Swyddi Cymraeg — Cadwraeth
6 swydd yn cyfateb
Swyddog Natur - Ynys-hir
Mae RSPB Cymru yn edrych am Swyddog Natur - Ynys-hir
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae hon yn swydd 12 mis, ac mae'n bosib y caiff y cyfnod hwn ei ymestyn os bydd cyllid ar gael. Mae'r swydd yn canolbwyntio ar yr adnoddau coed o gwmpas Bro Ddyfi a'r ardal ehangach, lle ceir rhai o olygfeydd mwyaf godidog Cymru a rhywogaethau sydd lawn mor odidog. Bydd deiliad y swydd hon yn dechrau cyflwyno Glasbrint Tir Canol, a gynlluniwyd ar y cyd, gan ganolbwyntio ar goetiroedd Derw Gorllewin yr Iwerydd:
• Dadansoddi beth mae pobl eisoes yn ei wybod am yr adnoddau coed yn yr ardal (ymchwil pen bwrdd).
• Llunio arolygon cynefinoedd ar y cyd â thirfeddianwyr ac ar eu cyfer. Bydd yr arolygon hyn yn ymwneud â'u hadnoddau a'u rhywogaethau coed, a byddant yn rhoi sylw i'w gwybodaeth a'u huchelgeisiau.
• Ymwneud â'r gweithgarwch coedwigaeth yn yr ardal i gefnogi rheoli coedwigaeth gynaliadwy.
Byddwch yn aelod o dîm Tir Canol. Byddwch yn cwrdd yn rheolaidd â'ch gilydd, ac yn cydweithio'n rheolaidd mewn lleoliad sydd eto i'w gadarnhau. Byddwch hefyd yn cydweithio'n agos â phartneriaid Tir Canol, yn enwedig staff RSPB Cymru gan gynnwys staff cadwraeth, gwarchodfeydd a staff rhaglen Celtic Rainforests LIFE; ynghyd â staff Coed Cadw i lunio asesiad o'r adnoddau coed a rhywogaethau cysylltiedig allweddol yn ardal afon Dyfi.
Gweithgareddau allweddol:
• Cynnal arolygon, gan gynnwys defnyddio Pecyn Cymorth Bywyd Gwyllt Coetiroedd ac arolygon rhywogaethau dethol.
• Cynnal asesiadau o gynefinoedd (hyd at Gam 1) a chreu cynllun gweithredu ar y cyd â thirfeddianwyr i nodi cyfleoedd posibl.
• Cysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid allanol ar draws Bro Ddyfi a'r ardal ehangach gan ddatblygu cysylltiadau yn lleol o fewn sefydliadau a chymunedau.
• Nodi cyfleoedd i greu ac i adfer coetiroedd.
Byddwch yn cydweithio ag amrywiaeth o arbenigwyr o fewn partneriaeth Tir Canol a'r tu allan iddi, a byddwch yn rhan o'r tîm sy'n gwireddu gweledigaeth Tir Canol, gweledigaeth a gynlluniwyd ar y cyd â phobl ar draws yr ardal. Byddwch yn gweithio gartref mewn man addas yn ardal ddaearyddol y prosiect. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus deithio o fewn i'r ardal hon.
Amdanoch chi
Bydd angen ichi fod yn barod i weithio gydag eraill, gan ganolbwyntio ar gyflawni pethau i'r safon uchaf ac ymrwymo i ddiogelu ac adfer byd natur yng Nghymru.
Bydd angen ichi fod yn barod i weithio gydag eraill, gan ganolbwyntio ar gyflawni pethau i'r safon uchaf ac ymrwymo i ddiogelu ac adfer byd natur yng Nghymru.
Mae angen i chi allu creu gweledigaeth a sicrhau cyfeiriad, egni a gallu. Rhaid ichi hefyd allu gweld y darlun ehangach. Mae'n rhaid i chi allu cynghori a chefnogi gwaith ar draws tirwedd eang. Mae eich sgiliau a'ch rhinweddau yn bwysicach i ni na'r rhestr o bwy rydych chi wedi gweithio iddyn nhw. Ond dyw hynny ddim yn golygu y gall unrhyw un gamu i’r swydd hon. Dim o gwbl. Mae'r gwaith hwn yn mynd i fod yn dipyn o her ac fe gewch eich gwthio!
Mae angen ichi fod yn dda iawn am drin pobl, a phrosiectau. Bydd angen gwybodaeth dda arnoch am fywyd gwyllt ac am reoli cynefinoedd yng Nghymru. Bydd angen ichi allu trin pobl yn ddeheuig a bydd angen ichi allu gweithio’n dda â phobl eraill. Bydd hefyd angen sgiliau dadansoddi cryf arnoch i brosesu gwybodaeth a dewis a dethol pethau pwysig er mwyn cyflawni Glasbrint Tir Canol. Mae bod yn angerddol am gysylltu pobl â bywyd gwyllt, a'u galluogi i weithredu er mwyn diogelu'r byd naturiol, yn bwysig ar gyfer y swydd hon.
