gwerth a datblygu’r farchnad ar gyfer twf a chreu swyddi. Mae Cywain wedi datblygu rhwydwaith eang o randdeiliaid ac mae dull gweithredu cydlynol gyda phartneriaid datblygu eraill yn ganolog i ddatblygiad y cleientiaid. Mae tair elfen i’r prosiect: · Cefnogaeth i fusnesau newydd a micro
· Cefnogaeth diagnosteg ar gael i holl fusnesau bwyd a diod yng Nghymru
· Clystyru a chyd weithio rhwng busnesau er mwyn hyrwyddo twf ac effeithlonrwydd. Nod Cyffredinol y Swydd Nod y swydd hon yw i ddarparu cefnogaeth i dîm Cywain trwy: · gydlynu a darparu cefnogaeth i dîm y prosiect, a fydd yn cynnwys darparu gwybodaeth, gweithredu a chofnodi gweithgareddau ar fasdata a systemau rheoli cwsmer
· bod yn gyfrifol dros ddarparu gwybodaeth am y prosiect, megis data allbynnau, at ddefnydd mewnol yn ogystal â phartneriaid a rhanddeiliaid allanol
· sicrhau fod holl ddogfennaeth y prosiect yn gywir ac wedi cael ei archifo
· cynnal a datblygu systemau gweinyddol y cynllun
· bod yn rhyngweithiol a gweithio’n annibynnol heb oruchwyliaeth
· bod yn gyfrifol am gydlynu trefniadau gweithdai a digwyddiadau Prif Gyfrifoldebau Darparu gwybodaeth a chefnogaeth swyddfa i dîm y prosiect · Darparu cymorth gweinyddol dibynadwy ac effeithlon a chefnogaeth i dîm Cywain.
· Trefnu a chymryd cofnodion mewn cyfarfodydd (mewnol ac allanol)
· Gweithio’n agos gyda thîm Cywain i baratoi a threfnu rhaglen o weithdai a digwyddiadau
· Arwain ar gydlynu trefniadau gweithdai a digwyddiadau o ddydd i ddydd, gan gynnwys trefniadau gyda lleoliadau, hwyluswyr allanol a chleientiaid
· Bod yn gyfrifol am restru a hyrwyddo gweithdai Cywain drwy amryw o sianeli
· Cynrychioli Cywain fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau mynychwyr gweithdai a digwyddiadau
· Adolygu trefniadau a niferoedd ar gyfer pob digwyddiad er mwyn adnabod anghenion marchnata a hyrwyddo perthnasol
· Cyfathrebu yn rheolaidd ac yn effeithiol gyda Swyddog Marchnata Cywain i sicrhau llwyddiant y rhaglen o weithdai a digwyddiadau
· Teithio i leoliadau ledled Cymru i fynychu digwyddiadau, gweithdai a lansiadau prosiect ayyb
· Sicrhau bod digwyddiadau yn rhedeg yn llyfn a darparu gwerth i gwsmeriaid a gwesteion
· Cwblhau proses parhaus o werthuso llwyddiannau gweithdai gan fewnbynnu a dadansoddi data ar systemau rheoli cwsmer y cwmni
· Cyfathrebu gydag asiantaethau allanol perthnasol
· Cydlynu a chrynhoi gweithgareddau misol aelodau’r tîm er mwyn cynhyrchu adroddiadau misol a chwarterol (meintiol ac ansoddol)
· Casglu, cyflwyno a storio'r holl wybodaeth angenrheidiol yn unol â gofynion cyllid a monitro’r cynllun
· Sicrhau bod ffeiliau’r tîm yn cynnwys yr wybodaeth sy’n ofynnol a chefnogi’r Rheolwr Prosiect i gynnal archwiliad rheolaidd
· Datblygu a rheoli cronfa ddata cleientiaid a systemau ar gyfer casglu gwybodaeth a deilliannau’r prosiect
· Cofnodi targedau’r tîm a’u gwirio yn erbyn dogfennau cymeradwyaeth
· Sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r ddeddfwriaeth diogelu data priodol
· Ymdrin ag ymholiadau ar lein a thros y ffôn a’u hanfon ar y swyddogion priodol mewn modd amserol a phroffesiynol
· Cadw cofnodion yn effeithlon o fewn fframwaith cytûn i fodloni gofynion ariannol Llywodraeth Cymru/Ewrop a dilysrwydd allbynnau
· Mynychu cyfarfodydd a chynrychioli’r prosiect yn ôl y galw **Ymchwil a Monitro **
· Cefnogi'r Arweinydd Tim Marchnata a Digwyddiadau i gofnodi, casglu a dadansoddi adborth cleientiaid
· Mewnbynnu data’n gywir
· Dadansoddi cyflawniad y prosiect o’i dargedau trwy sicrhau bod y data yn gyfredol
· Cefnogi'r Arweinydd Tîm Marchnata a Digwyddiadau i gasglu unrhyw waith papur a data monitro perthnasol
· Sicrhau bod system Rheoli Perthynas Cwsmer a chronfeydd data’rprosiect yn cael eu cynnal a'u bod yn gyfredol ac yn effeithlon
· Cysylltu â chleientiaid, darparwyr a phartneriaid allanol i gydlynu gweithgareddau / digwyddiadau **Arall **
· Sicrhau bod safonau ansawdd, gwasanaeth cwsmer, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch yn cael eu cyrraedd
· Derbyn unrhyw ddyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill yn ôl y galw
· Cynrychioli Menter a Busnes yn ôl y galw Sgiliau a Phrofiad Hanfodol
· Cymhwyster CGC lefel 3 neu uwch, a/neu brofiad dangosadwy mewn maes perthnasol
· Brwdfrydedd dros waith yr adran
· Sgiliau trefnu a chydgysylltu rhagorol gyda’r gallu i weithio i ddyddiadau tynn
· Sgiliau gweinyddol a rhyngbersonol ardderchog
· Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) rhagorol
· Sgiliau prawf ddarllen da
· Gallu asesu ac ymdrin ag ymholiadau’n effeithlon ac yn brydlon
· Gallu cymryd cofnodion mewn cyfarfodydd sy’n glir, cryno a chywir
· Gallu ysgogi ei hun yn greadigol gan dderbyn y cyfrifoldeb am osod ac adolygu blaenoriaethau i gyflawni targedau, gyda ffocws clir ar ansawdd
· Yn rhagweithiol ac yn gallu gyrru pethau ymlaen yn effeithlon
· Gallu gweithio’n annibynnol neu fel rhan o dîm
· Sgiliau TG rhagorol gan gynnwys - Windows; Meddalwedd cynhyrchiant (e-bost, prosesu geiriau, taenlenni, ffeilio data); Defnydd diogel o gyfrifiaduron a'r rhyngrwyd (chwilio a phori'r we, defnyddio gwefannau a chymwysiadau ar-lein)
· Os yn gweithio o adref am unrhyw adeg, bydd gofyn bod gennych gysylltiad rhyngrwyd addas yn barod
· Trwydded yrru lawn a defnydd o gar Manteisiol
· Gwybodaeth a dealltwriaeth am y sectorau amaeth, gwledig a bwyd yng Nghymru
· Profiad o drefnu arddangosfeydd a digwyddiadau phroffil uchel
· Profiad dangosadwy o weithio yn y diwydiant amaethyddol neu fwyd yng Nghymru
· Profiad o ddefnyddio systemau megis Salesforce, Mailchimp a Wordpress. Gwneud Cais
Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy lenwi ffurflen gais a ffurflen cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected]. Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ag Ynyr Roberts ar 02920 467 404. Cyfweliadau Byddwn yn cynnal y cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn rhithiol ar ddydd Gwener, 3ydd o Fawrth 2023. Os yw’r dyddiad hwn yn anghyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais os gwelwch yn dda. Dyddiad Cau
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 10 y bore, dydd Llun, 27 Chwefror 2023. Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Gwelwch ein gwefan i gael copi o’n Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyflog
💰 £21,979 - £23,749
Lleoliad
📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Rhaglen Cymru Fyd-eang 3
Mae Prifysgolion Cymru yn edrych am Gydlynydd Rhaglen Cymru Fyd-eang 3
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae'r swydd hon ar gyfer Cydlynydd Rhaglen yn perthyn i Brifysgolion Cymru ac yn adrodd i Swyddog Cyllid y sefydliad ar gyfer rhaglen Cymru Fyd-eang 3.
