Swyddi Cymraeg
1 swydd yn cyfateb
Swyddog Llesiant Cymunedol a'r Trydydd Sector
Mae Medrwn Môn yn edrych am Swyddog Llesiant Cymunedol a'r Trydydd Sector
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Pwrpas y swydd yma yw:
**1. **Hyrwyddo a hwyluso rôl y trydydd sector i gyfrannu at flaenoriaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).
· Datblygu, cynnal a hwyluso Rhwydwaith Llesiant Ynys Môn yn chwarterol. Trefnu sesiynau briffio, seminarau a digwyddiadau eraill yn ôl yr angen
· Sefydlu a chynnal perthynas waith gadarn gydag ystod amrywiol o randdeiliaid i gefnogi gwaith y trydydd sector
· Arfogi Aelodau’r Rhwydwaith Llesiant gyda'r sgiliau a'r gefnogaeth i feithrin eu gallu i ymgysylltu a chael llais cryf wrth gynllunio, gwneud penderfyniadau a darparu gwasanaethau
· Hyrwyddo a defnyddio dulliau amrywiol o ymgysylltu ag aelodau Rhwydwaith Llesiant Ynys Môn i adnabod blaenoriaethau lleol ac archwilio dulliau creadigol o ymgysylltu gyda defnyddwyr gwasanaeth
· Cefnogi mudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol i gyfrannu at ymgynghoriadau / cynllunio / adolygu gwasanaethau
· Gwneud y defnydd gorau o'r Panel Dinasyddion i gefnogi, craffu a dylanwadu ar waith Ardal Rhanbarth y Gorllewin BIPBC
· Cydweithio gyda rhanddeiliaid i hyrwyddo’r agenda ataliol yn unol â Model Presgribio Cymunedol Môn a deddfwriaeth perthnasol Llywodraeth Cymru
· Galluogi cyfranogiad mudiadau a grwpiau trydydd sector mewn grwpiau cynllunio ar y cyd. Lle’n briodol neu’n angenrheidiol, cymryd rhan mewn grwpiau cynllunio ar y cyd i gynrychioli’r trydydd sector 2. Cefnogi’r trydydd sector i fod yn addas i'r diben o ddarparu gwasanaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Llesiant
· Trefnu digwyddiadau gyda BIPBC ar y cyd tuag at godi ymwybyddiaeth o a dal blaenoriaethau lleol o fewn yr agenda Iechyd a Llesiant
· Gwneud cysylltiadau uniongyrchol gyda’r Prosiect Presgribio Cymunedol Môn i adnabod materion cyffredin, hyrwyddo cydweithio ac osgoi dyblygu
· Gweithio'n agos gydag Ardal Rhanbarth y Gorllewin i adnabod a datblygu cyfleoedd newydd i gyd-gynhyrchu gwasanaethau cyhoeddus
· Amlygu cyfleoedd, rhwystrau a datrysiadau mewn perthynas â chaffael ar gyfer y trydydd sector
· Hyrwyddo a datblygu modelau consortia, lle y bo'n briodol, er mwyn cryfhau capasiti i dendro a chyfleoedd codi arian eraill
· Adnabod bylchau yn y ddarpariaeth ac ystyried, datblygu a hwyluso cynlluniau a chyfleoedd o lenwi’r bylchau priodol gan y trydydd sector
· Datblygu a gweithredu rhaglen hyfforddi ar gyfer y 3ydd sector yn seiliedig ar anghenion a nodwyd
· Rhannu esiamplau o ymarfer da mewn gwirfoddoli, llywodraethu a chodi arian
· Cefnogi'r trydydd sector er mwyn sicrhau ei fod yn chwarae rhan mewn hyrwyddo llesiant y gymuned (daearyddol neu gymuned o ddiddordeb) **3. ** Hyrwyddo cyfathrebu effeithiol rhwng y Trydydd Sector a BIPBC
· Creu cyfleoedd ar gyfer deialog rhwng rhwydweithiau, grwpiau a fforymau lleol, cynllunwyr gwasanaeth a rheolwyr trwy gyflwyniadau mewn cyfarfodydd rhwydwaith
· Darparu gwybodaeth (e-briffio, gwybodaeth ar y wefan, erthyglau cylchlythyr, papurau briffio) am ddatblygiadau gwasanaeth cyhoeddus, a chyfleoedd i ymgysylltu
· Diweddaru'r wefan www.medrwnmon.org gyda gwybodaeth, blogiau perthnasol ac astudiaethau achos
· Hyrwyddo a chodi proffil gwasanaethau trydydd sector a'u gwerth ychwanegol i'r rhai sy'n gweithio ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Adnabod a rhannu esiamplau o ymarfer da
· Sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei lledaenu yn briodol i sefydliadau perthnasol a bod negeseuon o'r sector yn cael eu lledaenu i BIPBC
· Cefnogi Medrwn Môn i gyflwyno Cyfeirlyfr Trydydd Sector ar gyfer Ynys Môn drwy fapio darpariaeth y trydydd sector
· Ceisio llais mudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol er mwyn sicrhau cynrychiolaeth eang o leisiau a hybu persbectif y trydydd sector drwy weithredu'r 10 Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu
· Sicrhau bod adroddiadau yn cael eu cwblhau o fewn amserlenni ac yn cael eu rhoi ar agendâu priodol
Am fwy o fanylion cysylltwch â Medrwn Môn ar 01248 724944 neu [email protected]
Cyflog
💰 £27,852
Lleoliad
📍 Llangefni
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.