Swyddi Cymraeg — Cyfreithiol
8 swydd yn cyfateb
Cyfreithiwr (Oedolion Ac Addysg) – Gwasanaeth Cyfreithiol
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Gyfreithiwr (Oedolion Ac Addysg) – Gwasanaeth Cyfreithiol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Gwasanaeth yn agored i gytuno trefniadau gweithio hybrid.
CYFREITHIWR (Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg ) - Mae’r Cyngor wedi gosod ychwanegiad y farchnad ar y swydd hon, sydd yn golygu mai’r uchafswm cyflog ydi £45,496.
Mae’r Cyngor edrych i gyflogi Cyfreithiwr neu Fargyfreithiwr i ymuno a’r tim mewn swydd sydd yn cynghori a gweithredu ar ran y Cyngor ar faterion gofal cymdeithasol oedolion ac addysg. Mae’r gwaith yn cynnwys:
Materion darparu a comisiynu gofal, iechyd meddwl, anabledd, achosion amddifadu o ryddid a chartrefi cofrestredig.
Materion addysg ,cyfrifoldebau athrawon ac ysgolion, gwaharddiadau, anghenion addysg ychwanegol , dyletswyddau llywodraethwyr.
Mae’r Cyngor am gyflogi unigolyn sydd yn gallu dangos agwedd gadarnhaol a rhagweithiol tuag at y meysydd gwaith ynghyd a’r gallu i weithio fel aelod effeithiol o dîm cyfreithiol yn darparu ystod o wasanaethau i’r Cyngor a’i gleientiaid.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y [Pecyn Gwybodaeth](https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/cyngor/swyddi/gweithio-i-ni.aspx)
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Iwan G D Evans ar 01286 679015
Rhagwelir cynnal cyfweliadau dydd Iau, 23/02/2023.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: [email protected]
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 16/02/2023
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Cyflog
💰 £45,496
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfreithiwr Cyfraith Cyflogaeth
Mae Darwin Gray yn edrych am Gyfreithiwr Cyfraith Cyflogaeth
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyfle gwych i gyfreithiwr ymuno â thîm cyfraith cyflogaeth Darwin Gray; tîm a enillodd gwobr Tîm Cyfraith Cyflogaeth y Flwyddyn yng Ngwobrau Cyfreithiol Cymru 2022. Cyfle i gefnogi'r criw profiadol o gyfreithwyr cyflogaeth sydd eisioes yn rhan o'r tîm.
Lleoliad: Dewis o Swyddfa Caerdydd (9 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9HA) NEU Swyddfa Bangor (Unit F12, InTec, Ffordd y Parc, Parc Menai, Bangor, LL57 4FG) gyda pheth gweithio o adref os y dymunir.
Oriau: 37.5 awr yr wythnos. Dydd Llun – Gwener, 9.00yb – 5.30yh gyda 1 awr i ginio, ond yn gorffen am 4yh ar ddydd Gwener.
Cyflog: £i’w gadarnhau yn ddibynnol ar brofiad.
Buddion: 25 diwrnod o wyliau y flwyddyn, yn ogystal â’r gwyliau banc statudol / Yswiriant meddygol preifat / 3% cyfraniad pensiwn / Yswiriant marwolaeth mewn gwasanaeth.
Pwrpas y Rôl: I weithio gyda thîm cyfraith cyflogaeth Darwin Gray ac i ddarparu cefnogaeth effeithiol i’r tîm pan ddaw i gynghori cleientiaid ar faterion cyfraith cyflogaeth.
Tasgiau allweddol: I ddarparu cefnogaeth i’r tîm cyfraith cyflogaeth ar y materion canlynol:
· Achosion Tribiwnlys Cyflogaeth;
· Materion disgyblu a chwyno;
· Anffafriaeth;
· Diswyddiadau, diswyddo gorfodol ac ailstrwythuro;
· Cytundebau cyflogaeth a llawlyfrau staff;
· Cytundebau hunan-gyflogedig;
· Cytundebau setliad;
· Trosglwyddiadau TUPE;
· Helpu gyda hyfforddi cleientiaid;
· Materion cyflogaeth ynghlwm â phrynu a gwerthu busnesau;
· Chwythu’r chiban; a
· Archwiliadau yn y gweithle.