Mae Cymru Fyd-eang yn rhaglen addysg uwch ac addysg bellach ryngwladol dan arweiniad Prifysgolion Cymru. Mae'n hyrwyddo proffil Cymru fel partner o ddewis a chyrchfan astudio drwy gyflwyno golwg gydgysylltiedig o'n systemau addysg uwch ac addysg bellach mewn marchnadoedd a flaenoriaethir ac mae'n rheoli brand Astudio yng Nghymru.
Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo â gweinyddiaeth ariannol, llywodraethiant, monitro ac adrodd yn ôl ar gyfer rhaglen Cymru Fyd-eang 3.
Cynigir y swydd fel rôl barhaol, lawn-amser, ond rhoddir ystyriaeth i geisiadau am batrymau gweithio rhan-amser a hyblyg.
Cyflog
💰 £26,291
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Gweinyddwr (Siaradwr Cymraeg)
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn edrych am Weinyddwr (Siaradwr Cymraeg)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Yn Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym yn darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion a’u teuluoedd a’u gofalwyr.
I wneud hyn, rydym yn arwain ar ddatblygu a rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol, gwella gwasanaethau, data ac ymchwil i wella gofal.
Rydym nawr yn chwilio am Weinyddwr dwyieithog i ymuno â'n tîm. Mae gennym nifer o rolau ar gael, rhai ohonynt yn barhaol, rhai am gyfnod penodol a rhai rhan amser.
Y Manteision
- Cyflog o £26,894 - £29,080 y flwyddyn (pro rata ar gyfer rhan amser)
- 28 diwrnod o wyliau ynghyd â gwyliau banc (cynyddu gyda hyd gwasanaeth) (pro rata ar gyfer rhan-amser)
- Diwrnodau ychwanegol i ffwrdd rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
- Cynllun pensiwn llywodraeth leol
- Polisi gwaith hyblyg
- Gweithio hybrid
- Polisi absenoldeb teuluol
Y Rôl
Fel Gweinyddwr, byddwch yn darparu cymorth prosiect i'n prosiectau Gwella a Datblygu, grwpiau prosiect, rhwydweithiau a phartneriaethau.
Gan gydlynu cynllunio prosiect, byddwch yn darparu cymorth gweinyddol i gyfarfodydd ac yn sefydlu a chynnal systemau gweinyddol, gweithdrefnau a chronfeydd data.
Byddwch hefyd yn drafftio ac yn dosbarthu papurau, manylebau a chynlluniau ac yn sicrhau cysondeb tôn, brandio a chyfieithu.
Yn ogystal, byddwch yn:
- Coladu data a dadansoddi canlyniadau
- Trefnu digwyddiadau a chyfarfodydd
- Adolygu a diweddaru cynnwys y fewnrwyd a'r wefan
Amdanoch Chi
Er mwyn cael eich ystyried yn Weinyddwr, bydd angen:
- Rhuglder yn y Gymraeg a'r Saesneg
- Profiad o weinyddu busnes
- Profiad o ddarparu cymorth gweinyddol mewn cyfarfodydd, gan gynnwys cymryd cofnodion
- Gwybodaeth o'r sector cyhoeddus
- Rheoli amser a blaenoriaeth effeithiol
- Sgiliau trefnu a chyfathrebu ysgrifenedig rhagorol
- Hyfedredd TG, gan gynnwys Teams a Zoom
Mae’n hanfodol bod deiliad y swydd yn gallu cyflawni pob tasg a chyfrifoldeb gyda hyfedredd cyfartal yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 5 Mawrth 2023.
Bydd ceisiadau’n cael eu hadolygu wrth iddynt ddod i mewn felly gall y rôl hon gau yn gynt na’r dyddiad a hysbysebir.
Gallai sefydliadau eraill alw'r swydd hon yn Gydlynydd Prosiect, Cydlynydd Datblygu Rhaglen, Cydlynydd Gwella Rhaglen, Cynorthwyydd Gweinyddol, Gweinyddwr Prosiect, Cynorthwyydd Personol, Cynorthwyydd Personol, EA, Cynorthwyydd Gweithredol, Ysgrifennydd, Derbynnydd, neu Swyddog Gwella a Datblygu.
Felly, os ydych chi am ymuno â ni fel Gweinyddwr, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.
Cyflog
💰 £26,894 - £29,080 pro rata
Lleoliad
📍 Caerdydd, Llanelwy, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Rhaglen Greadigol
Mae Galeri Caernarfon Cyf yn edrych am Gydlynydd Rhaglen Greadigol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi’n angerddol am y celfyddydau?
Oes gennych chi syniadau am ddigwyddiadau byw sydd angen eu clywed?
Mae GALERI, Caernarfon yn chwilio am Gydlynydd Rhaglen Greadigol i weithio'n agos gyda'r Cyfarwyddwr Creadigol i gydlynu a chyflwyno rhaglen artistig amrywiol a byrlymus.
Disgrifiad:
Mae hi’n gyfnod gyffrous yn hanes y cwmni, ac rydym yn edrych i ddatblygu cyfleoedd newydd a lledaenu’n cyrhaeddiad. Ein bwriad felly yw i ehangu’r Tîm Creadigol i gynyddu ein hallbynnau a gwneud y mwyaf o bob cyfle.
Os oes gennych ddiddordeb mewn digwyddiadau byw - boed yn gerddoriaeth, drama, sgyrsiau, dawns neu unrhyw beth arall, rydym yn awyddus i glywed gennych!
Bydd prif gyfrifoldebau’r deilydd yn cynnwys:
• Gweithio'n agos gyda’r Tîm Creadigol a Phenaethiaid Adrannau i gynnal a chefnogi systemau gweinyddol gan gynnwys casglu gwybodaeth cytundebu, cyllido, cyd-arwain prosiectau a chyfathrebu mewnol sy'n drawsadrannol
• Cydlynu trawsadrannol gan gynnwys cynnal cyfarfodydd, rheoli dyddiadur a chydweithio gyda’r Tîm Creadigol i greu adroddiadau adrannol
• Cefnogi'r Cyfarwyddwr Creadigol trwy gynnal systemau gweinyddol a darparu cymorth megis ymchwil, prawfddarllen, nodiadau briffio, trefnu teithiau cenedlaethol a rhyngwladol a datblygu cyflwyniadau
• Casglu gwybodaeth am gynigion prosiectau a mentrau creadigol a anfonwyd at y Cyfarwyddwr Creadigol, cadw ar ben tueddiadau cyfredol ac ymgymryd â thasgau penodol wrth gwmpasu prosiectau a gynhwysir yn y rhaglen megis ymweliadau safle, teithiau, gweithdai, coladu gwybodaeth dechnegol, casglu adborth a chwmpasu cyllidebau
• Gweithio gyda’r Cyfarwyddwr Creadigol a’r Cydlynydd Marchnata i ymchwilio i batrymau gwerthiant, arferion prynu a gweithgareddau ar-lein
• Ymateb i ymholiadau am y rhaglen yn ôl yr angen a mynychu digwyddiadau allweddol yn yr ardal ar ran y Tîm Creadigol, gan gynrychioli Galeri
• Gweithio gyda’r Cyfarwyddwr Creadigol i raglennu’r sinema
• Gallu gweithredu’r system docynnau ‘Ticketsolve’ (creu digwyddiadau newydd a helpu i werthu tocynnau pan fo’r angen)
• Mynychu cyfarfodydd yn rheolaidd (gan gynnwys cyfarfodydd gweithrediadau, cyfarfodydd adran ac unrhyw gyfarfodydd eraill fel sy’n briodol)
• Cyd-ddatblygu prosiectau masnachol i ddatblygu cynulleidfaoedd, megis cynllun cyfeillion
• Helpu i sefydlu Galeri fel ychwanegiad dymunol at y gylchdaith ar gyfer darparwyr a pherfformwyr perthnasol
• Bod yn greadigol wrth ddatblygu syniadau
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol a chlir yn y Gymraeg yn hanfodol i’r swydd hon.
