Swyddi Cymraeg — Adnoddau dynol
10 swydd yn cyfateb
Ymgynghorydd Adnoddau Dynol
Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn edrych am Ymgynghorydd Adnoddau Dynol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gwarchod harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol Parc Cenedlaethol Eryri. Gan orchuddio 823 milltir o dirwedd amrywiol, mae’r Parc yn gartref i dros 26,000 o bobl, mynydd uchaf Cymru a llyn naturiol mwyaf Cymru.
Rydym nawr yn chwilio am Gynghorydd Adnoddau Dynol i ymuno â'n tîm yn barhaol, llawn amser, gan weithio 37 awr yr wythnos.
Y Manteision
- Cyflog o £27,852 - £32,020 y flwyddyn
- Y cyfle i weithio mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol
Mae hwn yn gyfle eithriadol i weithiwr AD proffesiynol dawnus gamu i rôl amrywiol gyda Pharc Cenedlaethol mwyaf Cymru.
Y Rôl
Fel Cynghorydd Adnoddau Dynol, byddwch yn gyfrifol am ddarparu amrywiaeth o ganllawiau, cyngor a chefnogaeth AD, yn ogystal ag ymdrin ag elfennau o'r gyflogres.
Gan oruchwylio pob agwedd ar weinyddu’r gyflogres, byddwch yn gweithio gyda’r Adran Gyllid i sicrhau bod taliadau’n cael eu gwneud yn gywir ac ar amser. Byddwch yn sicrhau bod gwybodaeth am y gyflogres yn cael ei diweddaru’n rheolaidd a bod y data’n gywir.
Wrth weinyddu ein prosesau recriwtio, byddwch yn cefnogi rheolwyr i baratoi disgrifiadau swydd a hysbysebion, trefnu cyfweliadau a pharatoi contractau. Byddwch yn cynghori mewn paneli cyfweld, yn goruchwylio prosesau sefydlu staff ac yn cefnogi gweithrediad y cynllun gwerthuso a datblygu staff.
Yn ogystal, byddwch yn:
- Cyfrannu at gefnogi egwyddorion cyfle cyfartal
- Gweithredu fel Swyddog Gweinyddol Iechyd a Diogelwch, gan ddarparu arferion gweithio diogel ac iach i staff
- Goruchwylio gweinyddiad ein polisïau
- Cynhyrchu adroddiadau a phrosesu anfonebau
- Sicrhau bod yr holl ddata a dogfennaeth yn gyfredol ac yn gywir
- Cynghori a gweinyddu'r broses rheoli amser ac absenoldeb
Amdanoch chi
I gael eich ystyried yn Gynghorydd Adnoddau Dynol, bydd angen:
- Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol, yn y Gymraeg a'r Saesneg
- Profiad o weithio ym maes AD
- Profiad gweinyddol
- Profiad o drin data cyfrinachol a sensitif
- Profiad o ddefnyddio systemau data
- Gwybodaeth dda o brosesau AD
- Dealltwriaeth o sut i ddatrys atgyfeiriadau ymholiadau uwch
- Hyfedredd TG
- Meddu ar, neu fod yn gweithio tuag at, CIPD Lefel 3
- O leiaf, TGAU mewn Cymraeg, Saesneg a Mathemateg (neu gyfwerth)
- Trwydded yrru lawn, ddilys
Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 5 Chwefror 2023.
Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Gynghorydd AD, Cynghorydd AD Cyffredinol, Cydgysylltydd AD, Cynghorydd Pobl, Cydgysylltydd Adnoddau Dynol, neu Gynghorydd Cysylltiadau Gweithwyr.
Felly, i ddatblygu'ch gyrfa gyda'n sefydliad gwych fel Cynghorydd AD, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.
Cyflog
💰 £27,852 - £32,020
Lleoliad
📍 Penrhyndeudraeth, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Adnoddau Dynol Cynorthwyol - Addysg
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn edrych am Swyddog Adnoddau Dynol Cynorthwyol - Addysg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, er mwyn darparu gwasanaeth dwyieithog i’r ysgolion .
