Swyddi Cymraeg — Gwaith achos
10 swydd yn cyfateb
Swyddog Gwaith Achos
Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn edrych am Swyddog Gwaith Achos
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
A ydych chi’n unigolyn gyda sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid neu ymdrin â chwynion rhagorol?
Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus am recriwtio Swyddog Gwaith Achos i ddarparu gwasanaeth i aelodau’r cyhoedd ac eraill a allai gysylltu â swyddfa’r Ombwdsmon gyda chwynion neu ymholiadau.
Yn y rôl hon, byddwch yn rheoli llwyth achosion, yn cynnal asesiad cychwynnol i gwynion ac yn arfer awdurdod dirprwyedig yr Ombwdsmon. Byddwch yn defnyddio'r system fewnol ar gyfer rheoli achosion, yn prosesu cwynion a gohebiaeth gan gynnwys gwrthodiadau uniongyrchol, megis cwynion sy’n amlwg y tu hwnt i’n hawdurdodaeth.
I fod yn llwyddiannus yn y rôl hon, bydd angen i chi ddangos sgiliau ffôn a gwasanaeth cwsmeriaid gwych, gallu i ymdrin â chwynion, yn ogystal â bod yn llythrennog ym maes TG ac yn ddelfrydol, gallu cyfathrebu yn y Gymraeg (ar lafar ac yn ysgrifenedig).
Mae hon yn rôl hybrid, lle mae angen bod yn bresennol yn wythnosol yn ein swyddfa ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Sut i ymgeisio
Ewch i’n gwefan (www.ombwdsmon.cymru) i gyrchu’r pecyn recriwtio a’r Ffurflen Ymgeisio.
Cyflwynwch eich Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cyfleoedd Cyfartal drwy e-bost at: [email protected] Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 12 canol dydd, 5 Chwefror 2024 Rydym yn cadw'r hawl i gau'r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.
Mae'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal.
Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn ganolog i bopeth a wnawn. Rydym wedi ymrwymo yn ddiwyd i hyrwyddo a chymryd rhan mewn arfer da yn y ffordd yr ydym yn denu, recriwtio a chadw staff.
Caiff pawb eu hannog i ddod â’u hunan yn gyfan i’r gwaith oherwydd rydym yn gwerthfawrogi’r gwerth y mae gweithlu sy’n wirioneddol amrywiol yn ei roi i sefydliad. Rydym yn dathlu gwahaniaeth, gan gydnabod y buddion a ddaw yn sgil hyn i’n diwylliant cynhwysol, gan gynnwys oedran, anabledd, hunaniaeth rhywedd, crefydd, hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol a chefndir economaidd-gymdeithasol.
Cyflog
💰 £27,804 - £30,297
Lleoliad
📍 Hybrid, Pen-y-bont ar Ogwr
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Etholaeth
Mae Elin Jones AS yn edrych am Swyddog Etholaeth
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Wyt ti'n chwilio am swydd ddiddorol ac amrywiol, ble galli di wneud gwahaniaeth i fywyd pobol Ceredigion?
Mae Elin Jones AS yn chwilio am aelod o staff i ymuno â thîm gweithgar ei Swyddfa Etholaeth yng Ngheredigion. Bydd y swydd yn cynnwys siarad gydag etholwyr y sir, i'w helpu i ddatrys problemau a chyflawni prosiectau. Mae pob diwrnod yn amrywiol, a bydd cyfle i gwrdd â phobl o bob rhan o'r gymdeithas sydd angen cymorth a chefnogaeth.
Byddwn yn darparu hyfforddiant ar systemau a gwaith y swyddfa, ac rydym yn barod iawn i drafod gweithio'n hyblyg, rhannu swydd, a gweithio yn rhannol o gartref.
*Noder os gwelwch yn dda taw swydd tymor benodol 1 blwyddyn yw hon.
Disgrifiad: Prif rôl y Swyddog Etholaeth fydd gweithio'n agos gydag etholwyr Ceredigion i'w cynorthwyo gydag amrywiaeth o broblemau a phrosiectau. Bydd trafod ar y ffôn ac ar ebost gyda phobol Ceredigion yn allweddol i’r swydd ac yna cyd-weithio gyda Elin a’r tîm i ddod o hyd i ddatrysiadau a chyfleon.
Yn ogystal â chefnogi Elin yn ei swydd, bydd y Swyddog hefyd yn mynychu cyfarfodydd, yn ymchwilio ac yn ymateb i ymholiadau, gan weithio fel rhan allweddol o'r tîm.
