Swyddi Cymraeg — Arwain ysgol
6 swydd yn cyfateb
Pennaeth Ysgol Cae'r Felin
Mae Ysgol Cae'r Felin, Cyngor Sir Caerfyrddin yn edrych am Bennaeth Ysgol Cae'r Felin
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dymuna’r llywodraethwyr benodi ymarferwr ysbrydoledig, brwdfrydig ac ymroddgar i arwain, herio a pharhau i godi ein dyheadau a sicrhau cyfleoedd dysgu rhagorol i bob disgybl.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â:
• Gweledigaeth glir am ragoriaeth addysgol ac yn angerddol ynglŷn â gwella cyflawniadau disgyblion;
• Gallu i adeiladu ar y cryfderau presennol a datblygu potensial disgyblion a staff ymhellach;
• Disgwyliadau uchel o ran cynnydd, cyrhaeddiad ac ymddygiad disgyblion, gan sicrhau bod diddordebau a llesiant disgyblion wrth wraidd yr holl waith cynllunio;
• Egni i gynnal y cyfleoedd Cwricwlwm cyfoethog ac eang, wrth ymgorffori egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru er mwyn sicrhau profiadau dysgu perthnasol iawn i bob disgybl;
• Sicrhau cyfleoedd cyfartal, tegwch a rhagoriaeth i bawb; • Yn gyfathrebwr rhagorol sy'n gallu ymgysylltu'n effeithiol â phlant, rhieni, staff a llywodraethwyr trwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg.
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gael ei gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer Cymru cyn cael ei benodi. Bydd gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â:
Dylan Davies (Chair of Governors @ Cae’r Felin) on 01559 389151 / [email protected]
Aled Eynon (Chair of Governors @ Brynsaron) on 01559 370575 / [email protected] Bydd angen ichi allu cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg. Gellir darparu cymorth i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.
Dyddiad Cau: Canol dydd ar dydd Mawrth, 8fed Tachwedd 2022
Llythyrau at Ymgeiswyr ar y Rhestr Fer: Dydd Gwener, 11eg Tachwedd 2022
Profion Seicometreg Ar-lein: Erbyn dydd Llun, 21ain Tachwedd 2022
Canolfan Asesu: Dydd Gwener, 2il a Llun 5ed Rhagfyr 2022
Cyflog
💰 £53,646 - £62,237
Lleoliad
📍 Pencader
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pennaeth Ysgol Gymraeg Casnewydd
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn edrych am Bennaeth Ysgol Gymraeg Casnewydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Ysgol Gymraeg Casnewydd yn lle gwych i weithio – dewch i ymuno â'r tîm!
Yn gyfnewid am eich gwaith caled a'ch ymroddiad rydym yn cynnig telerau ac amodau deniadol. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais am y cyfle unigryw a chyffrous hwn i ddod yn Bennaeth Ysgol Gymraeg Casnewydd. Mewn partneriaeth â rhieni a'r gymuned, nod Ysgol Gymraeg Casnewydd yw cynnig amgylchedd dysgu Cymraeg ysbrydoledig sy'n gwerthfawrogi ac yn datblygu pawb. Rydym yn falch iawn bod Ysgol Gymraeg Casnewydd yn Arloeswr Dysgu Proffesiynol / Cwricwlwm ers mis Ebrill 2016 ac hefyd yn Ysgol Fraenaru ar gyfer y Cwricwlwm ers 2019. Yn ogystal, rydym yn ysgol arweiniol ar gyfer Partneriaeth Prifysgol De Cymru.
Mae Ysgol Gymraeg Casnewydd wedi'i lleoli'n gyfleus ar gyrion dwyreiniol y ddinas, llai na 2 filltir o gyffordd 24 yr M4 ac ond 12 milltir o Gaerdydd.
