Swyddi Cymraeg
3 swydd yn cyfateb
Uwch Swyddog Gwirfoddoli a Chymuned
Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn edrych am Uwch Swyddog Gwirfoddoli a Chymuned
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn awyddus i benodi Uwch Swyddog Gwirfoddoli a Chymuned i ymuno â'n tîm arbennig yma yn Ynys Môn a Llŷn. Os oes gennych chi brofiad o reoli gwirfoddolwyr ac ymgysylltiad cymunedol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi – gyda thîm o 150 o wirfoddolwyr a chymunedau lleol bywiog, mae cysylltu â phobl yn ganolog i’r rôl hon.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y rôl hon, cysylltwch ag [email protected]
Mae Ynys Môn a Llŷn yn bortffolio gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a ffurfiwyd yn ddiweddar gan ddwyn y ddwy ardal ynghyd i ganolbwyntio’n well ar ein safleoedd arfordirol a’n cymunedau yng ngogledd orllewin Cymru.
Fel portffolio mae ein gwaith yn ymwneud â gofalu am wledd o gynefinoedd arfordirol sy’n gyfoeth o fioamrywiaeth. Nid yw'n syndod felly y bydd llawer o'ch gwaith yn canolbwyntio ar ymgysylltu pobl â'r amgylchedd naturiol y gofalwn amdano. Wrth weithio ar draws ein hadrannau a safleoedd, byddwch yn hyrwyddo ein cynllun portffolio ar gyfer gwirfoddoli ac ymgysylltiad cymunedol, gan gynnwys datblygu ffyrdd newydd o weithio ac atgyfnerthu cysylltiadau gyda chynulleidfaoedd hen a newydd.
Mae gennym hefyd lawer o draethau poblogaidd a mannau mynediad arfordirol dan ein gofal, yn ogystal â gerddi ac eiddo adeiledig. Mae Tŷ a Gardd Plas Newydd yn blasty godidog ac yn ardd restredig Gradd 1 ar lannau’r Fenai. Maenordy bychan yw Plas yn Rhiw sy’n swatio mewn gardd brydferth a choetir o’i amgylch ar arfordir de Pen Llŷn, ac mae Porth y Swnt yn ganolfan ymwelwyr ddifyr yn Aberdaron a gynlluniwyd i ysbrydoli pobl i grwydro rhagor ym Mhen Llŷn. Mae’r holl eiddo yn wahanol iawn, ac mae’r rôl hon yn cynrychioli cyfle cyffrous i gyflawni dyheadau gwirfoddoli a chymuned Ynys Môn a Llŷn ledled y portffolio.
Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru yn sefydliad dwyieithog a rhaid i'r holl staff a gwirfoddolwyr ddangos ymrwymiad i weithio mewn amgylchedd cwbl ddwyieithog. Cwblhewch yr Asesiad Cymhwysedd Iaith Gymraeg ynghlwm a'i uwchlwytho ochr yn ochr â'ch CV. Ar gyfer y swydd hon mae angen cymhwysedd Gwrando, Deall a Siarad ar lefel 4 o leiaf.
Byddwch yn arwain y gwaith o ddatblygu a chyflwyno cynllun strategol y portffolio hwn ar gyfer gwirfoddoli a chymunedau, ochr yn ochr â thîm rheoli’r eiddo. Gyda ffocws clir ar ganfod a meithrin cysylltiadau gyda grwpiau cymunedol phartneriaid presennol a darpar bartneriaid, byddwch hefyd yn gwella hyder a gallu ein rheolwyr gwirfoddoli. Byddwch yn hyfforddi’r holl reolwyr gwirfoddoli a’n cydweithio i ymgorffori newid, lle bo angen, wrth ehangu a chyfoethogi ein cysylltiadau â’n cynulleidfaoedd.
Ynghyd â'n rheolwyr gwirfoddolwyr, byddwch yn gyfrifol am greu amgylchedd cydweithredol, cynhwysol, hygyrch a chefnogol ar gyfer ein gwirfoddolwyr, cymunedau a phartneriaid, hen a newydd, wrth gadw gwerth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, bod Croeso i Bawb, yn y cof. Byddwch hefyd yn arwain gweithgareddau ymgysylltu gyda’n cymunedau wrth inni ymgymryd â sawl prosiect adeiladau ledled y portffolio, gan gynnwys gwaith i uwchraddio’r gwasanaethau drwy gydol y plasty ym Mhlas Newydd.
Byddwch wedi’ch lleoli ym Mhlas Newydd, lle byddwch yn chwarae rhan weithredol yn y tîm gweithrediadau eiddo ac ar y rota rheoli dyletswydd yn rheolaidd. Byddwch hefyd yn treulio amser ar grwydr ledled y portffolio, yn rhyngweithio â chydweithwyr ac yn ymweld ag eiddo eraill a threulio amser gyda’n cymunedau.