Cyflog
💰 £27,450-£38,740
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Archwilio ac Ymchwiliadau
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn edrych am Swyddog Archwilio ac Ymchwiliadau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae tîm Archwilio ac Ymchwiliadau’r Gronfa am recriwtio Swyddog Ymchwiliadau ar gontract cyfnod penodol (dros gyfnod mamolaeth) i ymuno â’r tîm.
Disgrifiad:
Amdanat ti
Mae tîm Archwilio ac Ymchwiliadau’r Gronfa am recriwtio Swyddog Ymchwiliadau ar gontract cyfnod penodol (dros gyfnod mamolaeth) i ymuno â’r tîm. Yn y rôl hon byddwch yn cefnogi gweithgarwch atal twyll y Gronfa drwy gwblhau adolygiadau cychwynnol o atgyfeiriadau achosion posibl o dwyll gan staff ariannu, yn unol â gweithdrefnau y cytunwyd arnynt. Byddwch yn cynnal ymchwiliadau yn unol â safonau y cytunwyd arnynt ac yn cynorthwyo aelodau presennol y tîm i gynnal ymchwiliadau mwy cymhleth, yn ogystal â helpu codi ymwybyddiaeth o dwyll ar draws y Gronfa a hyrwyddo diwylliant gwrth-dwyll cryf.
Byddai'r rôl yn addas ar gyfer rhywun sydd â diddordeb mewn gwaith gwrth-dwyll sy'n mwynhau datrys problemau a chwblhau tasgau gwaith yn drylwyr, yn gywir ac yn gyson.
Gallai fod angen teithio i swyddfeydd eraill a theithio bob deufis i fynychu ein cyfarfodydd tîm.
Math o gytundeb: Cytundeb tymor penodol 12 mis – cyfnod mamolaeth
Oriau: 37 awr yr wythnos, Ystyrir gweithio hyblyg
**Dyddiad y cyfweliad: **Wythnos yn dechrau 20/03/2023
Lleoliad: DU cyfan - Mae gennym ddull hybrid o weithio, a bydd patrwm gwaith a lleoliad yn cael eu cytuno arnynt gyda'r ymgeisydd llwyddiannus. Gall y rôl fod unrhyw le yn y DU - mae ein swyddfeydd yn cynnwys Belfast, Birmingham, Caerdydd, Caerwysg, Glasgow, Leeds, Llundain, Newcastle a'r Drenewydd.
Ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus sydd wedi'u lleoli yn Llundain, gofynnir i chi gwblhau cliriad fetio diogelwch cenedlaethol fel y gallwch gael mynediad i'n Swyddfa ar Stryd Marsham. Mae hyn yn golygu pasio gwiriad datgelu a gwahardd a Gwiriad Gwrthderfysgaeth.
Os hoffech chi gael sgwrs anffurfiol cyn ymgeisio, anfonwch e-bost at: Claire Parkes – [email protected]
**Meini Prawf Hanfodol **
- Bydd gennych brofiad o gynnal ymchwiliadau, archwiliadau mewnol neu weithgareddau gwrth-dwyll eraill ac efallai y byddwch yn gweithio tuag at gymhwyster yn un o'r meysydd hyn.
- Gallu drafftio ac ysgrifennu adroddiadau, llythyrau, e-byst ac eitemau eraill o ohebiaeth yn glir, cryno a chywir.
- Gwybodaeth sylfaenol o ddeddfwriaeth berthnasol a chodau ymarfer cysylltiedig.
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog a'r gallu i weithio fel rhan o dîm bach.
**Meini Prawf Dymunol **
- Dealltwriaeth sylfaenol o brosesau rheoli risg, systemau rheolaeth fewnol a phrosesau llywodraethu corfforaethol.
- Arddangos sgiliau TG cadarn.
- Y gallu i reoli eich llwyth gwaith eich hun heb fawr o oruchwyliaeth.
- Sgiliau cynllunio a threfnu cryf. Cyfle Cyfartal
Mae cymunedau yn y DU yn dod o bob siâp a maint. Mae arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer pawb – rydym wedi ymrwymo i degwch, amrywiaeth a chynhwysiant ac rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod ein cyllid yn cyrraedd lle mae ei angen.
