Swyddi Cymraeg — Cydraddoldeb ac amrywiaeth
3 swydd yn cyfateb
Cydlynydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Gydlynydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Coleg yn edrych am unigolyn deallus a brwdfrydig i arwain ar ein hymdrechion i sicrhau bod y Coleg, ac addysg ôl-orfodol Cymraeg a dwyieithog, yn agored i bawb, beth bynnag eu cefndir.
Dymuna’r Coleg benodi Cydlynydd Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Gwrth-hiliaeth i gydlynu gweithrediad strategaeth bum mlynedd er mwyn cynyddu ymwneud pobl o gefndir Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, a phobl sydd â nodweddion gwarchodedig eraill sydd wedi eu tan gynrychioli ar hyn o bryd, gyda’r Coleg a darpariaeth ôl-orfodol Gymraeg a dwyieithog. Mae'r strategaeth yn un uchelgeisiol ac yn gosod amserlen a thargedau ar gyfer gweld cynnydd dros y blynyddoedd i ddod. Bydd cydweithio gyda rhan-ddeiliaid eraill yn y sector Gymraeg, yn y sector ôl-orfodol a gyda mudiadau sy’n cynrychioli pobl sydd a nodweddion gwarchodedig yn elfen holl bwysig o’r swydd. Bydd gan yr unigolyn brofiad o ymwneud gyda chymunedau sy’n cael eu tangynrychioli yn y Coleg ar hyn o bryd - yn benodol er enghraifft pobl o gefndir Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a phobl anabl - a bydd dealltwriaeth o faterion yn ymwneud â chroestoriadaeth (intersectionality) yn angenrheidiol. Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon ac mae cefnogaeth ar gael yn y Coleg i'r rhai sy'n dymuno gwella eu sgiliau iaith Gymraeg.
Os hoffech drefnu sgwrs anffurfiol am y rôl yna danfonwch e-bost at Dafydd Trystan, Uwch Reolwr Academaidd a Chofrestrydd y Coleg – [email protected].
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gyflogwr Cyfle Cyfartal.
Cyflog
💰 £27,929 – £34,308
Lleoliad
📍 Caerdydd, Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arweinydd Amrywiaeth, Cynaliadwyedd a Phwrpas Cymdeithasol
Mae S4C yn edrych am Arweinydd Amrywiaeth, Cynaliadwyedd a Phwrpas Cymdeithasol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae S4C yn chwilio am Arweinydd Amrywiaeth, Cynaliadwyedd a Phwrpas Cymdeithasol i arwain strategaeth uchelgeisiol i drawsnewid y ffordd mae S4C a’r sector yn cynrychioli ac yn adlewyrchu Cymru. Byddwch yn gyswllt gweithgar gyda’r cymunedau sy’n cael eu tangynrychioli yn y sector ac ar y sgrin - yn benodol pobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl, pobl o gymunedau di-freintiedig a phobl LHDTC+.
Byddwch hefyd yn gyfrifol am reoli rhaglen Amgylcheddol, Gymdeithasol a Llywodraethu (‘ACLl/ESG’) cyffredinol S4C. Byddwch yn mapio ac yn gweithredu strategaeth i reoli a gwella rheolaeth y sefydliad ar bynciau ACLl/ESG. O fewn cylch gorchwyl y gwaith yma byddwch yn arwain ar faterion amgylcheddol, wrth gydlynu gyda rhanddeiliaid a thimoedd eraill yn S4C i adnabod ffyrdd o wella ein harferion a’n gweithgareddau mewn perthynas â materion amgylcheddol a chynaladwyedd (sustainability).
Mae hon yn rôl newydd fydd yn llywio ymrwymiad S4C i adlewyrchu Cymru heddiw ac yn sicrhau fod S4C yn parhau i ddatblygu ei strategaeth a’i pholisïau i gyfrannu at ffyniant cymdeithasol Cymru ac yn ymateb i gyfleoedd a heriau arbennig. Bydd y rôl hon yn gofyn i chi weithio gyda thimoedd S4C yn gyffredinol a gyda'n rhanddeiliaid allweddol a'n partneriaid ledled Cymru. Bydd y swydd â chyfrifoldeb i weithredu fel bod y sector sgrin yn gynhwysol a chynrychioladol, yn sicrhau lles y sawl sy’n gweithio ynddo ac i sicrhau bod ein cynnwys yn cael ei greu gyda’r ôl-troed carbon isaf er mwyn gwarchod yr amgylchedd ar gyfer y dyfodol. Mae S4C ar gyfer pawb, a bydd y rôl hon yn gweithredu a gwireddu’r nôd hwn a chreu budd cymdeithasol gan adlewyrchu Cymru.