Fel cyflogwr rydym yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Croesewir ceisiadau o bob rhan o gymdeithas er mwyn adlewyrchu’r ddemograffeg leol ac ehangach yn fanwl gywir, a thrwy hynny ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth.
Cyflog
💰 £21,000 - £25,000
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cymorth Busnes (3 swydd), Y Gwasanaeth Cyfieithu
Mae Llywodraeth Cymru yn edrych am Swyddog Cymorth Busnes (3 swydd), Y Gwasanaeth Cyfieithu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dyma gyfle arbennig i chi weithio ar lefel Cymorth Tîm yn Llywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaeth dwyieithog (Cymraeg a Saesneg), proffesiynol a chyfeillgar i’n cwsmeriaid.
Disgrifiad:
Swyddog Cymorth Busnes (3 swydd), Y Gwasanaeth Cyfieithu
Graddfa gyflog: TS - £21,300 - £24,630
Lleoliad: Cymru gyfan. Mae staff y Gwasanaeth Cyfieithu yn gweithio gartref yn bennaf, ond mae desgiau gennym yn y swyddfeydd canlynol: Aberystwyth, Caerdydd, Caerfyrddin, Caernarfon a Chyffordd Llandudno.
2 x Parhaol, 1 x Cyfnod penodol 12 mis
Dyma gyfle arbennig i chi weithio ar lefel Cymorth Tîm yn Llywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaeth dwyieithog (Cymraeg a Saesneg), proffesiynol a chyfeillgar i’n cwsmeriaid.
Uned Fusnes y Gwasanaeth Cyfieithu yw’r pwynt cyswllt cyntaf i gwsmeriaid, sef gweision sifil o bob rhan o Lywodraeth Cymru, er mwyn cefnogi’r sefydliad i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg a Rheolau Sefydlog y Senedd. Byddwch yn defnyddio systemau TG arbenigol i ddadansoddi a pharatoi dogfennau ar gyfer y broses gyfieithu; yn darparu cymorth busnes a chyllid i’r tîm rheoli a’r cyfieithwyr yn gyffredinol; yn cysylltu â chyfieithwyr mewnol ac allanol, ac yn cydlynu’r gwaith cyfieithu allanol.
**PRIF GYFRIFOLDEBAU **
Cefnogi prosiectau cyfieithu (cyfieithu cyffredinol a deddfwriaethol, a chyfieithu ar y pryd)
1. Bod yn gyfrifol am fonitro a blaenoriaethu ceisiadau am wasanaethau cyfieithu.
2. Ymateb yn brydlon i geisiadau, gan drafod â’r cwsmer yn ôl y galw er mwyn cael y wybodaeth angenrheidiol (ee dyddiadau dychwelyd a gofynion penodol) ar gyfer darparu gwasanaeth safonol ac amserol.
3. Paratoi prosiectau cyfieithu yn seiliedig ar geisiadau gan gwsmeriaid - dadansoddi pob cais yn drylwyr, dehongli natur y cais yng nghyd-destun safonau’r Gymraeg a/neu’r Rheolau Sefydlog, a thrafod y gwaith ag arweinwyr y timau cyfieithu.
4. Manteisio ar bob cyfle i baratoi'r gwaith mewn ffordd sy'n sicrhau proses gyfieithu effeithlon, ee drwy ddefnyddio meddalwedd cyfieithu i ddadansoddi a pharatoi prosiectau cyfieithu.
5. Dilyn prosesau sy'n gyson ag arferion ar draws yr Uned Fusnes wrth brosesu ceisiadau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd, ac awgrymu gwelliannau i’r prosesau os oes angen.
6. Defnyddio’r fframwaith cyfieithu allanol i gomisiynu gwaith cyfieithu a chyfieithu ar y pryd, a bod yn bwynt cyswllt cyntaf i gyfieithwyr allanol.
7. Cymryd rhan yn rota gwaith yr Uned Fusnes i sicrhau gwasanaethau di-dor yn ystod oriau swyddfa (08:30 tan 16:30)
Cefnogi’r busnes
1. Cyflawni tasgau amrywiol sy'n cael eu rhannu rhwng aelodau'r Uned Fusnes, ee trefnu cyfarfodydd a chyflwyniadau, cadw cofnodion, casglu data ac ystadegau, archebu offer a nwyddau swyddfa, a helpu i osod a chynnal offer cyfieithu ar y pryd.
2. Datblygu a defnyddio sgiliau TG arbenigol sy'n allweddol i waith y Gwasanaeth Cyfieithu (ee defnyddio meddalwedd cof cyfieithu i greu prosiectau, cysoni a dadansoddi dogfennau, a mewnforio ac allforio cofau cyfieithu a ddarperir ar gyfer cyfieithwyr allanol) a systemau corfforaethol.
3. Cynorthwyo gydag unrhyw agwedd arall ar weinyddiaeth a phrosiectau corfforaethol cyffredinol y gangen, yn unol â chyfarwyddiadau’r rheolwr llinell neu staff uwch.
Mae angen sgiliau Cymraeg ar gyfer y swyddi hyn – mae rhagor o wybodaeth yn yr hysbyseb ar wefan y Llywodraeth.
Dyddiad cau: 09/01/23 16:00
Cyflog
💰 £21,300 - £24,630
Lleoliad
📍 Cymru, Unrhyw un o’n swyddfeydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Allgymorth ar gyfer prosiect Pendinas
Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn edrych am Swyddog Allgymorth ar gyfer prosiect Pendinas
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae prosiect Pendinas yn brosiect cymunedol 18 mis i ddysgu mwy am y fryngaer sy’n amlwg iawn yn yr ucheldir uwchben Penparcau. Bydd y prosiect yn ceisio ateb cwestiynau am hanes y fryngaer ar hyd yr oesoedd a thaflu goleuni ar y ffyrdd y bu i’n cyndeidiau ddefnyddio’r safle. Bydd canlyniadau rhaglen o gloddio ac arolwg geoffisegol yn darparu'r deunydd ar gyfer gweithgareddau cymunedol amrywiol, gan gynnwys creu ffilmiau, creu crochenwaith, prosiectau ysgolion, teithiau tywys ac adrodd straeon. Byddwn hefyd yn gweithio gydag arbenigwyr bywyd gwyllt lleol i glirio rhedyn ac eithin a gwella’r safle ar ben y bryn ar gyfer y planhigion prin, yr adar, yr infertebrata a’r trychfilod sydd â chartref ym Mhen Dinas. Bydd y prosiect yn cynnwys gŵyl penwythnos Pendinas ym mis Awst 2024 i arddangos yr holl weithgareddau hyn ac arddangosfa ar ddiwedd y prosiect. Bydd y Swyddog Allgymorth yn chwarae rhan allweddol wrth gyflwyno prosiect Pendinas, sy’n cael ei gyllido gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Cadw. Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed fydd yn arwain y gwaith archaeolegol a bydd y gwaith allgymorth yn cael ei arwain gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Bydd panel ymgynghorol yn cael ei sefydlu o aelodau o gymunedau Penparcau ac Aberystwyth i’n helpu ni i weithio’n agos gydag ysgolion, grwpiau cymunedol a chyrff treftadaeth i rymuso trigolion lleol i ymgysylltu â, dysgu am, cloddio, dehongli, rheoli a gwarchod bryngaer Pendinas drwy arolwg archaeolegol a gwaith maes, gwella'r dreftadaeth naturiol, dysgu a gweithgareddau creadigol. Mae rôl y Swyddog Allgymorth yn cynnwys gweithio’n hyblyg ac yn greadigol gyda phobl o bob oedran a chefndir a’u mentoriaid, trefnu a hwyluso gweithgareddau a digwyddiadau’r prosiect yn ogystal â chynorthwyo gyda thasgau gweinyddol, llywodraethu ac adrodd sy’n ofynnol ar gyfer prosiect a gyllidir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Tasgau allweddol:
Mae Cynllun Gweithgarwch manwl wedi’i ysgrifennu ar gyfer prosiect Pendinas (wedi’i atodi), a bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am y tasgau allweddol canlynol:
1. Sefydlu perthynas waith effeithiol gyda phartneriaid y prosiect, rhanddeiliaid a sefydliadau cymunedol i'w cynnwys hwy a'u haelodau yn y prosiect a sicrhau profiad cadarnhaol a chynhwysol i bawb sy'n cymryd rhan. Hwyluso cyfarfodydd y grŵp cynghori cymunedol a gwneud cofnodion yn y cyfarfodydd.