Mae gennym gyfleusterau ysgol rhagorol wedi'u lleoli mewn mannau gwyrdd a chymuned ysgol groesawgar. Anogir darpar ymgeiswyr i ymweld a gweld hyn drostynt eu hunain! Os hoffech wneud hynny, cysylltwch â [email protected] i drefnu.
Cymraeg yw prif gyfrwng gwaith a bywyd yr ysgol. Ein datganiad o genhadaeth yw: ‘Meithrin meddyliau yfory gyda’n gilydd’. Ein nôd yw meithrin disgyblion i gyrraedd safonau uchaf posib ac i’w datblygu i feddwl yn ddwys am eu byd a’u rhan o fewn y byd ehangach.
Am fwy o wybodaeth amdanom, gweler ein cyfrif Trydar: @YsgolGCasnewydd a’n gwefan:
https://www.ysgolgymraegcasnewydd.com/
Mae'r Corff Llywodraethu wedi ymrwymo i benodi Pennaeth sy’n:
· Arweinydd ysbrydoledig sydd â gweledigaeth glir ar gyfer ein hysgol, gan gynnal a datblygu ethos addysg Gymraeg
· Meddu ar ddyhead am ragoriaeth ac am feithrin a datblygu ein disgyblion i gyflawni eu llawn botensial
· Meddu ar sgiliau arwain, rheoli, cyfathrebu a rhyngbersonol amlwg i hyrwyddo gwaith tîm effeithiol
· Dangos ac yn hyrwyddo cydraddoldeb a disgwyliadau uchel o ran cyflawniad ac ymddygiad.
· Gallu meithrin perthynas o barch cyffredin gyda'r plant, y rhieni, y gymuned, y staff, a’r Corff Llywodraethu.
· Ceisio datblygu trefniadau cydweithio cryf gyda'r holl bartneriaid a sefydliadau sy'n cefnogi'r ysgol.
Bydd llywodraethwyr yn cefnogi'r ymgeisydd llwyddiannus ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol er mwyn sicrhau parhad a gwelliant yr ysgol lwyddiannus iawn hon.
**Dyddiadau Allweddol **
Dyddiad Cau : 18/10/22
Llunio rhestr fer: 19/10/22
Dyddiad cyfweld arfaethedig: 27/10/22
Dyddiad Cychwyn: 01/01/2023
Rhaid i ni ofyn i chi gyflwyno tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, gofynnir i chi gyflwyno dogfennau priodol fel eich tystysgrif geni lawn/pasbort/trwydded waith yn unol â Deddf Lloches a Mewnfudo 1996.
Mae’r swydd hon wedi ei heithrio o’r Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr (1974) a chynhelir proses sgrinio gynhwysfawr ar gyfer pob ymgeisydd. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Cyflog
💰 £65,266 - £74,847
Lleoliad
📍 Casnewydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pennaeth - Ysgol Dyffryn Aeron
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Bennaeth - Ysgol Dyffryn Aeron
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am Bennaeth deinamig ac arloesol gydag egni a gweledigaeth i arwain Ysgol Ardal newydd ar gyfer disgyblion 3-11 oed sy’n cael ei hadeiladu yn Felin-fach, Dyffryn Aeron yn dilyn ad-drefnu addysg gynradd yn yr ardal honno. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio gyda Chorff Llywodraethol Cysgodol ymroddedig a phrofiadol tuag at agoriad yr Ysgol newydd. Yn y cyfamser, bydd yn arwain un o’r ysgolion sy’n dod ynghyd i greu yr Ysgol Ardal, sef Ysgol Ciliau Parc, Ciliau Aeron.
