Swyddi Cymraeg — Codi arian
9 swydd yn cyfateb
Cydlynydd Nawdd
Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn edrych am Gydlynydd Nawdd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am Gydlynydd Nawdd hyderus, dynamig a brwdfrydig i ymuno â’n tîm i chwarae rôl ganolog wrth gael gafael ar a hwyluso ein Noddwyr ar gyfer digwyddiadau, yn cynnwys Sioe Frenhinol Cymru, y Ffair Aeaf a’r Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad.
Ynglŷn â Ni
Wedi’i sefydlu bron 120 o flynyddoedd yn ôl, ond gydag agwedd gadarn o gyfoes, mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn llenwi lle unigryw yn nhirwedd wledig a diwylliannol Cymru. Fel elusen gofrestredig, ein nod craidd yw hyrwyddo amaethyddiaeth gynaliadwy, garddwriaeth, coedwigaeth, cadwraeth a’r amgylchedd yng Nghymru. Rydym yn cyflawni’r amcanion hyn trwy gynnal tri digwyddiad mawr bob blwyddyn, ochr yn ochr â nifer o wobrau, bwrsarïau ac ysgoloriaethau.
Yn ychwanegol at ein digwyddiadau ein hun, rydym yn croesawu nifer o ddigwyddiadau trydydd parti ar ein maes sioe 150 erw, sy’n cynhyrchu incwm allweddol i fod yn sail i’n gwaith elusennol.
Wrth edrych ymlaen bydd angen i’r Gymdeithas, fel pob sefydliad, ddatblygu i barhau’n berthnasol. Mae gennym nifer o brosiectau cyffrous yn yr arfaeth ac ymgyrch i gofleidio newid a thyfu llwyddiant ein digwyddiadau.
Felly, mae’r Cydlynydd Nawdd yn aelod hollbwysig o Dîm Datblygu Busnes y Gymdeithas, sy’n adrodd i Bennaeth Datblygu Busnes, ac yn gweithio’n agos â Phwyllgor Nawdd y Gymdeithas a busnesau trydydd parti.
Cyfrifoldebau Allweddol
Mae’r swydd yn eang ac yn amrywiol; mae’n cwmpasu pob agwedd ar nawdd ar gyfer tri phrif ddigwyddiad y Gymdeithas a bydd yn cynnwys:
· Cynorthwyo gyda chanfod noddwyr newydd ar gyfer amrywiol adrannau digwyddiadau’r elusen.
· Paratoi cynigion nawdd a chynorthwyo mewn trafodaethau gyda noddwyr.
· Cyfathrebu â busnesau a datblygu perthynas gref gyda noddwyr, trwy e-bost, teleffon ac yn bersonol.
· Mewnbynnu pecynnau noddwyr ar gronfa ddata, a chefnogi wrth ddatblygu prosesau adrannau a chronfa ddata newydd y Gymdeithas.
· Gweinyddu buddion a breintiau noddwyr, e.e. Baneri, hysbysebu, sylwebaethau, tocynnau a bathodynnau. Gweithio gyda’r Tîm Baneri a Stiwardiaid wrth drefnu digwyddiadau.
· Diweddaru atodlenni a chatalogau gyda manylion noddwyr.
· Cynorthwyo gydag Anfonebu a phrosesu taliadau.
· Cefnogi cwblhau awgrymiadau nawdd newydd a chreu pecynnau nawdd newydd.
· Gweithio gyda’r Swyddog Stondinau Masnach wrth sefydlu Stondinau Masnach Noddwyr.
· Darparu cefnogaeth nawdd gyffredinol i Bennaeth Datblygu Busnes.
· Gweithio gyda chroestoriad o staff yn cynnwys Cyllid, Marchnata a Chystadlaethau.
Tîm bychan ydym a bydd yna orchwylion sy’n disgyn y tu allan i’r cyfrifoldebau allweddol uchod. Felly, bydd angen ichi fod yn hyblyg ac yn fodlon addasu yn ôl y gofynion.
Mae hon yn swydd gyffrous, ac rydym yn chwilio am rywun i ymuno â’r tîm am y tymor hir a’r bwriad yw y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn tyfu ac yn datblygu gyda ni ac y bydd yn rhan ganolog o’r Gymdeithas a’i dyfodol.