2. Datblygu rhaglen o weithgareddau ar gyfer ysgolion a grwpiau cymunedol wedi'u hysbrydoli gan Ben Dinas, yn seiliedig ar y celfyddydau creadigol, i annog y cyfranogwyr i ddysgu sgiliau newydd gan arbenigwyr dan gontract, gan gynnwys ffotograffiaeth, teithiau tywys, prosiectau celf, barddoniaeth, astudio natur ac adrodd straeon.
3. Gweithio gyda staff a myfyrwyr dwy ysgol uwchradd leol i greu gweithgareddau cwricwlwm amlddisgyblaethol yn seiliedig ar astudio Pendinas.
4. Trefnu gweithgareddau clirio prysgwydd a rhedyn gan weithio gyda grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr.
5. Cefnogi’r rhaglen gloddio a gwaith maes flynyddol drwy recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr lleol a’u hyfforddi i adrodd hanes Pendinas a rhoi teithiau tywys i ymwelwyr.
6. Trefnu penwythnos Gŵyl Pendinas ym mis Awst 2023 a’r arddangosfa gloi yn 2024.
7. Cymryd rhan mewn cyfarfodydd rheoli prosiect i adrodd ar gynnydd a chyflawni a helpu i ddatrys unrhyw broblemau sy'n codi.
8. Casglu data sylfaen ar gyfer gwerthuso, gan gynnwys ffigurau ar gyfer nifer cyfranogwyr y prosiect, a chefnogaeth i ddarparu adroddiadau, data gwerthuso a gwybodaeth ar gyfer monitro'r prosiect.
9. Paratoi datganiadau i'r wasg, blogiau a negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol a chasglu lluniau at ddibenion cyhoeddusrwydd a chyfryngau cymdeithasol, ar gyfer arddangosfeydd, adroddiadau ac i hyrwyddo Pendinas yn y dyfodol fel atyniad i ymwelwyr.
10. Cyfrannu at werthuso'r prosiect a'i waddol yn y tymor hwy.
Cyflog
💰 £25,860 - £29,430
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Prosiectau
Mae GwE yn edrych am Swyddog Prosiectau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
GwE yw gwasanaeth gwella ysgolion Gogledd Cymru. Mae’n wasanaeth a gyd-rennir ar draws Chwe Awdurdod Lleol, gan gydweithio’n agos ag ysgolion. Mae holl randdeiliaid GwE wedi ymrwymo i wella cyfleoedd a chanlyniadau addysgol ar gyfer ein dysgwyr. Yr hyn sydd yn gyrru ein gwaith yw uchelgais ddiffuant i weld yr ysgolion a'r sefydliadau yr ydym ni'n gweithio gyda nhw yn cyflawni eu dyheadau a gweld pob dysgwr yn llwyddo.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi a chynorthwyo timau o fewn y gwasanaeth i gyflawni gofynion prosiectau penodol ar draws rhanbarth y gogledd.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n rhugl yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Bydd Telerau ac Amodau Llywodraeth Leol yn berthnasol.
DYDDIAD CAU: 10.00yb, Dydd Iau, 10 Tachwedd 2022
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Ann Grenet ar 07580 711022 neu 01286 685044, neu e-bost [email protected]
Cyflog
💰 £25,419 - £27,514
Lleoliad
📍 Caernarfon, Bae Colwyn, Yr Wyddgrug
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Gweithredol y Clwstwr (cyfnod mamolaeth)
Mae Menter a Busnes yn edrych am Swyddog Gweithredol y Clwstwr (cyfnod mamolaeth)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cywain, a ddarperir gan Menter a Busnes, yn fodel sy’n darparu cefnogaeth wedi’i dargedu ar gyfer busnesau micro a BBaCh sy’n gweithredu yn y sector bwyd a diod yng Nghymru. Rydym yn dechrau cyfnod newydd ac rydym wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020 i ddarparu gwasanaeth diwygiedig. Mae cyllid y prosiect wedi cael ei gadarnhau tan Mehefin 2023. Darperir gwasanaethau i ddatblygu capasiti a gallu busnesau, hwyluso trosglwyddo gwybodaeth a gwybodaeth y diwydiant ac atgyfnerthu integreiddiad y gadwyn gyflenwi. Mae’r ddarpariaeth ar gael ledled Cymru gyda phwyslais ar gydweithio drwy glystyru, ychwanegu gwerth a datblygu’r farchnad ar gyfer twf a chreu swyddi. Mae Cywain wedi datblygu rhwydwaith eang o randdeiliaid ac mae dull gweithredu cydlynol gyda phartneriaid datblygu eraill yn ganolog i ddatblygiad y cleientiaid. Mae tair elfen i’r prosiect:
● Cefnogaeth i fusnesau newydd a micro
● Cefnogaeth diagnosteg ar gael i holl fusnesau bwyd a diod yng Nghymru
● Clystyru a chyd weithio rhwng busnesau er mwyn hyrwyddo twf ac effeithlonrwydd Yn ei hanfod, mae clwstwr yn cael ei arwain gan y busnesau lle mae grŵp o gwmnïau sy’n gweithredu yn yr un sector ac mewn ardaloedd sy’n agos i’w gilydd yn ddaearyddol yn gweld bod ganddynt yr un math o gyfleoedd a phroblemau. Mae’r ffocws ar gynyddu gallu cystadleuol cwmnïau bwyd a diod yng Nghymru i’w helpu i ddatblygu a thyfu, a bydd aelodau o grŵp clwstwr yn dod ynghyd i gydweithio ar brosiect penodol. Mae’r prosiectau y maent yn gweithio arnynt yn amrywiol, o ymdrin â phroblemau sy’n bodoli o fewn y busnes sy’n effeithio ar dyfiant neu allu cystadleuol, i fynd i mewn i farchnadoedd newydd a chynyddu’r marchnadoedd sydd eisoes yn bodoli. Mae Menter a Busnes wedi bod yn defnyddio’r fethodoleg glystyru ers 2015 fel cynllun peilot mewn partneriaeth ag Adran Fwyd Llywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd rydym yn cefnogi’r Clwstwr Bwydydd Da a Bwyd Môr. **Nod y Rôl **
Nod y rôl hon yw cefnogi Rheolwr y Clwstwr i:
● sicrhau bod prosiectau’r clwstwr yn cael eu gweithredu o fewn yr amser gofynnol ac o fewn y gyllideb
● cynllunio digwyddiadau a gweithdai, gan sicrhau eu bod yn cael eu hyrwyddo’n effeithiol a bod digonedd o bobl o’r gynulleidfa darged yn dod iddynt
● gwneud gwaith ymchwil sylfaenol i’r farchnad ac ymateb i ymholiadau busnes cyffredinol
● sicrhau bod pobl yn cydymffurfio â systemau a pholisïau prosiect perthnasol
● rhyngweithio a gweithio’n annibynnol heb oruchwyliaeth Prif Gyfrifoldebau
● Sicrhau bod yr holl ymholiadau’n cael eu hateb ar sail dealltwriaeth glir o anghenion busnesau
● Ymdrin ag ymholiadau o nifer o ffynonellau yn cynnwys buddiolwyr presennol a newydd, rhanddeiliaid yn cynnwys Llywodraeth Cymru, prynwyr a rhaglenni/sefydliadau cefnogi busnes eraill
● Gweithio’n agos â Rheolwr y Clwstwr i ganfod, sefydlu, adolygu/aildrefnu amseriadau darparu prosiectau unigol y Clwstwr, a chadw ffocws y darparwyr cefnogaeth ar ganlyniadau’r ymyriad. Gall y rhain gynnwys cefnogaeth a brynwyd yn allanol a chefnogaeth y sector cyhoeddus a phreifat
● Cefnogi dyheadau cwmnïau bwyd a diod ynghylch tyfiant drwy ddatblygu dealltwriaeth o elfennau allweddol cynllun tyfu’r busnes yn arbennig mewn datblygu masnach a busnes
● Darparu gwybodaeth ragorol am y tirlun cefnogi busnes lleol/rhanbarthol - yn cynnwys cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a thrydydd sector/sector preifat
● Trefnu gweithdai a digwyddiadau yn ôl yr angen gan gynnwys mynychu rhai lle bo angen a gwneud gwaith dilynol wedyn
● Gweithio’n agos â’r Swyddog Marchnata i ddarparu cynnwys wedi’i ddiweddaru ar gyfer gwefan y prosiect a sianelau cyfryngau cymdeithasol
● Casglu tystiolaeth o foddhad y cleient yn unol â’n System Rheoli Ansawdd
● Monitro cynnydd yn fanwl gywir yn erbyn deilliannau ansoddol a meintiol, darparu adroddiad am gynnydd i’r Rheolwr Clwstwr
● Sicrhau cydymffurfiad â’r ddeddfwriaeth ddiogelu data briodol
● Cadw cofnodion yn effeithiol mewn fframwaith y cytunwyd arno i fodloni gofynion ariannu Llywodraeth Cymru/Ewrop a dilysrwydd y cynnyrch
● Mynd i gyfarfodydd a chynrychioli’r prosiect fel y bo’r gofyn **Ymchwilio a Monitro ** ** ** ● Cefnogi Rheolwr y Clwstwr i gofnodi, casglu a dadansoddi adborth y cleient.