Mae’r gallu i gyfathrebu i safon dda yn Gymraeg ac yn Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig yn hanfodol i’r rôl yma. Mae cefnogaeth ar gael i ddarparu cyrsiau gloywi iaith Gymraeg neu i fagu hyder os oes angen.
Manylion Eraill
Lleoliad: Lleoliad arferol eich gwaith fydd Canolfan S4C yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac maent yn gweithredu polisi gweithio’n hybrid. Disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn.
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Cytundeb: Parhaol
Oriau gwaith: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cyfnod prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Mawrth 14 Chwefror 2023 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
**Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth **
Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu economaidd-gymdeithasol, oedran, amgylchiadau teuluol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, gweithwyr amser llawn neu ran-amser, crefydd, safbwynt gwleidyddol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, defnydd ar iaith (heblaw lle bo’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i’r swydd) neu wahaniaeth amherthnasol arall ac mae’n ymroi i weithio gydag amrywiaeth mewn ffordd gadarnhaol.
Mae S4C yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau o bobl sydd wedi’u tangynrychioli, gan gynnwys grwpiau pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau. Bydd egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored yn berthnasol a phenodir ar sail teilyngdod.
Cyflog
💰 Yn unol â phrofiad
Lleoliad
📍 Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynllun Yfory – Hyfforddai Proffesiynol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Gynllun Yfory – Hyfforddai Proffesiynol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cynllun Yfory yn gyfle unigryw i unrhyw un sydd gyda gradd neu gymhwyster cyfwerth i ddatblygu gyrfa yng Nghyngor Gwynedd.
Mae'r cynllun yn rhoi cyfle unigryw i hyfforddeion proffesiynol i ddeall mwy am weithio i lywodraeth leol drwy gael amryw o brofiadau ymarferol o bob lefel o'r sefydliad, i ddatblygu sgiliau hanfodol yn y maes cydraddoldeb ac amrywiaeth, i ddatblygu rhwydweithiau ar draws y Cyngor a thu hwnt ac ar yr un pryd ennill cymhwyster Gradd Meistr mewn Amrywiaeth a Chydraddoldeb mewn Cymdeithas.
Rydym yn chwilio am ymgeisydd brwdfrydig sydd â’r ymroddiad i ddatblygu sgiliau rhyngbersonol cryf yn y maes cydraddoldeb ac amrywiaeth. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael profiad mewn nifer o feysydd arbenigol cydraddoldeb ac amrywiaeth, gyda golwg ar ddatblygu i fod yn arweinydd ac arbenigwr y dyfodol yn y ddisgyblaeth bwysig hon.
Os ydych chi erioed wedi meddwl y byddech chi’n hoffi gweithio i lywodraeth leol a bod yn rhan o weithlu arbennig, mae Cynllun Yfory yn berffaith i chi.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’r wefan: www.gwynedd.llyw.cymru/cynllunyfory
Mae cyswllt ar y wefan i’r pecyn gwybodaeth sydd yn cynnwys gwybodaeth fanwl o’r cynllun a chanllawiau i chi ar gyfer cwblhau eich cais yn llwyddiannus. Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio ym maes cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Bydd hyn yn gyfle gwych i unrhyw un sy’n chwilio am swydd foddhaus all wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau trigolion Gwynedd. Rydym yn chwilio am ymgeisydd brwdfrydig gyda’r ymroddiad i ddatblygu eu dealltwriaeth yn y maes ac i edrych yn greadigol ar ffyrdd i wella gwasanaethau drwy sicrhau cydraddoldeb a hybu amrywiaeth.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael y siawns i ennill cymhwyster MA mewn Amrywiaeth a Chydraddoldeb mewn Cymdeithas. Mae cydraddoldeb ac amrywiaeth yn flaenoriaeth i Gyngor Gwynedd, ac mae’n gyfrifoldeb ar bob un o swyddogion y Cyngor. Bydd yr hyfforddai felly’n cael y cyfle i weithio gydag a chefnogi holl adrannau’r Cyngor gan ymwneud â swyddogion ar amrywiol lefelau ac aelodau etholedig. Trwy wneud hyn byddant yn magu dealltwriaeth o sut mae Llywodraeth Leol yn gweithio.
Cyflog
💰 £25,419 - £27,514
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.