Credwn hefyd y dylai ein pobl gynrychioli'r cymunedau, y sefydliadau a'r unigolion rydym yn gweithio gyda nhw. Rydym wedi ymrwymo i fod yn lle cynhwysol a gwych i weithio, ac rydym yn cydnabod bod ein pobl yn dod o gefndiroedd amrywiol. O'r herwydd, rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan bobl ag anableddau, cefndiroedd Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig (B.A.M.E), LGBTQ+ ac o wahanol gefndiroedd economaidd-gymdeithasol ac addysgol.
Rydym yn falch o fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl anabl a byddwn yn gwneud addasiadau rhesymol os bydd angen drwy'r broses recriwtio ac yn ystod cyflogaeth. Gall hyn fod yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd corfforol a meddyliol.
Cyflog
💰 £22,017 – £32,956
Lleoliad
📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Ymchwilio
Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn edrych am Swyddog Ymchwilio
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
A ydych chi yn teimlo yn angerddol dros wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a dros sicrhau bod modd troi at system gwynion annibynnol pan fydd gwasanaethau'n methu?
Mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn awyddus i recriwtio Swyddogion Ymchwilio profiadol a fydd yn gyfrifol am ymchwilio i gwynion gan aelodau’r cyhoedd am driniaeth annheg neu wasanaeth gwael oherwydd rhyw fethiant ar ran cyrff cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Mae’r Ombwdsmon hefyd yn ymchwilio i gwynion a wnaed am Gynghorion o fewn awdurdodau lleol yng Nghymru a allai fod wedi torri cod ymddygiad statudol eu cyngor.
Fel Swyddog Ymchwilio, byddwch yn canolbwyntio ar yr achosion mwyaf difrifol ac yn rheoli llwyth achosion sy'n amrywio o ran cymhlethdod, ar draws llu o feysydd. Gan ddarparu profiad cwsmer da trwy gydol y broses, byddwch yn:
· Dadansoddi gwybodaeth fanwl i gyrraedd a deall gwraidd y gŵyn
· Nodi a chael tystiolaeth yn brydlon
· Cyflwyno penderfyniadau mewn adroddiadau ysgrifenedig cymhellol
· Ymgysylltu'n effeithiol â'r achwynydd drwy gydol yr ymchwiliad
· Datrys achosion drwy ymgysylltu’n adeiladol
Mae disgrifiad swydd llawn a gwybodaeth ychwanegol yma. **Yr hyn rydym yn chwilio amdano **
· Profiad sylweddol, ymarferol a chymaradwy o ymgymryd ag ymchwiliadau cymhleth, gan arwain at ganlyniadau cymesur
· Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig rhagorol gyda phrofiad sylweddol o ddrafftio dogfennau cymhleth i safon broffesiynol uchel
· Sgiliau cyfathrebu llafar rhagorol gyda'r gallu i gwrdd â rhanddeiliaid wyneb yn wyneb, o bell neu dros y ffôn
· Sgiliau effeithiol o ran rheoli achosion gyda'r gallu i flaenoriaethu gofynion sy'n cystadlu â'i gilydd
· Gallu profedig i weithio'n dda yn annibynnol ac fel rhan o dîm
I ymgeisio am y rôl hon bydd angen i chi ddangos tystiolaeth o'ch profiad a'ch arbenigedd wrth gynnal ymchwiliadau cymhleth o fewn gwasanaethau proffesiynol/sector cyhoeddus. Mae’r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol.
Sut mae hyn o fudd i chi?
· Cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, gan ddarparu cyfiawnder ac arwain at welliannau
· Amrywiaeth o waith achos – nid oes un achos yr un peth
· Cyflog cystadleuol a lwfans gwyliau blynyddol hael o 32 diwrnod.
· Buddion eraill gan gynnwys: Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, Cynllun Amser hyblyg, Aelodaeth gampfa, Health Cash Plan a Chynlluniau Prynu am Bris Gostyngol.
· Cyfleusterau ar y safle ardderchog ac offer ar gyfer gweithio o gartref
· Cwnsela allanol rhad ac am ddim a chefnogaeth iechyd galwedigaeth
**Sut i ymgeisio **
Cyflwynwch eich Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cyfleoedd Cyfartal drwy e-bost at: [email protected] erbyn hanner dydd, dydd Llun 13 Chwefror 2022. Rydym yn cadw'r hawl i gau'r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.
Bydd yr ymatebion a roddwch yn y ffurflen gais yn cael eu defnyddio i lunio rhestr fer.
Mae'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal.
Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn ganolog i bopeth a wnawn. Rydym wedi ymrwymo yn ddiwyd i hyrwyddo a chymryd rhan mewn arfer da yn y ffordd yr ydym yn denu, recriwtio a chadw staff.