● Mewnbynnu data’n gywir
● Monitro, adolygu ac adrodd yn gywir am weithgareddau prosiect, a sicrhau bod unrhyw waith a brynir gan gontractwyr trydydd parti’n cael eu cwblhau a’u hanfonebu’n brydlon
● Dadansoddi llwyddiant y prosiect i gyflawni ei dargedau drwy sicrhau bod y data’n gyfredol
● Cefnogi Rheolwr y Clwstwr drwy fynd i gyfarfodydd gyda chleientiaid fel y bo’r gofyn i gasglu unrhyw waith papur a data monitro perthnasol
● Sicrhau bod systemau CRM a rheoli’r prosiect yn cael eu cynnal ac yn gyfredol, effeithiol ac yn cydymffurfio gyda gofynion yr Archwiliad perthnasol
● Cysylltu â chleientiaid, darparwyr allanol a phartneriaid i gydlynu gweithgareddau/digwyddiadau
● Casglu a darparu cefnogaeth fusnes ranbarthol a gwybodaeth berthnasol gysylltiedig i gynnwys data lleol sy’n cynnwys argaeledd cyllido preifat a chyhoeddus **Arall **
● Sicrhau bod y safonau’n cael eu cyrraedd mewn perthynas ag ansawdd, gwasanaeth y cwsmer, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch
● Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill fel y bo’r gofyn
● Cynrychioli Menter a Busnes fel y bo’r gofyn Sgiliau a Phrofiad
Hanfodol
● Addysg hyd lefel gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, a/neu brofiad gwaith y gellir dangos tystiolaeth ohono mewn maes perthnasol
● Profiad dangosadwy o reoli cleientiaid ac ymgysylltu gyda chleientiaid / busnesau naill ai wyneb yn wyneb, ar yr e-bost neu dros y ffôn
● Sgiliau trefnu a chydlynu rhagorol
● Dealltwriaeth dda neu brofiad da o’r sector amaeth / gwledig / bwyd yng Nghymru
● Profiad o drefnu arddangosiadau a digwyddiadau
● Gallu asesu a deall yn glir anghenion busnesau, eu cefnogaeth a’u gofynion mentora
● Deall cyfrifon cwmnïau a chynlluniau busnes
● Sgiliau a phrofiad o ddatblygu rhwydweithiau rhagorol ar wahanol lefelau (e.e. cysylltiadau ffurfiol ac anffurfiol) o bobl a allai ddod yn fuddiolwyr i bobl broffesiynol mewn sefydliadau partner
● Person hunanysgogol a rhagweithiol, yn derbyn cyfrifoldeb dros osod ac adolygu blaenoriaethau ar gyfer cyflawni targedau ac amcanion, gan ystyried anghenion y cwsmer
● Gallu gweithio’n annibynnol neu fel aelod o dîm
● Gallu dadansoddi a defnyddio tystiolaeth; meddwl yn ddargyfeiriol, mynegi manteision ac anfanteision a risgiau gwahanol opsiynau
● Profiad o weithio tuag at dargedau, gyda ffocws clir ar ansawdd
● Sgiliau rhyngweithio a chyfathrebu rhagorol, yn cynnwys sgiliau cyflwyno, llafar ac ysgrifenedig dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) rhagorol
● Sgiliau Technoleg Gwybodaeth yn cynnwys Word, Excel, PowerPoint, Cronfeydd Data, E-bost a’r We
● Trwydded yrru lawn a char i’w ddefnyddio (noder: os lleolir yn un o swyddfeydd eraill Menter a Busnes, disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus deithio i swyddfa Meifod o leiaf un diwrnod yr wythnos yn ystod y chwe mis cyntaf)
● Ar gael i weithio yn ystod y penwythnosau a gyda’r nos yn achlysurol **Manteisiol **
● Profiad o weithredu ymgyrchoedd cyfathrebu a marchnata
● Profiad o reoli prosiectau **Gwneud Cais **
Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy lenwi ffurflen gais a ffurflen cyfle cyfartal (ar gael ar ein gwefan www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected].
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd yma, cysylltwch â Jayne Jones ar 07957 191 887. Cyfweliadau Bydd y cyfweliadau ar gyfer y swydd yn cymryd lle yn rithiol ar ddydd Iau, 15 Medi 2022. Os na fydd y dyddiad yma’n gyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais os gwelwch yn dda. Dyddiad Cau
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 10.00 yb, Dydd Llun, 12 Medi 2022. Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Gwelwch ein gwefan os gwelwch yn dda i ddarllen ein Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Cyflog
💰 £27,433 - £30,205
Lleoliad
📍 Bangor, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Prosiectau (dros cyfnod mamolaeth)
Mae GwE yn edrych am Swyddog Prosiectau (dros cyfnod mamolaeth)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
GwE yw gwasanaeth gwella ysgolion Gogledd Cymru. Mae’n wasanaeth a gyd-rennir ar draws Chwe Awdurdod Lleol, gan gydweithio’n agos ag ysgolion. Mae holl randdeiliaid GwE wedi ymrwymo i wella cyfleoedd a chanlyniadau addysgol ar gyfer ein dysgwyr. Yr hyn sydd yn gyrru ein gwaith yw uchelgais ddiffuant i weld yr ysgolion a'r sefydliadau yr ydym ni'n gweithio gyda nhw yn cyflawni eu dyheadau a gweld pob dysgwr yn llwyddo.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi a chynorthwyo timau o fewn y gwasanaeth i gyflawni gofynion prosiectau penodol ar draws rhanbarth y gogledd.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n rhugl yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Bydd Telerau ac Amodau Llywodraeth Leol yn berthnasol.