Gallu technegol:
Hanfodol_: _
· O gwmpas 2 flynedd o gyflogaeth ôl-gymhwyso mewn cyfraith cyflogaeth
· Gallu technegol ardderchog
· Gallu i ddefnyddio MS Word ac Outlook
Dymunol_: _
· Profiad o ddefnyddio basdata rheoli achosion Manyleb:
· Gallu cyfathrebu cryf. Cymraeg yn ddymunol
· Yn gweithio'n gyson i lefel uchel o gywirdeb a manylder
· Gallu gweithio'n annibynnol ond hefyd fel rhan o dîm ar brosiectau mwy
· Gallu defnyddio menter ei hun
· Yn drefnus ac yn medru gweithio o dan bwysau
· Yn cwblhau tasgau
· Yn hyblyg ac yn barod i helpu aelodau eraill o’r tîm fel sydd angen Cysylltwch â Owen John ([email protected] / 02920 829 118) i gyflwyno cais neu am fwy o wybodaeth.
Cyflog
💰 Yn ddibynnol ar brofiad
Lleoliad
📍 Caerdydd, Bangor, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Clercod Tribiwnlys
Mae Tribiwnlys Prisio Cymru yn edrych am Glercod Tribiwnlys
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Tribiwnlys Prisio Cymru am benodi hyd at ddau Glerc Tribiwnlys. Mae Clercod Tribiwnlys yn darparu gwasanaethau cymorth i aelodau'r tribiwnlys. Un o'r prif swyddogaethau yw darparu cyngor yng ngwrandawiad y Tribiwnlys ar gyfraith trethiant lleol yng Nghymru (y Dreth Gyngor ac Ardrethi Busnes). Rhoddir hyfforddiant ar hyn.
Disgrifiad:
Rydym yn agored i geisiadau gan raddedigion prifysgol neu bobl sydd â phrofiad a/neu gymwysterau refeniw lleol. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu penodi i bwynt ar y raddfa gyflog sy'n briodol i'w cymwysterau a'u gwybodaeth gyfredol.
Os ydych yn byw yng Nghasnewydd neu’n agos ato, eich gweithle fydd ein swyddfa yng Nghasnewydd. Os ydych yn byw yn rhywle arall, byddwch yn gweithio gartref. Bydd angen teithio’n rheolaidd ledled Cymru, ac o bryd i’w gilydd bydd hyn yn golygu bod angen aros oddi cartref dros nos. Bydd y Tribiwnlys yn talu eich costau teithio. Mae lwfans defnyddiwr car blynyddol (£1,239) hefyd yn daladwy.
Ewch i www.tribiwnlysprisio.cymru am ragor o fanylion. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 16 Rhagfyr 2022.
Cyflog
💰 £25,878 - £40,478
Lleoliad
📍 Casnewydd, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Bennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Gwasanaethau Llywodraethu ym Mhrifysgol Bangor yn awyddus i benodi Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol ar sail barhaol, llawn amser a fydd yn gweithio fel rhan o dîm y Gwasanaethau Llywodraethu. Mae hon yn swydd uwch arweinydd sy'n darparu cyngor cyfreithiol i'r Brifysgol a'i his-gwmnïau a rheoli cyfarwyddiadau i gynghorwyr cyfreithiol allanol y Brifysgol. Gan weithio'n agos gyda Gwasanaethau Proffesiynol eraill, yn enwedig y Gwasanaeth Cymorth Effaith ac Ymchwil Integredig (IRIS), byddai deiliad y swydd yn rheoli tîm o arbenigwyr contractau ac arbenigwyr cydymffurfio cyfreithiol.
Bydd y swydd cyfreithiwr masnachol fewnol hon yn gweld deiliad y swydd yn ymdrin ag amrywiaeth ddiddorol o waith, gan gynnwys contractau masnachol, materion myfyrwyr, eiddo a llywodraethu ar gyfer y Brifysgol. Mae'r Brifysgol yn chwilio am gyfreithiwr masnachol sefydledig sy'n gallu darparu cyngor cyflawn. Mae sefydlu perthynas waith dda gyda rhanddeiliaid allweddol yn y Brifysgol yn ogystal ag ymgynghorwyr allanol yn hanfodol, ac mae peth profiad o weithio gyda Sefydliadau Addysg Uwch yn ddymunol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn Gyfreithiwr cymwysedig yng Nghymru a Lloegr gyda thystysgrif ymarfer gyfredol gan Gymdeithas y Cyfreithwyr, gydag o leiaf 4/5 mlynedd brofiad PQE. Bydd gan ddeiliad y rôl brofiad o ddarparu cyngor arbenigol ar ystod o faterion. Bydd yn ddarparu cyngor ac arweiniad cyfreithiol effeithlon a phragmatig, sy'n seiliedig ar risg, i'r Pwyllgor Gweithredu, uwch reolwyr a staff ar draws y Brifysgol. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am arwain a datblygu’r maes gwasanaethau cyfreithiol gan sicrhau bod partneriaethau cryf yn cael eu sefydlu a’u cynnal gyda Cholegau ac adrannau Gwasanaethau Proffesiynol, a chreu cysylltiadau effeithiol â rhanddeiliaid mewnol ac allanol allweddol. Yn ogystal, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gyfarwyddo ymgynghorwyr cyfreithiol allanol fel y bo'n briodol.