Byddai'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol. Serch hynny, os nad ydych yn siaradwr Cymraeg rhugl, byddai deall enwau Cymraeg a gallu ynganu geiriau ac enwau'n gywir yn fantais benodol ichi, gan y byddwch yn gweithio â siaradwyr Cymraeg yn rheolaidd.
Byddwch yn aelod o dîm cyfeillgar, brwdfrydig, sy'n rhoi pwyslais cryf ar gydweithio a chyd-gynhaliaeth. Bydd llawer o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau newydd ac i adeiladu ar feysydd presennol.
Y camau nesaf
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Tachwedd 29ain am hanner dydd 2022.
Rydym yn disgwyl llawer o ddiddordeb yn y rôl hon.
Byddwn yn adolygu ceisiadau ddiwedd mis Tachwedd ac os byddwch ar y rhestr fer, byddwn yn eich gwahodd i gyfweliad ym mis Rhagfyr.
Coed Cadw sy'n cyllido'r swydd hon, a chaiff ei chynnal gan RSPB Cymru yn rhan o bartneriaeth Tir Canol.
Cyflog
💰 £28,420 - £31,529
Lleoliad
📍 Machynlleth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cefnogol Clwyf Gwywiad yr Onnen
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Swyddog Cefnogol Clwyf Gwywiad yr Onnen
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Pwrpas y swydd
• Cynnal bas-data archwiliadau coed onnen Gwynedd yn ogystal â rheoli'r llifoedd data a gwaith sy’n deillio o archwiliadau allan yn y maes.
•Cymryd camau gorfodi yn erbyn tirfeddianwyr preifat.
•Cynorthwyo i gydgordio gweithgareddau torri a thocio coed heintiedig.
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud. Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol.
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Meirion Williams ar 01286 679 422 neu Richard Roberts ar 07826 541 384
Rhagwelir cynnal cyfweliadau, dyddiadau i'w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: [email protected]
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 13.10.2022
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Cyflog
💰 £22,571 - £24,920
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynghorydd 2, Rheolaeth Gynaliadwy o Nitrogen Atmosfferig (Gogledd)
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn edrych am Gynghorydd 2, Rheolaeth Gynaliadwy o Nitrogen Atmosfferig (Gogledd)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Disgrifiad o’r swydd: Byddwch yn gweithio yn un o dimau lleol CNC gan ddefnyddio data wedi'i fodelu ar ffynonellau llygredd nitrogen sy'n effeithio ar safleoedd gwarchodedig ac yna'n trafod opsiynau rheoli gyda ffermwyr lleol. Nod hyn yw mynd i'r afael â'r "Argyfwng Natur", gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth a meithrin cydnerthedd ecosystemau. Mae hyn yn cynnwys gweithio'n agos gyda staff CNC, Llywodraeth Cymru a thirfeddianwyr i adeiladu Cynlluniau Gweithredu Nitrogen Safle ar gyfer pob un o’r chwe ardal yng Nghymru: Y Gogledd-Orllewin, Y Gogledd-Ddwyrain, Y Canolbarth, Y De-Ddwyrain, Canolbarth De Cymru a’r De-Orllewin. Bydd un swyddog yn gweithio yn y Gogledd a'r Canolbarth ac un arall yn y De.
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
1. Profiad o gadwraeth natur, bioamrywiaeth, safleoedd gwarchodedig a thirweddau morol a daearol.
2. Profiad o weithio gyda thirfeddianwyr a/neu rhanddeiliaid eraill.
3. Sgiliau hunanreoli a threfnu cadarn ac effeithiol.
4. Y gallu i ddylanwadu, trafod ac ennyn cydweithrediad pobl eraill. Mae profiad o ddelio'n llwyddiannus â phobl / sefyllfaoedd anodd yn bwysig.
5. Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol gyda ffocws ar gwsmeriaid.