DYDDIAD CAU: 10.00yb, Dydd Iau, 15/09/2022
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Ann Grenet / Bethan Eleri Roberts ar 07580 711022 neu 01286 685044, neu e-bost [email protected] / [email protected]
Cyflog
💰 £25,419 - £27,514
Lleoliad
📍 Caernarfon, Bae Colwyn, Yr Wyddgrug
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Prosiectau Academi Hywel Teifi
Mae Prifysgol Abertawe yn edrych am Swyddog Prosiectau Academi Hywel Teifi
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gwahoddir ceisiadau am swydd Swyddog Prosiectau Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe. Sefydlwyd Academi Hywel Teifi gan Brifysgol Abertawe yn 2010 ac fe’i henwyd er cof am gyn-Athro Cymraeg y Brifysgol ac un o fawrion y genedl, Yr Athro Hywel Teifi Edwards. Mae’r Academi yn sefydliad unigryw ac yn gorff sydd yn fwy na swm ei rhannau ac sy’n cynnwys:
Dysgu Cymraeg – Ardal Bae Abertawe sy’n darparu cyrsiau Cymraeg i Oedolion yn y gweithle ac yn y gymuned; Cangen Abertawe o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol; Uned Gyfieithu a Chydymffurfiaeth Iaith y Brifysgol, a Thŷ’r Gwrhyd, sef Canolfan Gymraeg Cwm Tawe a Chwm Nedd. Bydd y Swyddog Prosiectau yn rhan o dîm Academi Hywel Teifi a fydd yn rhoi ar waith nifer o ffrydiau gwaith fydd yn sicrhau bod y Brifysgol yn cyflawni amcanion ei Strategaeth Iaith a Diwylliant Cymraeg 2022-27 newydd. Bydd y rôl yn cwmpasu ystod amrywiol o weithgareddau gan gynnwys cydlynu cynlluniau prosiect, ymgysylltu a chyfathrebu â rhanddeiliaid, monitro ac adrodd, dadansoddi data a gweinyddu ar wahanol gamau o'r prosiect: gweithredu, cynllunio, cyflawni a chau'r prosiect. Mae'n bosib y bydd y Swyddog Prosiectau hefyd yn gyfrifol yn annibynnol am reoli a gweinyddu prosiectau llai cymhleth.
Disgrifiad:
Yn ogystal â grymuso statws a defnydd y Gymraeg o fewn y Brifysgol a’i chymuned leol, gweledigaeth yr Academi yw cefnogi myfyrwyr o bob oedran a chefndiroedd addysgiadol, diwylliannol a sosio-economaidd i ddysgu’r Gymraeg neu ddatblygu eu sgiliau yn yr iaith. Mae’n gweithio hefyd i hybu cyfleoedd a buddiannau astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, ynghyd â chyflwyno a dathlu ei diwylliant. Mae darparu addysg yn yr iaith Gymraeg yn greiddiol i waith a strategaeth Prifysgol Abertawe oherwydd rôl arweiniol y sefydliad yn y Gymru gyfoes, ei chyfrifoldeb yn rhanbarthol a chenedlaethol, a’i chyfrifoldeb statudol.
Bydd y Swyddog Prosiectau yn rhan o dîm Academi Hywel Teifi a fydd yn rhoi ar waith nifer o ffrydiau gwaith fydd yn sicrhau bod y Brifysgol yn cyflawni amcanion ei Strategaeth Iaith a Diwylliant Cymraeg 2022-27 newydd. Bydd y rôl yn cwmpasu ystod amrywiol o weithgareddau gan gynnwys cydlynu cynlluniau prosiect, ymgysylltu a chyfathrebu â rhanddeiliaid, monitro ac adrodd, dadansoddi data a gweinyddu ar wahanol gamau o'r prosiect: gweithredu, cynllunio, cyflawni a chau'r prosiect. Mae'n bosib y bydd y Swyddog Prosiectau hefyd yn gyfrifol yn annibynnol am reoli a gweinyddu prosiectau llai cymhleth.
Rydym yn chwilio am ymgeisydd sy’n meddu ar addysg hyd at lefel gradd neu brofiad cyfwerth mewn rôl debyg. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhugl yn yr iaith Gymraeg yn meddu ar brofiad o ddarparu cymorth ar gyfer prosiect cymhleth sy'n cynnwys amrywiaeth o bartneriaid ac sy’n ateb gofynion targedau a therfynau amser penodol. Bydd angen profiad o gyfrannu at gyflawniadau prosiect gan gynnwys llunio cynlluniau, amserlenni, cyllidebau, casglu data, adrodd yn ôl a rheoli risg prosiect a phrofiad o weithio ar y cyd â rhanddeiliaid mewnol ac allanol i sicrhau canlyniadau llwyddiannus.
Cyflog
💰 £31,411 - £35,333
Lleoliad
📍 Abertawe
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cefnogi Rhaglen
Mae Partneriaeth Awyr Agored yn edrych am Swyddog Cefnogi Rhaglen
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored yn elusen sy’n gweithio i gefnogi pobl Cymru ac ardaloedd eraill o fewn y DU i ymgymryd â gweithgareddau awyr agored fel gweithgaredd gydol oes. Ein gweledigaeth yw i “wella bywydau pobl drwy weithgareddau awyr agored.”
Mae’r weledigaeth hon yn golygu gwella:
· iechyd a lles corfforol a meddyliol pobl,
· yr enillion economaidd (gan gynnwys cyflogaeth)
· y gwerth cymdeithasol drwy weithgarwch awyr agored
· cymryd rhan ar lawr gwlad mewn gweithgareddau fel cerdded, beicio, dringo, canŵio, padlfyrddio, hwylio, beicio mynydd, a llawer mwy.
Y Swydd
Bydd y swydd fel arfer yn cael ei wneud o adref. Er, fydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio o swyddfa yng Ngogledd Orllewin Cymru fel bydd yr angen yn codi.
Yn y swydd hon byddwch yn:
· Cefnogi’r Rheolwr Rhaglen i gyfathrebu a chynnal trafodaethau gyda phrif rhanddeiliaid y cwmni
· Arwain ar brosiectau a roddir i chi gan yr Uwch Dîm rheoli
· Cefnogi staff a’r tîm rheoli i adnabod, cwblhau a chyflwyno ceisiadau grant ac adroddiadau prosiectau blynyddol
· Rheoli a gweinyddu cynnwys gwefan ddwyieithog newydd y Bartneriaeth Awyr Agored
· Darparu cymorth gweinyddol a chlerigol i'r Prif Weithredwr a'r Rheolwr Rhaglen
Gellir gweld y swydd ddisgrifiad a’r manyleb person llawn ar wefan ein cwmni Amdanoch chi
I wneud y swydd yma bydd angen:
• Addysg lefel Gradd neu brofiad perthnasol
• Y gallu i gyfathrebu a gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg
• Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol
• Sgiliau trefnu rhagorol
• Sgiliau rhyngbersonol da
• Ymrwymiad clir i gydweithio fel rhan o dîm
• Ymrwymiad clir i gydraddoldeb ac amrywiaeth
• Parodrwydd i weithio'n hyblyg i gyflawni gofynion y rôl
• Y gallu i fod yn drylwyr
Yr hyn rydym yn ei gynnig:
• 35 diwrnod o wyliau blynyddol yn cynnwys gwyliau banc
• Gweithio hybrid
• Polisïau gweithio’n hyblyg
• Cyfleoedd dysgu a datblygu, gan gynnwys cefnogaeth i ennill cymwysterau pellach
• Cefnogaeth ar gyfer iechyd meddwl a lles, gan gynnwys iechyd galwedigaethol a gwasanaethau cymorth cwnsela
• Gliniadur a ffôn symudol
• Mynediad i'r cynllun beicio i'r gwaith
Rydym yn angerddol am fod yn gynhwysol yn y gweithle, ac yn credu ein bod fel sefydliad yn elwa o'r amrywiaeth o gredoau, ymagwedd a sgiliau a all ddod ag amrywiaeth. Rydym yn gwerthfawrogi gwahaniaethau o bob cefndir a chymuned. Felly, waeth beth fo'ch oedran, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd, statws cymdeithasol neu grefydd, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Os ydych chi'n teimlo bod gennych chi'r sgiliau a'r profiad angenrheidiol i fod yn wych yn y rôl hon, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol at [email protected]
Dyddiad cau: Medi 9, 2022
Dyddiad cyfweld: Medi 20, 2022
Cyflog
💰 £30,000
Lleoliad
📍 Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Lleoliadau Gwaith
Mae Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri yn edrych am Swyddog Lleoliadau Gwaith
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Rheilffordd Ffestiniog ac Eryri yn chwilio am Swyddog Lleoliadau Gwaith brwdfrydig i gefnogi elfen sgiliau prosiect mawr a ariennir gan y Loteri Genedlaethol a fydd yn darparu dehongliad ar draws y rheilffordd, ac yn datblygu sgiliau ac yn gwarchod adeiladau.
