Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Mae Medrwn Môn yn edrych am Swyddog Llesiant Cymunedol a'r Trydydd Sector

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Pwrpas y swydd yma yw:

**1.  **Hyrwyddo a hwyluso rôl y trydydd sector i gyfrannu at flaenoriaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).

·   Datblygu, cynnal a hwyluso Rhwydwaith Llesiant Ynys Môn yn chwarterol. Trefnu sesiynau briffio, seminarau a digwyddiadau eraill yn ôl yr angen

·   Sefydlu a chynnal perthynas waith gadarn gydag ystod amrywiol o randdeiliaid i gefnogi gwaith y trydydd sector

·   Arfogi Aelodau’r Rhwydwaith Llesiant gyda'r sgiliau a'r gefnogaeth i feithrin eu gallu i ymgysylltu a chael llais cryf wrth gynllunio, gwneud penderfyniadau a darparu gwasanaethau

·   Hyrwyddo a defnyddio dulliau amrywiol o ymgysylltu ag aelodau Rhwydwaith Llesiant Ynys Môn i adnabod blaenoriaethau lleol ac archwilio dulliau creadigol o ymgysylltu gyda defnyddwyr gwasanaeth

·   Cefnogi mudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol i gyfrannu at ymgynghoriadau / cynllunio / adolygu gwasanaethau

·   Gwneud y defnydd gorau o'r Panel Dinasyddion i gefnogi, craffu a dylanwadu ar waith Ardal Rhanbarth y Gorllewin BIPBC 

·   Cydweithio gyda rhanddeiliaid i hyrwyddo’r agenda ataliol yn unol â Model Presgribio Cymunedol Môn a deddfwriaeth perthnasol Llywodraeth Cymru

·   Galluogi cyfranogiad mudiadau a grwpiau trydydd sector mewn grwpiau cynllunio ar y cyd. Lle’n briodol neu’n angenrheidiol, cymryd rhan mewn grwpiau cynllunio ar y cyd i gynrychioli’r trydydd sector   2.  Cefnogi’r trydydd sector i fod yn addas i'r diben o ddarparu gwasanaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Llesiant

·   Trefnu digwyddiadau gyda BIPBC ar y cyd tuag at godi ymwybyddiaeth o a dal blaenoriaethau lleol o fewn yr agenda Iechyd a Llesiant

·   Gwneud cysylltiadau uniongyrchol gyda’r Prosiect Presgribio Cymunedol Môn i adnabod materion cyffredin, hyrwyddo cydweithio ac osgoi dyblygu

·   Gweithio'n agos gydag Ardal Rhanbarth y Gorllewin i adnabod a datblygu cyfleoedd newydd i gyd-gynhyrchu gwasanaethau cyhoeddus

·   Amlygu cyfleoedd, rhwystrau a datrysiadau mewn perthynas â chaffael ar gyfer y trydydd sector

·   Hyrwyddo a datblygu modelau consortia, lle y bo'n briodol, er mwyn cryfhau capasiti i dendro a chyfleoedd codi arian eraill

·   Adnabod bylchau yn y ddarpariaeth ac ystyried, datblygu a hwyluso cynlluniau a chyfleoedd o lenwi’r bylchau priodol gan y trydydd sector

·   Datblygu a gweithredu rhaglen hyfforddi ar gyfer y 3ydd sector yn seiliedig ar anghenion a nodwyd

·   Rhannu esiamplau o ymarfer da mewn gwirfoddoli, llywodraethu a chodi arian

·   Cefnogi'r trydydd sector er mwyn sicrhau ei fod yn chwarae rhan mewn hyrwyddo llesiant y gymuned (daearyddol neu gymuned o ddiddordeb)   **3. ** Hyrwyddo cyfathrebu effeithiol rhwng y Trydydd Sector a BIPBC

·   Creu cyfleoedd ar gyfer deialog rhwng rhwydweithiau, grwpiau a fforymau lleol, cynllunwyr gwasanaeth a rheolwyr trwy gyflwyniadau mewn cyfarfodydd rhwydwaith

·   Darparu gwybodaeth (e-briffio, gwybodaeth ar y wefan, erthyglau cylchlythyr, papurau briffio) am ddatblygiadau gwasanaeth cyhoeddus, a chyfleoedd i ymgysylltu

·   Diweddaru'r wefan www.medrwnmon.org gyda gwybodaeth, blogiau perthnasol ac astudiaethau achos

·   Hyrwyddo a chodi proffil gwasanaethau trydydd sector a'u gwerth ychwanegol i'r rhai sy'n gweithio ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Adnabod a rhannu esiamplau o ymarfer da 

·   Sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei lledaenu yn briodol i sefydliadau perthnasol a bod negeseuon o'r sector yn cael eu lledaenu i BIPBC

·   Cefnogi Medrwn Môn i gyflwyno Cyfeirlyfr Trydydd Sector ar gyfer Ynys Môn drwy fapio darpariaeth y trydydd sector

·   Ceisio llais mudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol er mwyn sicrhau cynrychiolaeth eang o leisiau a hybu persbectif y trydydd sector drwy weithredu'r 10 Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu

·   Sicrhau bod adroddiadau yn cael eu cwblhau o fewn amserlenni ac yn cael eu rhoi ar agendâu priodol

Am fwy o fanylion cysylltwch â Medrwn Môn ar 01248 724944 neu [email protected]

Cyflog

💰 £27,852

Lleoliad

📍 Llangefni

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £543 yr awr o sain 📍 Gweithio o Adref Ar gau

💰 £15k - £18k 📍 Caeredin📍 Gweithio o Adref Ar gau

💰 £23k 📍 Y Bala Ar gau

💰 £67k - £70k 📍 Caernarfon📍 Hyblyg Ar gau

💰 £30,966 📍 Llandeilo📍 Hyblyg Ar gau

💰 £24,669 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £29k 📍 Caernarfon📍 Hybrid Ar gau

💰 £28k 📍 Llangefni Ar gau

💰 £30k 📍 Bangor📍 Hybrid Ar gau

💰 £28,459 📍 Llithfaen Ar gau

💰 £28k - £30k 📍 Hybrid📍 Pen-y-bont ar Ogwr Ar gau

💰 £23k 📍 Llithfaen Ar gau

💰 £29k - £33k 📍 Llithfaen Ar gau

💰 £29k - £33k 📍 Llithfaen Ar gau

💰 £31k 📍 Aberystwyth📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £29k - £34k 📍 Corwen Ar gau

💰 £22k - £26k 📍 Corwen📍 Gweithio o Adref Ar gau

💰 £22k - 26k 📍 Corwen📍 Gweithio o Adref Ar gau

💰 £25k - £30k 📍 Botwnnog Ar gau

💰 £35k - £45k 📍 Botwnnog Ar gau

💰 £21k 📍 Botwnnog Ar gau

💰 £29.5k 📍 Y Fenni📍 Abertyleri +23 Ar gau

💰 Soulbury 27-30 ynghyd â 3 phwynt SPA 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 Cystadleuol 📍 Caerfyrddin📍 Caernarfon +1 Ar gau