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd hon.
Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd cyn gynted ag sydd yn rhesymol bosib. Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy fframwaith Gweithio Deinamig y brifysgol, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (ond rhaid aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hyn ymhellach gydag ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd yn rhan amser neu rannu swydd.
I gael manylion pellach a sgwrs anffurfiol am y swydd, anogir darpar ymgeiswyr i gysylltu â Gwenan Hine, Dirprwy Ysgrifennydd a Phennaeth y Gwasanaethau Llywodraethu, (01248 382413, [email protected])
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Fodd bynnag, os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865
Dyddiad cau ceisiadau: 4 Hydref 2022.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £53,353 - £61,82
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfreithiwr
Mae Adra yn edrych am Gyfreithiwr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ni yw Adra. Darparwr cartrefi o safon yng ngogledd Cymru. Nid ydym yn sefydliad sy'n aros yn ei unfan. Dros y blynyddoedd i ddod byddwn wedi adeiladu nifer sylweddol o gartrefi y tu allan i'r sir, gyda'r uchelgais i fod yn darparu cannoedd fwy o gartrefi o ansawdd uchel ledled gogledd Cymru. Er ein bod yn uchelgeisiol iawn, rydym yr un mor benderfynol o amddiffyn a datblygu diwylliant a threftadaeth gyfoethog y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
Byddwch yn cynrychioli Adra mewn llysoedd, tribiwnlysoedd, ymchwiliadau a gwrandawiadau ffurfiol eraill, yn ôl y gofyn ac o fewn meysydd penodol.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan, www.adra.co.uk
Dyddiad Cau: 12pm 23/06/22
Cyflog
💰 £35,760 - £39,082
Lleoliad
📍 Bangor, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynllun Yfory – Hyfforddai Proffesiynol Cyfreithiol
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Gynllun Yfory – Hyfforddai Proffesiynol Cyfreithiol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cynllun Yfory yn gyfle unigryw i unrhyw un sydd gyda gradd neu gymhwyster cyfwerth i ddatblygu gyrfa yng Nghyngor Gwynedd.
Mae'r cynllun yn rhoi cyfle unigryw i hyfforddeion proffesiynol i ddeall mwy am weithio i lywodraeth leol drwy gael amryw o brofiadau ymarferol o bob lefel o'r sefydliad, i ddatblygu sgiliau hanfodol yn y maes cyfreithiol, i ddatblygu rhwydweithiau ar draws y Cyngor a thu hwnt.
Bydd cytundeb hyfforddi yn cael ei gynnig i unigolyn, fydd ar ddiwedd dwy flynedd o hyfforddiant yn cymhwyso fel cyfreithiwr. Rydym yn chwilio am ymgeisydd brwdfrydig ac ymroddgar sydd yn barod i ddatblygu sgiliau rhyngbersonol, proffesiynol ac ymarferwr y gyfraith. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn magu profiad gyda’r golwg ar ddatblygu i ddod yn gyfreithiwr llywodraeth leol ac yn y dyfodol un o reolwyr ac arweinwyr yn y maes yma. Bydd hyn digwydd o fewn tim sydd yn annog dysgu a datblygu mewn awyrgylch cefnogol a chyfeillgar.
Os ydych chi erioed wedi meddwl y byddech chi’n hoffi gweithio i lywodraeth leol a bod yn rhan o weithlu arbennig, mae Cynllun Yfory yn berffaith i chi.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’r wefan: www.gwynedd.llyw.cymru/cynllunyfory
Mae cyswllt ar y wefan i’r pecyn gwybodaeth sydd yn cynnwys gwybodaeth fanwl o’r cynllun a chanllawiau i chi ar gyfer cwblhau eich cais yn llwyddiannus. Mae cyfle cyffrous wedi codi i hyfforddai arbenigol ymuno gyda’r gwasanaeth Cyfreithiol o fewn y Cyngor. Bydd cytundeb hyfforddi yn cael ei gynnig i unigolyn fydd ar ddiwedd dwy flynedd o hyfforddiant yn cymhwyso fel cyfreithiwr. Mae Gwasanaeth Cyfreithiol Cyngor Gwynedd wedi ei chymhwyso i hyfforddi darpar gyfreithwyr, a bydd yr unigolyn llwyddiannus yn cael profiad o weithredu mewn amrywiaeth eang o feysydd gwaith arbenigol. Bydd cyfle hefyd i gael profiad o gynghori ar faterion corfforaethol megis cyfundrefnau llywodraethu a phriodoldeb y Cyngor. Drwy gydol y cyfnod bydd yr hyfforddai yn datblygu sgiliau craidd megis drafftio dogfennau a chytundebau, darparu cyngor cyfreithiol, trefniadau amryw lysoedd a thribiwnlysoedd ac adfocatiaeth.