6. Ardderchog o ran meithrin perthynas waith effeithiol â chydweithwyr a phartneriaid allanol.
7. Y gallu i ysgrifennu adroddiadau technegol cryno a chlir.
8. Y gallu i ddefnyddio systemau TG, megis GIS neu raglenni arbennig CNC.
9. Gallu gweithio’n dda fel aelod o dîm.
10. Trwydded yrru gyfredol, lawn a dilys y DU i yrru cerbydau fflyd CNC.
11. Gofynion y Gymraeg - Hanfodol: Siarad Cymraeg yn rhugl
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
· gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
· Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
· 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
· absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
· manteision a chymorth o ran iechyd a lles
· awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau
Cyflog
💰 £31,490 - £34,902
Lleoliad
📍 Hyblyg, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Ceidwad - Beddgelert
Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn edrych am Geidwad - Beddgelert
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Llais ein tirluniau, hyrwyddwyr cadwraeth a’r rheiny sy’n caru popeth am yr awyr agored. Byddwch yn helpu i gadw cefn gwlad ac arfordir Prydain yn hardd. Gan weithio yn rhai o leoedd a mannau mwyaf godidog y wlad, waeth beth yw’r tywydd, bydd eich cariad tuag at yr awyr agored yn ysbrydoli eraill a byddwch yn ymdrechu i sicrhau bod tirluniau’n cael eu harddangos ar eu gorau ac yn parhau i syfrdanu ymwelwyr.
Mae'r gallu i gyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Sut brofiad yw gweithio yma?
O ddydd i ddydd byddwch yn rhan o dîm Ceidwaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghraflwyn (ger Beddgelert). Bydd eich prif ffocws ar rediad dydd i ddydd y feithrinfa goed, yn casglu a phrosesu hadau’n lleol i dyfu’r coed a fydd yn cefnogi ein targedau plannu coed uchelgeisiol. Darperir hyfforddiant a chymorth mewnol ond byddai profiad garddwriaethol blaenorol yn fanteisiol.
Pan na fyddwch yn y feithrinfa, bydd gofyn i chi helpu ar yr ystâd ehangach yn Eifionydd gyda thasgau ymarferol, o ffensio a chodi waliau cerrig sych i blannu coed a rheoli rhywogaethau ymledol. Byddwch yn gweithio'n agos â gwirfoddolwyr ac aelodau o’r gymuned leol; mae’r mwyafrif ohonynt yn siaradwyr Cymraeg, felly mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Does dim amheuaeth y bydd yr ardal y byddwch yn gweithio ynddi yn odidog, ond gall yr amodau ar y mynyddoedd fod yn arw. Byddwch yn treulio cryn dipyn o amser yn yr awyr agored gydol y flwyddyn, felly mae’n rhaid i chi fod yn barod am bob math o dywydd, yn meddu ar brofiad da o weithio yn yr awyr agored, a bod yn wydn ac yn barod i addasu’ch cynlluniau er mwyn gweithio gyda’r tywydd ar y diwrnod.
Eich gwaith
Gan ddilyn arweiniad Cynllun Busnes yr Eiddo, byddwch yn darparu rhaglen waith effeithiol a hyblyg gan gynnwys gwirfoddolwyr a’r gymuned leol lle bo’n bosib, wrth sicrhau cydymffurfiad â chanllawiau a deddfwriaeth iechyd a diogelwch bob amser.
Gan ddefnyddio eich dealltwriaeth a phrofiad o rywogaethau coed a thechnegau lluosogi byddwch yn gweithio ochr yn ochr â thîm bach o geidwaid, yn cydlynu dyddiau gwirfoddoli ac yn gwneud y mwyaf o gyfleoedd ymgysylltu cymunedol.
Bydd gennych ddealltwriaeth glir o sut mae eich gwaith yn cyfrannu at strategaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i leihau carbon, gwrthdroi gostyngiad mewn bioamrywiaeth a sicrhau bod croeso i bawb.
Gan weithio â’r Prif Geidwad a’r Rheolwr Cefn Gwlad byddwch yn cynllunio gweithgareddau ac allbwn blynyddol y feithrinfa, yn trefnu diwrnodau casglu hadau, yn cadw cofnodion manwl, yn cynorthwyo gyda phrosiectau plannu coed ac yn sicrhau rhediad effeithiol ac effeithlon y feithrinfa goed.
Gofynnir i chi hefyd ddarllen y proffil rôl llawn sydd ynghlwm â'r hysbyseb hon.
Am bwy ydyn ni’n chwilio?
Mae ein tîm o’r farn bod pobl yn haeddu mwy na ‘gwasanaeth da’ yn unig, sef profiad anhygoel fythgofiadwy, ac rydym yn chwilio am bobl o’r un anian i ymuno â ni.
Bydd angen i chi:
- Gyflawni gwaith cadwraeth ymarferol er mwyn diogelu ac atgyfnerthu statws cadwraeth yr eiddo ac arddangos brwdfrydedd am natur, treftadaeth a’r awyr agored
- Ymgysylltu ag ymwelwyr i sicrhau eu bod yn deall gwerth eich gwaith
- Helpu i greu lle gwych i weithio ynddo, gan rannu nodau cyffredinol, dangos brwdfrydedd a pharodrwydd i ddysgu
- Gallu gweithio’n ddiogel, gydag asesiadau risg a chydymffurfio â gweithdrefnau diogelwch
- Bod â phrofiad o weithio mewn lleoliad rheoli tir, mynediad a chadwraeth
- Gallu defnyddio peiriannau ac offer yn ogystal â meddu ar y tystysgrifau perthnasol gofynnol
- Trwydded yrru lawn y DU
Y pecyn
Mae’r arwyddair ‘I bawb, am byth’ yn ganolbwynt yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rydym yn gweithio’n galed i greu diwylliant cynhwysol, ble mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn. Mae’n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu a chynrychioli amrywiaeth y cymunedau a’r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ni ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb dderbyn croeso yn ein timau hefyd.