Caiff pawb eu hannog i ddod â’u hunan yn gyfan i’r gwaith oherwydd rydym yn gwerthfawrogi’r gwerth y mae gweithlu sy’n wirioneddol amrywiol yn ei roi i sefydliad. Rydym yn dathlu gwahaniaeth, gan gydnabod y buddion a ddaw yn sgil hyn i’n diwylliant cynhwysol, gan gynnwys oedran, anabledd, hunaniaeth rhywedd, crefydd, hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol a chefndir economaidd-gymdeithasol.
Cyflog
💰 £35,412 - £46,551
Lleoliad
📍 Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Ymchwilio
Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn edrych am Swyddog Ymchwilio
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
A ydych chi yn teimlo yn angerddol dros wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a dros sicrhau bod modd troi at system gwynion annibynnol pan fydd gwasanaethau yn methu?
Mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn awyddus i recriwtio Swyddogion Ymchwilio sy’n gyfrifol am ymchwilio i gwynion gan aelodau’r cyhoedd am driniaeth annheg neu wasanaeth gwael oherwydd rhyw fethiant ar ran cyrff cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Mae’r Ombwdsmon hefyd yn ymchwilio i gwynion a wnaed am Gynghorion o fewn awdurdodau lleol yng Nghymru a allai fod wedi torri cod ymddygiad statudol eu cyngor.
Fel Swyddog Ymchwilio, byddwch yn canolbwyntio ar yr achosion mwyaf difrifol ac yn rheoli llwyth achosion sy'n amrywio o ran cymhlethdod, ar draws llu o feysydd. Wrth ddarparu profiad cwsmer da trwy gydol y broses, byddwch yn:
· Dadansoddi gwybodaeth fanwl i gyrraedd a deall gwraidd y gŵyn
· Nodi a chael tystiolaeth yn brydlon, gan gynnwys datganiadau tyst
· Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd i'r achwynydd am gynnydd yr ymchwiliad
· Datrys achosion drwy ymgysylltu’n adeiladol **Beth ydym yn chwilio amdano **
· Profiad sylweddol, ymarferol a chymaradwy o reoli achosion cymhleth neu ymgymryd ag ymchwiliadau cymhleth, gan arwain at ganlyniadau cymesur, gan gynnwys cael tystiolaeth cyn gynted ag y bo modd yn ystod y broses ymchwilio
· Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig rhagorol gyda phrofiad sylweddol o ddrafftio dogfennau cymhleth i safon uchel a phroffesiynol
· Sgiliau cyfathrebu llafar rhagorol gyda'r gallu i gwrdd â rhanddeiliaid wyneb yn wyneb, o bell neu dros y ffôn
· Sgiliau effeithiol o ran rheoli achosion gyda'r gallu i flaenoriaethu gofynion sy'n cystadlu â'i gilydd
· Gallu profedig i weithio'n dda yn annibynnol ac fel rhan o dîm
Croesewir ceisiadau gan ystod eang o brofiad ac arbenigedd gan gynnwys y rhai sy’n gweithio gyda gwaith achos neu rolau ymchwilio yn y gwasanaethau proffesiynol/sector cyhoeddus. Mae’r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol.
Sut mae hyn o fudd i chi?
· Cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, gan ddarparu cyfiawnder ac arwain at welliannau
· Amrywiaeth o waith achos – nid oes un achos yr un peth
· Cyflog cystadleuol a lwfans gwyliau blynyddol hael o 32 diwrnod
· Buddion eraill gan gynnwys: Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, Cynllun Amser Hyblyg, Aelodaeth gampfa, Cynllun Beicio i’r Gwaith, Health Cash Plan
· Cynlluniau prynu am bris gostyngol
· Cyfleusterau ar y safle ardderchog ac offer ar gyfer gweithio gartref
· Cwnsela allanol rhad ac am ddim a chefnogaeth iechyd galwedigaeth
Sut i ymgeisio
Cyflwynwch eich Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cyfleoedd Cyfartal drwy e-bost at: recriwtio@@ombwdsmon.cymru erbyn hanner dydd, dydd Llun 5 Medi 2022.
Bydd eich ymatebion ffurflen gais yn cael eu defnyddio i lunio rhestr fer.
Mae'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal.
Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn ganolog i bopeth a wnawn. Rydym wedi ymrwymo yn ddiwyd i hyrwyddo a chymryd rhan mewn arfer da yn y ffordd yr ydym yn denu, recriwtio a chadw staff.