Mae angen ichi fod yn danbaid ac yn ymroddedig i lwyddiant hir dymor y Gymdeithas tra byddwch yn gallu gweithio dan bwysau, trin blaenoriaethau lluosog, bod yn gyfathrebwr hyderus a chwrdd â therfynau amser.
Ynglŷn â Chi
Mae’r swydd yn adrodd yn uniongyrchol i Bennaeth Datblygu Busnes ac mae’r priodoleddau canlynol yn rhinweddau personol pwysig ar gyfer y swydd.
Sylweddolir efallai na fydd un ymgeisydd yn meddu arnynt i gyd. Serch hynny, defnyddiwch eich cais i ddangos sut y gall eich profiad, eich sgiliau a’ch gwybodaeth gwrdd â gofynion cyflawni’r swydd hon.
Profiad
· Profiad o werthu y gellir ei ddangos.
· Profiad mewn gofal a gwasanaeth cwsmeriaid.
· Gwybodaeth am brosesu ariannol.
· Hanes o lwyddiant blaenorol mewn gwaith tîm rhagorol.
· Profiad wrth reoli cysylltiadau trydydd parti yn llwyddiannus.
· Gallu i weithio mewn dull trefnus a rhagweithiol. Sgiliau a gwybodaeth
· Llythrennedd TG rhagorol (yn cynnwys Excel) ac yn gyfarwydd â gweithredu cronfeydd data.
· Sgiliau cyfathrebu rhagorol, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
· Y gallu i weithio ar eich menter eich hun yn ogystal ag o fewn tîm.
· Gallu rhagorol i sgwrsio yn Saesneg ac yn Gymraeg (dymunol).
· Yn gallu sicrhau sylw astud i fanylion a bod yn drefnus.
· Ymarweddiad cyfeillgar, agos-atoch, a hyderus.
Gwybodaeth hanfodol
· Prawf o hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig.
I drafod y swydd yn anffurfiol, anogir ymgeiswyr i gysylltu â Phennaeth Datblygu Busnes, Clare James ([email protected]).
I wneud cais am y swydd hon, anfonwch CV a llythyr eglurhaol at Caron W Evans, Pennaeth Gweinyddiaeth ([email protected]).
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12 hanner dydd ar 17 Chwefror 2023.
Byddir yn cynnal cyfweliadau ar ddydd Gwener 24 Chwefror 2023.
AMODAU A THELERAU CYFLOGAETH CYFFREDINOL
Oriau amser llawn: 36.25 awr yr wythnos. (Oriau craidd y busnes: 08.45 y bore tan 17.00 y pnawn. Dydd Llun i Ddydd Gwener. Cinio 12.30 y pnawn tan 13.30 y pnawn). Mae dull hybrid a hyblyg o weithio yn bosibl fel y cytunir gyda’r Rheolwr Llinell.
Oriau ychwanegol: Bydd gofyn i ddeiliad y swydd weithio oriau ychwanegol yn barod ar gyfer 3 digwyddiad yr elusen. Bydd rhyw gymaint o amser o’r gwaith yn lle tâl (TOIL) yn gymwys.
Gwyliau: 24 diwrnod y flwyddyn ynghyd â gwyliau cyhoeddus arferol.
Buddion: Bydd Deddf Pensiwn 2011 yn gymwys. Bydd Gofal Iechyd, Yswiriant Bywyd a chymorth ar salwch tymor hir yn cael ei ddarparu ar ôl cwblhau cyfnod prawf yn llwyddiannus.
Cyflog
💰 £21,000
Lleoliad
📍 Llanelwedd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Datblygu Llawrydd
Mae Angor yn edrych am Swyddog Datblygu Llawrydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
A oes gennych ddiddordeb i weithio I Elusen newydd arloesol sydd yn anelu i annog unigolion a’u teuluoedd i gymryd rhan effro'r neu lesiant yn y dyfodol?
Mae Angor yn awyddus i benodi Swyddog Datblygu I weithio’n llawrydd 25 awr yr wythnos ar draws Sir Gâr am gyfnod o 12 mis. Bydd y gwaith datblygu yn cael ei fonitro gan Ymddiriedolwyr drwy gydol y cyfnod.