Mae disgwyl ichi weithio gyda’r nos, ar benwythnosau ac ar wyliau banc. Byddai trafnidiaeth eich hun yn fuddiol oherwydd lleoliadau amrywiol ein safleoedd ar draws y portffolio.
Gofynnir i chi hefyd ddarllen y proffil swydd llawn sydd ynghlwm â'r hysbyseb hon.
Er mwyn cyflawni'r swydd hon yn llwyddiannus, bydd angen ichi feddu ar y canlynol;
- Dealltwriaeth o arfer da o ran cyfranogiad ac ymgysylltiad cymunedol, yn ogystal â chyfranogiad a gwaith partner ehangach
- Y gallu i ymgysylltu'n rhagweithiol o fewn cymuned
- Yn gallu siarad Cymraeg
- Dealltwriaeth dda o reoli gwirfoddolwyr
- Profiad ymarferol a datblygu a gweithredu cyfleoedd a dulliau gwirfoddoli newydd
- Yn hyderus wrth hyfforddi a chefnogi unigolion sy’n rheoli a goruchwylio gwirfoddolwyr a phartneriaid cymunedol, a’n gweithio ochr yn ochr â nhw
- Sgiliau trefnu a chynllunio rhagorol
- Sgiliau rhyngbersonol a rhwydweithio rhagorol
Yr arwyddair sydd wrth wraidd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw 'I bawb, am byth'. Rydym yn gweithio'n galed i greu diwylliant cynhwysol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn iddo. Mae'n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu ac yn cynrychioli amrywiaeth y cymunedau a'r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb deimlo'n gartrefol yn ein timau hefyd.
- Cynllun pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol
- Mynediad am ddim i eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i chi, gwestai a'ch plant (dan 18 oed)
- Cynllun gofal plant di-dreth
- Cynllun benthyciad blaendal rhent
- Benthyciad tocyn tymor
- Gostyngiadau buddion y gweithle, h.y. aelodaeth gampfa, codau gostyngiad siopa, gostyngiadau ar gyfer y sinema
- Lwfans gwyliau hyd at 32 diwrnod mewn perthynas â hyd y gwasanaeth, yn ogystal â chynllun prynu gwyliau, yn amodol ar fodloni meini prawf gofynnol
- Oriau gweithio hyblyg lle bynnag y bo'n bosibl
- Rhaglen cynorthwyo cyflogai
- Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau
- Cyngor ariannol annibynnol
Cyflog
💰 £25,662
Lleoliad
📍 Ynys Môn
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Llesiant Cymunedol a'r Trydydd Sector
Mae Medrwn Môn yn edrych am Swyddog Llesiant Cymunedol a'r Trydydd Sector
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Pwrpas y swydd yma yw:
**1. **Hyrwyddo a hwyluso rôl y trydydd sector i gyfrannu at flaenoriaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).
· Datblygu, cynnal a hwyluso Rhwydwaith Llesiant Ynys Môn yn chwarterol. Trefnu sesiynau briffio, seminarau a digwyddiadau eraill yn ôl yr angen
· Sefydlu a chynnal perthynas waith gadarn gydag ystod amrywiol o randdeiliaid i gefnogi gwaith y trydydd sector
· Arfogi Aelodau’r Rhwydwaith Llesiant gyda'r sgiliau a'r gefnogaeth i feithrin eu gallu i ymgysylltu a chael llais cryf wrth gynllunio, gwneud penderfyniadau a darparu gwasanaethau
· Hyrwyddo a defnyddio dulliau amrywiol o ymgysylltu ag aelodau Rhwydwaith Llesiant Ynys Môn i adnabod blaenoriaethau lleol ac archwilio dulliau creadigol o ymgysylltu gyda defnyddwyr gwasanaeth
· Cefnogi mudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol i gyfrannu at ymgynghoriadau / cynllunio / adolygu gwasanaethau
· Gwneud y defnydd gorau o'r Panel Dinasyddion i gefnogi, craffu a dylanwadu ar waith Ardal Rhanbarth y Gorllewin BIPBC
· Cydweithio gyda rhanddeiliaid i hyrwyddo’r agenda ataliol yn unol â Model Presgribio Cymunedol Môn a deddfwriaeth perthnasol Llywodraeth Cymru
· Galluogi cyfranogiad mudiadau a grwpiau trydydd sector mewn grwpiau cynllunio ar y cyd. Lle’n briodol neu’n angenrheidiol, cymryd rhan mewn grwpiau cynllunio ar y cyd i gynrychioli’r trydydd sector 2. Cefnogi’r trydydd sector i fod yn addas i'r diben o ddarparu gwasanaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Llesiant