Caiff pawb eu hannog i ddod â’u hunan yn gyfan i’r gwaith oherwydd rydym yn gwerthfawrogi’r gwerth y mae gweithlu sy’n wirioneddol amrywiol yn ei roi i sefydliad. Rydym yn dathlu gwahaniaeth, gan gydnabod y buddion a ddaw yn sgil hyn i’n diwylliant cynhwysol, gan gynnwys oedran, anabledd, hunaniaeth rhywedd, crefydd, hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol a chefndir economaidd-gymdeithasol.
Cyflog
💰 £33,486 - £44,625
Lleoliad
📍 Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Arwain y Cod Ymddygiad
Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn edrych am Swyddog Arwain y Cod Ymddygiad
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
A ydych chi yn teimlo yn angerddol dros wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a chynnal safonau mewn bywyd cyhoeddus? A hoffech chi fod yn rhan o sefydliad sy'n darparu system gwynion annibynnol a phroses annibynnol ar gyfer atebolrwydd?
Mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn awyddus i recriwtio Swyddog Arwain y Cod Ymddygiad i gymryd rôl arweiniol mewn cysylltiad ag ymchwiliadau OGCC i gwynion a wneir am Gynghorwyr o fewn awdurdodau lleol yng Nghymru a allai fod wedi torri cod ymddygiad statudol eu cyngor. Gall hyn hefyd gynnwys rolau eraill mewn awdurdodaeth.
Fel Swyddog Arwain y Cod, byddwch yn cynrychioli OGCC mewn gwrandawiadau, yn ymgysylltu ag achwynwyr a rhanddeiliaid allweddol i gynnal hyder y cyhoedd yn rôl a chylch gwaith OGCC o fewn y fframwaith moesegol yng Nghymru.
Gan ddarparu profiad cwsmer da trwy gydol y broses, byddwch yn:
· Asesu ac ymchwilio i gwynion cymhleth a phroffil uchel, gan wneud penderfyniadau yn unol â chynllun dirprwyo OGCC
· Cynrychioli OGCC mewn Gwrandawiadau’r Cod Ymddygiad gerbron Pwyllgorau Safonau Awdurdodau Lleol a Phanel Dyfarnu Cymru
· Arwain ar ymgysylltu â rhanddeiliad ynghylch materion fframwaith moesegol, mewn ffordd sy’n cynnal hyder y cyhoedd yn rôl OGCC o ymchwilio i gwynion yn ddiduedd ac yn annibynnol
· Adolygu a diweddaru Canllawiau OGCC o ran y Cod Ymddygiad yng Nghymru
Yr hyn rydym yn chwilio amdano
· Profiad sylweddol, ymarferol a chymaradwy o reoli achosion cymhleth neu ymgymryd ag ymchwiliadau cymhleth, gan arwain at ganlyniadau cymesur, gan gynnwys cael tystiolaeth cyn gynted ag y bo modd yn ystod y broses ymchwilio.
· Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig rhagorol gyda phrofiad sylweddol o ddrafftio dogfennau cymhleth i safon broffesiynol uchel.
· Sgiliau cyfathrebu llafar rhagorol gyda sgiliau cyflwyno profedig a’r gallu i gwrdd â rhanddeiliaid wyneb yn wyneb, o bell neu dros y ffôn.
· Sgiliau effeithiol o ran rheoli achosion gyda'r gallu i flaenoriaethu gofynion sy'n cystadlu â'i gilydd.
· Gallu profedig i weithio'n dda yn annibynnol ac fel rhan o dîm.
Croesewir ceisiadau gan ystod eang o brofiad ac arbenigedd gan gynnwys y rhai sy’n gweithio gyda gwaith achos neu rolau ymchwilio yn y gwasanaethau proffesiynol neu gyfreithiol/sector cyhoeddus. Mae’r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol.
Sut mae hyn o fudd i chi?
· Cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, gan ddarparu cyfiawnder ac arwain at welliannau
· Amgylchedd gweithio cadarnhaol mewn tîm deinamig a phrysur
· Amrywiaeth o waith achos – nid oes un achos yr un peth
· Cyflog cystadleuol a lwfans gwyliau blynyddol hael o 32 diwrnod
· Buddion eraill gan gynnwys: Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, Cynllun Amser hyblyg, Aelodaeth gampfa, Cynllun Beicio i’r Gwaith, Health Cash Plan a
**Cynlluniau prynu am bris gostyngol **
· Cyfleusterau ar y safle ardderchog ac offer ar gyfer gweithio o gartref
· Cwnsela allanol rhad ac am ddim a chefnogaeth iechyd galwedigaeth
Sut i ymgeisio
Cyflwynwch eich Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cyfleoedd Cyfartal drwy e-bost at: [email protected] erbyn hanner dydd, dydd Llun 5 Medi 2022.