Bydd yr hyfforddai yn ymuno a Chymdeithas y Gyfraith ac o dan reolaeth yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr. Mae cefnogi cytundeb hyfforddiant yn flaenoriaeth i’r Gwasanaeth ac rydym yn chwilio felly am ymgeisydd brwdfrydig ac ymroddgar sydd yn barod i ddatblygu sgiliau rhyngbersonol, proffesiynol ac ymarferwr y gyfraith.
NODER - Byddwch angen fod wedi cwblhau yn llwyddiannus Cwrs Ymarfer Cyfreithiol (Legal Practice Course - LPC) er mwyn ymgeisio.
Cyflog
💰 £25,419 - £27,514
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arbenigwr y Gyfraith a Moeseg (Swyddog Gwybodaeth)
Mae Archwilio Cymru yn edrych am Arbenigwr y Gyfraith a Moeseg (Swyddog Gwybodaeth)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Prif gyfrifoldebau:
- sicrhau bod Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru yn cyflawni eu rhwymedigaethau fel rheolwyr data, gan gynnwys drwy ymdrin â cheisiadau gwrthrych am wybodaeth a helpu archwilwyr gyda gofynion diogelu data, e.e. hysbysiadau prosesu teg
- ymdrin â cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth a chynnal y cynllun cyhoeddi
- gwaith polisi a datblygu deddfwriaethol, e.e., ymateb i ymgynghoriadau'r llywodraeth ar faterion sy'n berthnasol i archwilio'r sector cyhoeddus a llywodraethu gwybodaeth
- helpu archwilwyr gydag ymholiadau am faterion cyfreithiol sy'n ymwneud ag archwilio, megis hawliau mynediad archwilio—gall hyn weithiau olygu cyfarwyddo cynghorwyr cyfreithiol allanol
- rheoli mater arian o Gronfa Gyfunol Cymru Y sgiliau a'r profiad allweddol sydd eu hangen:
- Wedi'i addysgu i lefel gradd a chyda chymhwyster proffesiynol, e.e. cymhwyster diogelu data (Ymarferydd Diogelu Data BCS neu debyg), neu gymhwyster cyfreithiol perthnasol a/neu brofiad
- Y gallu i gynllunio'n effeithiol a blaenoriaethu llwyth gwaith, a gweithio'n hyblyg i fodloni gofynion sy'n cystadlu â'i gilydd
- Y gallu i gynnal perthynas waith gadarnhaol gyda chydweithwyr mewnol ac allanol ar bob lefel, e.e., swyddogion y llywodraeth, cynghorwyr, aelodau o'r cyhoedd a staff Archwilio Cymru
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol, e.e., i ddarparu cyngor clir
- Dehongli a chymhwyso deddfwriaeth a chanllawiau yn ddibynadwy
- Barn dda - y gallu i benderfynu ar gamau gweithredu priodol mewn sefyllfaoedd sensitif ac anodd
- Y gallu i ddelio'n effeithiol â gofynion diogelu data ac yn ddelfrydol hefyd ofynion deddfwriaeth sy'n ymwneud ag un neu fwy o'r canlynol: rhyddid gwybodaeth, archwilio a gweinyddu cyhoeddus DS: Ni ddisgwylir unrhyw brofiad na gwybodaeth flaenorol o reolaeth dros Gronfa Gyfunol Cymru. Mae'r gwaith hwn yn gofyn am sgiliau tebyg i'r rhai a grybwyllir uchod Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bawb, gan gynnwys grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli ar hyn o bryd yn ein gweithlu megis pobl o gefndir Ddu, Asiaidd neu Leiafrif Ethnig a phobl anabl. Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gyflogwr hyblyg Gwybodaeth Ychwanegol: Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Cyflog
💰 £41,484
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae S4C yn edrych am Gyfreithiwr/ Weithredydd Gyfreithiol/ Gyfreithiwr dan hyfforddiant/ Baragyfreithiwr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am Gyfreithiwr sydd wedi cymhwyso'n ddiweddar (0-2 flynedd) i ymuno â'r tîm Cyfreithiol yn S4C. Byddem hefyd yn croesawu ceisiadau o safon uchel i weithio fel Gweithredydd...
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.