Swyddi Cymraeg — Cyflogres
3 swydd yn cyfateb
Rheolwr Cyflogres a Buddion
Mae Prifysgol Aberystwyth yn edrych am Reolwr Cyflogres a Buddion
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd y Rheolwr Cyflogres a Buddion yn arwain y gwaith o ddatblygu a chyflawni swyddogaeth cyflogres y gwasanaethau Adnoddau Dynol i’w holl gwsmeriaid. Byddwch yn gyfrifol am berfformiad y gwasanaeth cyflogres a sut mae’n cael ei redeg, byddwch yn sicrhau bod yr holl weithgarwch yn cyd-fynd â gofynion statudol a deddfwriaethol, a byddwch yn rheoli'r tîm Cyflogres a Phensiynau, sydd ar hyn o bryd yn cynnwys tri aelod arall. Deiliad y swydd sy'n gyfrifol am dalu dros 2000 o weithwyr a phensiynwyr bob mis, ac am gydlynu â’r Adran Adnoddau Dynol ac adrannau eraill yn y Brifysgol. Byddwch yn gyfrifol am weinyddu Cynllun Pensiynau’r Prifysgolion (USS) Chynllun Pensiwn Prifysgol Aberystwyth (AUPP).
I wneud ymholiad anffurfiol, cysylltwch â Sharon Lilley, Pennaeth y Gwasanaethau Adnoddau Dynol [email protected].
Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos ar ôl y dyddiad cau.
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Y mae’r disgrifiad swydd hwn yn amodol ar ei adolygu a’i ddiwygio yng ngoleuni anghenion cyfnewidiol y Brifysgol, i ddarparu cyfleoedd datblygu priodol ac/neu i ychwanegu dyletswyddau ychwanegol eraill.
**Y Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau **
- Arwain a rheoli'r gyflogres i sicrhau ei bod yn cael ei rhedeg yn effeithiol, yn gywir ac yn amserol, lle gwneir cyn lleied o gamgymeriadau a gordaliadau â phosib.
- Sicrhau bod gwasanaeth cyflogres proffesiynol yn cael ei ddarparu sy'n diwallu anghenion cwsmeriaid ac sy’n gost effeithiol, a berchir gan gwsmeriaid ac un sy’n arddel yr arferion gorau.
- Arwain tîm y gyflogres gan roi cyfarwyddyd, rheoli perfformiad a darparu cymorth priodol.
- Mynd ati’n rhagweithiol i ddod o hyd i ffyrdd o wella prosesau a sicrhau effeithlonrwydd gan gefnogi’r gwaith o ddatblygu systemau, yn ôl y gofyn.
- Cynllunio a monitro llwyth gwaith y tîm a sut mae’r gwaith yn cael ei ddyrannu, gan sicrhau bod staff yn cael eu hyfforddi a'u datblygu er mwyn iddynt gyflawni eu dyletswyddau'n effeithiol ac yn effeithlon a darparu gwasanaeth sy'n rhoi cwsmeriaid yn y canol.
- Sicrhau bod sianeli cyfathrebu effeithiol ar waith yn y tîm a chyda'r Brifysgol yn gyffredinol wrth ymdrin â materion sy’n ymwneud â’r gyflogres a phensiynau.
- Datblygu a chynnal perthynas effeithiol â phartneriaid, sefydliadau allanol a chyrff.
- Datblygu a phrofi cynlluniau parhad busnes ac adfer yn sgil trychinebau, yn ogystal â gweithdrefnau cam wrth gam.
- Dehongli a throsglwyddo gwybodaeth gymhleth ac arbenigol i, ymhlith eraill, bobl nad ydynt yn arbenigwyr.
- Sicrhau y cydymffurfir â holl ofynion statudol y Cynllun Talu Wrth Ennill a chynlluniau pensiwn, a sicrhau bod adroddiadau gofynnol yn cael eu creu sy’n gywir ac yn amserol, megis Gwybodaeth Amser Real Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi a ffurflenni cynlluniau pensiwn.
- Datblygu a gweithredu polisi a gweithdrefnau ledled y Brifysgol sy'n gysylltiedig â'r gyflogres a phensiynau, cydlynu ag uwch reolwyr, archwilwyr ac adrannau eraill lle bo hynny'n briodol.
- Cynghori'r Brifysgol ar faterion 'statws cyflogaeth' yn unol â gofynion Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi.