Bydd yr ymatebion a roddwch yn y ffurflen gais yn cael eu defnyddio i lunio rhestr fer.
Mae'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal.
Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn ganolog i bopeth a wnawn. Rydym wedi ymrwymo yn ddiwyd i hyrwyddo a chymryd rhan mewn arfer da yn y ffordd yr ydym yn denu, recriwtio a chadw staff.
Caiff pawb eu hannog i ddod â’u hunan yn gyfan i’r gwaith oherwydd rydym yn gwerthfawrogi’r gwerth y mae gweithlu sy’n wirioneddol amrywiol yn ei roi i sefydliad. Rydym yn dathlu gwahaniaeth, gan gydnabod y buddion a ddaw yn sgil hyn i’n diwylliant cynhwysol, gan gynnwys oedran, anabledd, hunaniaeth rhywedd, crefydd, hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol a chefndir economaidd-gymdeithasol.
Cyflog
💰 £44,625 - £48,876
Lleoliad
📍 Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Prentisiaeth Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol (EGMA)
Mae CADMHAS yn edrych am Brentisiaeth Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol (EGMA)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae CADMHAS yn elusen gofrestredig ac yn gwmni cyfyngedig.
Sefydlwyd CADMHAS yn 2007 ac mae’n ddarparu gwasanaethau cefnogaeth eiriolaeth, eiriolaeth statudol (Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol ac Eiriolaeth Galluedd Meddyliol Annibynnol) a gwasanaethau Cynrychioli Personau Perthnasol ar draws Gogledd Cymru a Phowys.
Rydym yn penodi pedwar EGMA llawn amser (37 awr yr wythnos) i ymuno a’n cynllun prentisiaeth. Gofyniad y cynllun yw bod yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cwblhau cwrs Eiriolaeth Annibynnol Lefel 4, trwy fynychu coleg yn rhithiol dau ddiwrnod y mis. Bydd gweddill yr amser yn cael ei rhannu rhwng cwblhau gwaith cwrs a gwaith achos ymarferol, gan gychwyn gweithio ar achosion yn ymwneud a Threfniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid (DoLS). Rydym eisiau penodi un person i weithio yng Ngwynedd ac Ynys Môn (lle mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol), dau i weithio yng Nghonwy a Sir Ddinbych (gydag un post lle mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol a’r ail lle mae’r Gymraeg yn ddymunol iawn) ac un ar gyfer Sir Fflint a Wrecsam (gyda’r Gymraeg yn ddymunol).
Cyflog
💰 £22,287
Lleoliad
📍 O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynghorydd Cysylltiadau Cwsmeriaid x 6 swydd
Mae CCW yn edrych am Gynghorydd Cysylltiadau Cwsmeriaid x 6 swydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Fel Cynghorydd Cysylltiadau Cwsmeriaid, byddwch yn angerddol am wasanaeth cwsmeriaid i sicrhau ein bod yn cyflawni ein cenhadaeth. Byddwch yn naturiol empathig gyda diddordeb brwd mewn helpu pobl.
Disgrifiad:
Lleoliad: Birmingham neu Gaerdydd
Oriau: Ar hyn o bryd amser llawn yw 37 awr dros 5 diwrnod yr wythnos, er y byddwn yn ystyried ceisiadau i weithio'n hyblyg dros 4 diwrnod neu am o leiaf 25 awr yr wythnos.
Rydym yn cynnig gweithio hyblyg a hybrid yn ystod ein horiau gweithredu o 7am i 7pm o ddydd Llun i ddydd Gwener gyda'r opsiwn i weithio gartref 3 diwrnod yr wythnos.
Amdanom ni:
CCGC yw'r llais annibynnol angerddol, sy'n cynrychioli defnyddwyr dŵr yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn cefnogi miloedd o bobl bob blwyddyn, gan ddarparu cyngor a chymorth am ddim i helpu pobl i ddatrys eu cwynion gyda'u cwmni dŵr mewn ffordd hawdd a gofalgar. Rydym yn hyrwyddo anghenion a diddordebau pawb, gan gwblhau ac arddangos ymchwil sy’n dylanwadu ar gwmnïau dŵr, y llywodraeth a’r rheolydd i wneud i newid ddigwydd.