Cyflog
💰 £26,500 pro rata
Lleoliad
📍 Porthmadog
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cefnogi Busnes
Mae GwE yn edrych am Swyddog Cefnogi Busnes
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gefnogi meysydd neu fentrau penodol o fewn y gwasanaeth. Bydd dyletswyddau yn cynnwys yr holl drefniadau cefnogi busnes, h.y. cefnogi rhaglenni, cadw cofnodion i safon uchel, tracio a chofnodi gwariant, casglu data, bod yn brif pwynt cyswllt i’r holl randdeiliaid.
Cyflog
💰 £20,092 - £21,748
Lleoliad
📍 Bae Colwyn
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cefnogi Pynciau
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Swyddog Cefnogi Pynciau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Coleg yn chwilio am unigolyn i gyfrannu at brosiectau penodol i roi mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg i bob myfyriwr addysg uwch.
Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn cydlynu, cefnogi a hyrwyddo amrywiaeth o brosiectau, gweithgareddau a digwyddiadau, sy’n anelu at roi ystod o gyfleoedd i fyfyrwyr yn ein prifysgolion. Mae’r rôl yn cynnwys datblygu ymgyrchoedd i hyrwyddo pynciau penodol a sicrhau presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol.
Os wyt ti’n unigolyn trefnus sy’n gallu cydlynu prosiectau a chydweithio’n effeithiol ag eraill – ymgeisia am y swydd hon!
Cyflog
💰 £27,116 – £33,309
Lleoliad
📍 Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Addysg Gychwynnol Athrawon
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Swyddog Addysg Gychwynnol Athrawon
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydyn ni’n chwilio am unigolyn i ymgymryd â rôl newydd, gyffrous sy’n cynnwys –
cydlynu a chefnogi prosiectau a gweithgareddau ym maes Addysg Gychwynnol Athrawon
hyrwyddo a marchnata cyfleoedd i hyfforddi fel athrawon
cydlynu trefniadau cymedroli ar gyfer y Fframwaith Cymwyseddau Iaith i Ymarferwyr Addysg cenedlaethol
Mae sicrhau gweithlu addysg gyda sgiliau Cymraeg a dwyieithog yn allweddol i lwyddiant strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg. Drwy gydweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys y Coleg, darparwyr Addysg Gychwynnol Athrawon a Chyngor y Gweithlu Addysg nod y Llywodraeth ydy annog mwy o ddarpar athrawon i hyfforddi, ac i gefnogi ymdrechion i sicrhau eu bod yn derbyn hyfforddiant o’r radd flaenaf sy’n eu galluogi i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, dysgu’r Gymraeg fel pwnc, neu gyflwyno’r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.
Bydd y rôl hon yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gefnogi elfennau o ‘Gynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg’ Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda darparwyr Addysg Gychwynnol Athrawon i sicrhau fod pawb sydd yn hyfforddi ac yn cymhwyso yng Nghymru yn cael cyfle i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg fel rhan o’u hyfforddiant, yn ogystal â denu mwy o bobl i ddilyn gyrfa ym myd addysg yng Nghymru.
Cyflog
💰 £27,116 – £33,309
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Caerdydd, Aberystwyth, Bangor, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Pynciol
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Swyddog Pynciol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Wyt ti’n unigolyn trefnus, brwdfrydig a chreadigol sydd eisiau datblygu prosiectau sy’n cefnogi myfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn y sector addysg ôl-16?
Mae’r Coleg yn chwilio am unigolyn i gyfrannu at brosiectau sy’n cyflawni nod Cynllun Academaidd Addysg Uwch newydd y Coleg o roi mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg i bob myfyriwr addysg uwch.
Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn cydlynu, cefnogi a hyrwyddo prosiectau a gweithgareddau boed y rheiny’n fodiwlau neu ddigwyddiadau, sy’n anelu at roi ystod o gyfleoedd i fyfyrwyr yn ein prifysgolion.
Os wyt ti’n unigolyn trefnus sy’n gallu cydlynu prosiectau a chydweithio’n effeithiol ag eraill – ymgeisia am y swydd hon!
Cyflog
💰 £27,116 – £33,309
Lleoliad
📍 Hyblyg, Caerfyrddin, Caerdydd, Aberystwyth, Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cefnogi Sector (Archifau a Llyfrgelloedd)
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn edrych am Swyddog Cefnogi Sector (Archifau a Llyfrgelloedd)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd y rôl yn cynorthwyo gyda chyflawni argymhelliad yr Adolygiad Teilwredig i gryfhau’r berthynas rhwng llyfrgelloedd ac archifdai awdurdodau lleol a’r Llyfrgell. Bydd tri phrif amcan i’r rôl: datblygu cynllun hyfforddi cynaliadwy sy’n ymateb i anghenion adrannol; cydlynu arddangos eitemau o gasgliadau’r Llyfrgell mewn tri lleoliad ledled Cymru a gweithio gyda’r sector llyfrgelloedd i godi ymwybyddiaeth o adnoddau’r Llyfrgell. Bydd angen teithio i wahanol ardaloedd o fewn Cymru fel rhan o’r swydd hon.
Band 3: £24,899 - £28,740
Swydd tymor penodol am gyfnod o 2 flynedd
37 awr yr wythnos.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 2.00 o’r gloch 16 Mehefin 2022
Dyddiad cyfweliadau: i’w cadarnhau
Mae’r pecyn cyflogaeth yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau, cynllun pensiwn cyflog terfynol, polisïau sy’n gyfeillgar i deuluoedd, oriau gweithio hyblyg a phrisiau gostyngol yn y bwyty. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gyflogwr cyfle cyfartal.
Cyflog
💰 £24,899 - £28,740
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Cymorthfeydd ac Ymgyrchoedd - dros dro
Mae Menter a Busnes yn edrych am Gydlynydd Cymorthfeydd ac Ymgyrchoedd - dros dro
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Prosiect: Cyswllt Ffermio
Adran: Gwledig
Lleoliad: Unrhyw un o swyddfeydd Menter a Busnes. Gellir gweithio o adref yn y lle cyntaf.
Rheolwr Atebol: Swyddog Clinigau, Cymorthfeydd a Gohebiaeth
Graddfa: 3
Cyflog: £21,979 - £23,748
Cytundeb: Dros Dro
Sgiliau Dwyieithog: Hanfodol
Cyswllt Ffermio
Mae Cyswllt Ffermio’n brosiect integredig ac uchel ei broffil sy’n cynnig cefnogaeth, cyngor a hyfforddiant gyda ffocws drwy raglen Cymru-gyfan o weithgareddau trosglwyddo gwybodaeth, cyngor arbenigol a chefnogaeth i arloesi. Un nod allweddol yw cynyddu’r pwyslais ar ymddygiad sy’n canolbwyntio ar fusnes, gan wella proffidioldeb, gallu cystadleuol a pherfformiad amgylcheddol busnesau fferm, coedwigaeth a bwyd yng Nghymru.