- Paratoi ar gyfer archwiliadau a sicrhau bod camau'n cael eu cymryd mewn modd amserol.
- Cysylltu â darparwyr Budd-daliadau/Pensiwn y Brifysgol ar faterion pensiwn a buddion gweithwyr, a rhannu gwybodaeth â rheolwyr a staff yn y Brifysgol. Cynorthwyo Gweithrediaeth ac Adran Adnoddau Dynol y Brifysgol pan fo staff yn ymddeol yn gynnar, megis mewn achosion diswyddo ac afiechyd, a rhoi cyngor ar y goblygiadau o ran pensiynau.
- Datblygu fframweithiau fel y gellir rhannu gwybodaeth am bensiynau a budd-daliadau yn effeithiol i holl staff y Brifysgol trwy ddulliau amrywiol.
- Sicrhau bod gan y tîm ganllaw cam wrth gam sydd wedi’i brofi ac sy'n galluogi'r Brifysgol i weithredu’r gyflogres mewn sefyllfaoedd argyfyngus pan fo staff yn absennol.
- Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gymryd rhan mewn gweithgareddau adolygu perfformiad a gweithgareddau datblygu.
- Rhaid i ddeiliad y swydd gydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau cyfreithiol ac ariannol perthnasol, a dylai wybod beth yw ei gyfrifoldebau yng nghyswllt gofynion cyfreithiol ei swydd.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n addas i'r swydd.
- Ymrwymo i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb y Brifysgol, ynghyd â deall sut mae'n gweithredu o fewn cyfrifoldebau'r swydd.
- Ymrwymo i'ch datblygiad eich hun a datblygiad eich staff drwy ddefnyddio trefn Cyfraniad Effeithiol y Brifysgol yn effeithiol.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill o fewn i raddfa'r swydd.
Cyflog
💰 £43,414 - £51,805
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Clercyddol Cyflogres Dros Dro
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Swyddog Clercyddol Cyflogres Dros Dro
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Prifysgol Bangor yn brifysgol â hanes hir, a chanddi enw da yn rhyngwladol am ansawdd ei haddysg a’i hymchwil. Saif y ddinas rhwng arfordir gogledd Cymru a mynyddoedd Eryri ac mae gan y brifysgol safle sydd gyda’r gorau ymysg prifysgolion gwledydd Prydain.
Mae cyfle wedi codi i Swyddog Clercyddol Cyflogres Dros Dro llawn-amser am gyfnod penodol. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad ymarferol cadarn o weithio mewn swydd weinyddol ariannol mewn sefydliad modern yn defnyddio technoleg gwybodaeth. Bydd rhai o’r dyletswyddau’n cynnwys gweithio’n agos gyda Rheolwr y Gyflogres ac aelodau eraill o’r tîm i ymgymryd ag amrywiaeth o dasgau prosesu, monitro ac adrodd, gan rannu cyfrifoldeb am ddarparu gwasanaeth cyflogres hyblyg ac ymatebol, paratoi a gwirio data a dderbynnir gan y Gwasanaethau Academaidd/Proffesiynol/Masnachol i’w mewnbynnu i system gyflogres Agresso a chyflawni gwaith gweinyddol y gyflogres e.e. cofnodi staff newydd a diweddaru a chynnal cofnodion y gyflogres.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus o leiaf 5 TGAU gyda graddau A* - C (yn cynnwys Saesneg a Mathemateg) neu NVQ lefel 2 mewn maes pwnc perthnasol (neu brofiad perthnasol).
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau cyn gynted â phosib ac mae’r swydd ar gael tan 31/05/2023.
Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith gweithio deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gefnogi cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hyn ymhellach gydag ymgeiswyr mewn cyfweliad.
Bydd ceisiadau hefyd yn cael eu hystyried i wneud y swydd hon ar sail ran-amser neu rannu swydd.
Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu â Linda Williams, Gwasanaethau Cyllid e-bost: [email protected]. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd cyn gynted â phosibl
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ond nid yn hanfodol.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: 30 Mai 2022.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £20,600 - £22,847
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn edrych am Swyddog Cyflogau a Thaliadau dan Hyfforddiant
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Raglen Dyfodol Môn wedi lansio i ceisio recriwtio 15 o hyfforddeion newydd eleni. Profiad gwaith ymarferol ynghyd â chyfle i ennill cymhwyster proffesiynol gyda chyflog.
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.