Mae hwn yn gyfle ardderchog ac unigryw i arweinydd egnïol a llwyddiannus sy’n meddu ar yr adnoddau personol a’r brwdfrydedd i ysbrydoli a symbylu staff a disgyblion. Bydd angen sgiliau profedig mewn rheoli newid yn effeithiol, yn effeithlon ac yn sensitif er mwyn sicrhau bod yr holl staff wedi’u cefnogi’n llawn a’u hintegreiddio i dîm unedig. Bydd gan yr Ysgol hon adnoddau chwaraeon modern, a bydd y safle hefyd yn gartref i Ganolfan Iaith ac Uned Anghenion Dysgu Ychwanegol. Bydd yr Ysgol newydd yn chwarae rhan ganolog ym mywyd cymunedau lleol sy’n fwrlwm o weithgareddau diwylliannol a chymdeithasol, ac yn pontio cymunedau a charfannau cymdeithasol amrywiol a chynnig canolbwynt i ddiwylliant Cymraeg cadarnhaol.
Bydd y Pennaeth newydd:
· yn angerddol ynglŷn â gwella cyflawniadau plant, yn meddu ar weledigaeth glir am ragoriaeth addysgol, ac yn datblygu cysylltiadau cryf â’r gymuned a sefydliadau lleol
· yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth er mwyn bodloni anghenion plant a’u teuluoedd yn y modd gorau posibl drwy greu un amgylchedd dysgu eithriadol
· yn meddu ar sgiliau cadarn o ran arwain a chyfathrebu gan ennyn hyder mewn eraill, ac ysbrydoli staff a disgyblion
· yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol yn y Gymraeg a’r Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig, ac yn dangos ymrwymiad cadarn i’r iaith Gymraeg a’i diwylliant
· yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol cryf er mwyn adeiladu partneriaethau cadarn ymysg y cymunedau lleol
· â disgwyliadau uchel o ran cyrhaeddiad ac ymddygiad disgyblion
· â sgiliau addysgu rhagorol a disgwyliadau ar gyfer dyfodol yr ysgol ynghyd â’r gallu i ysbrydoli rhieni a’r gymuned ehangach i weld yr ysgol yn mynd o nerth i nerth
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Rhaid i ymgeiswyr sy’n ceisio am eu swydd gyntaf fel Pennaeth feddu ar gymhwyster CPCP.
Bydd angen gwiriad troseddol manylach ar gyfer y swydd hon.
Os am sgwrs anffufiol mae croeso ichi gysylltu gyda Mary Davies, Pennaeth Gwella Ysgolion [email protected]
Cyfweliadau i’w cynnal ar ddydd Iau, 06 Hydref, 2022.
Am ragor o wybodaeth am y cyfle hwn ewch i'n gwefan gyrfaoedd.
Cyflog
💰 £52,302 - £60,624
Lleoliad
📍 Aberaeron
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pennaeth Ysgol Tryfan
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Bennaeth Ysgol Tryfan
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am arweinydd cryf, cadarn a brwdfrydig sy'n meddu ar sgiliau rheolaeth rhagorol a'r gallu i ysgogi ac ysbrydoli disgyblion a staff yr ysgol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gwbl ymrwymiedig i ethos Gymreig yr ysgol, ac i addysg ddwyieithog gyflawn o'r safon uchaf.
Gweler gwefan Cyngor Gwynedd am fanylion a linc i wneud cais.
Cyflog
💰 £70,240 - £81,358
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cyngor Sir Gâr yn edrych am Ddirprwy Bennaeth - Ysgol Heol Goffa
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Ysgol Heol Goffa yn ysgol arbennig yn Sir Gaerfyrddin ar gyfer disgyblion 3-19 oed ag Anawsterau Dysgu Difrifol ac anghenion meddygol Dwys, Lluosog a Chymhleth. Ar hyn o bryd mae 111...
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pennaeth
Mae Ysgol Gynradd Groeswen yn edrych am Bennaeth
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd ein hysgol ddwy ffrwd newydd yn gwasanaethu'r datblygiadau tai newydd yng Ngogledd-orllewin Caerdydd, ar safle Plasdŵr. Mae'r Corff Llywodraethu dros dro yn awyddus i benodi Pennaeth ar gyfer...
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.