Ym maes Cysylltiadau Cwsmeriaid, ein cenhadaeth yn syml yw bod y gorau, gan ddarparu gwasanaeth a chymorth rhagorol i unrhyw un sy'n cysylltu â ni i gael cymorth gyda chwynion a phryderon cwmnïau dŵr. Rydym yn gweithio ar y cyd â’r sector dŵr ei hun i gael canlyniadau teg i gwsmeriaid a hyrwyddo newid trwy rannu arfer gorau a gweithio mewn partneriaeth er budd pawb.
Ein gwerthoedd:
Rydym yn disgwyl ac yn cefnogi holl gydweithwyr Cyngor Cefn Gwlad Cymru i ymgorffori a dathlu gwerthoedd CCGC drwy Ynni Cadarnhaol, Parchu pawb, Ysbryd Arloesol, Cyflawni ein haddewidion a bod yn Ymgysylltu fel un (PRIDE).
Beth fyddwch chi'n ei wneud:
Gan adrodd i'r Rheolwr Cysylltiadau Cwsmeriaid, byddwch yn rhan o dîm sefydledig sy'n darparu gwasanaeth trin cwynion i gwsmeriaid dŵr yng Nghymru a Lloegr.
Gyda’ch llwyth achosion eich hun i’w reoli, byddwch yn cefnogi ein cwsmeriaid drwy eu taith gwyno drwy:
• Delio â chwynion yn erbyn cwmnïau dŵr naill ai'n ysgrifenedig neu dros y ffôn, yn unol ag ymrwymiadau perfformiad CCGC
• Ymgysylltu â chwmnïau dŵr i wneud yn siŵr eich bod yn cael y canlyniad gorau posibl o ran cwyn neu ymholiad ar gyfer eich cwsmer
• Cymryd perchnogaeth a chynnal cofnodion cywir ar y system cronfa ddata
• Gweithio gyda chydweithwyr i uwchgyfeirio cwynion unigol a/neu geisio cyngor ac arweiniad i symud cwynion ac ymholiadau yn eu blaenau
• Rhannu arfer gorau ymdrin â chwynion gyda'ch tîm
• Bod yn ymwybodol o bolisïau a mentrau CCGC a chwmnïau
Am bwy rydyn ni'n chwilio:
Fel Cynghorydd Cysylltiadau Cwsmeriaid, byddwch yn angerddol am wasanaeth cwsmeriaid i sicrhau ein bod yn cyflawni ein cenhadaeth. Byddwch yn naturiol empathig gyda diddordeb brwd mewn helpu pobl.
Byddwch hefyd yn gallu dangos:
• Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol
• Sgiliau trefnu a blaenoriaethu da
• Y gallu i addasu i newid
• Profiad o weithio'n dda o fewn tîm
Cyfleoedd datblygu gyrfa:
Yn CCGC, rydym am weld ein tîm yn datblygu ac yn tyfu yn eu llwybr gyrfa dewisol. Am y rheswm hwn, mae gan y rôl hon dair lefel wahanol i chi symud ymlaen ynddynt. Ein hymrwymiad i chi yw y bydd eich cyflog yn cynyddu wrth i chi symud drwy'r lefelau hyn yn llwyddiannus.
Cyflog a Buddion:
Mae CCGC yn cynnig cyflog cychwynnol o £21,879 gyda'r cyfle i gynyddu eich cyflog trwy berfformiad hyd at £26,869.
Mae buddion yn cynnwys Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, Opsiynau Gweithio Hyblyg, Benthyciadau Tocynnau Tymor Teithio, Benthyciadau Beic, Mynediad am Ddim i Sicrwydd Iechyd a llawer mwy.
Cyflog
💰 £21,879
Lleoliad
📍 Caerdydd, Birmingham
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Maes y Gogledd
Mae UCAC yn edrych am Swyddog Maes y Gogledd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd y gwaith yn amrywiol tu hwnt, a bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus:
gynghori a chefnogi aelodau mewn amrywiaeth eang o sefyllfaoedd gan gynnwys rhai heriol iawn;
lleisio barn swyddogol yr undeb mewn cyfarfodydd amrywiol, yn lleol, rhanbarthol a chenedlaethol;
paratoi dogfennau, gan gynnwys llythyron swyddogol, taflenni gwybodaeth, ymatebion i ddogfennau ymgynghorol a pholisïau.
