Swyddi Cymraeg — Cyfryngau cymdeithasol
5 swydd yn cyfateb
Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol
Mae S4C yn edrych am Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae S4C yn chwilio am Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol er mwyn gweithio ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y sianel. Mae cyfrifon cyfryngau cymdeithasol S4C ymysg y cyfrifon Cymraeg sy’n cyrraedd y mwyaf o bobl bob wythnos.
O brif gyfrifon S4C i gyfrifon poblogaidd Hansh, Lŵp ac S4C Chwaraeon, cewch gyfle i weithio ar brosiectau mewn amryw o genres gwahanol, gan berchnogi eich cynnwys chi a defnyddio’r platfformau a’r technegau gorau i gyrraedd cynulleidfaoedd targed y cynnwys.
Disgrifiad:
Beth fydd diwrnod gwaith yn edrych fel?
Bydd pob diwrnod yn wahanol. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae gwaith y tîm cyfryngau cymdeithasol wedi cynnig cyfleoedd anhygoel i weithio ar leoliad, o gyfweld â sêr drama fwyaf Cymru i saethu cynnwys TikTok ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol a Gŵyl Ryng-Geltaidd Lorient, neu o gyfweld â chefnogwyr Geraint Thomas ar y Tour de France ym Mharis i ddilyn tîm a chefnogwyr Cymru yng Nghwpan Y Byd yn Qatar.
Yn ogystal â gweithio ar leoliad, bydd elfen fawr o greu a golygu cynnwys, gan gynnwys dewis clipiau o raglenni S4C, cynllunio a chynhyrchu cynnwys gwreiddiol gyda chwmnïau cynhyrchu a ffrydio cynnwys yn fyw i Facebook Live a YouTube yn ôl yr angen.
Byddwch chi hefyd yn cyfrannu i waith cyffrous ehangach tîm cyfryngau cymdeithasol S4C wrth neidio ar “trends” a gosod tôn llais S4C ar y cyfryngau cymdeithasol.
Ym myd y cyfryngau cymdeithasol, mae yna wastad rhywbeth arall i’w wneud, felly bydd bob dydd yn brysur, ond yn gyfle newydd a chyffrous i gyrraedd cynulleidfa eang gyda chynnwys gorau Cymru a’r iaith Gymraeg.
Manylion eraill
Lleoliad: Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin.
Mae S4C yn gweithredu polisi hybrid.
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Cytundeb: 9 mis
Cyfnod prawf: 4 mis
Oriau Gwaith: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Iau 5 Ionawr 2023 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Cyflog
💰 Yn unol â phrofiad
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arweinydd Cyfryngau Cymdeithasol
Mae S4C yn edrych am Arweinydd Cyfryngau Cymdeithasol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae S4C yn chwilio am Arweinydd Cyfryngau Cymdeithasol i ymuno â'r Adran Gyhoeddi. Gyda'r cyfryngau cymdeithasol yn rhan ganolog o fywyd nifer fawr iawn o bobl, byddwch yn chwarae rhan allweddol yn strategaeth ddigidol S4C.
Mae'r ffordd yr ydym yn ymwneud â chynnwys yn newid ac mae S4C wrthi'n ymateb i'r newid hwnnw gyda ffocws ar ddatblygu cynnwys digidol, gwreiddiol yn ogystal â chynnwys sydd yn cyd-fynd â rhaglenni a chyfresi S4C.
Yn ogystal â gweithio ar leoliad, bydd elfen fawr o olygu cynnwys, dewis clipiau o raglenni S4C, rhedeg calendr cyfryngau cymdeithasol S4C, ffrydio cynnwys yn fyw i Facebook Live a YouTube yn ôl yr angen a gofalu am ein cyfrifon o ddydd i ddydd ar draws bob platfform.
Chi hefyd fydd llais S4C ar y cyfryngau cymdeithasol – yn perchnogi'r cyfrifon trwy fod yn chwareus, neidio ar "trends" ehangach a chreu sŵn.