Mae’r buddion o weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnwys:
- Gweithio hyblyg pryd bynnag y bo modd
- Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau
- Mynediad am ddim i’n heiddo i chi, i’ch gwestai a’ch plant (dan 18)
- Cylin pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol
Cyflog
💰 £21,684
Lleoliad
📍 Beddgelert
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Warden Tymhorol - Dolgellau
Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn edrych am Warden Tymhorol - Dolgellau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gwarchod harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol Parc Cenedlaethol Eryri. Gan orchuddio 823 milltir o dirwedd amrywiol, mae’r parc yn gartref i dros 26,000 o bobl, mynydd uchaf Cymru a Lloegr a llyn naturiol mwyaf Cymru.
Rydym nawr yn chwilio am Warden Tymhorol i gefnogi Gogledd Parc Cenedlaethol Eryri. Lleolir y rôl hon yn Nolgellau.
Y Manteision
- Cyflog o £19,650 - £20,852
- Cefnogi mynediad a hawliau tramwy o fewn y Parc Cenedlaethol
- Gweithio mewn lleoliad anhygoel
Y Rôl
Fel Warden Tymhorol, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth helpu ymwelwyr i fwynhau Parc Cenedlaethol Eryri tra’n gwarchod y dirwedd, bywyd gwyllt a’r amgylchedd syfrdanol. Byddwch hefyd yn cefnogi ac yn diogelu buddiannau trigolion lleol a thirfeddianwyr.
Mae ein gwasanaeth warden yn cefnogi meysydd parcio, safleoedd picnic, llwybrau, llwybrau ac eiddo arall sy'n gysylltiedig ag Awdurdod y Parc, gan fonitro gweithgareddau a helpu gyda chynnal a chadw.
Yn ogystal, byddwch yn gweithio gyda grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr, yn darparu gwybodaeth, yn arwain teithiau cerdded ac yn helpu gydag ymweliadau addysgol. Lle bo angen, byddwch hefyd yn cysylltu â'r gwasanaethau brys.
Fel rhan o'ch rôl, bydd gofyn i chi wneud gwaith penwythnos a Gwyl y Banc.
Amdanoch chi
I gael eich ystyried yn Warden Tymhorol, bydd angen:
- Gallu cyfathrebu'n effeithiol yn y Gymraeg a'r Saesneg
- Profiad o ymgysylltu a gweithio gyda'r cyhoedd
- Gwybodaeth am faterion mynediad a hamdden cyfredol a'u heffaith ar bwrpasau'r Parc Cenedlaethol
- Lefel resymol o ffitrwydd sy’n gymesur â dyletswyddau a chyfrifoldebau’r rôl
- Profiad a gwybodaeth o gerdded mynyddoedd
- Brwdfrydedd a hunan-gymhelliant
- Y gallu i weithio'n unigol ac fel rhan o dîm
- Sgiliau cyfathrebu da
- Gwybodaeth am weithgareddau awyr agored a dealltwriaeth o ddefnydd diogel a chyfrifol o Eryri
- Trwydded yrru ddilys
Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Warden, Warden Parc, Ceidwad y Parc, Ceidwad y Parc Cenedlaethol, Arweinydd Mynydd, Ceidwad Cefn Gwlad, neu Warden Cefn Gwlad.
Felly, os ydych chi'n ceisio'ch her nesaf fel Warden Tymhorol, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.
Cyflog
💰 £19,650 – £20,852
Lleoliad
📍 Dolgellau
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Bioamrywiaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Swyddog Bioamrywiaeth
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person. Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Pwrpas y Swydd • Cynorthwyo’r Gwasanaeth i ddarparu cyngor arbenigol ar faterion sy’n ymwneud a bioamrywiaeth ac ecoleg. • Cyfrannu at ddatblygu a gweithredu cynlluniau sy’n gwarchod a hyrwyddo bywyd gwyllt a’r amgylchedd naturiol • Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Lea Connelly ar [email protected] neu Wyn Williams ar [email protected]
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 E-Bost: [email protected]
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU 05/05/2022
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd. Gwybodaeth Ychwanegol: Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
Cyflog
💰 £25,419 - £27,514
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.