Am fanylion pellach cysylltwch â:
07380 125690 [email protected]
Cyflog
💰 £18,087
Lleoliad
📍 Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pennaeth Cymru Dros Dro (i lenwi dros gyfnod mamolaeth)
Mae Cymorth Cristnogol yn edrych am Bennaeth Cymru Dros Dro (i lenwi dros gyfnod mamolaeth)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
_Mae’r rôl hon wedi’i lleoli yn swyddfa Caerdydd, gyda'r cyfle i weithio o adref ar rai diwrnodau bob wythnos yn unol â dull gweithio hybrid Cymorth Cristnogol. _ _ _ _Gofynnwn i geisiadau gael eu hysgrifennu yn Saesneg, oherwydd cyfansoddiad y panel llunio rhestr fer a’r panel cyfweld. _ Amdanom ni
Ni fu gwell amser i ymuno gydag Adran Codi Arian ac Ysgogi Cefnogwyr Cymorth Cristnogol. Mi fyddem yn dweud hynny, byddem! Ond mae’n wir. Er yr heriau yr ydym wedi eu hwynebu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’n hincwm wedi tyfu ac rydym wedi cyrraedd pob targed, gan sicrhau effaith trawsnewidiol i bobl mewn tlodi. Gallai eich cam proffesiynol nesaf eich arwain at ymuno gyda’n tîm egnïol ac eiddgar o ddilewyr tlodi. Rydym yn ysbrydoli mwy 250,000 o gefnogwyr a miloedd o eglwysi cefnogol i godi mwy na £40 miliwn yn flynyddol i fynd i’r afael ag achosion craidd tlodi eithafol. Am y swydd
Rôl gyflenwi dros gyfnod mamolaeth hyd at 12 mis yw hon, gyda phwyslais ar gysylltiadau eglwysig lefel uchel, codi arian yn gymunedol, yn enwadol ac yn sefydliadol a chyfle i lywio tîm newydd i helpu i gyflawni ein strategaeth ar ei newydd wedd.
Mae'r rôl yn arwain ac yn rheoli tîm Cymorth Cristnogol Cymru, gan ysbrydoli a chyflawni targedau codi arian, codi ymwybyddiaeth a sicrhau ymgyrchu ac eirioli effeithiol. Drwy gydweithio mewnol rhagorol a phartneriaethau allanol cryf, mae'r rôl yn ysgwyddo cyfrifoldeb dros uwch gynrychiolaeth Cymorth Cristnogol yng Nghymru ac am reoli rhanddeiliaid gyda'r eglwysi ac arweinwyr eglwysig, y cyhoedd yn ehangach, y cyfryngau, y sector preifat a sefydliadau eraill. Amdanoch chi
Byddwch yn unigolyn sy’n angerddol am weledigaeth Cymorth Cristnogol a'r effaith y gall eglwysi a'r gymdeithas ehangach yng Nghymru ei chael i drechu tlodi byd-eang.
Bydd gennych brofiad o arwain, rheoli, cefnogi ac ysgogi staff a gwirfoddolwyr mewn cyd-destunau eglwysig a/neu fusnes/codi arian, a byddwch yn gallu arwain a gweithio ar y cyd â chydweithwyr o bell, gan gynnal gweledigaeth ac egni a throi'r weledigaeth honno yn gynlluniau gwaith.
Bydd gennych wybodaeth sylweddol am ddiwinyddiaeth a phrofiad o weithio gyda'r eglwys a strwythurau eciwmenaidd yng Nghymru. Yn ogystal â gwybodaeth a phrofiad o godi arian, ymgyrchu a gweithio gyda'r cyfryngau, bydd gennych hefyd sgiliau cyflwyno rhagorol yn gyhoeddus, yn y cyfryngau ac ar draws ystod eang o gynulleidfaoedd, gan gynnwys pregethu ac arwain gwasanaethau eglwysig.
Mae Cymraeg ysgrifenedig a llafar rhugl yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Er mwyn diwallu anghenion y rôl, bydd gofyn i chi fynychu digwyddiadau gyda'r nos ac ar benwythnosau, yn enwedig ar adegau allweddol yng nghalendr Cymorth Cristnogol.
