Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Ymchwilio

💰 £35k - £47k 📍 Hybrid Ar gau

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn edrych am Swyddog Ymchwilio

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

A ydych chi yn teimlo yn angerddol dros wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a dros sicrhau bod modd troi at system gwynion annibynnol pan fydd gwasanaethau'n methu?

Mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn awyddus i recriwtio Swyddogion Ymchwilio profiadol a fydd yn gyfrifol am ymchwilio i gwynion gan aelodau’r cyhoedd am driniaeth annheg neu wasanaeth gwael oherwydd rhyw fethiant ar ran cyrff cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Mae’r Ombwdsmon hefyd yn ymchwilio i gwynion a wnaed am Gynghorion o fewn awdurdodau lleol yng Nghymru a allai fod wedi torri cod ymddygiad statudol eu cyngor.  

Fel Swyddog Ymchwilio, byddwch yn canolbwyntio ar yr achosion mwyaf difrifol ac yn rheoli llwyth achosion sy'n amrywio o ran cymhlethdod, ar draws llu o feysydd. Gan ddarparu profiad cwsmer da trwy gydol y broses, byddwch yn: 

·   Dadansoddi gwybodaeth fanwl i gyrraedd a deall gwraidd y gŵyn

·   Nodi a chael tystiolaeth yn brydlon

·   Cyflwyno penderfyniadau mewn adroddiadau ysgrifenedig cymhellol

·   Ymgysylltu'n effeithiol â'r achwynydd drwy gydol yr ymchwiliad

·   Datrys achosion drwy ymgysylltu’n adeiladol 

Mae disgrifiad swydd llawn a gwybodaeth ychwanegol yma.    **Yr hyn rydym yn chwilio amdano **

·   Profiad sylweddol, ymarferol a chymaradwy o ymgymryd ag ymchwiliadau cymhleth, gan arwain at ganlyniadau cymesur

·   Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig rhagorol gyda phrofiad sylweddol o ddrafftio dogfennau cymhleth i safon broffesiynol uchel

·   Sgiliau cyfathrebu llafar rhagorol gyda'r gallu i gwrdd â rhanddeiliaid wyneb yn wyneb, o bell neu dros y ffôn

·   Sgiliau effeithiol o ran rheoli achosion gyda'r gallu i flaenoriaethu gofynion sy'n cystadlu â'i gilydd 

·   Gallu profedig i weithio'n dda yn annibynnol ac fel rhan o dîm

I ymgeisio am y rôl hon bydd angen i chi ddangos tystiolaeth o'ch profiad a'ch arbenigedd wrth gynnal ymchwiliadau cymhleth o fewn gwasanaethau proffesiynol/sector cyhoeddus. Mae’r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol. 

Sut mae hyn o fudd i chi?

·   Cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, gan ddarparu cyfiawnder ac arwain at welliannau 

·   Amrywiaeth o waith achos – nid oes un achos yr un peth

·   Cyflog cystadleuol a lwfans gwyliau blynyddol hael o 32 diwrnod.

·   Buddion eraill gan gynnwys: Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, Cynllun Amser hyblyg, Aelodaeth gampfa, Health Cash Plan a Chynlluniau Prynu am Bris Gostyngol.

·   Cyfleusterau ar y safle ardderchog ac offer ar gyfer gweithio o gartref  

·   Cwnsela allanol rhad ac am ddim a chefnogaeth iechyd galwedigaeth 

**Sut i ymgeisio **

Cyflwynwch eich Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cyfleoedd Cyfartal drwy e-bost at: [email protected] erbyn hanner dydd, dydd Llun 13 Chwefror 2022. Rydym yn cadw'r hawl i gau'r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law. 

Bydd yr ymatebion a roddwch yn y ffurflen gais yn cael eu defnyddio i lunio rhestr fer.  

Mae'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal.

Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn ganolog i bopeth a wnawn. Rydym wedi ymrwymo yn ddiwyd i hyrwyddo a chymryd rhan mewn arfer da yn y ffordd yr ydym yn denu, recriwtio a chadw staff.

Caiff pawb eu hannog i ddod â’u hunan yn gyfan i’r gwaith oherwydd rydym yn gwerthfawrogi’r gwerth y mae gweithlu sy’n wirioneddol amrywiol yn ei roi i sefydliad. Rydym yn dathlu gwahaniaeth, gan gydnabod y buddion a ddaw yn sgil hyn i’n diwylliant cynhwysol, gan gynnwys oedran, anabledd, hunaniaeth rhywedd, crefydd, hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol a chefndir economaidd-gymdeithasol.

Cyflog

💰 £35,412 - £46,551

Lleoliad

📍 Hybrid

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £543 yr awr o sain 📍 Gweithio o Adref Ar gau

💰 £15k - £18k 📍 Caeredin📍 Gweithio o Adref Ar gau

💰 £23k 📍 Y Bala Ar gau

💰 £67k - £70k 📍 Caernarfon📍 Hyblyg Ar gau

💰 £30,966 📍 Llandeilo📍 Hyblyg Ar gau

💰 £24,669 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £29k 📍 Caernarfon📍 Hybrid Ar gau

💰 £28k 📍 Llangefni Ar gau

💰 £30k 📍 Bangor📍 Hybrid Ar gau

💰 £28,459 📍 Llithfaen Ar gau

💰 £28k - £30k 📍 Hybrid📍 Pen-y-bont ar Ogwr Ar gau

💰 £23k 📍 Llithfaen Ar gau

💰 £29k - £33k 📍 Llithfaen Ar gau

💰 £29k - £33k 📍 Llithfaen Ar gau

💰 £31k 📍 Aberystwyth📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £29k - £34k 📍 Corwen Ar gau

💰 £22k - £26k 📍 Corwen📍 Gweithio o Adref Ar gau

💰 £22k - 26k 📍 Corwen📍 Gweithio o Adref Ar gau

💰 £25k - £30k 📍 Botwnnog Ar gau

💰 £35k - £45k 📍 Botwnnog Ar gau

💰 £21k 📍 Botwnnog Ar gau

💰 £29.5k 📍 Y Fenni📍 Abertyleri +23 Ar gau

💰 Soulbury 27-30 ynghyd â 3 phwynt SPA 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 Cystadleuol 📍 Caerfyrddin📍 Caernarfon +1 Ar gau