· Trefnu digwyddiadau gyda BIPBC ar y cyd tuag at godi ymwybyddiaeth o a dal blaenoriaethau lleol o fewn yr agenda Iechyd a Llesiant
· Gwneud cysylltiadau uniongyrchol gyda’r Prosiect Presgribio Cymunedol Môn i adnabod materion cyffredin, hyrwyddo cydweithio ac osgoi dyblygu
· Gweithio'n agos gydag Ardal Rhanbarth y Gorllewin i adnabod a datblygu cyfleoedd newydd i gyd-gynhyrchu gwasanaethau cyhoeddus
· Amlygu cyfleoedd, rhwystrau a datrysiadau mewn perthynas â chaffael ar gyfer y trydydd sector
· Hyrwyddo a datblygu modelau consortia, lle y bo'n briodol, er mwyn cryfhau capasiti i dendro a chyfleoedd codi arian eraill
· Adnabod bylchau yn y ddarpariaeth ac ystyried, datblygu a hwyluso cynlluniau a chyfleoedd o lenwi’r bylchau priodol gan y trydydd sector
· Datblygu a gweithredu rhaglen hyfforddi ar gyfer y 3ydd sector yn seiliedig ar anghenion a nodwyd
· Rhannu esiamplau o ymarfer da mewn gwirfoddoli, llywodraethu a chodi arian
· Cefnogi'r trydydd sector er mwyn sicrhau ei fod yn chwarae rhan mewn hyrwyddo llesiant y gymuned (daearyddol neu gymuned o ddiddordeb) **3. ** Hyrwyddo cyfathrebu effeithiol rhwng y Trydydd Sector a BIPBC
· Creu cyfleoedd ar gyfer deialog rhwng rhwydweithiau, grwpiau a fforymau lleol, cynllunwyr gwasanaeth a rheolwyr trwy gyflwyniadau mewn cyfarfodydd rhwydwaith
· Darparu gwybodaeth (e-briffio, gwybodaeth ar y wefan, erthyglau cylchlythyr, papurau briffio) am ddatblygiadau gwasanaeth cyhoeddus, a chyfleoedd i ymgysylltu
· Diweddaru'r wefan www.medrwnmon.org gyda gwybodaeth, blogiau perthnasol ac astudiaethau achos
· Hyrwyddo a chodi proffil gwasanaethau trydydd sector a'u gwerth ychwanegol i'r rhai sy'n gweithio ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Adnabod a rhannu esiamplau o ymarfer da
· Sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei lledaenu yn briodol i sefydliadau perthnasol a bod negeseuon o'r sector yn cael eu lledaenu i BIPBC
· Cefnogi Medrwn Môn i gyflwyno Cyfeirlyfr Trydydd Sector ar gyfer Ynys Môn drwy fapio darpariaeth y trydydd sector
· Ceisio llais mudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol er mwyn sicrhau cynrychiolaeth eang o leisiau a hybu persbectif y trydydd sector drwy weithredu'r 10 Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu
· Sicrhau bod adroddiadau yn cael eu cwblhau o fewn amserlenni ac yn cael eu rhoi ar agendâu priodol
Am fwy o fanylion cysylltwch â Medrwn Môn ar 01248 724944 neu [email protected]
Cyflog
💰 £27,852
Lleoliad
📍 Llangefni
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol (Gogledd-Orllewin Cymru) x2
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn edrych am Swyddog Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol (Gogledd-Orllewin Cymru) x2
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd deilydd y swydd yn aelod gwerthfawr o’r Tîm Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol ar draws Gogledd-Orllewin Cymru, sef gweithio ar draws Siroedd Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy i sicrhau bod egwyddorion Rhaglen Waith Cydlyniant Cymunedol Llywodraeth Cymru’n cael eu cyflawni ac yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl, ar bolisi ac ar ddarpariaeth gwasanaeth o fewn y tri awdurdod lleol.
Yn benodol, bydd deilydd y swydd yn cefnogi awdurdodau lleol Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy a phartïon sector cyhoeddus eraill a’r sector gwirfoddol i wella Cydlyniant Cymunedol drwy gynlluniau gwaith a mentrau lleol a chenedlaethol.
Cyffredinol: Cydymffurfio â Pholisi Diogelu Corfforaethol yr awdurdod lleol a’r dyletswyddau a chyfrifoldebau diogelu y mae’r polisi hwnnw’n ei roi ar bob gweithiwr, gan gydweddu â gwerthoedd craidd yr Awdurdod sy’n cynnwys cefnogi plant, oedolion a all fod mewn perygl a’u teuluoedd er mwyn eu cadw’n ddiogel ac iach.
Cyflog
💰 £25,927 - £29,174
Lleoliad
📍 Ynys Môn
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.