Cyflog
💰 £54,516
Lleoliad
📍 Caerdydd, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Ysgogi Eglwysi a Chodi Arian Cymru
Mae Cymorth Cristnogol yn edrych am Swyddog Ysgogi Eglwysi a Chodi Arian Cymru
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ni fu gwell amser i ymuno gydag Adran Codi Arian ac Ysgogi Cefnogwyr Cymorth Cristnogol. Mi fyddem yn dweud hynny, byddem! Ond mae’n wir. Er yr heriau yr ydym wedi eu hwynebu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’n hincwm wedi tyfu ac rydym wedi cyrraedd pob targed, gan sicrhau effaith trawsnewidiol i bobl mewn tlodi. Gallai eich ca\m proffesiynol nesaf eich arwain at ymuno gyda’n tîm egnïol ac eiddgar o ddilewyr tlodi. Rydym yn ysbrydoli mwy 250,000 o gefnogwyr a miloedd o eglwysi cefnogol i godi mwy na £40 miliwn yn flynyddol i fynd i’r afael ag achosion craidd tlodi eithafol. **Gofynion y swydd **
Dyma swydd gyffrous yn nhîm Cymorth Cristnogol Cymru (un o ddwy rôl o’r fath sy’n bodoli yng Nghymru) sy'n gweithio i gryfhau, ysgogi, ysbrydoli a darparu adnoddau i bobl ac i eglwysi yng Nghymru er mwyn eu galluogi i roi, gweithredu a gweddïo mewn ymateb i dlodi byd-eang. Gan ganolbwyntio'n benodol ar y De a’r De-ddwyrain, bydd y rôl yn cynnig cymorth pwrpasol ac yn aml wyneb yn wyneb i eglwysi, Grwpiau a rhwydweithiau Cymorth Cristnogol, gan weithio'n greadigol ar draws yr enwadau i feithrin cefnogaeth i waith Cymorth Cristnogol.
Bydd deiliad y swydd hefyd yn gyfrifol am rai o feysydd gwaith y tîm mewn eglwysi ledled Cymru. Er enghraifft, cyfathrebu rheolaidd â rhwydweithiau eglwysig, datblygu rhwydwaith o siaradwyr gwirfoddol mewn eglwysi yng Nghymru, ymgysylltu â phobl sy’n hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth, ymgyrchoedd eglwysig, meysydd codi arian pwrpasol, a digwyddiadau a gwyliau. **Amdanoch chi **
Byddwch yn awyddus iawn i weithio ar y cyd ag eglwysi ac eraill er mwyn eu hysbrydoli i fynd ati i weithredu i oresgyn tlodi ym mhob cwr o’r byd. Bydd gennych ddealltwriaeth dda o’r gwahanol gynulleidfaoedd eglwysig sy’n bodoli yng Nghymru, ac o ardaloedd daearyddol y De/De-ddwyrain. Bydd gennych brofiad o weithio i ddatblygu cydberthynas sy’n ysbrydoli pobl i weithredu, yn ogystal â’r gallu i ddatblygu negeseuon mewn cyd-destun diwinyddol. Byddwch yn hapus i fod allan yn cwrdd â phobl, gan feithrin partneriaethau, cefnogi gwirfoddolwyr a chyfathrebu'n greadigol ac yn ddeinamig am waith Cymorth Cristnogol.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol Gymraeg a Saesneg llafar ac ysgrifenedig da.
Mae disgwyl i ymgeiswyr fyw yn yr ardal benodol y mae'r swydd yn ei chwmpasu, sef De/De-ddwyrain Cymru.
Gofynnwn i geisiadau gael eu hysgrifennu yn Saesneg, oherwydd cyfansoddiad y panel sy’n llunio rhestr fer a’r panel cyfweld.
Cyflog
💰 £36,255 - £39,644
Lleoliad
📍 Caerdydd, Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pennaeth Codi Arian a Chyfathrebu
Mae RSPB Cymru yn edrych am Bennaeth Codi Arian a Chyfathrebu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd y swydd gyffrous hon yn addas ar gyfer swyddog codi arian a chyfathrebydd profiadol sy’n gallu cyflwyno a dylanwadu ar lefel uwch gyda staff mewnol a rhanddeiliaid allanol. Bydd yr unigolyn hwn yn darparu arweinyddiaeth strategol ac yn cyfrannu at ddatblygu a gweithredu strategaethau a rhaglenni’r RSPB, a hynny drwy arwain adran arbenigol a darparu cefnogaeth broffesiynol i dimau gweithredol. Mae hon yn rôl amlwg iawn lle gallwch benderfynu sut mae’r RSPB yn cael ei weld a’i gefnogi yng Nghymru.