Manylion y Rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol am y swydd:
[Eleri Wyn Williams, Rheolwr AD Addysg 01492 575065 [email protected]
Ffion Morris, Prif Swyddog AD Addysg 01492 575064 [email protected] ]
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
Mae’n rhaid i ymgeiswyr lenwi ein ffurflen gais ni i gael eu hystyried. Ni dderbynnir CVs ar eu pen eu hunain. Os nad ydych wedi cael gwahoddiad i gyfweliad o fewn tair wythnos o'r dyddiad cau, dylech gymryd yn ganiataol nad ydych ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu. Yn dilyn dyrchafiad deilydd blaenorol y swydd, gwahoddir ceisiadau am swydd Swyddog AD Cynorthwyol, Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn aelod o’r tîm gyda chyfrifoldeb am ddarparu gwasanaeth AD a chyflog cyfrinachol, effeithlon ac effeithiol i ysgolion a’r gwasanaeth Addysg.
Bydd y prif ddyletswyddau’n cynnwys darparu gwasanaeth recriwtio i ysgolion, paratoi cytundebau cyflogaeth, trefnu archwiliadau cyn cyflogi a chynorthwyo ysgolion gyda phrosesau cyflogres.
Byddwch yn berson sy’n mwynhau gweithio a cynorthwyo ystod eang o gydweithwyr ynghyd a’r gallu i ddelio gyda sefyllfaoedd cymhleth mewn modd sensitif a chyfrinachol. Byddwch hefyd yn berson sy’n gweithio’n bwyllog ac yn gallu cyrraedd terfynau amser gan gynnal cywirdeb.
“Mae Conwy yn datblygu fframwaith ar gyfer gweithio'n hyblyg ar ôl Covid, ble anogir gweithio gartref a defnyddio swyddfeydd ar gyfer cynnal cyfarfodydd, cydweithio a gweithgareddau tîm. Bydd y ffordd newydd o weithio yn lleihau amser teithio i’r gwaith, lleihau allyriadau carbon, gwella cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a chynyddu cyfleoedd i’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu.”
Mae’r gallu i gyfathrebu’n hyderus ar lafar ac ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Cysylltwch ag Eleri Wyn Williams neu Ffion Morris, ffôn 01492 575065/064 am drafodaeth anffurfiol Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i’w Safonau Iaith Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Wrth fynd ati i hyrwyddo Cyfle Cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o’r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy’n diwallu gofynion hanfodol y swydd yn cael cyfweliad. Bydd y Cyngor yn darparu cyfleusterau gwaith addas ychwanegol ar gyfer ymgeiswyr gydag anabledd.
Cyflog
💰 £20,852 - £22,129
Lleoliad
📍 Bae Colwyn
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Adnoddau Dynol Grŵp
Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn edrych am Reolwr Adnoddau Dynol Grŵp
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae UAC wedi creu rôl newydd i lunio agenda pobl ar gyfer cwmnïau ei Grŵp corfforaethol a galluogi Grŵp UAC i gyflawni’r amcan strategol o fod yn gyflogwr o ddewis yng Nghymru.
Pwy ydym ni?
Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) yw llais annibynnol ffermydd teuluol Cymru. Gallwch ddysgu mwy drwy ymweld â'n gwefan www.fuw.org.uk a dewis Cymraeg neu Saesneg fel eich dewis iaith, neu drwy edrych amdanom ar Facebook. I gefnogi agenda'r Undeb mae yna Grŵp corfforaethol sy'n cynnwys UAC Cyf (y rhiant-gwmni), Gwasanaethau Yswiriant UAC (brocer yswiriant) ac Eiddo UAC Cyf Nid yw'r olaf yn cyflogi unrhyw staff, ond mae'r ddau gyntaf yn cyflogi 113 o staff ledled Cymru. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am weithgarwch brocer yswiriant y Grŵp drwy fynd i www.fuwinsurance.co.uk.
Disgrifiad Swydd
Er ein bod yn defnyddio Peninsula a Broker Network fel cymorth allanol i reolwyr llinell mewn cydymffurfiaeth cyflogaeth, rydym angen person egnïol, profiadol i:
· Ddarparu cefnogaeth Adnoddau Dynol cyffredinol i'r Byrddau, rheolwyr a staff.
· Ddatblygu strategaeth a pholisi Adnoddau Dynol, o recriwtio i gadw staff, gan gynnwys cyflog a gwobrwyo a chynllunio olyniaeth, i gefnogi strategaethau busnes y Grŵp.