Ariennir Cyswllt Ffermio drwy’r Cynllun Datblygu Gwledig 2014-2020 sydd wedi’i ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Nod y Rôl
Cefnogi’r Rheolwr Clinigau, Cymorthfeydd a Gohebiaeth i gydlynu a threfnu rhaglen o gymorthfeydd ac ymgyrchoedd o safon uchel ar amrywiaeth o bynciau
Meithrin perthynas gyda gwahanol siaradwyr ac ymgynghorwyr, yn ogystal â Swyddogion Datblygu Cyswllt Ffermio er mwyn denu unigolion a busnesau i gymryd rhan â manteisio ar ddarpariaeth gwasanaethau Cyswllt Ffermio
Ymdrin ag ymholiadau cyson gan ffermwyr a choedwigwyr fydd am fynychu cymorthfeydd
Cyfrannu at weithgareddau eraill ac amcanion cyffredinol Menter a Busnes
Prif Gyfrifoldebau
**Cymorthfeydd **
Cydlynu rhaglen o gymorthfeydd / ymgyrchoedd o safon uchel ar amrywiaeth o bynciau mewn cydweithrediad â’r Swyddog Cymorthfeydd a Gohebiaeth
Cyfrifoldeb am drefniadaeth a rheolaeth y cymorthfeydd o ddydd i ddydd gan sicrhau eu bod yn rhedeg yn esmwyth ac yn darparu gwerth i’r cwsmer
Sicrhau bod y manylion cywir/addas yn cael ei basio at yr ymgynhorwyr can cadw at gofynion diogelu data
Sicrhau cyswllt cyson gyda’r Swyddog Datblygu lleol i sicrhau llwyddiant cymorthfeydd
Sicrhau bod cynghorwyr perthnasol wedi eu trefnu yn ôl pwnc ar y cyd â’r Swyddog Cymorthfeydd a Gohebiaeth
Sicrhau wrth drefnu cymorthfeydd fod pob cymhorthfa yn cael ei chadw o fewn cyllideb fesul cymhorthfa
Rhoi’r manylion ar y system archeb er mwyn i’r swyddog cymorthfeydd awdurdodi gwariant
Sicrhau bod pob cymhorthfa a clinig yn cael eu cynnwys ar y CMS yn amserol
Sicrhau bod manylion y cymorthfeydd sydd ar gael yn dyddiol ar y wefan e.e rhestr pynciau wedi diweddaru, adnabod yr angen a thrafod gyda’r Swyddog Cymorthfeydd a Gohebiaeth ynglyn ag unrhyw anghenion marchnata pellach
Ymdrin ag ymholiadau cyn y gymhorthfa a chanfod anghenion y cwsmeriaid er mwyn sicrhau eu bod wedi eu cofrestru ar gyfer cymhorthfa sy’n ateb eu gofynion
Sicrhau bod y gwaith papur angenrheidiol wedi’i gwblhau ac yn cwrdd â gofynion y prosiect a gofynion Llywodraeth Cymru
Sicrhau bod dilyniant a gwerthusiad wedi gwneud gyda pob busnes sydd wedi cael cymhorthfa
Cyfathrebu efo aelodau perthnasol o’r tîm Cyswllt Ffermio efo ymholiadau ar ôl gwneud ffurflenni gwerthuso
Mynychu digwyddiadau Cyswllt Ffermio os bod angen – digidol neu wyneb yn wyneb
Sicrhau bod mynychwyr cymorthfeydd yn cael eu cofnodi’n gywir drwy gyflwyno cronfeydd data mynychwyr i’r Ganolfan Gwasanaethau’n brydlon a’u mewnbynnu i CMS
Sicrhau bod adroddiadau wedi derbyn gan yr ymgynhorwr a’i danfon ymlaen at y busnes o fewn amser perthnasol
Cyfathrebu gyda’r asiantaethau allanol perthnasol ac adeiladu perthnasau gyda phartneriaid allweddol
Gwirio adborth mynychwyr y cymorthfeydd a chynorthwyo’r Ganolfan Wasanaeth i fewnbynnu adborth er mwyn adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru
Dadansoddi, cydlynu a chrynhoi gwybodaeth ynglŷn â’r cymorthfeydd trwy werthuso yn erbyn targedau a darparu’r wybodaeth addas i’r Swyddog Cymorthfeydd a Gohebiaeth yn ôl yr angen
Cyfrannu’n gywir ac amserol i adroddiadau misol i’r Swyddog Cymorthfeydd a Gohebiaeth er mwyn monitor targedau cymorthfeydd
Darparu cymorth a chefnogaeth swyddfa sy’n ddibynadwy ac effeithiol
Cynorthwyo’r tîm marchnata a’r Ganolfan Wasanaeth yn ôl y galw gan gynnwys gweithio nes 5yh yn achlysurol os oes angen.
Arall
Sicrhau bod y safonau’n cael eu cyrraedd ar gyfer gwasanaethau’r cwsmer, ansawdd, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch
Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill yn ôl y galw
Cynrychioli Menter a Busnes yn ôl y galw
Sgiliau a Phrofiad
Hanfodol
Addysg hyd o leiaf NVQ lefel 3 neu’n uwch, a/neu brofiad dangosadwy mewn maes perthnasol
Profiad o drefnu digwyddiadau proffil uchel ar lefel leol a chenedlaethol
Sgiliau trefnu a chydlynu rhagorol
Sgiliau rhyngbersonol a gweinyddol rhagorol
Gallu asesu a delio gydag ymholiadau’n gyflym a phrydlon
Sgiliau cyfathrebu dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) llafar ac ysgrifenedig rhagorol
Sgiliau gwasanaeth y cwsmer rhagorol
Dealltwriaeth dda neu brofiad o’r sector amaeth a choedwigaeth yng Nghymru
Gallu mewnbynnu data’n gywir a chadw data’n gyfatebol gyda deddfau diogelu data perthnasol
Gallu ysgogi ei hun i weithio gan dderbyn y cyfrifoldeb am osod ac adolygu blaenoriaethau i gyflawni ei amcanion a’i waith ei hun, gan ystyried anghenion y cwsmer
Rhagweithiol a brwdfrydig am waith yr Adran Wledig
Gallu bod yn rhagweithiol a gyrru pethau yn eu blaen yn effeithiol
Gallu bwrw ymlaen gyda’ch gwaith eich hun yn ogystal â bod yn rhan o dîm
Sgiliau technoleg gwybodaeth gan gynnwys Word, Excel, PowerPoint, cronfeydd data, yr e-bost a’r Rhyngrwyd
Trwydded yrru lawn a char i’w ddefnyddio
Ar gael i weithio gyda’r nos pan fo angen hynny
Manteisiol
- Gwybodaeth am raglen Cyswllt Ffermio
Cyflog
💰 £21,979 - £23,748
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Gweithredol e-sgol
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Gydlynydd Gweithredol e-sgol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae prosiect e-sgol wedi bod yn rhedeg ers Medi 2018, yn cynnig gwersi trwy e-ddysgu i ddisgyblion ôl-14 na fyddai ar gael heb y ddarpariaeth arloesol hwn. Ein bwriad yw i ehangu’r ddarpariaeth sydd ar gael fel bod dewis eang o gymwysterau 14-19 ar gael i’n pobl ifanc, a hefyd i hybu a chefnogi’r ddarpariaeth hwn ar draws Cymru. Yn ychwanegol, mae e-sgol yn gyfrifol am redeg a darparu Carlam Cymru – cyfres o sesiynau ar ôl ysgol sydd yn atgyfnerthu ac adolygu gwaith sy’n digwydd yn yr ysgol.
Bydd deiliad y swydd hon yn helpu i gydlynu’r prosiect a chynnig cymorth i bennaeth strategol ac arweinwyr e-sgol, trwy fod yn gyswllt cyson gydag Adnoddau Dynol a Chyllid, marchnata’r prosiect a threfnu Carlam Cymru a’r gynhadledd flynyddol, ymysg pethau eraill. Dewch i ymuno a thîm brwdfrydig e-sgol er mwyn datblygu’r prosiect yn genedlaethol.
Bydd y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol i’r swydd yma.
Am ragor o wybodaeth am y cyfle hwn ewch i'n gwefan gyrfaoedd.
Cyflog
💰 £25,419 - £27,514 pro rata
Lleoliad
📍 Unrhyw le yng Nghymru
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Menter Môn yn edrych am Swyddog Cymorth Prosiectau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cynnig gwasanaethau cefnogi prosiectau a gweinyddol i sicrhau bod prosiectau ynni'n cael eu cyflwyno'n llwyddiannus.
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!