Beth yw’r rôl?
Rydyn ni’n chwilio am arweinydd dylanwadol a thrawsnewidiol ym maes cyfathrebu a chodi arian i ymuno â’n Tîm Arweinyddiaeth Gwlad yn RSPB Cymru. Byddwch hefyd yn gweithio gyda chymheiriaid yn Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Phencadlys yr RSPB i ddatblygu cynlluniau i ymgysylltu â phobl ledled y DU a’u grymuso, gan addasu dulliau gweithredu i gyd-fynd â chyd-destun Cymru.
Mae’r swydd hon yn ddelfrydol i rywun sy’n mwynhau creu strategaethau, gan ddatblygu pobl, timau a phartneriaethau ac sydd eisiau adeiladu cefnogaeth ar gyfer adferiad natur a’r RSPB. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arweinydd profiadol sydd â hanes llwyddiannus o weithio ar y cyd i helpu i lywio cyfeiriad strategol RSPB o ran codi arian a chyfathrebu. Byddwch yn gallu ysbrydoli cyd-weithwyr i gyrraedd targedau uchelgeisiol o ran codi arian, cyfathrebu ac ymgysylltu, gan gynrychioli brand enwog y mae ein haelodau a’n cefnogwyr yn ymddiried ynddo.
**Nodiadau Gwybodaeth ychwanegol **
Mae hon yn swydd Amser Llawn, Parhaol am 37.5 awr yr wythnos.
Mae hon yn rôl hybrid a gallwch fod yn unrhyw le yng Nghymru. Disgwylir i chi deithio.
Dyddiad cau: 23:59, Dydd Mercher Tachwedd 2ail
Rydym yn edrych i gynnal cyfweliadau ar gyfer y swydd yma ar 11 Tachwedd 2022.
Am fwy o wybodaeth a manylion am gofyniadau y swydd cysylltwch gyda [email protected]
Mae’r RSPB yn gyflogwr cyfle cyfartal. Mae Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 yn berthnasol i’r rôl hon.
Cyflog
💰 £52,000 - £57,688
Lleoliad
📍 Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pennaeth Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Bennaeth Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
A ydych yn cael llwyddiant wrth godi arian? Os felly, dewch i ymuno â ni ym Mhrifysgol Bangor yn y swydd newydd gyffrous hon fel Pennaeth Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr. Mae hwn yn gyfle i godwr arian proffesiynol profiadol ymuno â’n tîm sy’n gyfrifol am roddion dyngarol mawr, a cheisio rhoddion gan ymddiriedolaethau a sefydliadau sy’n rhoi grantiau a hybu ein cysylltiadau â 100,000 o gyn-fyfyrwyr ledled y byd. Rydym yn chwilio am unigolyn ysbrydoledig a dawnus sydd â hanes o lwyddiant mewn cysylltiadau gyda rhoddwyr a rhanddeiliaid i arwain ar gynnydd mewn incwm dyngarol a chysylltiadau â chyn-fyfyrwyr.
Sefydlwyd y brifysgol ym 1884 gyda rhoddion gan chwarelwyr gogledd Cymru, ac mae gan y brifysgol hanes cyfoethog i ddeiliad y swydd fanteisio arno. Gyda chynlluniau i ddatblygu Ysgol Feddygol Gogledd Cymru gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ac un o’r grwpiau mwyaf o wyddonwyr amgylcheddol yn y Deyrnas Unedig, mae hwn yn gyfle gwych i’r ymgeisydd llwyddiannus wneud gwahaniaeth mewn prifysgol a roddwyd yn y 30 uchaf am effaith gymdeithasol ac economaidd ei hymchwil yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf. Byddwch yn cael bod yn rhan o’r cyffro o helpu i lunio strategaeth godi arian newydd a chyfle i ddatblygu eich profiad codi arian proffesiynol a'ch gyrfa ar yr un pryd â chael boddhad personol wrth gyfrannu at ddatblygiadau cymdeithasol a gwyddonol trwy weithio gyda'n cymuned ymchwil.