· Ddylunio, adolygu a diweddaru'r holl gytundebau cyflogaeth, polisïau, gweithdrefnau a dogfennau cysylltiedig, yn unol â deddfwriaeth gyfredol.
· Gynorthwyo'r Byrddau i greu diwylliant a gwerthoedd endemig, cynhenid a fydd yn meithrin ein staff ac fydd wrth fodd ein cwsmeriaid.
· Ysgogi datblygiad ein pobl.
· Ddod â chysondeb i'n timau gwasgaredig.
· Arwain ar reoli newid gan gynnwys telerau ac ailstrwythuro.
· Meddu ar agwedd wydn, hyblyg a chadarnhaol.
Byddwch yn unigolyn uchel ei gymhelliant, rhagweithiol gyda sgiliau cyfathrebu rhagorol ar bob lefel. Bydd angen i'r Rheolwr Adnoddau Dynol cywir fod yn hyderus wrth lunio a datblygu syniadau a strategaethau ochr yn ochr â pharodrwydd i fod yn 'ymarferol' a darparu hyfforddiant a chefnogaeth Adnoddau Dynol.
Byddwch yn gyfrifol am yr holl brosesau Adnoddau Dynol, i sicrhau bod y busnes yn cydymffurfio o ran cyfraith cyflogaeth, polisi cwmni a lleihau risgiau cyflogaeth i'r busnes.
Fel y Rheolwr Adnoddau Dynol byddwch yn gweithio'n agos gyda Byrddau’r Grŵp ac yn arwain y swyddogaeth Adnoddau Dynol ar gyfer UAC. Byddwch yn chwarae rhan flaenllaw yn natblygiad proffesiynol gweithwyr, felly bydd profiad mewn Dysgu a Datblygu o fudd. Bydd y rôl yn cwmpasu pob maes o Adnoddau Dynol a hefyd yn ymwneud â nifer o brosiectau.
Ar hyn o bryd mae’r Grŵp yn cefnogi cyfuniad o weithio gartref neu’r o’r swyddfa agosaf ond, o bryd i’w gilydd, efallai y bydd disgwyl i’r Rheolwr Adnoddau Dynol ymweld ag unrhyw un o’n 13 swyddfa ledled Cymru.
Sgiliau a phrofiad gofynnol
· Profiad blaenorol fel Rheolwr Adnoddau Dynol neu Uwch Gynghorydd Adnoddau Dynol
· Aelod o Sefydliad Siartredig Datblygiad Personél (CIPD) neu'n fodlon dod yn aelod
· Y gallu i deithio i unrhyw un o'n 13 swyddfeydd yng Nghymru
· Yn ddelfrydol yn siaradwr/wraig Cymraeg neu'n barod i ddysgu'r iaith
Cyflog
Mae'r swydd am 3 diwrnod yr wythnos, neu 21 awr yr wythnos, sef 0.6 FTE. Y cyflog yw £24,000 (£40,000 yn gyfwerth ag amser llawn). Mae’r Grŵp yn gweithredu cynllun pensiwn aberthu cyflog gyda chyfraniadau cyfatebol hyd at 4%.
Rhoddir 15 diwrnod o wyliau blynyddol i'r rôl ran-amser ynghyd â gwyliau banc os ydynt yn digwydd ar ddiwrnod gwaith. (Mae cyfwerth ag amser llawn yn cael 25 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc).
Mae Grŵp UAC yn rhoi gŵyl banc ychwanegol o Ddydd Gŵyl Dewi (1af Mawrth) i’w holl staff a fyddai’n gweithio ar y diwrnod hwnnw fel arfer.
Llinell amser recriwtio
· Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw erbyn diwedd oriau gwaith ar 11 Tachwedd 2022
· Cynhelir y cyfweliadau rhwng 21 a 23 o Dachwedd 2022.
· Yn y swydd erbyn 1 Ionawr 2023 neu cyn gynted â phosibl wedi hynny.
Cyflog
💰 £40,000 pro rata
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Adnoddau Dynol
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn edrych am Swyddog Adnoddau Dynol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn chwilio am Swyddog Adnoddau Dynol i ymuno a’i dîm AD bach ond prysur. Mae’r Swyddog AD yn cefnogi gweithgareddau AD Cyngor y Celfyddydau trwy gynorthwyo’r Pennaeth AD i gyflawni amcanion strategol allweddol. Mae rôl y Swyddog AD yn amrywiol ac yn cynnwys gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau AD mewnol ac allanol, cynorthwyo gyda datblygu a gweithredu polisïau, gweithdrefnau a mentrau AD, arwain ar ymgyrchoedd penodol recriwtio a phenodi, a chynhyrchu data ac adroddiadau ar gyfer ystod o Bwyllgorau mewnol.