Byddwch yn arwain tîm o swyddogion cyfryngau cymdeithasol ac yn rhoi trefn ar amserlen waith y tîm. Byddwch hefyd yn cadw golwg ar draws holl gyfrifon cyfryngau cymdeithasol cyfresi S4C, ac yn cynghori ac yn rhoi arweiniad i'r sector er mwyn sicrhau safon ac arloesedd yn y maes.
Bydd eich cyfraniad yn holl bwysig wrth i S4C drawsnewid i fod yn gyhoeddwr cynnwys aml-lwyfan.
Manylion Eraill
Lleoliad: Canolfan yr Egin, Caerfyrddin.
Mae S4C yn gweithredu polisi hybrid.
Bydd disgwyliad ichi fynychu swyddfeydd S4C yng Nghaernarfon ac yng Nghaerdydd o bryd i'w gilydd.
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Cytundeb: Parhaol
Cyfnod Prawf: 6 mis
Oriau Gwaith: 35.75 ar yr wythnos. Mi fydd disgwyl i chi weithio oriau hyblyg yn unol a'r gwasanaeth e.e. datrys problemau technegol ffrydiau byw a all fod tu allan i oriau gwaith safonol.
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Mawrth 20 Medi 2022 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mi fydd cyfweliadau yn cael ei chynnal ar ddydd Mercher 28 Medi 2022.
Cyflog
💰 Yn unol â phrofiad
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Sgorio
Mae Rondo yn edrych am Gydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Sgorio
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mewn cyfnod cyffrous i bêl-droed Cymru, mae Rondo yn edrych am unigolyn i ymuno â thîm cynhyrchu Sgorio.
Mae’r swydd yn benodol yn ymwneud â chyhoeddi cynnwys ar gyfrifon Sgorio ar draws y cyfryngau cymdeithasol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn berson creadigol sydd â’r ddawn i ddweud stori, yn ogystal â dealltwriaeth dechnegol o gyhoeddi cynnwys arlein.
Mae’r cyfrifoldebau yn cynnwys:
- Cyhoeddi cynnwys ar lwyfannau cymdeithasol Sgorio
- Dyletswyddau penodol ar Sgorio Stwnsh, sy’n cynnwys atodi ystadegau ar y wefan, rhannu uchafbwyntiau a diweddaru playlists ar YouTube
- Hyrwyddo gemau byw, e.e. drwy addasu templedi ar Photoshop - Is-deitlo eitemau a chyfweliadau, e.e. drwy ddefnyddio Premiere Pro
- Clipio, neu recordio deunydd systemau’n y cwmwl a golygu pan bydd angen
- Cyhoeddi cynnwys ar lwyfannau cymdeithasol Sgorio, yn cynnwys amserlennu negeseuon
Hanfodol
Dealltwriaeth o pa gynnwys sy’n gweithio orau ar wahanol blatfformau a pha trends sy’n datblygu Gallu defnyddio meddalwedd Adobe Photoshop a PremierePro neu debyg i greu cynnwys atyniadol Y gallu i weithio dan gyfyngderau amser tynn ar adegau, i gyhoeddi cynnwys o safon ar fyr rybudd Medru cyfathrebu’n gryno a rhugl yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg
Synnwyr cyffredin a synnwyr digrifwch – y gallu i daro’r cywair priodol wrth bostio negeseuon arlein Manteisiol
Diddordeb brwd mewn chwaraeon a phêl-droed.
Profiad o ddylunio graffeg trawiadol.
Dealltwriaeth o blatfform dosbarthu cynnwys fel Wild Moka.
Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn brwdfrydig gyfrannu at greu cynnwys atyniadol a chyfrannu at waith adran lwyddiannus mewn cyfnod hynod gyffrous.
Mae Rondo Media yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o safbwyntiau a chefndiroedd amrywiol.