Dylai ymgeiswyr feddu ar addysg at lefel gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc cysylltiedig, neu fod â phrofiad sylweddol mewn meysydd perthnasol.
Mae hon yn swydd barhaol, lawn-amser a disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau mor fuan â phosib.
Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (ond rhaid aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hyn ymhellach gydag ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 26 Medi 2022.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £53,353 - £61,823
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pennaeth Codi Arian
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn edrych am Bennaeth Codi Arian
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn awyddus i benodi unigolyn cymwys a brwdfrydig i reoli ac arwain ei ffyniant codi arian a chefnogi ei gwaith o gyflawni ei strategaeth, fel y nodir yn ein Cynllun Strategol 2021-2026: Llyfrgell i Gymru a'r Byd. Wrth arwain swyddogaeth codi arian y Llyfrgell, bydd y Pennaeth Codi Arian yn hroi arweiniad a chefnogaeth i'r Prif Weithredwr a Llyfrgellydd, y Tîm Gweithredol, y Grŵp Cyflawni, Bwrdd yr Ymddiriedolwyr a staff trawsadrannol sydd â chyfrifoldebau codi arian i sicrhau newid sylweddol yn incwm codi arian LlGC, a hefyd i weithredu fel eiriolwr i sicrhau bod y gweithlu cyfan yn cael cymaint o wybodaeth â phosibl am godi arian ac yn gallu cyfrannu at ddigwyddiadau, apeliadau ac ymgyrchoedd.
Byddwch yn creu profiad gwerth chweil i'r rhai sy'n rhoi ac yn gweithio'n agos gyda'r Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Ymgysylltu a Phartneriaethau i ddatblygu a chynnal rhwydwaith partneriaeth o gefnogwyr dylanwadol. Byddwch yn cadw cyfres o opsiynau codi arian, gan gynnwys blaenoriaethau strategol pwysig sydd wedi'u nodi yng Nghynllun Strategol 2021-2026: Llyfrgell i Gymru a'r Byd. Byddwch hefyd yn gyfrifol am oruchwylio gweithgareddau cynhyrchu incwm y Llyfrgell gan roi ystyriaeth briodol i gasgliadau adroddiad Richard Newton; 'Adolygiad allanol o botensial Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gynhyrchu incwm masnachol' a grëwyd ym mis Hydref 2021.
PENNAETH CODI ARIAN
Band 6: £43,445 - £56,869
Swydd parhaol 37 awr yr wythnos
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 2.00 o’r gloch 19 Awst 2022
Dyddiad cyfweliadau: i’w cadarnhau
Mae’r pecyn cyflogaeth yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau, cynllun pensiwn cyflog terfynol, polisïau sy’n gyfeillgar i deuluoedd, oriau gweithio hyblyg a phrisiau gostyngol yn y bwyty. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gyflogwr cyfle cyfartal.
Cyflog
💰 £43,445 - £56,869
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pennaeth Codi Arian a Chyfathrebu
Mae RSPB Cymru yn edrych am Bennaeth Codi Arian a Chyfathrebu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi eisiau chwarae rhan yn y mudiad i achub byd natur? Rydyn ni’n recriwtio swyddog codi arian a chyfathrebwr eithriadol i weithio’n agos gyda Chyfarwyddwr RSPB Cymru ac i arwain y tîm Codi Arian a Chyfathrebu.
Bydd y swydd gyffrous hon yn addas ar gyfer swyddog codi arian a chyfathrebydd profiadol sy’n gallu cyflwyno a dylanwadu ar lefel uwch gyda staff mewnol a rhanddeiliaid allanol. Bydd yr unigolyn hwn yn darparu arweinyddiaeth strategol ac yn cyfrannu at ddatblygu a gweithredu strategaethau a rhaglenni’r RSPB, a hynny drwy arwain adran arbenigol a darparu cefnogaeth broffesiynol i dimau gweithredol. Mae hon yn rôl amlwg iawn lle gallwch benderfynu sut mae’r RSPB yn cael ei weld a’i gefnogi yng Nghymru.
Beth yw’r rôl?
Rydyn ni’n chwilio am arweinydd dylanwadol a thrawsnewidiol ym maes cyfathrebu a chodi arian i ymuno â’n Tîm Arweinyddiaeth Gwlad yn RSPB Cymru. Byddwch hefyd yn gweithio gyda chymheiriaid yn Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Phencadlys yr RSPB i ddatblygu cynlluniau i ymgysylltu â phobl ledled y DU a’u grymuso, gan addasu dulliau gweithredu i gyd-fynd â chyd-destun Cymru.