Amdanoch chi
Rydych yn gymwys hyd at lefel 5 CIPD neu mae gennych brofiad proffesiynol perthnasol mewn rôl AD o fewn tîm AD prysur, gyda dealltwriaeth dda o brosesau a gweithdrefnau AD. Rydych yn deall deddfwriaeth cyflogaeth, mae gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol, ac mae gennych ymwybyddiaeth o’r cyfrifoldebau sy’n gysylltiedig â chefnogi staff mewn perthynas â materion cyfrinachol a sensitif. Rydych hefyd yn deall yn drylwyr gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac wedi ymrwymo iddynt.
Yr Iaith Gymraeg
Rydym yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Mae rhuglder yn y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Ar ôl cael eich penodi gallwn eich cefnogi chi i ddatblygu a gwella’ch sgiliau iaith ymhellach ac i gynyddu eich hyder wrth siarad ac ysgrifennu yn y Gymraeg.
Sut i ymgeisio
Cyflwynwch Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn fformat Word. Os hoffech chi gyflwyno’ch cais mewn fformat arall, fel nodyn llais, fideo neu fideo Iaith Arwyddion Prydain, cysylltwch â ni yn gyntaf os gwelwch yn dda.
Dyddiad cau: 12:00pm (canol dydd) dydd Mercher, 28 Medi 2022
Cyfweliadau: Dydd Iau, 13 Hydref 2022
Mae ein buddion yn cynnwys oriau/gwaith hyblyg, gwyliau hael a chynllun pensiwn cyflog terfynol.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig.
Bydd y Cyngor Celfyddydau yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyffyrddus yn ymuno â’r sefydliad, y math a all fod yn newydd neu’n anghyfarwydd i chi, fel y gallwch deimlo’ch gorau yn y gwaith. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os bydd angen.
Cyflog
💰 £30,142
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Bae Colwyn, Bae Caerdydd, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwyydd Adnoddau Dynol
Mae Coleg Penybont yn edrych am Gynorthwyydd Adnoddau Dynol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Cynorthwyydd AD yn chwarae rhan hanfodol wrth gynorthwyo a galluogi staff i fod yn "Bopeth y Gallant Fod". Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, phrofiad gweinyddol sylweddol gyda’r gallu i gynnal systemau AD a chynorthwyo’r tîm gyda phob gweithred AD. Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol.
Am wybodaeth bellach, edrychwch ar y pecyn gwybodaeth swydd.
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses lem i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n gallu dangos sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a yw’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Anabledd Hyderus ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un ag anabledd os yw eu cais yn cwrdd â'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Noder gall fod gofyniad am gyfweliad neu asesiad ail gam.
Cyflog
💰 £19,117 - £20,050
Lleoliad
📍 Pen-y-bont ar Ogwr
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Adnoddau Dynol
Mae S4C yn edrych am Reolwr Adnoddau Dynol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Pwrpas S4C yw gwasanaethu’r gynulleidfa gyda chynnwys sydd yn diddanu, yn cyffroi ac yn adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth. Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus mae gennym ddyletswydd i greu'r platfform ac ecosystem i sbarduno’r diwydiannau creadigol yng Nghymru i greu cynnwys uchelgeisiol ac unigryw sy’n apelio bob oedran, cefndir a gallu ieithyddol. Nod S4C yw bod yn gyrchfan ar gyfer cynnwys Cymraeg creadigol, gafaelgar a deniadol sydd ar gael i’w fwynhau ar amryw o lwyfannau yng Nghymru a thu hwnt. Mae S4C yn chwilio am Reolwr Adnoddau Dynol profiadol i ymuno a’r tîm. Mi fyddwch yn darparu gwasanaeth AD i S4C gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i hyfforddi a datblygu, reoli absenoldeb, recriwtio, data, polisïau, y gyflogres, a phob agwedd arall sy'n ymwneud ag Adnoddau Dynol a'r Gyflogres.