Lleoliad: Caernarfon neu Caerdydd, gyda’r disgwyl i weithio ar leoliadau ledled Cymru a’r gallu hefyd i weithio’n hyblyg. Parodrwydd i weithio o swyddfeydd Rondo yng Nghaerdydd a Chaernarfon yn ôl y galw, ac ar nifer o benwythnosau’n ôl y galw.
Am ffurflen gais ewch i wefan rondomedia.co.uk/swyddi a’i dychwelyd ar e-bost i [email protected]
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 Caernarfon, Caerdydd, Hyblyg, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol Clwb Cwtsh
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol Clwb Cwtsh
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ry’n ni’n chwilio am berson creadigol, brwd a chydwybodol i weithio o fewn adran farchnata a chyfathrebu fyrlymus a phrysur i hyrwyddo gwaith ac amcanion Mudiad Meithrin. Mae hon yn rôl gyffrous a chreadigol sy’n ddelfrydol i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a phrofiad gwerthfawr ym maes marchnata a’r cyfryngau cymdeithasol. Bydd gan y person a gaiff ei benodi wybodaeth a phrofiad o farchnata gan gynnwys y dulliau cyfathrebu diweddaraf ynghyd â sgiliau rhyngbersonol da. Ry’n ni’n disgwyl i’r person a gaiff ei benodi fod yn gallu cyfathrebu’n hyderus ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg gan feddu ar ddawn greadigol a dull rhagweithiol, hyblyg at bob agwedd o’r gwaith i greu cynnwys digidol deniadol. Mae’r gallu i weithio’n yn annibynnol ac fel rhan o dîm yn hanfodol ynghyd â’r gallu i chwilio am gyfleoedd creadigol i hyrwyddo amcanion y Mudiad.
Disgrifiad:
Bod yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu am gyflawni’r dyletswyddau canlynol: · Cynorthwyo gydag ymgyrchoedd marchnata a chyfathrebu’r Mudiad mewn modd blaengar, creadigol a chyfoes – gan ganolbwyntio ar brosiect Clwb Cwtsh yn benodol · Cynorthwyo i ddatblygu a diweddaru llwyfannau rhwydweithio cymdeithasol Mudiad Meithrin yn rheolaidd gan lunio cynnwys cywir, amrywiol, deniadol sy’n ymgysylltu â rhieni a rhanddeiliaid · Cynorthwyo i ddatblygu a diweddaru platfformau digidol Clwb Cwtsh gan gymryd cyfrifoldeb am sicrhau fod y cynnwys yn amrywiol a deniadol.
· Cynorthwyo i greu cynnwys, cydlynu dylunio amrywiol ddogfennau, taflenni, posteri a deunydd hyrwyddo a marchnata cynllun Clwb Cwtsh. · Cyfrannu fel aelod o’r tîm marchnata a chyfathrebu at holl waith yr adran gan ddangos y gallu i fod yn hyblyg i ymgymryd â gwahanol dasgau yn ôl y gofyn a derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill sy’n berthnasol i waith Mudiad Meithrin · Cynorthwyo gyda threfniadau a mynychu digwyddiadau cenedlaethol a thaleithiol e.e. Eisteddfodau a sioeau cenedlaethol, Taith Gŵyl Dewin a Doti, Seremoni Gwobrau Mudiad Meithrin, cynadleddau, lansiadau a digwyddiadau perthnasol i waith Clwb Cwtsh a’r Mudiad · Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill yn ôl y galw sy’n berthnasol i waith Mudiad Meithrin · Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Cyflog
💰 £21,453 - £25,017 pro rata
Lleoliad
📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn edrych am Swyddog Cyfryngau Digidol a Chymdeithasol Cefnogol dan Hyfforddiant
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Raglen Dyfodol Môn wedi lansio i ceisio recriwtio 15 o hyfforddeion newydd eleni. Profiad gwaith ymarferol ynghyd â chyfle i ennill cymhwyster proffesiynol gyda chyflog.
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.