Mae’r swydd hon yn ddelfrydol i rywun sy’n mwynhau creu strategaethau, gan ddatblygu pobl, timau a phartneriaethau ac sydd eisiau adeiladu cefnogaeth ar gyfer adferiad natur a’r RSPB. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arweinydd profiadol sydd â hanes llwyddiannus o weithio ar y cyd i helpu i lywio cyfeiriad strategol RSPB o ran codi arian a chyfathrebu. Byddwch yn gallu ysbrydoli cyd-weithwyr i gyrraedd targedau uchelgeisiol o ran codi arian, cyfathrebu ac ymgysylltu, gan gynrychioli brand enwog y mae ein haelodau a’n cefnogwyr yn ymddiried ynddo.
Sgiliau, gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
Sgiliau arwain a rheoli pobl amlwg, gallu datblygu sgiliau aelodau’r tîm ar gyfer sicrhau perfformiad uchel a meithrin diwylliant cadarnhaol
Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac ar bapur i gyflwyno, dylanwadu a chynrychioli’r sefydliad
Sgiliau cydweithio i feithrin perthnasoedd, llywio gwleidyddiaeth a rheoli gwrthdaro
Sgiliau rheoli busnes er mwyn deall strategaeth, swyddogaethau busnes a gwneud penderfyniadau
Craffter ariannol i reoli cyllidebau, mynd i’r afael â rhagolygon ariannol, deall datganiadau ariannol a defnyddio metrigau busnes
Gallu amlwg i weithredu ar strategaethau, datblygu rhaglenni, blaenoriaethu ac arwain newid
Gwybodaeth am yr RSPB a’i genhadaeth
Dealltwriaeth o Fframwaith Rheoli Prosiectau
Sgiliau rheoli a datblygu tîm
Sgiliau dymunol
Sgiliau yn yr iaith Gymraeg yn ddymunol. (Cyfeiriwch at y matrics iaith Gymraeg sydd ynghlwm a nodwch eich lefelau cyfredol yn eich cais)
Cymwysterau proffesiynol ym maes cyfathrebu neu godi arian ac aelodaeth o gyrff proffesiynol perthnasol
Profiad o eirioli a dylanwadu ar lefel uwch
Profiad neu ddealltwriaeth o fodelau cyflwyno/gweithgareddau i ymgysylltu â phobl ifanc
Profiad o nawdd masnachol neu bartneriaethau corfforaethol
Mae hon yn swydd Amser Llawn, Parhaol am 37.5 awr yr wythnos. Mae hon yn rôl hybrid a gallwch fod yn unrhyw le yng Nghymru. Disgwylir i chi deithio.
Rydym yn edrych i gynnal cyfweliadau ar gyfer y swydd yma ar 11 Awst 2022. Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda [email protected]
Fel rhan o’r broses ymgeisio hon, gofynnir i chi ddarparu copi o’ch CV a llenwi ffurflen gais gan gynnwys tystiolaeth ynghylch sut rydych chi’n bodloni’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad a restrir uchod. Mae gofyn i chi hefyd gynnwys eich lefelau sgiliau yn unol â’r Matrics Galluogrwydd Iaith Gymraeg yn eich cais.
Mae’r RSPB yn gyflogwr cyfle cyfartal. Mae Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 yn berthnasol i’r rôl hon.
Rydyn ni’n argymell eich bod yn darllen y nodiadau canllaw i ymgeiswyr sydd ynghlwm wrth frig yr hysbyseb hwn. Caiff y rôl hon ei chyfieithu i’r Saesneg a’i hatodi hefyd.
Cyflog
💰 £52,000 - £57,688
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae yn edrych am Reolwr Codi Arian Rhanbarthol – Gogledd Cymru
Ar gau. Mae’r swydd hon ar gau. Nid oes dyddiad cau wedi ei gofnodi.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i rywun sy'n meddwl am ei symudiad gyrfa nesaf, neu yn edrych i ymuno ar sector elusennol ac i wneud gwahaniaeth yn eu cymuned leol.
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.