Mae’r rôl yn atebol i Bennaeth Adnoddau Dynol.
Os hoffech sgwrs am y rôl, plîs cysylltwch â [email protected] sef Pennaeth Adnoddau Dynol.
Manylion Eraill
Lleoliad: Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ. Rydym yn gweithredu polisi hybrid hefyd.
Cyflog: £30,000 - £38,000 y flwyddyn, yn ddibynnol ar lefel cymhwyster a phrofiad.
Cytundeb: Parhaol
Oriau gwaith: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cyfnod prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%. Ceisiadau
Os am wneud cais, dylid anfon ffurflen cais i [email protected] neu Adnoddau Dynol, S4C, Canolfan yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3EQ erbyn 17.00 y prynhawn ar ddydd Iau 30 Mehefin 2022.
Nid ydym yn derbyn CV
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
**Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth **
Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu economaidd-gymdeithasol, oedran, amgylchiadau teuluol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, gweithwyr amser llawn neu ran-amser, crefydd, safbwynt gwleidyddol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, defnydd ar iaith (heblaw lle bo’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i’r swydd) neu wahaniaeth amherthnasol arall ac mae’n ymroi i weithio gydag amrywiaeth mewn ffordd gadarnhaol.
Mae S4C yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau o bobl sydd wedi’u tangynrychioli, gan gynnwys grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau. Bydd egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored yn berthnasol a phenodir ar sail teilyngdod.
Cyflog
💰 £30,000 - £38,000
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cefnogi Adnoddau Dynol
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn edrych am Swyddog Cefnogi Adnoddau Dynol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dyma gyfle gwych i ymuno â thim bywiog a blaengar AD Comisiynydd y Gymraeg. Prif bwrpas y swydd fydd darparu cyngor, cefnogaeth ac ymagwedd at wella'n barhaus at bob agwedd o AD yng nghylch bywyd gweithwyr; anwytho, recriwtio, dysgu a datblygu, rheoli perfformiad, lles - yn ogystal â phrosiectau strategol AD.
Disgrifiad:
Dyletswyddau penodol
- Cadw ffeiliau cyfrinachol staff yn gyfredol, rheoli’r wybodaeth a gedwir a sicrhau gweithrediad yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data.
- Paratoi gwaith papur cytundebol ar gyfer staff yn unol â gofynion yr US AD.
- Cydlynu gofynion y feddalwedd arbenigol Adnoddau Dynol trwy:
- sicrhau bod y data yn gyfredol, yn gywir ac yn gyflawn a chynnal trafodaeth barhaus gyda rheolwyr llinell a swyddogion
- goruchwylio’r elfen hunan wasanaeth o’r feddalwedd arbenigol Adnoddau Dynol a datrys problemau sy’n codi.
- datblygu a theilwra adroddiadau ar y data o fewn y system AD er mwyn darparu gwybodaeth ac ystadegau perthnasol i’r Tîm Rheoli.
- darparu hyfforddiant ac arweiniad i swyddogion ar ddefnydd effeithiol y system AD.
- Adnabod a chynorthwyo gyda’r gwaith gweinyddol o ddarparu hyfforddiant – ymchwilio cyrsiau addas a chost effeithiol, trefnu dyddiadau a lleoliadau, a chodi archebion.
- Cydlynu’r drefn datblygu perfformiad , cynghori swyddogion ar weithrediad y broses, coladu data yn ôl y gofyn a dwyn unrhyw faterion o bwys i sylw’r Uwch Swyddog Adnoddau Dynol.
- Darparu cyngor ac arweiniad i swyddogion ar weithrediad polisïau adnoddau dynol, gan gyfeirio at yr Uwch Swyddog Adnoddau Dynol petai angen arweiniad pellach.
- Cydlynu’r broses o recriwtio staff, ymateb i ymholiadau, hysbysebu, redactio ceisiadau, dosbarthu ceisiadau i reolwyr llinell a threfnu cyfweliadau.
- Trefnu rhaglenni sefydlu ar gyfer staff sy’n newydd neu’n dychwelyd i’r gwaith. Cydlynu’r broses gyda rheolwyr llinell a sicrhau bod rhaglen wedi’i drefnu’n amserol ynghyd â chydlynu trefniadau Technoleg Gwybodaeth.
- Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Adnoddau Dynol gyda threfniadau iechyd a diogelwch ym mhob swyddfa.
- Gweithio ar y cyd gyda’r US Adnoddau Dynol i weithredu Cynllun Strategol yr adran. Golygir hynny i gynorthwyo gydag unrhyw dasg / prosiect yn ôl gofyn ac arweiniad yr US AD.
- Cymryd rôl flaengar ar faterion lles i staff: ymchwilio a chydlynu gweithgareddau a seminarau, a chyfrannu’n rheolaidd ar faterion lles yn y cylchlythyr mewnol.
- Cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol a statudol
Dyletswyddau gweinyddol canolog achlysurol (fel rhan o dîm Swyddogion Cefnogi / Gweinyddol).
Gweithredir ar sail rota i gyfro gwyliau a salwch.
- Ateb a throsglwyddo galwadau ffôn neu gymryd negeseuon yn absenoldeb y Swyddog Gweinyddol.
- Monitro negeseuon e-bost post@ yn absenoldeb y Swyddog Gweinyddol.
- Gweinyddu ceisiadau am gyfieithu dogfennaeth, rhedeg pob dogfen drwy feddalwedd cof cyfieithu, codi archebion a chysylltu â chyfieithwyr yn ôl yr angen yn absenoldeb y Swyddog Gweinyddol.
- Gweinyddu ceisiadau am ddefnydd o’r offer cyfieithu ar y pryd, gan sicrhau bod yr offer wedi’i wefru ac yn barod i’w ddefnyddio yn absenoldeb y Swyddog Gweinyddol.
- Cofnodi manylion ceisiadau Iaith Gwaith, dosbarthu’r nwyddau a sicrhau cyflenwad digonol o nwyddau Iaith Gwaith i’w cadw gerllaw’r dderbynfa yn absenoldeb y Swyddog Gweinyddol.
- Ymgymryd â thasgau redactio ar gyfer y tîm Llywodraethiant, a hefyd i fod yn barod i ddarparu cymorth redactio i dimoedd eraill yn ôl yr angen.
- Darparu ysgrifenyddiaeth i gyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio a Risg a’r Panel Cynghori yn absenoldeb y Cynorthwyydd Personol.
Dyletswyddau cyffredinol:
- Gweithredu’n gyson ac yn amserol yn unol â holl bolisïau a chanllawiau’r Comisiynydd.
- Ymgymryd â rhai tasgau gweinyddol i gynorthwyo gyda chynnydd mewn llwyth gwaith yr adran Llywodraethiant, ar gais yr Uwch Swyddog.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau perthnasol, rhesymol eraill yn ôl y galw.
Cyflog
💰 £25,860 - £29,430
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Adnoddau Dynol
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Swyddog Adnoddau Dynol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dymuna’r Coleg benodi unigolyn trefnus sydd â phrofiad o weithio ym maes adnoddau dynol a sydd â wybodaeth sylweddol am arferion gorau, polisïau a gweithgareddau yn y maes.
Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn sicrhau fod ein polisïau a’n gweithdrefnau yn cefnogi’r dull newydd o weithio yn dilyn y pandemig. Os wyt ti am fod yn rhan o'r tîm blaengar hwn ac os oes gennyt ti brofiad o adnabod a diwallu anghenion hyfforddi a datblygu staff a phrosesau recriwtio – yna ymgeisia am y swydd hon!
Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn rhan o ddatblygiadau’r Coleg i ddatblygu pobl gan gynnig syniadau a chydlynu gweithgareddau perthnasol ac uchelgeisiol i sicrhau bod y staff a’r sefydliad yn perfformio ar ei orau.
Cyflog
💰 £27,116 - £33,309
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn edrych am Swyddog Adnoddau Dynol a Hyfforddiant dan Hyfforddiant
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Raglen Dyfodol Môn wedi lansio i ceisio recriwtio 15 o hyfforddeion newydd eleni. Profiad gwaith ymarferol ynghyd â chyfle i ennill cymhwyster proffesiynol gyda chyflog.
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae S4C yn edrych am Swyddog Adnoddau Dynol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Pwrpas S4C yw gwasanaethu'r gynulleidfa gyda chynnwys sydd yn diddanu, yn cyffroi ac yn adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth. Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus mae gennym ddyletswydd i...
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.