Cyflog
💰 £39,193
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Ymchwilio a Gorfodi
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn edrych am Swyddog Ymchwilio a Gorfodi
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Contract: Tymor penodol neu secondiad am 6 mis yn gychwynnol gyda’r posibilrwydd o ymestyn gan ddibynnu ar amgylchiadau ar y pryd.
Oriau Gwaith: 22 awr yr wythnos (3 diwrnod)
Cyflog: £31,210 - £38,160 y flwyddyn (pro rata)
Lleoliad: Hyblyg - gweithredir trefniant gweithio hybrid. Lleolir swyddfeydd y Comisiynydd yng Nghaerdydd, Caernarfon, Caerfyrddin, a Rhuthun
Cyfweliadau: 26 Mai 2022 (cynhelir dros Teams)
Dyletswyddau penodol
** YMCHWILIO I FETHIANT I GYDYMFFURFIO Â SAFONAU **
Bod yn gyfrifol am gynnal ymchwiliadau statudol ar sail amheuaeth o fethiant a pharatoi adroddiadau cysylltiedig gan wneud hynny yn unol â threfn fabwysiedig y Comisiynydd.
Bod yn gyfrifol am wneud cynigion ynghylch argymhellion neu gamau gorfodi neu gosbau sifil priodol i’w gosod yn eu lle yn unol â gofynion deddfwriaeth iaith. Diweddaru gwybodaeth ynghylch gweithrediad unrhyw gamau neu argymhellion a osodir.
Bod yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth i’w osod yng nghofrestr camau gorfodi Comisiynydd y Gymraeg.
CYTUNDEBAU SETLO
- Bod yn gyfrifol am wneud cytundebau setlo a diweddaru gwybodaeth am eu gweithrediad lle bo hynny’n briodol.
DIFFYG CYDYMFFURFIO Â SAFONAU: CWYNION GAN BERSONAU A EFFEITHIR ARNYNT
Bod yn gyfrifol am ymdrin â chwynion yn unol â chanllawiau a pholisïau Comisiynydd y Gymraeg gan eu datrys yn syth lle fo’r mater yn rhwydd i’w ddatrys.
Bod yn gyfrifol am gynnal ymchwiliadau statudol ar sail tystiolaeth ddibynadwy a gwirio cwynion dilys a pharatoi adroddiadau cysylltiedig gan wneud hynny yn unol â threfn fabwysiedig y Comisiynydd.
Bod yn gyfrifol am roi sylw i gwynion gan sicrhau bod ymatebion amserol yn cael eu hanfon at ohebwyr yn unol â chanllawiau gohebu’r Comisiynydd. Rhannu gwybodaeth allweddol er mwyn cyflawni dibenion gwaith a sicrhau mynediad i swyddogion perthnasol at wybodaeth gan warchod cyfrinachedd.
Bod yn gyfrifol am ymwneud gydag achwynwyr a sefydliadau mewn modd cwrtais a phriodol gan eu diweddaru ar achosion yn gyson.
RHYDDID I DDEFNYDDIO’R GYMRAEG
- Ymchwilio i honiadau o ymyrraeth â rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg yn unol â gweithdrefnau a pholisi’r Comisiynydd gan lunio adroddiadau y gall y Comisiynydd ddyfarnu ar eu sail.
CYNGOR A CHYMORTH CYFREITHIOL
- Yn unol ag adrannau 8 – 10 Mesur y Gymraeg bod yn barod i ystyried ceisiadau am gymorth a chyngor cyfreithiol yn ogystal â chynorthwyo’r uwch swyddog i ystyried dwyn achosion neu ymyrryd mewn achosion cyfreithiol.
**TRIBIWNLYS Y GYMRAEG **
- Paratoi gwaith papur ar gyfer achosion Tribiwnlys y Gymraeg a chyfrannu at lunio datganiadau achos a darparu tystiolaeth i gwmnïau cyfreithiol fel bo angen. Rhoi barn ar ddrafftiau o ddatganiadau achos a chadw cyswllt gydag uwch swyddogion pan fo angen.
**DYLETSWYDDAU CYFFREDINOL **
Gweithredu’n gyson ac yn amserol yn unol â holl bolisïau a chanllawiau’r Comisiynydd.
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau perthnasol eraill yn ôl y galw.
Wrth i waith Comisiynydd y Gymraeg ddatblygu, fe all gofynion y swydd newid. Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu trafod a’u cytuno â deiliad y swydd ymlaen llaw.
Cyflog
💰 £31,210 - £38,160 pro rata
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.